Symud ymlaen o'r llywio

Adroddiad Ymchwiliad Annibynnol- Elfyn Llwyd LLB - Hydref 2024

Er mwyn cywirdeb, penderfynwyd cadw rhai dyfyniadau Saesneg a chynnwys negeseuon e-byst a wnaed yn Saesneg gan y tystion a enwir yn yr iaith wreiddiol


YN ACHOS YESCYMRU

CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT

A GORFFORWYD EBRILL 4ydd 2022

RHIF CWMNI 12426443


YMCHWILIAD ANNIBYNNOL GAN

Y Gwir Anrhydeddus ELFYN LLWYD, LLB.

(gweler ATODIAD UN AR GYFER CV)


CYLCH GORCHWYL

Cylch gorchwyl ar gyfer Ymchwiliad Annibynnol YesCymru

Dros y chwe mis diwethaf bu dirywiad mewn ymddiriedaeth o fewn y Corff Llywodraethu Cenedlaethol rhwng Cyfarwyddwyr ac elfennau allanol o aelodaeth YesCymru yn rôl gweithredoedd y Corff Llywodraethol Cenedlaethol ond hefyd pryder gan rai aelodau o'r Bwrdd am gamau gweithredu gan gyfarwyddwyr eraill a chan aelodau cyffredin y tu allan i'r Corff Llywodraethu. I ddechrau'r broses o ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder o fewn y mudiad penderfynwyd lansio ymchwiliad annibynnol i’r broses o sut mae’r Bwrdd yn gwneud penderfyniadau a'r camau a gymerwyd gan Gyfarwyddwyr ac o bosib aelodau cyffredin.

Adolygiad Annibynnol

Gellir crynhoi'r catalydd ar gyfer y dadansoddiad presennol mewn tri maes,

  1. Proses
  2. Penderfyniadau
  3. Ymddygiad proffesiynol

Er bod adolygiad eang o'r holl benderfyniadau a wnaed dros y chwe mis diwethaf i'w groesawu o ran bod yn agored, mae'n bwysig i aelodau’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol ac YesCymru fod pob maes pryder yn cael eu harchwilio'n drylwyr, ac a fydd yn elwa o ymagwedd fwy fforensig.

Yn ogystal â'r adolygiad eang bydd y swyddog ymchwilio annibynnol yn cael cyfarwyddyd i archwilio, adrodd a, lle bo hynny'n briodol, gwneud argymhellion ar y materion penodol canlynol.

Prosesau a Gwneud Penderfyniadau

  1. Y penderfyniad a'r broses a fabwysiadwyd i benodi Cyfarwyddwyr Cyfetholedig i Gorff Llywodraethu Cenedlaethol YesCymru a rhyddhau'r Cyfarwyddwyr Cyfetholedig wedi hynny ar 8 Rhagfyr 2023
  2. Y penderfyniad a'r broses a fabwysiadwyd gan y Corff Llywodraethu Cenedlaethol i benodi a therfynu contract y Prif Swyddog Gweithredol yn y pen draw ar 18 Rhagfyr 2023
  3. Yr honiadau yn erbyn Cadeirydd YesCymru ei fod wedi gofyn am gyngor cyfreithiol gan gyfreithwyr YesCymru heb awdurdod ymddangosiadol, yn ystod y cyfnod pan ryddhawyd y Cyfarwyddwyr Cyfetholedig a therfynwyd swydd y Prif Swyddog Gweithredol, a gellid ystyried hyn yn achos o dorri Cyfraith Cwmnïau
  4. Y broses i gyhoeddi Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ar Ragfyr 10fed a chanslo'r cyfarfod hwnnw yn fuan wedyn gan y Corff Llywodraethu Cenedlaethol
  5. Y penderfyniad a'r broses a wnaed gan Swyddog Cwynion YesCymru ar y pryd i ymchwilio i gŵyn yn erbyn 7 o Gyfarwyddwyr YesCymru gan gynnwys sefydlu panel ymchwilio / disgyblu ac atal y 7 Cyfarwyddwr hynny dros dro
  6. Penderfyniad a phroses y Corff Llywodraethu Cenedlaethol i atal y Swyddog Cwynion o'i swydd a diddymu'r panel ymchwilio / disgyblu
  7. Penderfyniad a phroses y Corff Llywodraethu Cenedlaethol i ddatgan ymgeisyddiaeth un aelod i ddod yn gyfarwyddwr fel un annilys yn yr etholiadau i'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol
  8. Priodoldeb cadeirydd y Corff Llywodraethu Cenedlaethol o fod â rhan yn y broses enwebu a'r honiad o dorri Is-ddeddf 2.1.

Ymddygiad Proffesiynol

  1. I ganfod a oedd unrhyw:
    • a) ddyletswyddau wedi eu torri,
    • b) egwyddorion Nolan wedi eu torri
    • c) cytundebau cyfrinachedd wedi eu torri
    • d) Is-ddeddfau a / neu'r Erthyglau Cymdeithasiad wedi eu torri
    • e) torri'r gyfraith, yn benodol y Ddeddf Cwmnïau 2006 gan unrhyw Gyfarwyddwr presennol neu Gyn-gyfarwyddwr, cyflogai neu aelod o YesCymru ac os yw toriadau o'r fath wedi digwydd, rhoi argymhellion am gamau gweithredu.

Cwynion Ffurfiol

  1. Adolygu unrhyw gŵyn ffurfiol sydd ar waith a dderbyniwyd gan YesCymru yn erbyn unigolion ac argymell dull gweithredu i ddelio â'r cwynion hyn.

Documents to be made available to the Independent Investigator

  1. Erthyglau Cymdeithasiad ac Is-ddeddfau YesCymru.
  2. Cofnodion cyfarfodydd y Corff Llywodraethu Cenedlaethol.
  3. Unrhyw ddogfennau cysylltiedig sy'n cael eu storio gan YesCymru ar ei Google Drive.
  4. Unrhyw ohebiaeth yn fewnol neu'n allanol sy'n berthnasol i'r ymchwiliad hwn.
  5. Unrhyw gofnodion o gyfarfodydd.
  6. Unrhyw ddogfennau ariannol.

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr a byddai gan yr ymchwilydd yr awdurdod o fewn rheswm heb dorri'r GDPR i ofyn am ddogfennaeth bellach y teimlir ei bod yn angenrheidiol ar gyfer cwblhau'r ymchwiliad.

Cyfrinachedd

Rhaid i'r Cytundebau Cyfrinachedd sy'n perthyn yn benodol i'r adroddiad hwn gael eu llofnodi gan yr ymchwilydd annibynnol, aelodau'r Cyngor y Dirprwyon (CyD) ac Aelodau'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol (CLlC) sydd â mynediad i'r adroddiadau.

Graddfeydd Amser

Adroddiad interim i'w gyflwyno i'r CLlC a'r CyD o fewn 12 wythnos gydag adroddiadau cynnydd ar ôl 4 ac 8 wythnos. Mae'r adroddiad terfynol i gynnwys cyfeiriad at unrhyw fethiannau systemig ac yn cynnwys argymhellion i wella effeithiolrwydd rheolaethol a gweithredol YesCymru.

Cyhoeddi

Yn amodol ar unrhyw brosesau troseddol, cyfreithiol sifil neu ddisgyblu, mae’n rhaid i'r adroddiad adolygu llawn a'r argymhellion cysylltiedig fod ar gael i bob aelod cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyflwyno'r adroddiad terfynol i'r CLIC a'r CYD.


RHAGAIR

Cefais fy mhenodi'n Ymchwilydd Annibynnol ym mis Mawrth 2024 yn unol â'r Cylch Gorchwyl. Cafodd fy mhenodiad ei gymeradwyo gan GLIC YesCymru.

Yn ystod cyfnod o sawl mis, derbyniais gorff sylweddol iawn o wybodaeth gan yr hwyluswyr a aeth ati i ddarparu Cofnodion Cyfarfodydd y CLlC i mi, e-byst aelodau llawr gwlad a Chyfarwyddwyr y CLlC, sgrinluniau o sgyrsiau testun, adroddiadau, gwybodaeth ariannol, dogfennaeth gyfreithiol, llythyrau at gyfreithwyr a chan gyfreithwyr, a'r holl waith papur perthnasol.

Rwyf wedi cael y dasg o ymchwilio i'r meysydd penodol canlynol:

Adolygu proses a phenderfyniadau YesCymru gan roi sylw penodol i'r canlynol:

  1. Y penderfyniad a'r broses a fabwysiadwyd i benodi Cyfarwyddwyr Cyfetholedig i CLlC YesCymru a rhyddhau'r Cyfarwyddwyr Cyfetholedig ar Ragfyr 8fed 2023 wedi hynny.
  2. Y penderfyniad a'r broses a fabwysiadwyd gan y CLlC i benodi ac yn y pen draw terfynu contract y Prif Swyddog Gweithredol ar Ragfyr 18fed 2023.
  3. Yr honiadau yn erbyn Cadeirydd YesCymru ei fod wedi gofyn am gyngor cyfreithiol gan gyfreithwyr YesCymru Messrs Geldards heb awdurdod yn ystod y cyfnod pan gafodd y ddau Gyfarwyddwr cyfetholedig eu diswyddo a therfynwyd swydd y Prif Swyddog Gweithredol, a gellid ystyried hyn yn achos o dorri'r Gyfraith Cwmnïau.
  4. Y broses ynghylch galw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ar Ragfyr 10fed 2023 a chanslo'r cyfarfod hwnnw yn fuan wedyn gan y CLlC.
  5. Y penderfyniad a'r broses a wnaed gan Swyddog Cwynion YesCymru ar y pryd i ymchwilio i gŵyn yn erbyn 7 o Gyfarwyddwyr YesCymru gan gynnwys sefydlu panel ymchwilio / disgyblu ac o ganlyniad yn atal y 7 Cyfarwyddwr hynny dros dro.
  6. Penderfyniad a phroses y CLlC i atal y Swyddog Cwynion o'i swydd a diddymu'r panel ymchwilio / disgyblu.
  7. Penderfyniad a phroses y CLlC i ddatgan ymgeisyddiaeth un aelod i ddod yn Gyfarwyddwr fel un annilys yn yr etholiadau i'r CLlC.
  8. Priodoldeb cadeirydd y CLlC o fod â rhan yn y broses enwebu a'r honiad o dorri Is-ddeddf 2.1.

