Diwedd y Ceidwadwyr Unoliaethol? Rhwyg ymysg Torïaid ynglŷn â pharhad yr undeb yn ôl arolwg barn newydd
Mae traean o bobl yn Lloegr wedi dweud nad ydynt yn dymuno i’r Deyrnas Unedig barhau.
Heb gynnwys y rhai nad oedd yn gwybod neu wrthododd ymateb, yn ôl pôl piniwn mae 35% o bobl yn Lloegr bellach yn ffafrio annibyniaeth i Loegr.
Dangosodd arolwg gan YouGov ar ran Yes Cymru bod Ceidwadwyr yn rhanedig ar y mater, roedd 49% o blaid annibyniaeth i Loegr a 51% yn erbyn.
Dywedodd y Dr Dafydd Trystan, gwyddonydd gwleidyddol: “Mae tystiolaeth y pôl piniwn hwn yn dangos y byddai lleiafrif sylweddol o bleidleiswyr yn Lloegr yn pleidleisio dros ddod â’r Deyrnas Unedig i ben.
“Mae’r darlun yn fwy diddorol byth o edrych ar bleidleiswyr yr amrywiol bleidiau. Mae pleidleiswyr Ceidwadol ac Unoliaethol yn rhanedig ar ddyfodol y DU, mae bron i hanner am weld Lloegr yn mynd ei ffordd ei hun.
“Mae’r canlyniadau yma yn gydnaws â’r diffyg pwysigrwydd sydd i gynnal yr Undeb ymysg pleidleiswyr Ceidwadol mewn polau piniwn am Brexit a’i effaith ar y berthynas rhwng Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon”
Tra bod cefnogaeth yn Llundain yn gymharol isel, ar 25%, roedd y niferoedd yn y gogledd a’r canolbarth yn uwch, ar 38%.
Y rhai dros 65 yw’r grŵp oedran mwyaf tebygol o bleidleisio dros annibyniaeth i Loegr, roedd 48% o blaid.
Dywedodd Sion Jobbins, cadeirydd Yes Cymru, “Mae’r pôl hwn yn dangos dau beth pwysig a diddorol.
“Yn gyntaf, fod lleiafswm sylweddol o bobol yn Lloegr, yn enwedig y tu allan i Lundain, yn cefnogi Lloegr annibynnol.
“Yn ail, mae’n dangos bod y gefnogaeth i Loegr annibynnol yn dod o gyfeiriad cwbl wahanol i’r gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru a’r Alban. Mae’r gefnogaeth i Loegr annibynnol ymhlith pobol hŷn a phobol ar y dde, tra bod y gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru ar y cyfan ymhlith pobol iau ac ar y chwith.
“Y broblem i Gymru yw, er gwaethaf fod ganddi Senedd â rhai pwerau, rydym yn dal i gael ein rheoli gan blaid ac ideoleg wleidyddol sy’n gwrthwynebu’r rhan fwyaf o’r hyn y mae pobol Cymru’n credu ynddo. Annibyniaeth i Loegr yw’r eliffant yn lolfa wleidyddol Prydain. Mae annibyniaeth yn ffordd allan i Gymru.”
- Arolwg YouGov / YesCymru - Mae’r ffigyrau i gyd, oni nodir yn wahanol, gan YouGov Plc. Cyfanswm sampl oedd 1,384 o oedolion. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 17eg a’r 18fed o Fehefin 2020. Cwblhawyd yr arolwg ar-lein. Mae’r ffigyrau wedi’u pwysoli ac yn gynrychioladol o holl oedolion y DU (dros 18+) Mae’r ffigyrau a ddyfynnir yn eithrio’r rhai nad oedd yn gwybod neu a wrthododd ateb.
- Lawrthlwythwch y Canlyniadau yn eu cyfanrwydd (pdf).