Symud ymlaen o'r llywio

Rydym yn Cerdded yn Ddiarwybod Tuag at Annibyniaeth

Rob Hughes, Cyfarwyddwr YesCymru

Hir yw pob aros medden nhw.

Roedd hi’n amlwg o ganlyniad is-etholiad Caerffili bod rhai pwyntiau allweddol i’w nodi: chwalwyd pleidlais Llafur; roedd Reform UK yn disgwyl cael eu coroni, ond wedi’u hysgwyd; collodd y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol eu blaendal; ac roedd Plaid Cymru ar y brig, â buddugoliaeth glir.

Roedd hi’n hawdd rhagweld y byddai sylwebyddion Llundain yn methu stori fwyaf y noson. Doedd hynny’n ddim syndod, gan eu bod mor ddifater am Gymru – yn methu deall rhesymeg y canlyniad ac yn ansicr hyd yn oed dros beth mae pleidiau Cymru yn sefyll.

Ond fe wnaethon nhw ei fethu’n llwyr. Felly dyma ymgais sydyn i gydbwyso’r naratif.

Rwy’n dod o deulu Cymreig ond cefais fy magu yn Reading. Felly roeddwn i wastad yn teimlo fel Cymro oddi cartref, ac fe symudais i Gymru ar adeg tyngedfennol arall, yn 1997. Wrth symud i Gymru i fyw yn barhaol, cefais fy synnu cyn lleied o bobl oedd yn cefnogi annibyniaeth.

Roedd y bleidlais dros ddatganoli yn 1997 yn llawer agosach nag yr oeddwn i wedi disgwyl, ac roedd yn ymddangos fel petai ni wedi colli’r gêm nes i’r fuddugoliaeth ddod o Sir Gaerfyrddin, yn hwyr i mewn i amser ychwanegol.

Dirmygu Cymru

Roeddwn i wedi dod o ardal oedd yn ddirmygus tuag at Gymru ac yn barod i’w hecsbloetio ar unrhyw adeg. Rwy’n cofio, yn ystod cyfnodau o brinder dŵr, yn hytrach na chwilio am atebion lleol yn ne-ddwyrain Lloegr, fod sgyrsiau’n aml yn cynnwys ymadroddion fel “pam na allwn ni jest boddi pentref arall yng Nghymru - na all neb ynganu ei enw - i adeiladu cronfa ddŵr newydd?”.

Un peth diddorol i’w nodi yw bod llawer o’r rhai sy’n credu mewn annibyniaeth i Gymru wedi treulio amser yn Lloegr – wedi byw yno, gweithio yno neu wedi mynd i’r brifysgol yno. Efallai bod angen i bawb wneud hynny!

Felly, yng Nghymoedd Merthyr, roeddwn i’n eitha gwahanol. Nid am fy mod, yn eu llygaid nhw, yn Sais sy'n cefnogi annibyniaeth – ond am fy mod yn cefnogi annibyniaeth o gwbl. Ar y pryd, roedd y gefnogaeth tua 3 i 5%, ac roedd yn ymddangos mor bosibl â byw ar blaned Iau.

Mae’r symudiad tuag at gefnogi annibyniaeth wedi’i briodoli i ddigwyddiadau allweddol ac ymwybyddiaeth genedlaethol gynyddol. Rhoddodd refferendwm yr Alban yn 2014 ofn realistig i bobl yng Nghymru y gallai’r Alban fynd, ac fe ddechreuon ni holi, ar lefel genedlaethol: “beth yw Cymru?”.

Ewro 2016

Roedd sefydlu YesCymru yn ganlyniad uniongyrchol i’r cyfnod hwnnw. Daeth Ewro 2016 â ni ynghyd fel cenedl – doedd dim rhaniad rhwng y gogledd a’r de, dim tensiwn rhwng Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg – un genedl, trefol a gwledig, yn unedig y tu ôl i Bale.