Ymddygiad Proffesiynol

  1. I ganfod a oedd unrhyw:
    • (a) ddyletswyddau wedi eu torri,
    • (b) Egwyddorion Nolan wedi eu torri
    • (c) Cytundebau cyfrinachedd wedi eu torri
    • (d) Is-ddeddfau a /neu Erthyglau Cymdeithasiad wedi eu torri
    • (e) Unrhyw gyfraith, yn benodol Deddf Cwmnïau I, wedi eu torri gan unrhyw Gyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cyfetholedig, cyflogai neu aelod o YesCymru, ac os canfyddir bod toriadau o'r fath, i ystyried argymhellion ynghylch camau gweithredu angenrheidiol.

Cwynion Ffurfiol

  1. Adolygu unrhyw gŵyn ffurfiol sydd ar waith ac a dderbyniwyd gan YesCymru yn erbyn unigolion ac argymell dull gweithredu i ddelio â'r cwynion hyn.

Byddaf yn awr yn mynd i'r afael â'r ceisiadau penodol yn y Cylch Gorchwyl y cefais fy mhenodi i’w harchwilio.


CAIS (1)

Y penderfyniad a'r broses a fabwysiadwyd i benodi Cyfarwyddwyr Cyfetholedig i Gorff Llywodraethu Cenedlaethol YesCymru a rhyddhau'r Cyfarwyddwyr Cyfetholedig wedi hynny ar Ragfyr 8fed 2023.

Mae'r weithdrefn ar gyfer cyfethol Cyfarwyddwyr i'r CLlC yn cael ei chynnwys yn Erthygl 13.4 o'r Erthyglau Cymdeithasiad (gweler Atodiad 2). Mae'n dweud:

"Gall y CLlC ar unrhyw adeg gyfethol unrhyw unigolyn sy’n gymwys i gael ei benodi’n Gyfarwyddwr i lenwi swydd wag yn eu plith, ond dim ond tan yr etholiad nesaf i aelodau etholedig y bydd Cyfarwyddwr Cyfetholedig o'r fath yn dal ei swydd neu hyd nes y caiff ei ddiswyddo gan y CLlC (p'un bynnag fydd cyntaf). Gellir cyfethol fel hyn ar ôl i’r CLlC wahodd y Cyngor Rhanbarth perthnasol (o fewn y Rhanbarth Senedd lle mae'r swydd wag wedi codi) i enwebu person i’w benodi’n Gyfarwyddwr Cyfetholedig."

Yn dilyn y broses glir hon cafodd Cinzia Yates ei chyfethol i'r Bwrdd ar Orffennaf 31ain 2023. Yn yr un modd, cyfetholwyd Simon Hobson i'r Bwrdd ar Fedi 4ydd, 2023.

Rwyf wedi manylu isod yn fy ymateb i Gais (2) am ymddygiad yr Aelodau Cyfetholedig, yn benodol eu hymddygiad yn ystod nifer o gyfarfodydd y CLlC o fis Medi 2023 ac ni fyddaf felly'n eu hailadrodd yma. Digon yw dweud bod nifer o dystion wedi disgrifio eu hymddygiad fel rhai sy'n aflonyddu ac yn "codi pwyntiau trefn yn gyson" (harassing and “persistently raising points of order”) gan honni eu bod yn dangos bod y CLlC yn gweithredu y tu allan i ddeddfwriaeth y Gyfraith Cwmnïau. Y canlyniad net, fel y manylir isod yw cyfnod o ataliad (neu stasis) yn y CLlC a olygai nad oedd y Bwrdd yn gallu gwneud penderfyniadau ar ei faterion o Hydref 2023 tan Nadolig y flwyddyn honno.

Wrth ystyried yn fanwl eu hymddygiad yn ystod y cyfnod hwn, ystyriais y darnau canlynol o God Ymddygiad y Cwmni, y mae pob Cyfarwyddwr, gan gynnwys Cyfarwyddwyr Cyfetholedig, yn rhwym iddo:

IS-DDEDDF 3

"COD YMDDYGIAD Y CYFARWYDDWYR

1. Rhaid i bob Cyfarwyddwr, wrth arfer ei swyddogaethau fel Cyfarwyddwr, weithredu er budd gorau'r Cwmni; ac, yn benodol, rhaid iddo...

c) Ceisio'n ddidwyll, sicrhau bod y Cwmni yn gweithredu mewn modd sy'n unol â'r Amcanion,

d) Gweithredu â'r gofal a'r diwydrwydd y mae'n rhesymol eu disgwyl gan rywun sy'n rheoli materion person arall.

f) O dan amgylchiadau sy'n arwain at y posibilrwydd o wrthdaro buddiannau rhwng y Cwmni ac unrhyw barti arall, rhaid i'r Cyfarwyddwyr roi buddiannau'r Cwmni o flaen buddiannau'r barti arall, wrth wneud penderfyniadau fel aelod o'r CLIC, a

g) Pan fo unrhyw ddyletswydd arall yn ei atal rhag gwneud hynny, datgelu buddiannau sy'n groes i'r Cwmni, ac ymatal â chymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau neu benderfyniadau, sy'n cynnwys aelodau eraill y CLlC ynglŷn â'r mater dan sylw.

2. Rhaid i bob aelod o'r CLIC nodi eu cytundeb i gadw at y Cod Ymddygiad hwn a'i lofnodi wrth gael ei ethol i'r CLIC. Rhaid iddyn nhw hefyd nodi eu cytundeb i gadw at bolisi'r Cwmni ynglŷn a'r Cyfryngau Cymdeithasol a'i bolisi Preifatrwydd."

O ystyried y parlys a ddaeth dros y Cwmni yn ystod y cyfnod hwn, yr angen dybryd a’r brys i fynd i'r afael â'r cyllid, ymddygiad yr Aelodau Cyfetholedig a’r cynnwys uchod, gallaf weld yn glir pam y barnodd y mwyafrif o'r Bwrdd na ddylai'r Aelodau Cyfetholedig fod bellach yn aelodau o'r CLlC. Gellir dadlau y byddai'r Bwrdd wedi bod yn euog o osgoi eu dyletswydd i roi buddiannau'r Cwmni yn gyntaf ac yn bennaf, oni bai eu bod wedi gorfod cymryd camau mor llym. Doedd gwneud dim byd ddim yn opsiwn a dwi'n atgoffa fy hun o'r ffaith fod yr arian a gronnwyd, er ei fod yn gostwng yn gyflym, wedi ei gyfrannu gan aelodau YesCymru.

Ar Ragfyr 8fed 2023 cynhaliwyd cyfarfod o'r CLlC fel y dywedodd un tyst wrthyf:

"Er bod Nerys ac Adissa wedi ymddiswyddo, roedd Phyl a Naomi bellach yn gefnogol ac felly fe wnaethon ni ddychwelyd mwyafrif i gefnogi gweithredu i achub y Cwmni. Fodd bynnag, oherwydd yr anawsterau o ran cyfaddawdu gyda'r pedwar a oedd yn weddill, neu drafod unrhyw beth mewn cyfarfodydd, penderfynwyd rhyddhau dau o'r Cyfarwyddwyr Cyfetholedig fel y gallem wneud y penderfyniadau angenrheidiol a pheidio â chael ein parlysu gan herwddadlau (filibustering) cyson. Roedd ceisio eu rhyddhau trwy bleidlais mewn cyfarfod CLlC yn wynebu'r un anawsterau, felly penderfynwyd pasio cynnig i'r un perwyl."

Dywedodd y tyst hwn wrthyf hefyd:

"... Roeddent yn fwriadol yn defnyddio dadleuon cyfreithiol ffug i wastraffu amser ... a diogelu gwaith eu ffrind, y Prif Swyddog Gweithredol. O ganlyniad, roedden nhw'n peryglu bodolaeth YesCymru , a'r canfyddiad o'r mudiad annibyniaeth ehangach."

Pasiwyd y penderfyniad a rhyddhawyd y ddau Gyfarwyddwr Cyfetholedig ar 8 Rhagfyr 2023.

Yna, ffoniodd un o'r Cyfarwyddwyr Cyfetholedig a ryddhawyd Darwin Gray, cwmni Cyfreithwyr yng Nghaerdydd a oedd wedi cynghori YesCymru yn y gorffennol i fynnu nad oeddent i gysylltu â'r Cadeirydd Barry Parkin, gan ddweud nad oedd bellach yn Gadeirydd oherwydd y gweithdrefnau a fabwysiadwyd. Roedd hyn, wrth gwrs, yn ffug.

Cysylltodd hefyd â Geldards, Cyfreithwyr wrth gefn YesCymru, gyda'r un neges - na ddylent gysylltu â'r Cadeirydd gan ei fod heb awdurdod. O ganlyniad, anfonodd cyfreithiwr o Geldards e-bost at y Cadeirydd yn gofyn am esboniad. Unwaith eto, pwynt ffug, ond y tro hwn costiodd yr ymyrraeth £320 i YesCymru.

Ar Ionawr 8fed 2024, ysgrifennodd Cinzia Yates at YesCymru yn cwyno ei bod wedi cael ei thrin yn annheg a bod y weithdrefn a fabwysiadwyd yn torri Deddf Cwmnïau 2006. Yn benodol, dyfynnodd yr achosion o dorri cyfraith canlynol:

Adran 168 Deddf Cwmnïau 2006

"O dan A.168 gall cwmni trwy benderfyniad cyffredin mewn cyfarfod ryddhau Cyfarwyddwr cyn diwedd eu cyfnod yn y swydd. Rhaid cynnig y penderfyniad mewn Cyfarfod Cyfranddalwyr ffurfiol ac ni ellir ei basio fel datrysiad ysgrifenedig."

Adran 288 (2)

"Na fydd y canlynol yn gallu cael eu pasio fel penderfyniad ysgrifenedig.

(a) Penderfyniad o dan Adran 168 yn rhyddhau cyfarwyddwr cyn diwedd ei gyfnod yn y swydd.

Er gwybodaeth A.288 (I): Yn y Ddeddf Cwmnïau, ystyr 'penderfyniad ysgrifenedig' yw penderfyniad a gynigir gan gwmni preifat ac a basiwyd yn unol â'r Bennod hon."

