Symud ymlaen o'r llywio

YesCymru yn mynegi 'pryderon difrifol' am ddemocratiaeth yng Nghymru

Fe wnaeth y mudiad sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth ymateb wedi i ASau Llafur yn y Senedd rybuddio bod San Steffan yn tanseilio datganoli

Yn ymateb i lythyr at Keir Starmer gan dros draean o Aelodau Senedd Llafur Cymru, yn cwyno bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn ymyrryd â chyfrifoldebau datganoledig, dywedodd Phyl Griffiths, Cadeirydd YesCymru:

“Pan all San Steffan anwybyddu’r Senedd, osgoi Gweinidogion Cymru, a gwneud penderfyniadau am Gymru o Lundain - hyd yn oed mewn meysydd sydd wedi’u datganoli’n llawn, a hyd yn oed pan fo’r un blaid mewn llywodraeth yn San Steffan ac yn y Senedd - mae hynny’n dangos yn glir na all datganoli amddiffyn democratiaeth Cymru. Pŵer a ddatganolir yw pŵer a gedwir. Dim ond annibyniaeth sy’n gallu sicrhau’n ddibynadwy hawl Cymru i lywodraethu ei hun heb ymyrraeth San Steffan.”

“Mae defnyddio’r hyn a elwir yn ‘bwerau Harri VIII’ i sathru dros y broses ddatganoli yn gwbl annerbyniol, ac yn tanlinellu’r dirmyg llwyr y mae San Steffan yn ei ddangos yn barhaus tuag at Gymru.”

Phyl Griffths, Cadeirydd YesCymru

Yn eu llythyr llym, mae ASau Llafur Cymru yn cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol o ddefnyddio y 'Deddf Marchnad Fewnol' i danseilio datganoli ac i weithredu mewn meysydd datganoledig. Maent yn ysgrifennu:

“Pe bai hyn yn cael ei wneud gan Lywodraeth Dorïaidd, byddem yn galw am adolygiad barnwrol. Ni ddylai hyn byth ddigwydd eto.”

Maent hefyd yn datgan:

“Mae angen i Gymru gael ei thrin fel rhan gyfartal o'r Deyrnas Gyfunol ac mae'n haeddu hynny.”

Mae'r llythyr yn adlewyrchu rhybuddion ers peth amser bod Llywodraethau olynol Llafur a Cheidwadol y Deyrnas Gyfunol, wedi bod yn tanseilio datganoli yng Nghymru. Erbyn hyn mae ASau Llafur Cymru yn beirniadu eu plaid eu hunain yn San Steffan am barhau i weithredu yn yr un modd.

Daw hyn ar adeg pan fo Reform UK ar y brig mewn arolygon barn yn y Deyrnas Gyfunol, plaid a gallai geisio cael gwared ar ddatganoli yn gyfangwbl a dychwelyd Cymru i reolaeth uniongyrchol Llundain. Mae hyn yn dangos pa mor gyflym y gellir cael gwared ar bwerau democrataidd pan nad oes gan Gymru amddiffyniad cyfansoddiadol.

Mae YesCymru yn credu mai dim ond annibyniaeth all ddarparu diogelwch democrataidd parhaol a sicrhau bod penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru bob amser yn cael eu gwneud yng Nghymru.


 

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.