CYFARWYDDWYR NEWYDD
Yn dilyn pleidlais i ethol cyfarwyddwyr o ranbarth y canolbarth a’r gorllewin mae gan YesCymru gyfarwyddwyr o bob rhanbarth ar gyfer y Corff Llywodraethu Cenedlaethol (CLlC) newydd.
Pleidleisiodd 1,556 o aelodau yn yr etholiad ar gyfer y tair sedd ar y CLlC.
Roedd 17 lle ar gael ar y bwrdd ac mae 15 aelod wedi cymryd eu lle ar y bwrdd.
Mae gwybodaeth am y cyfarwyddwyr newydd a'u gweledigaeth o Gymru Annibynnol i'w weld yma.
CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU
|
Ifor ap DafyddCefais fy ngeni yng Nghaerdydd, fy magu yn Sir y Fflint, a rydw i bellach yn byw yn Aberystwyth. Astudiais Saesneg yng Ngholeg Emmanuel, Prifysgol Caergrawnt a gwneud ymchwil ar waith Saunders Lewis ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rwy’n Archifydd Digidol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyn ymuno â’r Llyfrgell bûm yn dysgu yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe ac yn gweithio ar www.dafyddapgwilym.net. |
Geraint ThomasBrodor o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol ydw i, ond yn byw ers dros ddegawd ger y Bala. Mi ‘dwi’n briod â Meleri ac yn dad i dri o blant. Graddiais mewn Cyfathrebu a’r Cyfryngau ganol y 90au, gan weithio yn y cyfryngau am dros ddegawd. Ffotograffydd ydw i o ran galwedigaeth erbyn hyn, ac yn sylfaenydd a pherchennog oriel Panorama yng nghanol tref Caernarfon ers dros 16 mlynedd. Mae fy ngwaith o ddydd i ddydd yn ymwneud â nifer o brosiectau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, ac mae nifer o gwmnïau rhyngwladol ymysg fy nghleiantau cyson. |
Gaynor JonesRwy’n sefyll etholiad fel Cyfarwyddwr YesCymru am nifer o resymau. Yn gyntaf oherwydd fy mod wedi dod i gredu’n llwyr mai annibyniaeth yw’r unig ffordd y gall Cymru fel cenedl oroesi. Mae hyn wedi dod yn amlycach fyth ers i lywodraeth Geidwadol bresennol y DU fynd ati i ymosod ar ein sefydliadau democrataidd a’n hawliau yma yng Nghymru. Mae wedi datgymalu datganoli ac wedi tanseilio pwerau ein cynrychiolwyr etholedig yn y Senedd, ac mae ei lygredd a’i gamreolaeth yn rysáit trychinebus nid yn unig i ni ond i boblogaeth ehangach y DU. Mae’n bryd i ni fel cenedl ac i’n gwleidyddion a’n harweinwyr dyfu i fyny, cymryd cyfrifoldeb a dechrau gwneud cynlluniau i adael undeb sy'n camweithredu. |
GORLLEWIN DE CYMRU
|
Nerys JenkinsRwyf wedi treulio’r 20 mlynedd diwethaf fel Rheolwr ym maes gwerthiant moduron, y 6 mlynedd diwethaf fel Uwch Reolwr. Rwy’n dod â chyfoeth o brofiad o fod wedi gweithio fy ffordd i fyny yn y maes hynod gystadleuol a chaled hwn, o lawr y siop i fy safle cyfredol. |
Christine MooreCefais fy ngeni a'm magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i rieni o ardaloedd Pendre a Stryd Mackworth. Roedd fy nhaid yn ddyn rag ‘n’ bone ac yn yrrwr bws, ac roedd fy nain yn wniadwraig. Rwyf wedi byw gyda fy mhartner yng Nghwm Ogwr ers dros 20 mlynedd ac yn rhiant i dri o blant sydd wedi tyfu i fyny. Magais y ddau hynaf, yn bennaf, fel rhiant sengl. |
DWYRAIN DE CYMRU
|
Mihangel Ap-WilliamsRwy'n angerddol iawn dros gael annibyniaeth i Gymru, rwy'n meddwl am y sut a'r pam, mae hyn yn rhoi y syniadau yr wyf yn hoffi eu hyrwyddo ar fy nhudalen Facebook a phroffil twitter i mi, sef Cymru sy’n rhydd yn ariannol. Rwyf wedi rhedeg sawl busnes sydd wedi fy nghynnal i ar fy ngweithwyr, rwyf hefyd wedi buddsoddi mewn cwmnïau ar y gyfnewidfa stoc, rwy’n angerddol am ddysgu am arian, rwy'n hoffi deall sut mae cyllid yn effeithio ar bopeth ac rwy'n ei barchu fel maes astudio! |