Adran 1121 (3)

Yn ymdrin â chanlyniadau Swyddog Cwmni sy'n gweithredu'n ddiffygiol.

Mae fy nadansoddiad o'r gŵyn hon, a'r adrannau hyn fel a ganlyn:

Mae A.168 yn ymwneud â CHWMNI CYHOEDDUS. Mae YesCymru yn gwmni PREIFAT CYFYNGEDIG TRWY WARANT.

Mae SS.288(1) a 288(2) yn ymwneud â CHWMNI PREIFAT OND NID YDYNT YN YMWNEUD Â CHYFARWYDDWR CYFETHOLEDIG MEWN CWMNI PREIFAT.

Fodd bynnag, mae Erthyglau Cymdeithasiad YesCymru yn datgan yn Erthygl 13.4 "...ond dim ond tan yr etholiad nesaf i Aelodau Etholedig y bydd cyfarwyddwr cyfetholedig o’r fath yn dal ei swydd neu hyd nes y caiff EI DDILEU GAN Y CLlC (p’un bynnag fydd gyntaf)."

Rwyf wedi darparu'r priflythrennau ar gyfer eglurder. Mae'r grym hwn sydd gan y CLlC yn ddilyffethair.

S. 1121 (3) Sy’n ymdrin â chanlyniadau a rhwymedigaethau swyddog sy'n gweithredu’n ddiffygiol.

Nid wyf yn credu bod terfynu'r swyddi'r Cyfarwyddwyr yn afreolaidd ac felly ni ddigwyddodd dim achos o ddiffyg (no default occurred).

Yn fuan wedyn, cyflwynwyd llythyr o gŵyn gan Simon Hobson yn dyfynnu'r un adrannau. Mae fy ymateb yr un peth.

Ar Ragfyr 9fed, 2023 paratôdd David Hannington-Smith ddogfen yn nodi achos yn erbyn y Cadeirydd Barry Parkin yn cyhuddo'r Cadeirydd o lu o faterion afreolaidd a honnodd y dylai arwain at derfynu aelodaeth Barry Parkin o YesCymru. Roedd hon yn ddogfen a oedd â chryn ymchwil y tu ôl iddi ac fe'i dosbarthwyd i'r aelodau canlynol o'r CLlC:
Naomi Hughes, Elfed Williams, Gaynor Jones, Geraint Thomas, Ethan Jones, Aled Jones.

Derbyniodd bob un ohonynt y ddogfen fanwl hon o naw tudalen o ddeunydd wedi'i deipio'n fân ar Rhagfyr 11eg 2023, sef dyddiad cyfarfod y CLlC. Daeth y ddogfen i ben gyda Chynnig i anghymhwyso'r Cadeirydd Barry Parkin ar sail bod (a) ei aelodaeth barhaus yn niweidiol i'r Cwmni neu'n debygol o fod yn niweidiol i'r Cwmni (b) nad yw aelodaeth y person bellach er budd pennaf y Cwmni am ba reswm bynnag; neu (c) bod yr aelod dan sylw wedi gweithredu’n groes i unrhyw Is-ddeddf, polisi neu weithdrefn y Cwmni.

Cefais fy synnu o weld person sy'n honni ei fod yn un taer am drefn ddim yn rhoi unrhyw rybudd o'r ddogfen hon i'r Cadeirydd, fel sy'n ofynnol gan Erthygl 26.3 o'r Erthyglau Cymdeithasiad. Felly, cwympodd y weithdrefn hon cyn cychwyn fel petai. Fodd bynnag, aeth yn ei flaen yn absenoldeb y Cadeirydd a oedd i ffwrdd yn yr Almaen ar y pryd. Cafodd ei roi i'r CLlC ond ni chafodd ei basio.

Mae'r ddogfen yn cyfeirio'n helaeth at y ffaith bod y Cadeirydd wedi gofyn am gyngor cyfreithiol gan y Cyfreithwyr wrth gefn, Geldards, ar faterion a oedd wedi codi yn ystod yr wyth wythnos blaenorol ac nad oedd unrhyw awdurdod wedi'i geisio gan y Bwrdd ar gyfer y gwariant hwnnw. Ymhlith y materion y gofynnwyd am gyngor cyfreithiol arnynt, roedd:

  • Terfynu penodiad y Prif Swyddog Gweithredol
  • Cadeirio'r cyfarfod yn ystod ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd
  • Hawliau pleidleisio Cyfarwyddwyr Etholedig a Chyfetholedig
  • Cyfarfodydd y CLlC yn gyffredinol
  • Penderfyniadau ysgrifenedig
  • Hawl y cyfarwyddwyr i enwebu'r Cadeirydd ac
  • Un neu ddau fater arall.

I bob pwrpas, roedd y cyngor a geiswyd gan y Cadeirydd yn uniongyrchol o ganlyniad i don cyson o wrthwynebiadau technegol ffug a barlysodd y CLlC ac felly YesCymru, yn ystod y tri mis blaenorol. Nid oedd unrhyw ran o'r cyngor o unrhyw fudd personol i'r Cadeirydd. Roedd yr holl gyngor er budd YesCymru a'i aelodau. O dan Wybodaeth Berthnasol y Dyfodol ym mhwynt bwled dau, mae'n dweud na ddylid gwneud cais i Geldards am gyngor cyfreithiol heb awdurdod y Bwrdd. Ond ai dyna'r pwynt yma - roedd y Bwrdd wedi’i atal yn ddifrifol ac ymddengys nad oedd yn medru cytuno ar ddim byd o gwbl.

Roedd gan y Cadeirydd ddau ddewis - gadael i'r Cwmni wywo neu ofyn am gyngor i symud ymlaen ac wrth wneud hynny sicrhau bod y Cwmni yn gweithredu o fewn y gyfraith. Mae o leiaf un cynsail i hyn yn hanes diweddar y Cwmni pan wnaeth y Cadeirydd ar y pryd yn 2022, yr un peth.

Gellir dweud bod y Cadeirydd yn gweithredu o fewn yr Adran a ddyfynnir gan David Hannington-Smith o Ddeddf Cwmnïau 2006 S.172, 'Mae gan Gyfarwyddwr ddyletswydd i hyrwyddo llwyddiant y Cwmni' ac felly, yn ôl pob tebyg, mae ganddo ddyletswydd i atal y Cwmni rhag mynd yn fethdalwr! Hefyd ar yr un pryd yn y ddogfen, mae Mr Smith yn dyfynnu 'Bydd y weithred o dwyll trwy gamddefnydd o asedau yn torri'r dyletswyddau hyn oherwydd bod asedau'n cael eu defnyddio i wasanaethu'r unigolyn nid y Cwmni.' Mae'r dyfyniad hwn yn gwbl amherthnasol i'r achos dan sylw.

Wrth gloi'r paragraff hwnnw mae'n dyfynnu, 'Rydych yn rhannol gyfrifol am weithredoedd cyfarwyddwyr eraill; os darganfyddir colled oherwydd camddefnydd o asedau'r cwmni, gallech gael eich gorchymyn i gyfrannu i ddiddymu’r golled honno.' Unwaith eto, rwy'n honni bod hynny'n amherthnasol. Dywedaf eto nad oedd budd personol i'r Cadeirydd - ond budd sylweddol i'r Cwmni’n gyffredinol.

I gloi mae dau ymhoniad camarweiniol arall, os nad mwy yn erbyn Barry Parkin, ei fod wedi atal gwybodaeth am ei gais i gael cyngor cyfreithiol. Dywedodd dau neu dri o dystion wrthyf eu bod yn gwybod ymlaen llaw ei fod yn ceisio cyngor i ddod â’r gwrthdaro i ben.

Parthed: "Roedd Barry Parkin yn gweithredu er ei les personol ei hun wrth gynyddu costau i YesCymru. A gwelir tystiolaeth am y pynciau a gododd gyda Geldards yn yr anfoneb."

Er mwyn osgoi amheuaeth nid oes yr un o'r pynciau a godwyd gyda Geldards yn bersonol, maent i gyd, heb eithriad, yn ymwneud â llywodraethu da a gwella buddiannau'r Cwmni.

Nid wyf wedi fy argyhoeddi bod unrhyw deilyngdod yn y ddogfen hon. Mae'n cynnwys cyffredinoli a chyhuddiadau di-sail ac rwy'n ystyried bod y CLlC yn gywir yn gwrthod y Cynnig.

Rwy'n dod â rhan hon yr adroddiad i ben gan ddweud fod y broses o benodi'r Cyfarwyddwyr Cyfetholedig i GLlC YesCymru, a'u rhyddhau maes o law ar Ragfyr 8fed wedi bod yn un rheolaidd ac intra vires


CAIS (2)

Y penderfyniad a'r broses a fabwysiadwyd gan y CLlC i benodi ac yn y pen draw derfynu contract y Prif Swyddog Gweithredol ar Ragfyr 18fed, 2023.

Pan etholwyd y CLlC newydd ar ddechrau 2022, roedd gan y cwmni un cyflogai gweinyddol. Fel y dywedodd un tyst wrthyf:

"Roedd cyflawni llawer o'r materion gweithredol megis aelodaeth, cyfryngau cymdeithasol, trefnu gorymdeithiau, digwyddiadau, ac ati yn syrthio ar ysgwyddau'r Cyfarwyddwyr. Roedd amser i feddwl yn strategol yn brin, gan fod yr holl ymdrechion yn cael eu cyfeirio at faterion gweithredol. Y syniad wrth benodi Prif Swyddog Gweithredol oedd cymryd rhywfaint o'r pwysau hwnnw oddi ar ysgwyddau’r Cyfarwyddwyr."

Ar yr un pryd, roedd gan y mudiad fomentwm enfawr y tu ôl iddo ac roedd penodi swyddog gweithredol llawn amser i reoli a chynyddu'r twf yn ddewis amlwg. Prif fyrdwn y disgrifiad swydd oedd fel a ganlyn:

"Mae'r Prif Swyddog Gweithredol yn gyfrifol am ddatblygu cynlluniau strategol a chyllidebau blynyddol ar gyfer eu cymeradwyo gan y Bwrdd, a darparu arweinyddiaeth effeithiol i gefnogi cyflogeion ac aelodau i gyflawni'r nod o annibyniaeth i Gymru trwy ymgyrchu amhleidiol.

