Dyma gyfle rhagorol i ymuno â thîm YesCymru. Mae YesCymru yn hyrwyddo annibyniaeth i Gymru drwy ystod o weithgareddau, er mwyn dangos y byddai Cymru, fel cymaint o genhedloedd eraill drwy'r byd, yn fwy effeithiol drwy ofalu am ei materion ei hun fel rhan o deulu Ewropeaidd a rhyngwladol ehangach.
Mae’r Prif Swyddog Gweithredol yn gyfrifol am ddatblygu cynlluniau strategol a chyllidebau blynyddol i’w cymeradwyo gan y Bwrdd a darparu arweinyddiaeth effeithiol i gefnogi gweithwyr ac aelodau i gyrraedd nod annibyniaeth Cymru drwy ymgyrchu amhleidiol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn allweddol i dyfiant a datblygiad aelodaeth YesCymru yn ogystal â chynyddu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd oddi fewn strwythur YesCymru.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Mae’r rôl hon yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth o ansawdd uchel i YesCymru a bydd yn ymarferol wrth reoli gweithrediadau’r sefydliad o ddydd i ddydd. Bydd y rôl yn datblygu ac yn gweithredu systemau a phrosesau sy’n mynd â’r sefydliad i’r lefel nesaf a disgwylir iddo ddylanwadu’n sylweddol ar y ddadl annibyniaeth yng Nghymru a dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Elfen allweddol o'r rôl hon yw cyfathrebu effeithiol, yn fewnol gyda'r Bwrdd, gweithwyr ac aelodau ond hefyd yn allanol fel eiriolwr dros annibyniaeth i Gymru gyda mandad i gynyddu aelodaeth o ran niferoedd ac amrywiaeth. Rhwydweithio â sefydliadau eraill sydd o blaid annibyniaeth a sefydlu a meithrin perthnasoedd ag unigolion a sefydliadau sydd â'r wybodaeth, y sgiliau a'r dylanwad i gyflawni'r genhadaeth honno.
Atebolrwydd Allweddol
· Cynghori a chefnogi’r Bwrdd i sefydlu a chynnal strategaeth sefydliadol effeithiol a fframwaith llywodraethu sy’n cyflawni cenhadaeth YesCymru, gan adeiladu aelodaeth o’r sefydliad a chefnogaeth i annibyniaeth Gymreig o bob demograffeg.
· Arwain y sefydliad a darparu cyfeiriad clir i weithwyr, gwirfoddolwyr ac aelodau i greu a chynnal diwylliant sefydliadol effeithiol, gweithio diogel ac amgylchedd sy'n canolbwyntio ar berfformiad, gan weithio gyda nhw i ddarparu eglurder ar sut mae eu gwaith yn cyflawni'r nodau strategol.
· Bod yn llysgennad dros YesCymru, gan gynrychioli’r sefydliad mewn digwyddiadau allanol, rhwydweithio a gwneud y mwyaf o gyfleoedd cyhoeddusrwydd a meithrin perthnasoedd, yn fewnol ac yn allanol, i hyrwyddo nodau’r sefydliad.
· Sefydlu systemau a phrosesau addas i gasglu ac adolygu adborth gan weithwyr, aelodau a ffynonellau allanol eraill i lywio strategaeth a phenderfyniadau yn y dyfodol.
· Sefydlu a chynnal safonau gweithredu, polisïau, prosesau ac arferion effeithiol ac effeithlon sy'n bodloni anghenion y sefydliad, gweithwyr ac aelodau, gan weithio o fewn y rhain bob amser i arwain trwy esiampl.
· Cynnal cryfder ariannol a capasiti ar gyfer twf i sicrhau incwm cynaliadwy, cyflawni gwarged lle bo modd a rheoli gwariant yn effeithiol.
· Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion cyfreithiol, statudol a rheoliadol, lleihau a rheoli risg yn effeithiol, darparu adroddiadau o ansawdd uchel a chyflwyniadau data o fewn amserlenni priodol.
Gallwch chi ddisgwyl:
- 33 diwrnod o wyliau'r flwyddyn pro rata, sy'n cynnwys Gwyliau Banc
- Cynllun Pensiwn y Cwmni 5%
- £47,000.00
- Gweithio gartref- oriau hyblyg er y bydd angen presenoldeb mewn cyfarfodydd neu achlysuron a drefnwyd.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus arddangos cymwysterau, hyfforddiant neu brofiad yn y meysydd canlynol:
- Gradd, cymhwyster rheoli neu gymhwyster proffesiynol perthnasol neu wybodaeth a gallu ar lefel gyfatebol
- Profiad profedig o arweinyddiaeth effeithiol o fewn sefydliad wedi'i arwain gan aelodau, mudiad ymgyrchu, mudiad eiriolaeth neu sefydliad dielw tebyg
- Hanes profedig o ddangos craffter busnes ac ariannol, datblygu gweithgareddau menter gymdeithasol a chyflawni canlyniadau, gan gynnwys twf a gwarged
- Profiad profedig o reoli a datblygu pobl yn effeithiol, rheoli materion cysylltiadau gweithwyr yn unol â gofynion cyfreithiol ac arfer
- Cyflwynydd, cyfathrebwr, dylanwadwr ac eiriolwr hyderus a medrus i ystod o gynulleidfaoedd ar bob lefel mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol, yn bersonol ac o bell
- Lefel dda o lythrennedd PC, gyda'r gallu i echdynnu a dadsoddi data o systemau cyfrifiadurol a defnyddio e-bost yn ogystal â Microsoft Word, Excel a PowerPoint
Sgiliau dymunol:
- Profiad o weithio'n effeithiol gyda Byrddau a Phwyllgorau, y mae rhai ohonynt yn wirfoddolwyr
- Profiad o weithio mewn rôl debyg lle’r oedd ymgyrchu gwleidyddol ac annibyniaeth yn brif ffocws
Dyddiad cau derbyn ceisiadau - 04/07/2022
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol cysylltwch ag [email protected].
Dylid ymgeisio am swydd trwy wefan Indeed.