Phyl GriffithsAelod rhif 663 dw i, a dymunaf i chi dderbyn ac ystyried fy nghais i eistedd ar fwrdd cyfarwyddwyr newydd sbon YesCymru. Ychydig am fy nghefndir i ddechrau; dw i’n enedigol o Droedyrhiw ger Merthyr Tudful ac, ar wahân i fy nghyfnod yn dilyn cyrsiau Celf a Chynllunio - yng Ngholeg Celf Caerfyrddin i ddechrau ac wedyn Southampton - ym Merthyr dw i wedi byw erioed. |
GOGLEDD CYMRU
|
Vaughan WilliamsBum yn aelod o Yes Cymru o’r cychwyn cyntaf ac wedi credu mewn Cymru Annibynnol a gallu pawb sy’n galw ein cenedl yn gartref i lywodraethu ein hunain. Mae gennyf wybodaeth eang o’r mudiad annibyniaeth a thros nifer o flynyddoedd wedi mwynhau gweithio gydag aelodau brwdfrydig Yes Cymru i hyrwyddo y weledigaeth rydyn ni’n ei rhannu, o genedl annibynnol. |
Elgan OwenYmunais gyda YesCymru ym Mis Mai 2020 a chychwynnais grŵp Llanfairfechan ym Mis Tachwedd 2020. Mae gennyf brofiad o fod yn gyfarwyddwr i elusen genedlaethol ac fel ymddiriedolwr i gyngor gwirfoddol sirol ac rwy’n credu fod y profiadau yma, ynghyd a fy mhrofiad o weithio yn y trydydd sector yn addas iawn i gefnogi a datblygu YesCymru dros y blynyddoedd nesaf a sicrhau cefnogaeth a datblygiad i’r grwpiau a gwirfoddolwyr i barhau eu gwaith hynod werthfawr i hybu annibyniaeth. |
Elfed WilliamsRwy’n rhoi fy enw ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Yes Cymru oherwydd credaf y bydd fy nghefndir a’m profiad yn cynorthwyo’r mudiad i gymryd y camau nesaf i adeiladu strwythur cadarn cryf a fydd yn ein helpu i gyrraedd ein nod o Annibyniaeth i Gymru. |
CANOL DE CYMRU
|
Andrew MurphyRwy’n byw ym Mro Morgannwg a hoffwn ofyn am eich cefnogaeth yn fy nghais i gael fy newis i Gorff Llywodraethu Cenedlaethol YesCymru. Cefais fy ngeni a fy magu yng Nghaerdydd yn y 1960au i rieni Cymreig-Prydeinig. Roedd fy nheulu yn canmol pob gorchest Gymreig gyda balchder, yn ystod twrnamaint y Pum Gwlad yn enwedig, gan wasgu i mewn i dŷ fy Ewythr Gordon yn y Tyllgoed, prin 'roedd lle i symud, yn enwedig pan oedd Cymru yn chwarae Lloegr. |
George HudsonAstudiais athroniaeth wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 2013 a 2016, a darllenais Radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (ym mhrifysgol Caerdydd hefyd). Mae fy nghefndir gwaith yn cynnwys gweithgynhyrchu bwyd a rheoli warysau. Ymunais â Yes Cymru oherwydd i mi weld mor enbyd oedd cyflwr democratiaeth yn y DU. Rwyf am drawsnewid Cymru i fod yn ddemocratiaeth annibynnol lewyrchus, sy’n gallu darparu gwell bywyd i’w holl ddinasyddion. |
Richard Huw MorganFel un o 500 o aelodau gwreiddiol YesCymru, rydw i wedi dangos ymrwymiad hirdymor i wneud Cymru yn wlad annibynnol. Dim ond drwy annibyniaeth y bydd gennyn ni gyfle i greu gwell gwlad drwy reoli ein materion ni’n hunain, a thrwy roi dewis democrataidd i bobl Cymru ynghylch sut mae rhedeg eu gwlad. |
TU ALLAN I GYMRU
|
Louise AikmanMae’n gyfnod cyffrous i Gymru, ac i’n hymgyrch genedlaethol dros annibyniaeth. Er mwyn symud ymlaen mae ein Haelodau yn disgwyl inni adlewyrchu eu hangerdd, ond hefyd mae angen inni weithredu gydag effeithlonrwydd, yn chwim ac yn fedrus iawn. Mae gen i'r sgiliau, y profiad a'r ymroddiad i gefnogi esblygiad Yes Cymru yn sefydliad a fydd yn gwasanaethau’r 18,000 o Aelodau a’r degau o filoedd o gefnogwyr ledled Cymru. |
Barry ParkinMae gennyf brofiad busnes a rheoli ar lefel Cyfarwyddwr Cwmni a fydd, yn fy marn i, yn helpu YesCymru i gymryd y cam arwyddocaol a phwysig o drawsnewid o fod yn Gymdeithas Anghorfforedig i Gwmni Cyfyngedig. Bydd fy mhrofiad rheoli o fewn amgylchedd sy’n tyfu’n gyflym hefyd yn helpu YesCymru i reoli’r twf uchel iddo brofi, ac i adeiladu ar y twf hwnnw. |