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Mae'r rôl hon yn gyfrifol am ddarparu arweiniad o ansawdd uchel i YesCymru a bydd yn rheoli gweithrediadau y sefydliad o dydd i ddydd. Bydd y rôl yn datblygu ac yn gweithredu systemau a phrosesau sy'n mynd â'r sefydliad i'r lefel nesaf ac y disgwylir iddi ddylanwadu'n sylweddol ar y ddadl annibyniaeth a dyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Elfen allweddol o'r rôl hon yw cyfathrebu effeithiol, yn fewnol gyda'r Bwrdd, cyflogeion ac aelodau ond hefyd yn allanol fel eiriolwr dros annibyniaeth i Gymru gyda mandad i gynyddu nifer ac amrywiaeth yr aelodau...Rhwydweithio gyda sefydliadau eraill sydd o blaid annibyniaeth a sefydlu ac adeiladu perthynas gydag unigolion a sefydliadau sydd â'r gwybodaeth, sgiliau a'r dylanwad i gyflawni'r genhadaeth honno."

Cafodd y swydd ei hysbysebu a chyfwelwyd Gwern Gwynfil a dau ymgeisydd arall.

Cafodd y panel cyfweld, a oedd yn cynnwys cyfarwyddwr y CLlC ar y pryd, Christine Moore a'r cyn-ddarlithydd economeg ym Mhrifysgol Abertawe, Dr John Ball, eu plesio gan Gwern Gwynfil. Yn y cyfweliad, cyflwynodd Gwern Gwynfil ei hun yn dda iawn fel person a oedd yn rhedeg busnes llwyddiannus, ac oedd â dealltwriaeth ariannol gadarn ac â syniadau diddorol a realistig ynghylch aelodaeth, gan gyflwyno ei awydd i weld YesCymru yn tyfu i fod y sefydliad gwleidyddol mwyaf dan arweiniad ei aelodau yng Nghymru, gyda 20,000 o aelodau.

Ym mhob ffordd, roedd hyn yn optimistaidd iawn. Dywedodd sawl tyst wrthyf fod hon yn dasg enfawr ond y consensws ymhlith y tystion hynny oedd "does dim byd o'i le ar uchelgais".

Erbyn dechrau 2023 roedd pryderon ynghylch gallu'r Prif Swyddog Gweithredol (PSG) i ddilyn y cyfarwyddiadau a roddwyd gan y CLlC ond gan fod hyn yn weddol gynnar yn y berthynas, rhoddwyd mantais yr amheuaeth iddo.

Cafodd Cynhadledd YesCymru a drefnwyd gan y Prif Swyddog Gweithredol ym mis Mai 2023 yn Aberystwyth, i bob pwrpas, ei threfnu'n wael. Cymerodd y PSG arno ef ei hun i ymgymryd â bron yr holl drefniadau, ac roedd wedi sôn am wario £15k ar fandiau amrywiol mewn gig yr oedd am ei drefnu. Roedd y CLlC yn bryderus iawn am y gwariant hwn a threfnwyd noson ar raddfa lai, ond yn dal yn fawreddog, ar gost o tua £6k. Roedd y PSG wedi disgwyl yn hyderus y byddai 200 - 300 o aelodau yn mynychu'r gynhadledd ddeuddydd ac y byddai digwyddiadau'r noson yn creu elw i'r sefydliad. Yn anffodus, dim ond 120 o bobl a fynychodd y Gynhadledd gyda phrin 20 - 30 o bobl yn mynychu’r adloniant gyda'r nos ac fel y dywedodd un tyst "roedd hyn yn embaras gan fod y rhan fwyaf o'r rhai a fynychodd yr adloniant yn Gyfarwyddwyr neu'n wirfoddolwyr, ac roedd y digwyddiad yn ddi-drefn a gwnaed colled. Dyma ddechrau pryderon difrifol y Cyfarwyddwyr am allu Gwern Gwynfil i gyflawni rôl prif swyddog gweithredol."

Dilynwyd hyn yn fuan gan drefniadau gwael ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Boduan, gyda'r Cyfarwyddwr Geraint Thomas yn cymryd yr awenau yn y diwedd i sicrhau bod presenoldeb YesCymru ar y Maes yn llwyddiant. Cyn yr Eisteddfod roedd y CLlC wedi gofyn i'r PSG logi stondin ddwbl ar y Maes er mwyn gallu cynnig digon o nwyddau i'w gwerthu. Fel y digwyddodd, archebwyd stondin sengl a golygodd hyn nad oedd digon o le i arddangos y nwyddau. Fel arfer, byddai'r incwm o werthu'r nwyddau yn talu holl gostau'r mudiad yn yr Eisteddfod. Roedd hyn yn enghraifft arall o reolaeth wael.

Yn erbyn y cefndir hwn, roedd pryderon cynyddol ynghylch iechyd ariannol YesCymru. Roedd cyflog y PSG yn fwy na £55k wrth ychwanegu’r holl gostau ac roedd yr aelodaeth yn gostwng. Mae pob sefydliad yn dibynnu ar gynyddu aelodaeth i ariannu gweithgarwch ac yn achos YesCymru roedd hyn yn hanfodol.

Erbyn mis Medi 2023 roedd Elfed Williams, Cadeirydd y CLlC yn cynnal cyfarfodydd bob pythefnos gyda Nerys Jenkins, yr Is-gadeirydd a'r PSG i geisio ei gael i ganolbwyntio ar y cyfarwyddiadau strategol a roddwyd gan y CLlC. Dro ar ôl tro, un o'r prif bynciau a drafodwyd oedd 'aelodaeth' a'r diffyg ymddangosiadol o unrhyw ymgyrch aelodaeth. Yn ystod y cyfarfodydd hyn trafodwyd y posibilrwydd o gynnal ymgyrch aelodaeth ym mis Tachwedd.

Yn y cyfamser ar Orffennaf 5ed, 2023 cyfetholwyd Aled Jones yn Gyfarwyddwr. Daw o gefndir gwasanaethau ariannol ac mae ganddo brofiad eang o'r sector honno. O ganlyniad, fe'i penodwyd yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor Cyllid. Ni throsglwyddodd y Swyddog Cyllid blaenorol, y Cyfarwyddwr Ethan Jones, unrhyw ddogfennau iddo a dechreuodd Aled Jones ar ei swydd heb unrhyw wybodaeth fanwl o'r cyllid. Fodd bynnag, cafodd ei rybuddio gan y Cyfarwyddwr Barry Parkin fod yr arian yn y banc wedi gostwng tua £100k yn ystod y misoedd blaenorol. Yna, trefnodd Aled Jones i gwrdd â Barry Parkin, llyfrifwr y mudiad ac Adissa Amanor-Wilks i drafod y problemau ariannol a'r datrysiadau posib.

Rhybuddiodd Aled Jones y CLlC sawl gwaith fod y sefyllfa'n anghynaladwy. Roedd costau staffio yn cyfateb i 40% o wariant YesCymru. Dywedodd tyst wrthyf fod yna "ddau ddewis" yn wynebu'r CLlC, naill ai cynyddu aelodaeth neu dorri costau, o bosib hyd yn oed cyfuniad o'r ddau. Byddai hyn yn arferol mewn unrhyw fusnes sy'n wynebu'r problemau difrifol hyn.

Fel cadarnhad o'r rhybuddion enbyd a gyhoeddwyd, mae Adroddiad Blynyddol YesCymru a Datganiadau Ariannol Heb eu Harchwilio ar gyfer y Flwyddyn yn Diweddu Rhagfyr 30ain 2023 yn ddadlennol.

Mae'r Cyfrif Elw a Cholled yn datgelu, ar Ragfyr 30ain, 2022, fod gan YesCymru ffigwr elw gros o £215k ynghyd ag elw net o £145k.

Ar Ragfyr 30ain, 2023 y golled weithredol gros oedd £104k gyda cholled net o £105k am y flwyddyn.

Mae hyn, felly, yn cadarnhau rhagfynegiadau dybryd iawn Aled Jones, Elfed Williams, Barry Parkin a'r Cyfarwyddwyr eraill.

Ym mis Medi 2023 lluniodd Aled Jones adroddiad a ddywedodd, i bob pwrpas, os na wnaed dim o ran cynyddu incwm a lleihau costau yna byddai YesCymru yn mynd yn fethdalwr ymhen ychydig fisoedd. Mae un neu ddau o dystion wedi dadlau am hyn, David Hannington-Smith yn eu plith, ond mae'n amlwg iawn fod yr achos wedi'i nodi'n gywir gan Aled Jones a'r Cyfarwyddwyr eraill. Dywedodd un Cyfarwyddwr, Cinzia Yates, ar y pryd "It didn't matter as the Company is a Private Company limited by Guarantee“ ac felly nid oedd yn rhaid iddo wneud elw!

Roedd hi tua mis Medi / Hydref 2023 pan ddechreuodd cyfarfodydd y CLlC fynd yn afreolus. I fod yn glir, roedd yna rai a oedd yn credu y byddai cadw'r PSG yn arwain at drychineb ariannol. Roedd grŵp arall o'r farn y dylid ei gadw ar bob cyfrif. Bu trafod ar y pryd am gyfaddawd lle y gellid cynnig rôl rhan amser i'r PSG – delio â chyfathrebu allanol, y cyfryngau ac ati, a rhannu'r rôl reolaethol / gweinyddol â pherson arall. Dylem gofio bod y PSG wedi sicrhau bod dau aelod arall o staff wedi cael eu cyflogi, ond mae'n debygol iawn bod un neu'r llall yn dan-gyflogedig iawn.

Er bod aelodau'r CLIC bellach yn rhanedig, gyda'r hyn y gellid ei alw'n 'ddau begwn', i fod yn deg â'r PSG, roeddent yn gytûn ei fod yn berfformiwr / llefarydd cymwys iawn ar gyfer YesCymru yn y cyfryngau, ond ddim yn 'berson manylion' a allai weinyddu a rheoli'r mudiad a dilyn cyfarwyddiadau'r CLlC. Gwrthodwyd y syniad o 'rannu swydd' ar unwaith gan y PSG, a oedd erbyn hyn wedi mynd ati i ganfasio Cyfarwyddwyr ac aelodau allweddol eraill i weld ei safbwynt ef ac i sicrhau ei fod yn cadw'i swydd.

