Wrth ymateb i’r drafodaeth hanesyddol ar lawr y Senedd sy’n galw am rymoedd i Gymru allu galw refferendwm dros annibyniaeth dywedodd Cadeirydd YesCymru, Siôn Jobbins:
“Mae bywyd a gwleidyddiaeth yn newid yn sydyn iawn yng Nghymru. Heddiw bydd y ddadl gyntaf erioed ar annibyniaeth yn y Senedd a’i hawl i benderfynu dyfodol Cymru.
“Mae annibyniaeth yn rhywbeth sy’n cael ei drafod yn fwy yn y prif ffrwd wrth i bobl o gefndiroedd gwahanol weld y gall ein Senedd reoli Cymru yn llawer gwell na San Steffan.”
“Mae aelodaeth YesCymru wedi mwy na dyblu i bron i 6,000 ers dechrau creisis COVID-19, a ry’n ni wedi gweld cynydd sylweddol mewn cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Nid mater i Blaid Cymru yn unig yw annibyniaeth. Dangosodd yr arolwg barn Welsh Barometer (Mehefin 2020) bod 37% o bleidleiswyr Llafur o blaid annibyniaeth, ac fe wnaeth cynrychiolaeth o YesCymru gyfarfod â’r AS Llafur, Jane Hutt, yn ddiweddar i drafod yn gyffredinol yr angen am rymoedd i’r Senedd allu amddiffyn a hyrwyddo Cymru, a dewis ei dyfodol ei hun.
“Bydd refferendwm dros annibyniaeth i’r Alban o fewn rhai blynyddoed, a thebygrwydd y bydd Iwerddon yn ailuno. Rhaid i ni yng Nghymru afael yn ein dyfodol, nid bod yn gaeth iddo."