Dyam gyfle rhagorol i ymuno â thîm Yes Cymru. Mae Yes Cymru yn hyrwyddo annibyniaeth i Gymru drwy ystod o weithgareddau, er mwyn dangos y byddai Cymru, fel cymaint o genhedloedd eraill drwy'r byd, yn fwy effeithiol drwy ofalu am ei materion ei hun fel rhan o deulu Ewropeaidd a rhyngwladol ehangach.
Rydyn ni'n edrych am Swyddog Gweinyddol, Ariannol a Datblygu i fod yn gyfrifol am reoli swyddfa Yes Cymru o ddydd i ddydd gan sicrhau gweinyddiaeth effeithlon, cefnogi a chynnal aelodau a datblygiad grŵp, rheoli gweithdrefnau a materion ariannol a darparu cefnogaeth weinyddol i Gyfarwyddwyr a grwpiau Yes Cymru.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn allweddol i dyfiant a datblygiad aelodaeth Yes Cymru yn ogystal â chynyddu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd oddi fewn strwythur Yes Cymru.
Mae'r gallu i gyfathrebu i safon foddhaol ar lafar ac yn ysgrifenedig drwy'r Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mi fyddwch chi'n wych wrth gyflawni'r canlynol!
- Cefnogi'r tîm mewn gweithgarwch a chysylltiadau cyhoeddus, gan gynnwys y wefan, cylchlythyr a'r cyfryngau cymdeithasol;
- Ymchwilio i sefydliadau sy'n gallu cynnig cefnogaeth ychwanegol a chofnodi manylion cyswllt sefydliadau ar gyfer y dyfodol;
- Cefnogi rheolaeth aelodaeth, gan gynnwys gweinyddu'r System Rheolaeth Cysylltiadau Cwsmer;
- Cefnogi'r Arolwg Aelodaeth a gynhelir yn gyson er mwyn darparu gwybodaeth am bob agwedd o'r arolwg sgiliau aelodau drwy Nation Builder a'u gallu i gefnogi agweddau ar waith Yes Cymru.
- Creu adroddiadau llafar neu ysgrifenedig ar gyfer cyfarfodydd a phwyllgorau cysylltiol ar waith Yes Cymru;
- Ymgynghori a chysylltu, sgiliau adeiladu tîm, sgiliau gwrando da a datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o gymuned Yes Cymru;
- Diweddaru cofnodion a chronfeydd gwybodaeth ariannol a chyfreithiol personèl;
- Talu derbynebau a chofnodi'r taliadau ar Xero;
- Trefnu ac archebu deunydd ysgrifennu, papur ac offer yn ôl y galw;
- Cynorthwyo gyda chofnodi cytundebau ynghylch talu am wasanaethau;
- Cynorthwyo cyfrifyddion y cwmni yn ôl y galw i goladu gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer talu cyflogau yn brydlon;
- Cynorthwyo i gadw cofnod o wyliau blynyddol a salwch staff;
- Sicrhau hyfforddiant perthnasol yn ôl anghenion a nodwyd gan y Prif Swyddog Gweinyddol neu'r NGB;
- Dilyn a gweithredu mesurau Iechyd a Diogelwch priodol yn holl weithgarwch y cwmni.
Gallwch chi ddisgwyl:
- 33 diwrnod o wyliau'r flwyddyn pro rata, sy'n cynnwys Gwyliau Banc
- Cynllun Pensiwn y Cwmni
- Gweithio gartref- oriau hyblyg er y bydd angen presenoldeb mewn cyfarfodydd neu achlysuron a drefnwyd.
- Cyflog o £24,982 - £27,041 y flwyddyn
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus arddangos cymwysterau, hyfforddiant neu brofiad yn y meysydd canlynol:
- Profiad gweinyddol blaenorol (dwy flynedd)
- Technoleg Gwybodaeth a sgiliau cyfrifiadur
- Rheolaeth Swyddfa gan gynnwys cynnal a gofalu am ohebiaeth ac adnoddau'r swyddfa
- Amserlennu cyfarfodydd a chofnodi
- Datblygu tîm neu gymuned
Sgiliau dymunol:
Mae'r sgiliau canlynol yn ddymunol er nad yn hanfodol gan y cynigir hyfforddiant:
- Profiad gyda System Rheolaeth Cysylltiadau Cwsmer
- Gwybodaeth o feddalwedd cyfrifeg: Xero, Quick Books, Free Agent, Sage neu debyg.
I ymgeisio danfonwch eich CV a llythyr cais at [email protected] erbyn 20/05/2022
Dangos 1 ymateb