Yn ystod y cyfnod hwn, talodd y PSG atebolrwydd TAW o £35k heb i hyn gael ei awdurdodi gan y Bwrdd.

Roedd y PSG wedi'i wneud yn gwbl ymwybodol bod ymgyrch aelodaeth i'w chynnal ym mis Tachwedd. Cafodd hyn ei gyfleu iddo am y tro cyntaf yn rhan olaf mis Medi 2023 a'i gytuno'n ffurfiol gan y CLlC ar Hydref 16eg, 2023. Roedd tair prif agwedd i'r Ymgyrch Aelodaeth:

  1. Aelodau newydd: 'New Member November'
  2. Targedu'r diaspora Cymreig yn yr Unol Daleithiau.
  3. Aelodaeth Gorfforaethol.

Dywedodd y tyst David Hannington-Smith wrthyf ei fod wedi ymgymryd ag ymarfer cwmpasu i ddod o hyd i wahanol gymdeithasau/sefydliadau Cymreig yn yr Unol Daleithiau. Rwy'n credu iddo wneud hynny. Fodd bynnag, ni ddaeth dim byd pellach ohono.

Ni chynhaliwyd mo’r ymgyrch 'New Member November' ychwaith.

O ran yr Aelodaeth Gorfforaethol, dywedwyd wrthyf am ddau unigolyn a gynigiodd £200 y mis i YesCymru. Ni chysylltwyd â hwy i drafod eu cynigion, a dywedodd un unigolyn, braidd yn betrusgar wrth dyst a roddodd dystiolaeth i mi ei fod yn siomedig iawn, gan ddweud "felly nid ydych chi eisiau fy arian i, wedi'r cyfan!" Roedd hyn yn anffodus oherwydd nad oedd y PSG wedi ei weld yn dda i gysylltu â nhw nac ychwaith unrhyw un o'r rhoddwyr corfforaethol eraill a awgrymwyd. Yr effaith net oedd bod y ffigurau aelodaeth yn parhau i ostwng, a'r incwm yr un modd.

Rydym bellach yn dod i'r cyfnod mwyaf anodd ac annymunol yn hanes y CLlC. Yng nghyfarfod y Bwrdd ar Hydref 30ain, 2023 cyflwynwyd cynnig i derfynu contract y PSG am resymau amlwg. Fodd bynnag, dywedodd un o gefnogwyr y PSG wrthyf fod hyn oherwydd bod sawl Cyfarwyddwyr 'ar yr ochr arall' fel petai, yn benderfynol o wneud hyn ar sail anhoffter personol yn hytrach nag ar sail perfformiad gwael ac am resymau ariannol. Ar ôl cyfweld â nifer o dystion, ni allai unrhyw beth fod ymhellach o'r gwir gan fod y PSG wedi cael ei ganmol gan bawb am ei ymddangosiadau medrus ar y cyfryngau. Mae'n wir fod rhai yn dweud ei fod wedi mynd yn drahaus - ac roedd canfasio'r aelodau'r Bwrdd yn hollol anghywir. Rwy'n parhau i ddod i'r casgliad mai'r ysgogydd y tu ôl i'w ryddhau oedd y sefyllfa ariannol a'i ddiffyg cymhwysedd gydag elfennau rheolaethol /gweinyddol y swydd. Dywedodd tyst wrthyf fod:

"materion wedi dod i'r pen yng nghyfarfod y CLlC ar Hydref 30ain, 2023 gyda'r cynnig i ryddhau'r PSG. Roedd y cyfarfod yn un o'r cyfarfodydd anoddaf i mi fynychu erioed gyda Cinzia (Yates) a Simon (Hobson) yn tarfu ar y trafodaethau’n fwriadol."

Dywedodd Elfed Williams, y Cadeirydd ar y pryd wrthyf:

"Yn ystod y ddau fis blaenorol roeddwn wedi gweithio rhwng 10 a 15 awr yr wythnos ac weithiau mwy, i gyfarfod a siarad â'r PSG a'r Cyd-gyfarwyddwyr, ateb e-byst, ymateb i negeseuon e-bost a chyhuddiadau gan Cinzia... Ar ddiwedd y cyfarfod ar Hydref 30ain roeddwn wedi blino'n lân ac roeddwn yn teimlo fy mod wedi gwneud cymaint o ymdrech i gyrraedd datrysiad a fyddai'n dderbyniol a sicrhau y gallai YesCymru barhau fel sefydliad hyfyw ac nad oeddem gam ymhellach, fel na allwn barhau fel Cadeirydd. Yn y bôn, ar y pwynt hwnnw roeddwn wedi fy llethu gan Cinzia, Simon a Gwern ac o'r pwynt hwnnw ymlaen, ni allwn barhau fel Cadeirydd."

Dywedodd wyth o dystion wrthyf fod ymddygiad y Cyfarwyddwyr a grybwyllwyd yn aflonyddgar, yn fwlio hyd yn oed ar adegau, a oedd yn gwneud ceisio trafod busnes YesCymru bron yn amhosib. Codwyd pwyntiau trefn diangen, ac roedd amheuon ynghylch gweithdrefn a chyfreithlondeb penderfyniadau yn golygu bod penderfyniadau'r sefydliad wedi'u "parlysu" fel y dywedodd un tyst wrthyf.

Dilynwyd hyn gyda Nerys Jenkins ac Adissa Amanor-Wilks yn cyflwyno eu hymddiswyddiadau hwythau.

Ar ôl ystyried yn ofalus yr holl dystiolaeth sydd ar gael, rwy'n dod i'r casgliad bod y cwynion ffug-gyfreithiol a gweithdrefnol rheolaidd wedi'u cynllunio i gadw'r PSG yn ei waith er gwaethaf y sefyllfa ariannol a oedd yn gwaethygu'n gyson. Rwy'n oedi ar y pwynt hwn i feddwl tybed sut y gallai gweithredoedd y Cyfarwyddwyr hyn a enwir fod er budd YesCymru.

Cafodd Cadeirydd newydd YesCymru Barry Parkin, ei enwebu'n rheolaidd i weithredu fel Cadeirydd a chafodd ei ethol yn Gadeirydd gan fwyafrif o Gyfarwyddwyr. Cwestiynwyd y broses o ethol Barry Parkin i'r Gadair gan rai Cyfarwyddwyr. Achosodd hyn i Barry Parkin geisio cyngor cyfreithiol gan y Messrs Geldards o Gaerdydd, Cyfreithwyr wrth gefn YesCymru. Y manylion yw bod dau enwebiad ar 13 Tachwedd 2023 ar gyfer Cadeirydd YesCymru sef Barry Parkin ac Ethan Jones. Yn ei anerchiad i'r Bwrdd gwnaeth Ethan Jones "ymosodiad ffyrnig" (a “blistering attack”) ar ei wrthwynebydd ar gyfer y swydd ac wedi hynny tynnodd ei enwebiad yn ôl. Etholwyd Barry Parkin yn unol ag Erthyglau Cymdeithasiad ac Is-ddeddfau’r Cwmni.

Mewn cyfarfod o'r CLlC ar Dachwedd 27ain, 2023 sy'n cael ei gofio'n dda gan nifer o dystion, roedd Cinzia Yates, gyda chefnogaeth Simon Hobson ac fel y'i cofir gan un tyst, wedi:

"honni eu bod wedi cael cyngor gan gydweithiwr di-enw sydd â chymwysterau cyfreithiol o Brifysgol Caerdydd, gan honni bod YesCymru yn gweithredu'n anghyfreithlon” a'u bod wedi ceisio rhoi YesCymru mewn 'cyflwr cloff' ('limp mode') ac felly'n rhwystro gwaith y Cwmni ymhellach. Mae'r tystion yn dweud "bod y ddau wedi herwddadlau (ffilibystro) yn ystod y cyfarfod, gan sarhau eu cydweithwyr ar y CLlC ac yn achosi aflonyddwch eithafol".

Bu'n rhaid i'r Cadeirydd hyd yn oed fudo Cinzia Yates ar sawl achlysur er mwyn caniatáu i Gyfarwyddwyr eraill siarad. Bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r cyfarfod. Rhyddhawyd Cinzia Yates a Simon Hobson (Cyfarwyddwyr Cyfetholedig) o'r CLlC yn unol ag Erthyglau Cymdeithasiad ac Is-ddeddfau YesCymru, a digwyddodd hyn ar Ragfyr 8fed, 2023.

Oherwydd yr amhariadau parhaus a'r diffyg symud ymlaen yng nghyfarfodydd y CLlC, gofynnodd y Cadeirydd am gyngor cyfreithiol ar y llu o wrthwynebiadau ffug-gyfreithiol a gyflwynwyd yn gyson gan rai aelodau o'r CLlC, yn cynnwys y ddau a grybwyllwyd uchod. Bydd manylion gwell a mwy llawn ynghylch y cais am gyngor cyfreithiol yn ymddangos yn fy ymateb i Gais (3) o'r Cylch Gorchwyl isod.

Mae un pwynt pellach i'w nodi - ac mae hyn yn rhoi blas o'r natur wenwynig a oedd yn amgylchynu cyfarfodydd y CLlC. Dywedodd Elfed Williams wrthyf, a chofnodwyd hyn yng Nghofnodion y Cwmni, fod Ethan Jones wedi ei ffonio gan ddweud ei fod wedi derbyn galwad gan berson a oedd yn bygwth rhyddhau e-bost cyfrinachol a anfonwyd gan Elfed Williams at y wasg oni bai i Elfed Williams ymddiswyddo o Fwrdd YesCymru. Yn ystod yr alwad, roedd Ethan Jones wedi annog Elfed Williams i gydymffurfio â'r bygythiad hwn. Anogodd Elfed Williams Ethan Jones i ddatgelu'r wybodaeth am yr alwad i'r Bwrdd, ac na wnaethpwyd hynny.

