20–22 Mawrth 2026
Caernarfon
Bydd digwyddiadau nesaf cyfres Nabod Cymru yn cael eu cynnal yng Nghaernarfon rhwng 20-22 o Fawrth 2026. Mae aelodau lleol yn edrych ymlaen at groesawu aelodau YesCymru a chefnogwyr annibyniaeth o bob cwr o’r wlad i‘w milltir sgwâr. Ceir manylion llawn isod. Am ragor o wybodaeth ebostiwch [email protected].
Nos Wener, 20 Mawrth 2026
- 19:45–22:30 – Bragdy’r Beirdd gyda Ifor ap Glyn, Marged Tudur, Meleri Davies, Rhys Iorwerth, Casia Wiliam, Arwel 'Pod' Roberts, Geraint Lövgreen, Nia Owain a cherddoriaeth gan Ciw(bach), £5 - Tocynnau. Jac y Do.
Dydd Sadwrn, 21 Mawrth 2026
- 08:00–10:00 – Brecwast Annibyniaeth. Caffi Maes.
- 10:00–12:00 – Taith dywys Gymraeg o amgylch y dref gyda'r hanesydd Bob Morris. Cychwyn o Caffi Maes.
- 13:00–14:00 – Nabod Awduron: Angharad Price a Rhys Iorwerth. Digwyddiad Cymraeg. Palas Print.
- 15:00–16:30 – Y Drafodaeth Fawr: Panel Holi ac Ateb gyda Siân Gwenllian, Siân Elen Tomos, Guto Bebb, Tomos Barlow. Cadeirydd: Menna Jones. Dwyieithog - Cyfieithu ar y pryd. Jac y Do.
- 19:00–22:30 – Sesiwn Werin. Tafarn Yr Eagles.
Dydd Sul, 22 Mawrth 2026
- 11:00 – Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol YesCymru 2026. Dwyieithog - Cyfieithu ar y pryd. Adeilad yr Institiwt, Allt y Pafiliwn, LL55 1AS (neu ar-lein). Cofrestrwch i fynychu - https://forms.gle/Lv24DkuCnWvG8i3G6.






