Mae arolwg barn newydd gan YouGov ar ran YesCymru - mudiad sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru - yn dangos bod y mwyafrif o’r farn mai gan Senedd Cymru y dylai bod yr hawl i alw refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.
Ac eithrio'r rhai nad oedd yn gwybod, roedd 55% o ymatebwyr o blaid hawliau o’r fath i’r Senedd a 45% yn erbyn.
Ac am y tro cyntaf fe wnaeth y mwyafrif o bleidleiswyr Llafur ddweud y bydden nhw’n pleidleisio dros annibyniaeth petai refferendwm yfory.
O addasu’r ffigyrau i eithrio'r rhai na wnaeth ateb, nad oedd yn gwybod, neu na fyddai’n pleidleisio, dywedodd 51% o’r rhai a bleidleisiodd dros y Blaid Lafur yn 2019 y byddent yn pleidleisio dros annibyniaeth, a 49% yn erbyn.
Drwyddi draw mae’r nifer sydd o blaid annibyniaeth yn parhau ar 32% o blaid a 68% yn erbyn.
Roedd cefnogaeth gref i annibyniaeth ymysg etholwyr iau hefyd, gyda 43% o’r ymatebwyr rhwng 18 a 24 oed a 42% o'r ymatebwyr rhwng 25 a 49 oed yn dweud y bydden nhw’n pledidleisio dros annibyniaeth.
Dywedodd Siôn Jobbins, Cadeirydd YesCymru:
“Mae’r ffigyrau yma’n anhygoel. Mae’n glir bod cefnogwyr Llafur bellach yn cychwyn cefnogi annibyniaeth o ddifrif ac yn ystyried mai annibyniaeth sy’n cynnig y gobaith mwyaf er mwyn creu Cymru sy’n lle gwell i fyw ynddi, ac i amddiffyn pobl Cymru rhag polisïau San Steffan.
“Mae trefn San Steffan wedi methu pobl Cymru dro ar ôl tro - mae cymunedau cyfoethog yn gyfoethocach tra bod cymunedau tlawd yn fwy tlawd a diffaith.
“Dim ond edrych o’n cwmpas sydd angen i ni wneud i weld y methiannau llwyr sydd o gael ein rheoli gan San Steffan, er bod Cymru yn gyfoethog o ran adnoddau.
“Mae nifer o’n pobol yn byw mewn cymunedau wedi’u dinistrio gan bolisïau llymder methiannus sydd wedi blaenoriaethu Dinas Llundain dros bobl Cymru.
“Dim ond o wneud penderfyniadau am Gymru yma yng Nghymru y gallwn ni roi blaenoriaeth i hapusrwydd a lles pobl gyffredin Cymru mewn polisïau llywodraethol.
“Mae pobl Cymru hefyd wedi gweld bod 55% o bobl yr Alban o blaid annibyniaeth ac y bydd yr SNP yn cynnal refferendwm ar annibyniaeth. All Cymru ddim fforddio claddu ei phen yn y tywod. Mae angen cynllun ar y Senedd er mwyn rhoi’r dewis i Gymru allu cynnal pleidlais ar annibyniaeth.”
Ac mae gan Mr Jobbins rybudd i wleidyddion yn Llundain sydd am atal datganoli:
“Mae’r arolwg yma ac arolygon barn blaenorol yn dangos ym mha sefydliadau y mae pobl yn ymddiried. Bydd unrhyw ymgais i droi cloc datganoli am yn ôl, i danseilio’n Senedd neu i ddweud ‘na’ wrth bobl Cymru yn siŵr o fethu.
“Mae cefnogaeth ymhlith pobl Cymru i ddatganoli ac maen nhw eisiau gweld eu hawliau’n cael eu hamddiffyn gan ein llywodraeth a’n Senedd ni ein hunain.”
- Arolwg Barn YouGov – YesCymru: Mae'r holl ffigyrau, oni nodir yn wahanol, yn dod gan YouGov Plc. Cyfanswm y sampl oedd 1035 o oedolion. Cynhaliwyd gwaith maes rhwng 24ain a 27ain Awst 2020. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae'r ffigyrau wedi'u pwysoli ac yn gynrychioladol o holl oedolion Cymru (sy'n 18+). Mae'r holl ffigyrau yn hepgor y rhai a ymatebodd nad oedden nhw'n gwybod.
Ydych chi’n credu y dylai fod gan Lywodraeth Cymru yr hawl i alw refferendwm ar annibyniaeth i Gymru os yw mwyafrif yn Senedd Cymru yn cytuno i hynny?
Dylai – 55%
Na ddylai – 45%
Petai refferendwm ynglŷn â Chymru’n dod yn wlad annibynnol yn cael ei gynnal fory ac mai dyma’r cwestiwn, sut byddech chi’n pleidleisio? A ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol?
DRWYDDI DRAW
Dylai – 32%
Na ddylai – 68%
PLEIDLEISIO LLAFUR YN 2019
Dylai – 51%
Na ddylai – 49%
CATEGORI OEDRAN 18-24
Dylai – 43%
Na ddylai – 57%
CATEGORI OEDRAN 25-49
Dylai – 42%
Na ddylai – 58%