Pan gafodd ei annog, cyfaddefodd Ethan Jones ei fod wedi derbyn yr alwad a'r bygythiad. Aeth Ethan Jones ymlaen wedyn i amddiffyn yr ymgais o flacmel a gwrthododd ddatgelu pwy oedd y blacmeliwr. Yn ystod y cyfarfod hwn ar Dachwedd 27ain, 2023 eglurwyd wrth Ethan Jones fod ei ymddygiad yn hwyluso blacmel wrth iddo wrthod yn lân ddatgelu pwy oedd wedi gwneud y bygythiad. Tynnwyd sylw Ethan Jones hefyd at y ffaith y gallai ei ddiffyg tryloywder a'i amharodrwydd i fod yn agored fod yn groes i sawl Egwyddor Nolan ac Is-ddeddfau’r Cwmni, ac atgoffwyd ef fod ganddo ddyletswydd gyfreithiol fel Cyfarwyddwr i roi buddiannau'r Cwmni o flaen ei fuddiannau ei hun. Os oedd yn adnabod y blacmeliwr, yna dylai hefyd ddatgelu gwrthdaro buddiannau. Gwrthododd Ethan Jones wneud unrhyw sylw.

Hefyd, ar yr adeg hon roedd un o'r Cyfarwyddwyr, Geraint Thomas yn:

"Canfod y sefyllfa ar y CLlC bron yn amhosib, ac roeddwn i mewn cyfnod pwysig yn fy mywyd preifat. Roeddwn i wrthi'n gwerthu fy musnes ar ôl derbyn swydd gyda Phlaid Cymru. Derbyniais e-bost a mi wnes ei ddatgelu i'r CllC; daeth yr e-bost hwn gan y Prif Swyddog Gweithredol Gwern a oedd yn bygwth y byddai'n cysylltu â'm cyflogwr newydd, Plaid Cymru, i ddweud fod gen i "wrthdaro buddiannau" gan fy mod hefyd ar Fwrdd YesCymru."

Yn fy marn i, pwrpas hyn oedd rhoi pwysau ar Geraint Thomas i gefnogi cais y PSG i gadw’i swydd fel PSG. Fodd bynnag, cysylltodd y PSG â'r darpar gyflogwr a chael sgwrs fanwl ac ni allai'r cyflogwr weld dim o'i le wrth iddo barhau i weithio i YesCymru hefyd. Dywedodd y tyst:

"roedd yr holl beth yn ormod i mi ac fe wnes i ymddiswyddo o'r Bwrdd ar 20/1/2024 a chanslo fy aelodaeth."

Ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol gan y Cyfreithwyr wrth gefn, terfynwyd swydd y PSG Gwern Gwynfil trwy benderfyniad ysgrifenedig a basiwyd gan fwyafrif o Gyfarwyddwyr.

Ar Ragfyr 18fed, 2023 cafodd y Prif Swyddog Gweithredol ei ddiswyddo gyda'r tâl priodol yn lle rhybudd. Roedd y diswyddiad yn unol â'r penderfyniadau ysgrifenedig a ddrafftiwyd gan y Cyfreithwyr Geldards a oedd yn crybwyll amgylchiadau ariannol enbyd y Cwmni a oedd yn golygu bod angen yr hysbysiad diswyddo a’r diswyddiad ei hun.

Mae'r Penderfyniad Arferol a ddrafftiwyd gan y Cyfreithwyr yn dweud (yn yr iaith wreiddiol):

"IT WAS RESOLVED THAT Due to financial constraints of the Company that the position of CEO be terminated and that the Company, supported by its retained HR Services supplier, terminated the CEO's contract of employment with the Company, in accordance with the terms and conditions of that Contract."

Arwyddwyd gan Phyl Griffiths 17/12, Aled Jones 17/12, Gaynor Jones 18/12, Barry Parkin 17/12, Elfed Williams 18/12.

Nid wyf yn gweld unrhyw beth afreolaidd yn y weithdrefn hon. Mae'n cyd-fynd â'r Erthyglau Cymdeithasiad a'r Is-ddeddfau a byddwn yn atgoffa'r darllenydd mai cwmni preifat cyfyngedig trwy warant yw YesCymru.


CAIS (3)

Yr honiadau yn erbyn Cadeirydd YesCymru ei fod wedi gofyn am gyngor cyfreithiol gan Messrs Geldards, Cyfreithwyr wrth gefn YesCymru, yn ystod y cyfnod pan ddiswyddwyd y ddau Gyfarwyddwr Cyfetholedig a therfynwyd swydd y Prif Swyddog Gweithredol, heb awdurdod ac y gellid ystyried hyn yn achos o dorri'r Gyfraith Cwmnïau

Roedd mwyafrif y Cyfarwyddwyr ar y Bwrdd yn ymwybodol o'r ffaith bod y Cadeirydd yn ceisio cyngor cyfreithiol o bryd i'w gilydd yn ystod y misoedd trafferthus rhwng Medi 2023 a Ionawr 2024. Roedd Naomi Hughes fel Is-gadeirydd yn gwybod. Hefyd, Phyl Griffiths, Geraint Thomas, Aled Jones, Gaynor Jones, Elfed Williams ac Ethan Jones.

Yn ogystal, anfonwyd e-byst gyda chyngor Geldards at y PSG ar Dachwedd 13eg 2023, e-bost a oedd yn cynnwys atodiad o gyngor Geldards. Yn yr un modd, rwyf hefyd wedi cael fy nghyfeirio at ddarn o gofnodion Cyfarfod y CLlC ar Dachwedd 27ain, 2023:

"Dywedodd Barry Parkin, fel y cynghorwyd hwy gan Gyfreithwyr wrth gefn YesCymru, Geldards, na ddylai'r Prif Swyddog Gweithredol gymryd rhan yn nhrafodaethau'r Bwrdd, oni bai ei fod yn cael ei wahodd gan y Cadeirydd, gan nad yw'n Gyfarwyddwr; gellid holi’r Prif Swyddog Gweithredol, ond rhaid cymryd gofal nad yw'r Prif Swyddog Gweithredol yn dylanwadu'n ormodol ar benderfyniadau'r Cyfarwyddwyr. Gofynnodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog Gweithredol dair gwaith adael y cyfarfod yn unol â'r cyngor gan Geldards."

Dywedodd y Cadeirydd wrthyf:

“I asked verbally for clarification whether Co-opted Directors may vote on business other than the election of the Chair / Vice Chair. This was confirmed verbally, and I relayed the advice verbally to the NGB Directors during the NGB Meeting of the 27th November, 2023.”

Felly, roedd tystiolaeth dda bod y CLIC cyfan yn ymwybodol bod y Cadeirydd yn ceisio ac yn cael cyngor cyfreithiol ar yr adeg hon. Roedd hyn ymhell cyn cyflwyniad y ddogfen a gynhyrchwyd gan David Hannington-Smith ar Ragfyr 11eg, 2023. Pam nad oedd neb ar y CLlC wedi holi am yr hawl (neu’r ‘awdurdod’) i geisio cyngor, os oedd mor ddadleuol?

Cynseiliau ar gyfer taliadau o'r math hwn:

  • Elfed Williams yn ceisio cyngor cyfreithiol parthed Louise Aikman
  • Ymgynghorodd Barry Parkin, Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio, â Geldards ym mis Medi a Hydref 2022 i ail-lunio Erthyglau Cymdeithasiad ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau
  • Awdurdododd y Prif Swyddog Gweithredol ei hun daliad TAW o £35k a £5k o daliadau am sgriniau codi arian heb ymgynghori â'r CLlC.

Dywedodd tyst:

"Roedd caffael eisoes wedi digwydd gan fod Geldards wedi cael eu penodi fel ein Cyfreithwyr wrth gefn. Felly, mae Geldards yn gyflenwr awdurdodedig / cymeradwy ar gyfer cysylltu â hwy dro ar ôl tro. Pwrpas penodi Cyfreithiwr wrth gefn gennym yw i gael mynediad cyflym at gyngor cyfreithiol mewn sefyllfa o frys. Mae'n briodol i'r Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfiaeth a'r Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd gael mynediad at gyngor cyfreithiol mewn sefyllfaoedd brys."

Mae cyfeiriad yn Is-ddeddf 16 at Bolisi Caffael ym mhwynt 11:

"Rhaid i gaffael o fwy na £500 a heb fod yn fwy na £3,000 mewn gwerth gael ei awdurdodi gan Bwyllgor Caffael YesCymru dan gadeiryddiaeth y Cyfarwyddwr Caffael."

Rwyf wedi ailedrych ar y cannoedd o ddarnau o dystiolaeth a ddarparwyd i mi ac ni allaf weld cyfeiriad naill ai at Gyfarwyddwr neu Bwyllgor Caffael.

Yn olaf, rwyf am gyfeirio at Ddeddf Cwmnïau S.40 2006 sy'n cyfeirio at wario arian:

"Gall dirprwyo awdurdod gael ei fynegi neu ei awgrymu. Gellir ei awgrymu o safbwynt y Cyfarwyddwr, er enghraifft y byddai gan Reolwr-gyfarwyddwr yr awdurdod gwirioneddol i bob peth sy'n dod o fewn cwmpas arferol y swydd honno."

Yr wyf am ddweud nad yw hyn yn wahanol i'r sefyllfa sy'n berthnasol yma, mai'r Cadeirydd oedd yn rheoli'r CLlC, a bod y CLlC yn ymwybodol o'r gwariant ymhell cyn i David Hannington-Smith gyflwyno’r ddogfen a luniwyd ar Ragfyr 11eg, 2023. Roedd y cyfan o fewn cylch gorchwyl YesCymru ac yn bwysig iddi; nid oedd dim o’r gwariant yn bersonol ac roedd y sefyllfa'n ddifrifol iawn i'r Cwmni ac roedd amser yn brin.

Ni ofynnir i mi ymchwilio i'r ymosodiadau pellach ar y Cadeirydd ac am hynny rwy'n ddiolchgar gan eu bod yn amlwg heb sylwedd. Anaml iawn y dylid defnyddio cyhuddiadau o "droseddoldeb" honedig, ond pan wneir hynny, dylid hefyd gyflwyno tystiolaeth glir.

I gloi, rwy'n gweld nad oedd gan y Cadeirydd ddewis. O wneud dim byd, byddai YesCymru’n nesáu at ei diwedd. O weithredu ar frys gellir achub y Cwmni, a chaiff y Cadeirydd ei bardduo am wneud hynny.

