Symud ymlaen o'r llywio

Y Rhyl yn Paratoi i Gynnal yr Orymdaith nesaf dros Annibyniaeth

Mae disgwyl i bobl o bob cwr o Gymru lenwi strydoedd Y Rhyl ar ddydd Sadwrn 18 Hydref 2025, wrth i'r dref gynnal yr Orymdaith nesaf dros Annibyniaeth, a drefnir gan YesCymru ac AUOBCymru (All Under One Banner Cymru).

Yr Orymdaith Gyntaf yn y Gogledd ers Dwy Flynedd

Bydd yr orymdaith yn dechrau ac yn gorffen yn Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl ar y promenâd, lle bydd llwyfan mawr, cerddoriaeth fyw ac areithiau. Bydd mynychwyr yn ymgasglu o 11am, cyn i'r orymdaith ddechrau am 1pm.

Bydd y digwyddiad yn addas i deuluoedd ac yn agored i bawb sy’n credu y dylai fod gan Gymru y grym i wneud penderfyniadau drosti ei hun. Dyma fydd yr Orymdaith dros Annibyniaeth gyntaf yn y gogledd ers dwy flynedd, gyda’r un ddiwethaf wedi’i chynnal ym Mangor ym Medi 2023.

Bydd llwybr yr orymdaith trwy'r dref yn hygyrch i bawb – gan ddechrau yn Arena Digwyddiadau’r Rhyl, cyn mynd ymlaen i'r Stryd Fawr, Stryd y Farchnad, Stryd y Frenhines, Stryd Sussex, Stryd y Dŵr, ar hyd y Promenâd ac yn ôl i'r Arena Digwyddiadau – a bydd y ffyrdd ar gau i draffig drwy gydol yr orymdaith.

Siaradwyr a Pherfformwyr o Gymru a'r Alban

Am tua 2pm, yr Arena Digwyddiadau fydd y canolbwynt ar gyfer y Rali Dros Annibyniaeth â'r areithiau a cherddoriaeth fyw. Ymysg y rhai fydd yn cyfrannu mae'r canwr-gyfansoddwr Tara Bethan, ymgyrchydd dros annibyniaeth yn Yr Alban Lesley Riddoch a Llyr Gruffydd AS dros Blaid Cymru. Bydd mwy o enwau yn cael eu cyhoeddi yn fuan.

Bydd cerddoriaeth gan Genod Pres, a fydd yn arwain yr orymdaith, a Jacob Elwy a TewTewTennau, a fydd yn perfformio yn ystod y rali. Bydd Marchnad Annibyniaeth rhwng 10am a 4pm – fydd yn gyfle perffaith i brynu nwyddau ar thema annibyniaeth a chyfarfod ag ymgyrchwyr o bob rhan o Gymru.

Gall cefnogwyr barhau â'r dathliadau yn sesiwn werin ‘Canu Dros Annibyniaeth’ yn y Lorne Tavern, Rhyl o 4pm – bydd pobl yn dod ynghyd am ddigwyddiad anffurfiol o gerddoriaeth, canu a chymdeithasu.

Dywedodd Geraint Thomas ar ran y trefnwyr:

“Mae pob gorymdaith dros annibyniaeth yn rhoi’r neges i San Steffan na fydd Cymru yn cael ei hanwybyddu mwyach. O Gaerdydd i Fangor, o’r Barri i’r Rhyl, mae pobl yn uno i ddweud ein bod ni’n haeddu gwell na degawdau o esgeulustod gan lywodraethau San Steffan o bob lliw gwleidyddol. Rydyn ni’n arbennig o falch o ddod â’r Orymdaith dros Annibyniaeth yn ôl i’r gogledd am y tro cyntaf ers dwy flynedd, ac yn galw ar bobl o bob rhan o’r gogledd i ymuno â ni yn y Rhyl. Dewiswyd y dref am ei bod yn symbol o’r heriau a’r potensial sydd gan Gymru fodern – cymuned sydd wedi dioddef o danfuddsoddi ers blynyddoedd ond sy’n dal yn falch ac yn benderfynol. Mae democratiaeth, tegwch ac urddas yn greiddiol i’r mudiad dros annibyniaeth, ac mae pobl Cymru yn barod i gymryd ein dyfodol i’n dwylo ein hunain.”

Y Mudiad dros Annibyniaeth yn Tyfu

Mae'r orymdaith yn Y Rhyl yn un o gyfres o orymdeithiau mawr ar draws Cymru ers 2019, fe wnaeth y diweddaraf yn Y Barri, ddenu mwy na 6,000 o bobl. Dywed y trefnwyr bod y mudiad dros annibyniaeth yn parhau i dyfu wrth i ragor o bobl gydnabod bod angen i benderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru.

Mae'r alwad dros annibyniaeth wedi ennill sylw o'r newydd wedi i San Steffan wrthod datganoli rheolaeth dros Ystad y Goron i Gymru yn ddiweddar. Mae ffermydd gwynt ar y môr Y Rhyl a Gwynt y Môr yn ddau o asedau mwyaf gwerthfawr Ystad y Goron, ond mae'r elw yn dal i lifo i Lundain yn hytrach na chefnogi cymunedau yng Nghymru

Manylion Llawn

Mae manylion llawn, gan gynnwys manylion teithio, parcio a hygyrchedd i'w gweld ar: cy.yes.cymru/rhyl 

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.