A rhoddodd Covid gipolwg i ni ar sut y gallai Llywodraeth Cymru lywodraethu’n well. A phan ddaw hi at annibyniaeth, unwaith i ni gymeryd cam ymlaen, go brin y byddwn ni’n troi’n ôl. Mae wedi bod ar flaen meddyliau pobl ers hynny, mae enwogion, gwleidyddion a nifer cynyddol o bobl yng Nghymru – yn enwedig pobl ifanc – yn gefnogol.

Ac mae hynny’n dod â ni’n ôl at stori fwyaf noson is-etholiad Caerffili.

Ers i’r gefnogaeth dros annibyniaeth ddechrau tyfu tua 2016, mae pleidiau sy’n cefnogi annibyniaeth wedi ennill tua chwarter y bleidlais, sy’n cyd-fynd â’r gefnogaeth gyffredinol i annibyniaeth (sydd tua 40% ar hyn o bryd), cyn sefyll yn stond. Yn 2016 roedd y ganran yn 25.9%, cododd i 28.5% yn 2021. Yn etholiadau San Steffan mae’r stori’n debyg ond ychydig yn waeth, mae 25.5% yn pleidleisio dros bleidiau pro-annibyniaeth yn 2024.

Yn Nghaerffili, ar y 23ain o Hydref 2025, pleidleisiodd o leiaf 49.3% o’r etholwyr dros bleidiau sy’n cefnogi annibyniaeth – Plaid Cymru, y Blaid Werdd a Gwlad. Os ydym, er mwyn arbrofi, yn ychwanegu’r ffigwr a ddyfynnir yn aml, fod hanner pleidlais Llafur yn cefnogi annibyniaeth, at hynny, mae’n dod â ni at tua 55%. Cyn i unrhyw ddechrau sôn am “fenthyg pleidlais”, dweud “nid yw Plaid yn credu mewn annibyniaeth go iawn” neu honni mai “cadw Reform allan” oedd pleidleiswyr yn ei wneud, dyma senario bach i chi.

Yng Nghymru, os nad ydych chi’n pleidleisio dros Reform UK, dydych chi ddim yn hoffi Reform UK. Mae gan Reform UK nifer fach o gefnogwyr newydd posibl – mae eu pleidlais fel y mae. Bydd Llafur yn ei chael hi’n anodd. Mae tebygrwydd y bydd Plaid Cymru yn dod yn blaid fwyaf yn y Senedd ac yn ffurfio’r Llywodraeth ym mis Mai. Beth am Yr Alban? Edrychwch tua Chymru – mae’n debygol y bydd yr SNP, y Gwyrddion ac Alba yn ennill cyfran uwch o’r bleidlais. Heb etholiad tan 2027, bydd Sinn Féin yn parhau i fod y blaid fwyaf yn Stormont.

Newid Seismig

Petai Reform UK yn ennill Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Gyfunol, byddai gennym y rysáit berffaith ar gyfer newid sylfaenol a seismig yn strwythur y Deyrnas Gyfunol. Gallai llywodraeth Reform UK yn San Steffan fod yn ormod i’w oddef – nid yn unig i’r Albanwyr, ond i’r Cymry hefyd. Byddai’n llawer haws perswadio’r pleidleiswyr meddal sydd yn erbyn annibyniaeth os bydd hynny’n digwydd, ac yn wahanol i’r Alban does dim symudiad i amddiffyn yr Undeb gyda ni.

Felly, roedd y Torïaid yn gywir yn rhagweld ein bod ni’n cerdded yn ddiarwybod tuag at annibyniaeth. Ond pan fyddwn yn deffro, nid yr hunllef mae’n nhw’n ei addo fydd gyda ni – ond breuddwyd realistig, y gellir ei chyflawni, yn llawn gobaith a photensial.

Mae’n ddigon posibl ein bod ar erchwyn annibyniaeth, a does neb i’r dwyrain o’r ffin yn sylweddoli ei fod yn digwydd. Dyna stori fwyaf Caerffili – mae’r Cymry ar symud! Dydyn ni ddim yn rhyfedd ragor. Mae annibyniaeth yn normal.

Ond peidiwch â dweud wrth y cyfryngau Llundain… hir oes i’w difaterwch tuag at Gymru!


Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn Nation.Cymru ar 29 Hydref 2025.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.