Beth ddylai’r Cadeirydd ei wneud - gwnaeth yn amlwg ei fod am ddatgloi'r CLlC o'i barlys ac fe wnaeth yn amlwg ei fod yn ceisio cyngor cyfreithiol. Doedd neb ar y CLlC yn herio hynny ar y pryd. Daeth yr herio yn hwyrach yn y dydd ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu iddi gael ei gyrru gan weithredoedd dialgar oherwydd diswyddo'r Prif Swyddog Gweithredol.

Yng ngwres yr awyrgylch gwenwynig tua'r adeg hon, mae'n rhaid i mi ddweud ei bod yn anodd iawn pwyntio bys a beio’r Cadeirydd, ac nid wyf yn credu ei fod wedi torri'r Gyfraith Cwmnïau ac yn sicr nid wyf yn credu y dylai ymdrechion mor amlwg wedi bod i bardduo dyn ag enw rhagorol. Roedd y bennod hon yn wirioneddol anffodus.


CAIS (4)

Y broses ynghylch galw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ar Ragfyr 10fed, 2023 a’r CLIC yn canslo'r cyfarfod hwnnw yn fuan wedyn.

Yn ystod cyfarfod tanbaid o’r CLlC ar Dachwedd 27ain, 2023 cynhaliwyd trafodaethau ynghylch effeithiolrwydd Erthyglau Cymdeithasiad presennol YesCymru. Roedd rhai Cyfarwyddwyr yn mynnu nad oeddent yn addas i'r diben. Dywedodd un Cyfarwyddwr ei bod wedi cael cyngor cyfreithiol gan gydweithwyr, yn cynnwys Athro yn y Gyfraith bod yr Erthyglau Cymdeithasiad yn amhriodol, yn anaddas i'r diben, ac 'yn ymylu ar fod yn anghyfreithlon'. Roedd y Cyfarwyddwyr eraill am wybod mwy am ffynhonnell y cyngor cyfreithiol hwn - ond ni chafodd unrhyw fanylion pellach eu datgelu am hynny. Ar ôl trafodaeth hir a thanbaid, penderfynwyd ar y camau canlynol:

"a) Gofyn i gyngor cyfreithwyr annibynnol trydydd parti os yw ein Herthyglau Cymdeithasu yn gyfreithiol ac yn addas i'r diben ar gyfer Cwmni Cyfyngedig drwy Warant. Cynigiwyd gan EJ ac eiliwyd gan GT; pasiwyd yn unfrydol.
b) Cynnal CCB (CCA) sy'n gysylltiedig â'r Erthyglau Cymdeithasu ar Ionawr 13eg, 2024, gydag etholiadau wedyn yn cael eu cynnal ar Chwefror 3ydd, 2024, gyda chanlyniadau wedi'u cyhoeddi mewn CC ar Chwefror 10fed, 2024. Cynigiwyd gan DS, wedi'i eilio gan EJ; pasiwyd yn unfrydol."

Mae'r uchod yn cael ei dynnu air air am air o gofnodion Cyfarfod y CLlC a gynhaliwyd ar Dachwedd 27ain, 2023.

Yn ystod cyfarfod y Corff Llywodraethol a gynhaliwyd ar Ionawr 2il, 2024 codwyd pryderon am y CCB oedd i ddod a chofnodwyd fel a ganlyn:

"Mae EJ yn credu bod hysbysiad o'r CCB wedi'i anfon. Dywedodd BP y dylai hyn fod wedi bod gydag agenda ac unrhyw benderfyniadau."

Rhaid rhoi 28 diwrnod o rybudd ar gyfer cyfarfod cyffredinol fel hyn.

Ar Ragfyr 10fed, 2023, anfonwyd e-bost yn cyhoeddi'r CCB heb agenda. Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch a oedd yr hysbysiad e-bost yn ddigonol ai peidio:

“DS - gallai aelodau ofyn am bwyntiau agenda ychwanegol hyd at 14 diwrnod cyn i'r cyfarfod gael ei gynnal.

DS - canfu nad oes angen agenda i alw cyfarfod.

Gofynnodd GJ pwy sy'n arwain ac yn trefnu hyn.

Dywedodd EJ mai r Prif Swyddog Gweithredol a staff eraill.

Gofynnir i TW am ddiweddariad.

Disgrifiodd EW sgwrs a gafodd gyda TW am yr etholiad a pha system i'w defnyddio.

Dosbarthwyd diwygiadau erthyglau cymdeithasu gan EJ cyn y cyfarfod.

Cynigiodd EJ 24 awr i adolygu'r ddogfen.

Bydd DS yn ysgrifennu rhesymeg dros y newidiadau a'r CCB fel y gallwn rannu hyn gydag aelodau'r wythnos hon.

Yn ôl yr Is-ddeddfau mae angen o leiaf cyfnod o 14 diwrnod cyn yr etholiad i dderbyn a chyhoeddi enwebiadau.

Yn yr achos hwn, mae'n rhaid i ni agor yr enwebiadau erbyn Ionawr 19eg.

Mae DS yn cynnig ein bod yn agor enwebiadau ar ddiwrnod y CCB sydd hefyd yn caniatáu amser ar gyfer hystings cyn i'r etholiad agor.

DS i gysylltu â TW i drefnu'r etholiadau."

Roedd Elfed Williams yn poeni am y ffordd eithaf pytiog o roi'r drefniadaeth at ei gilydd a cheisiodd gyngor cyfreithiol gan Geldards. Roedd ymateb Cyfreithiwr Maria Philippe ar Ionawr 5ed 2024 fel a ganlyn (yn yr iaith wreiddiol):

"Hi Elfed

I have reviewed your articles and bylaws and discussed your below queries with my colleague who specialises in Corporate Law.

Unfortunately the meeting has not been validly called as you have breached the Byelaws and you have not complied with the Companies Act 2006.

As the resolution to amend the Articles of Association is a special resolution (requiring not less than 75% of the members to vote in favour), you need to specify in the notice of resolution that it is being proposed as a special resolution and you also need to include the wording of the resolution which will be put to the members at the meeting.

Section 283(6) of the Companies Act states:

(6) Where a resolution is passed at a meeting -

a) the resolution is not a special resolution unless the notice of the meeting included the text of the resolution and specified the intention to propose the resolution as a special resolution, and

b) if the notice of the meeting so specified the resolution may only be passed as a special resolution.

You will therefore need to call a new meeting in accordance with the Byelaw which specifies that a special resolution will be proposed and the exact wording of that resolution. If you will be proposing a new resolution to adopt the new Articles in their entirety then you should include a copy of the new Articles with the resolution. If you are going to propose each amendment as a separate resolution (which would likely make the adoption of the new Articles more complex, especially if you have multiple proposed changes) then you should specify which Article is being amended, what is currently says (… ) and what it is being changed to.

You can get the members to agree to shorter notice however you need a 90% majority of members to sign a form agreeing to the shorter notice, which are you unlikely to receive in the short time frame.

In relation to the resolution proposed by YesCymru Group (Swansea), it is probably easier if you include this resolution in the new notice and deal with all of the matters at one meeting. You may want to inform YesCymru Group (Swansea) that this is what the Board has decided to do given that the first one was not validly called.

Please let me know if you would like me to prepare the notice and draft minutes to adopt the new Articles. Please also let me know if you would like me to review your proposed amendment to the Articles of Association.

Kind regards etc."

Daeth yn amlwg, heb unrhyw fai ar unrhyw Gyfarwyddwr unigol, fod yr amserlenni a'r gweithdrefnau ynghylch galw'r CCB gwreiddiol yn ddiffygiol ac felly cafodd y cyfarfod ei ganslo gan y CLIC i osgoi problemau pellach.

Yn anffodus, fodd bynnag, rhyddhawyd gwybodaeth o'r CLlC gan dorri rheolau cyfrinachedd; cynlluniwyd hyn yn fwriadol i niweidio buddiannau YesCymru. Cafwyd llawer o feirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dilyn hyn, gan achosi i bobl ganslo eu haelodaeth. Dywedodd tyst wrthyf:

"Roedd hyn hefyd yn plethu i mewn i sgwrs grŵp Canol y De gyda chelwyddau a bustl yn cael eu lledaenu am y Bwrdd gan (unigolion a enwir)."

Yn yr holl gam-wybodaeth negyddol roedd rhai Cyfarwyddwyr wedi'u heithrio rhag unrhyw feirniadaeth ac mae hyn yn tanlinellu’r ffaith mai'r Cyfarwyddwyr hyn oedd yn gyfrifol am ryddhau’r wybodaeth.

Yr hyn sy'n gwbl wir yw bod hon yn bennod niweidiol iawn a ostyngodd niferoedd yr aelodaeth ymhellach. Gallaf ond dod i'r casgliad bod y rhai a rannodd y wybodaeth gyfrinachol o’r Bwrdd yn gwneud hyn yn gwbwl feirniadol, ond am ba reswm nad wyf yn gwybod. Gadawaf y darllenydd i ddyfalu.


CAIS (5)

 Y penderfyniad a'r broses a wnaed gan Swyddog Cwynion YesCymru ar y pryd i ymchwilio i gŵyn yn erbyn 7 o Gyfarwyddwyr YesCymru gan gynnwys sefydlu Panel Ymchwilio / Disgyblu ac o ganlyniad i atal y 7 Cyfarwyddwr dywededig.

Cyfeiriwyd sylwedd y cwynion uchod at y saith llofnodwr i benderfyniad ysgrifenedig a lofnodwyd gan y Cyfarwyddwr canlynol. Daeth y cwynion gan Cinzia Yates a Simon Hobson y ddau Gyfarwyddwr Cyfetholedig a ryddhawyd gan y Corff Llywodraethol o’u gwaith ar Ragfyr 8fed, 2023. Ymdrinnir â dadansoddiad manwl o'r dystiolaeth sy'n ymwneud â'r digwyddiad hwn mewn ateb i Gais (1) uchod, ac felly ni fyddaf yn ailadrodd y ffeithiau yma.

Oherwydd anallu'r Corff Llywodraethu i wneud unrhyw benderfyniadau go iawn, am resymau y cyfeiriwyd atynt eisoes, penderfynwyd y dylai'r ddau Gyfarwyddwr Cyfetholedig gael eu diswyddo gan y weithdrefn penderfyniad ysgrifenedig oedd ar gael iddynt. Mabwysiadwyd y weithdrefn hon gan y mwyafrif o Gyfarwyddwyr y CLlC yn dilyn cyngor cyfreithiol a gadarnhaodd y byddai fel Cwmni Preifat Cyfyngedig trwy Warant, yn intra vires i ddefnyddio'r weithdrefn hon. Mae hyn yn cyferbynnu â chwmnïau cyhoeddus sy'n dod o dan adain Deddf Cwmnïau 2006 lle na fyddai gweithdrefn o'r fath ar gael iddynt.

