Mae YesCymru, yr ymgyrch llawr gwlad dros annibyniaeth i Gymru, heddiw wedi cyhoeddi llythyr agored deifiol at y Brenin Siarl III yn mynnu rhoi diwedd ar yr hyn y mae’n ei ddisgrifio fel “echdynnu cyfoeth Cymru ers canrifoedd” drwy Ystad y Goron.
Mae’r llythyr, a anfonwyd at Balas Buckingham, wedi ei ryddhau yn y dyddiau sy’n arwain at y Nadolig, pan fo teuluoedd ledled Cymru yn wynebu cyfraddau tlodi plant sydd ymysg yr uchaf yn y Deyrnas Gyfunol. Mae YesCymru yn dweud y gallai “ddychmygu sefyllfa o'r fath yn un o nofelau Dickens” gan fod Ystad y Goron yn elwa tra bo cymunedau Cymru heb ddim.
Ar 10 Mehefin 2025, pleidleisiodd bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru o blaid trosglwyddo rheolaeth dros Ystad y Goron i Lywodraeth Cymru - mandad unfrydol, cenedlaethol, na welwyd ei debyg.
Mae Cymru’n wedi ei hecsploetio ddigon, mae’n hen bryd cael rhywbeth yn ôl.
Tra bod Yr Alban wedi ennill rheolaeth a refeniw o Ystad y Goron ers 2017, mae Cymru'n dal i dderbyn dim, er bod y Brenin yn berchennog cyfreithiol ar asedau Ystad y Goron yng Nghymru “ar ran y Goron.”
Mae YesCymru wedi tynnu sylw at drigolion mewn sawl sir yng Nghymru sydd hyd yn oed yn gorfod talu Ystad y Goron er mwyn mynd at eu traethau eu hunain. Yn ôl y grŵp byddai sefyllfa o'r fath yn gweddu i'r ecsploetio oedd yn digwydd yn y cyfnod Fictoraidd.
Dywedodd llefarydd ar ran YesCymru:
“Wrth i’r Nadolig nesáu, mae’n anodd anwybyddu’r eironi. Mae plant yng Nghymru yn mynd heb ddim tra bod Ystad y Goron yn echdynnu miliynau o bunnoedd o dir a môr Cymru. Mae’r Alban yn cael ei hincwm. Pam fod Cymru’n cael ei thrin yn wahanol? Rydym yn gofyn i’r Brenin beidio â bod fel Scrooge.”
Anghyfiawnder Fictoraidd yn 2025
Mae YesCymru yn dadlau nid yn unig bod y trefniant presennol yn anghyfartal, mae’n amlwg yn annheg.
“Cipiwyd Ystad y Goron yng Nghymru trwy rym ganrifoedd yn ôl. Heddiw, dylai wasanaethu pobl Cymru, nid ei hecsbloetio.”
Mae’r grŵp yn tynnu sylw i'r Brenin rannu ei hoffter o Gymru ac iddo ddatgan ei fod am “wneud cyfraniad” i’r genedl.
“Wel, dyma’r cyfraniad y mae Cymru wirioneddol ei angen,” meddai’r llefarydd. “Defnyddiwch eich safle. Cefnogwch y trosglwyddiad. Dyma’r ffordd symlaf o ddangos bod eich geiriau cynnes yn ddiffuant.”
Neges glir ac unfrydol o Gymru
- Mae pob cyngor yn cefnogi’r trosglwyddiad
- Mae’r Alban eisoes yn rheoli Ystad y Goron yno ac yn cadw’r refeniw.
- Mae Cymru’n cael ei thrin fel partner eilradd, trefedigaeth i’w hecsbloetio.
Mae neges YesCymru i’r Brenin yn glir: ni ddylai Cymru gael ei thrin fel adnodd i’w reoli o bell ragor; ni ddylai Cymru gael ei thrin fel trefedigaeth.
Darllenwch y llythyr agored yn llawn isod.
Brenin Siarl III o Loegr
Palas Buckingham
Llundain SW1A 1AA
Dydd Llun 22ain Rhagfyr 2025
Syr,
Pwnc: Llythyr agored parthed Ystad y Goron yng Nghymru
Fel yr ymgyrch annibynnol, amhleidiol dros annibyniaeth i Gymru, rydym yn parchu’n fawr eich bod wedi dysgu Cymraeg yn eich dyletswydd flaenorol a rydym yn falch felly, o allu ysgrifennu atoch yn y Gymraeg.
Credwn fod cynnwys y llythyr hwn o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd, felly byddwn yn rhyddhau copi i’r wasg.
Ers dydd Mawrth, 10fed o Fehefin, 2025, ac yn dilyn ymgyrch lwyddiannus gan YesCymru, mae pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru erbyn hyn wedi pleidleisio dros drosglwyddo rheolaeth dros Ystad y Goron yng Nghymru i Lywodraeth Cymru.
Chi, fel Y Brenin, yw perchennog Ystad y Goron ar ran y Goron, er, wrth gwrs, y cipiwyd eiddo Ystad y Goron yng Nghymru drwy rym arfau ganrifoedd yn ôl.
Ar yr 11eg o Orffennaf llynedd, fe ddywedoch chi am bobl Cymru:
“...mae fy mharch a’m serch tuag at bobl y wlad hynafol hon yn dyfnhau gyda phob blwyddyn”.
Yn seremoni eich arwisgo yng Nghastell Caernarfon, dywedoch eich bod yn gobeithio gallu cynnig eich cyfraniad eich hun. Efallai nawr, y gallwch chi.
Trosglwyddwyd rheolaeth dros Ystâd y Goron yn yr Alban i Lywodraeth yr Alban yn 2017, ac mae Llywodraeth yr Alban yn derbyn yr holl refeniw, swm sylweddol, o Ystad y Goron yn yr Alban er budd pobl yr Alban.
Dydy hyn ddim yn wir am Gymru, sydd yn derbyn dim budd o gwbl o eiddo Ystad Y Goron yng Nghymru. Oni ddylai Cymru gael ei thrin yn yr un modd â’r Alban? Os na, pam felly?
A ydych yn ymwybodol fod yn rhaid i ddinasyddion mewn sawl sir yng Nghymru orfod talu i chi (drwy eu Treth Cyngor a thrwy Ystad y Goron) er mwyn cael mynediad at eu traethau eu hunain? A yw hynny’n rhesymol? Pan fod cynifer o blant mewn tlodi yng Nghymru, a yw hi’n rhesymol eich bod yn codi tâl am bleser syml o ddiwrnod ar y traeth? Gellid dychmygu sefyllfa o'r fath yn un o nofelau Dickens.
Am ganrifoedd, bu’r Llywodraeth Brydeinig, eich llywodraeth chi erbyn hyn, yn esgeuluso Cymru ac felly byddai trosglwyddo rheolaeth dros Ystad y Goron yng Nghymru i Lywodraeth Cymru nid yn unig yn gam bach tuag at unioni anghyfiawnder hanesyddol ond byddai hefyd yn gwella bywydau pobl, sydd yn ymhlith y tlotaf yn y DU.
Rydym yn cydnabod bod eich pŵer a’ch dylanwad yn rheolaeth Ystâd y Goron yn gyfyngedig ond, o ystyried yr uchod, gofynnwn i chi i wneud pob ymdrech i gywiro yr anghyfiawnder hwn a bod Cymru’n cael ei thrin yn deg, trwy sicrhau bod rheolaeth dros Ystad y Goron yng Nghymru yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru, a bod pobl yng Nghymru yn elwa o’r refeniw, yn yr un modd ag mae pobl yr Alban yn elwa o Ystad y Goron yn yr Alban.
Yn ddiffuant,
Barry A. Parkin
(Cyfarwyddwr ar gyfer y Tu allan i Gymru, YesCymru Cyf)
Ar ran P. Griffiths, Cadeirydd, YesCymru Cyf