Fel y digwyddodd, drafftiwyd penderfyniad ysgrifenedig a oedd yn dweud yn syml (yn yr iaith wreiddiol):

"Pursuant to chapter 2 of Part 13 of the Companies Act 2006, the Directors of the Company propose that Resolution 1 below is passed as an ordinary resolution (the 'Ordinary Resolution') and

ORDINARY RESOLUTION 1

That in accordance with Article 13.4 Cinzia Afra Yates' appointment as Director of YesCymru Cyf is terminated forthwith."

Hefyd ar y penderfyniad hwn roedd nodiadau’n esbonio'r union weithdrefn ac yn gofyn i'r rhai a dderbyniodd y penderfyniad ei ddarllen cyn ei arwyddo.

Anfonwyd y Penderfyniad hwn at holl aelodau / Cyfarwyddwyr y CLlC ac eithrio Cinzia Yates a Simon Hobson a oedd ynghlwm (compromised) yn y mater hwn. Cafodd ei arwyddo gan Phyl Griffiths, Aled Jones, Naomi Hughes, Barry Parkin, Gaynor Jones, Elfed Williams a Geraint Thomas. Roedd y saith llofnodwr yn golygu bod y penderfyniad wedi'i basio a'r dyddiad oedd yr 8fed o Ragfyr 2023.

Dilynwyd yr un drefn yn union wrth ddiswyddo Simon Hobson yr un diwrnod. Yn dilyn y cyfarfod hwn, cafodd y ddau wybod am eu diswyddo o'u Cyd-Gyfarwyddwyr.

Yna cyflwynodd y ddau eu cwynion gan ddyfynnu gwahanol adrannau o Ddeddf Cwmnïau 2006 yr oeddent yn dibynnu arnynt i honni nad oedd y diswyddiad yn effeithiol, gan yr ymdrinnir â diswyddiad drwy benderfyniad ysgrifenedig yn benodol yng Nghais (1) uchod, ac ni fyddaf yn ailddatgan pam yr wyf yn ystyried bod eu cwynion yn ddi-sail.

Yna, cymerodd y Swyddog Cwynion ar y pryd, David Hannington-Smith neu Daf Smith y Cwynion a sefydlu Panel Disgyblu i ymchwilio i'r Cwynion hynny.

Fel y dywedodd David Hannington-Smith, y Swyddog Cwynion yn ystod y misoedd blaenorol (yn yr iaith wreiddiol):

“Great efforts were made to ensure the members of the Panel were unbiased and preferably unaware of any other events that had taken place in the previous months.”

Credaf fod hwn yn fenter ddiobaith o ystyried bod cymaint o ryddhau gwybodaeth o gyfarfodydd y CLIC wedi ymddangos yn drawiadol o reolaidd yn Nation.Cymru a adroddir yn aml gan un Emily Price ond nid yn unig ganddi hi.

Dywedodd David Hannington-Smith hefyd (yn yr iaith wreiddiol):

“That he sought to ensure that the Panel were suitably qualified as both upstanding members of YC and competent. Efforts involved phone calls with them about their availability and their background, searches of their social media accounts for any content that showed bias one way or the other, and speaking with other YC members and groups they were known to. After interviewing six potential candidates, three members were chosen to be on the Panel: Ian Hunter, Simon Atkinson and Terry Evans.

I presented the evidence I had already gathered to the Panel, along with the Complaints and other available and related documentation. I then left the panel to meet and deliberate over a few days. The Panel then reconvened and asked me to attend. During that meeting they decided the appropriate course of action was to suspend all seven Directors pending further investigation into the matter, and gave me written permission to block the suspended Directors' access to their YesCymru email accounts, so they could be investigated. The Directors were then suspended and their YesCymru access removed, and they were notifiedby the Panel that they were under investigation for two complaints, and the details of those complaints was made clear to them.”

Ni wahoddwyd y saith a oedd yn destun ymchwiliad i gyfweliad gan y Panel na rhoi cyfle iddynt egluro eu safbwynt. Pe byddent wedi gwneud hynny, mae'n siŵr y byddai'r Panel wedi gwerthfawrogi bod y Cwynion yn ddi-sail.

Anfonwyd e-bost rhyfeddol at Barry Parkin, Cadeirydd YesCymru ac un o'r rhai y cwynwyd amdanynt.

Mae'r e-bost yn wir yn ddogfen ryfeddol ac mae'n darllen (yn yr iaith wreiddiol):

"17th January 2024

Dear Barry Parkin

WITHOUT PREJUDICE

We enclose copies of the complaints made against you by two members together with legal advice on the matter and a WITHOUT PREJUDICE offer. The Panel has reviewed the complaints and decided that it will begin to consider them formally today if that proves necessary.

If you have any immediate comments on the complaints that you would like to make to us, please do so.

Yours sincerely, Ian Hunter, Simon Atkinson, Terry Evans, Disciplinary Panel.

WITHOUT PREJUDICE

The offer expires at 22.00 hours on Thursday January 18th.

The Panel has received its own legal advice concerning the main parts of the complaints made against all the respondents. It shows unequivocally that, in every respect, the actions that the respondents took in removing the two co-opted directors from office was taken without sufficient regard to Company Law.

We are happy to share this advice with you and it is also attached to this e-mail. In that regard, may we draw your attention to the legal article appended to the advice. This says, towards the end of the first page and following on overleaf:

A director purportedly removed under a non-compliant exercise of the Section 168 power therefore remains a director and is subject to all the duties of a director and entitled to act as such, and to participate in board meetings as normal unless and until he or she is validly removed. If the remainder of the board fails to respect the director's right in this regard, the director could apply to the Court for a declaration that his or her directorship was still continuing, and any necessary injunctions (for example, requiring the other directors to continue to include the director in board meetings).

However, we wish to conclude this matter without further process if that is possible. Should any of the respondents state (both to the Panel and the NGB) that they now accept that the steps which were followed at the meeting where the co-opted members were removed from office were not taken in accordance with Company Law or with regard to the Articles of YesCymru, and if they agree to restore the two co-opted directors to their office, then the matter can be concluded without any form of sanction on the respondent concerned. It follows, of course, that the suspension of their membership would be lifted. This morning we have asked YesCymru to restore respondents' access to all its resources.

The Disciplinary Panel."

Rwyf wedi disgrifio'r e-bost hwn fel un rhyfeddol; Byddwn yn ychwanegu ymhellach ei fod yn dangos gogwydd enfawr o blaid yr Achwynwyr. Pe bai'r saith cyfarwyddwr wedi gweithredu'n anghyfreithiol, fel yr honnwyd, yna byddai wedi bod yn fater difrifol iawn. Roedd y Panel, i bob pwrpas, yn dweud y byddai'n anwybyddu'r camwedd honedig cyn belled â bod y ddau Aelod Cyfetholedig yn cael eu hadfer fel cyfarwyddwyr.

Rhoddwyd ychydig dros 24 awr i'r derbynnydd ystyried y cynnig bondigrybwyll. Mae'r terfyn amser yn ymgais i roi pwysau gormodol ar y derbynnydd ac mae'n dystiolaeth bellach o duedd (bias). Yn ogystal, mae dod i gasgliad yn seiliedig ar waith papur a chyfarwyddiadau David Hannington-Smith y Swyddog Cwynion a heb glywed dim gan y rhai y cwynwyd yn eu herbyn eto yn dystiolaeth o duedd.

Roedd y llythyr a'r cynnig hwn yn defnyddio'r term a anrhydeddwyd gan amser "Heb Ragfarn" (Without Prejudice). Byddai unrhyw un sydd â gronyn o wybodaeth gyfreithiol yn gwybod bod unwaith yn ddigon.

Rwy'n awgrymu fod y Panel yn gwybod eu bod yn gweithredu'n anghywir a hynny mewn ffordd amlwg o ragfarnllyd a dyna pam eu bod yn gorddefnyddio'r term fel pe bai ymgyfreitha'n digwydd na fyddai hyn yn cael ei ddatgelu a bod eu hymddygiad yn cael ei feirniadu. Yn anffodus, rwyf wedi cyfeirio at y gair 'blacmel' eisoes yn yr adroddiad hwn. Mae'r ymddygiad hwn yn dod yn agos iawn at hyn.

Nid yw'n syndod na chafodd y 'cynnig' hwn ei dderbyn.

Gofynnais i David Hannington-Smith y Swyddog Cwynion am yr e-bost hwn. Roedd wedi bod yn ymwneud yn agos iawn â'r Panel Disgyblu ers ei sefydlu. Yn rhyfedd iawn, nid oedd yn ymwybodol o'r e-bost hwn er ei fod yn ymddangos yn anghyfforddus pan ofynnais y cwestiwn.

Pe bai'r Swyddog Cwynion wedi gwneud ei waith yn deg ac yn briodol, parthed y cyngor cyfreithiol a ddaeth gan Gadeirydd YesCymru ynghylch diswyddo'r ddau Aelod Cyfetholedig, ni fyddai angen unrhyw ymholiad na Phanel. Mae hynny i mi, hefyd, yn dangos tuedd.

Credaf hefyd fod 'ataliad' y saith Cyfarwyddwr yn ddi-alw amdano ac yn ormodol. Y canlyniad, wrth gwrs, oedd y byddai ochr 'wrthwynebus' y Cyfarwyddwyr ar y CLlC am gyfnod yn cael rhwydd hynt i redeg materion y Cwmni.

Mae'n debyg mai'r bennod hon sy’n achosi’r pryder mwyaf difrifol o’r holl faterion. Mae'n adlewyrchu'n wael ar y Swyddog Cwynion a'r Panel Disgyblu.

I gloi, gwahoddwyd pob un o'r tri aelod o'r Panel Disgyblu i roi tystiolaeth. Gwrthododd y tri. Fe wnaeth Ian Hunter gynnwys y canlynol yn ei ymateb i fy ngwahoddiad:

"... Mae'n ymddangos bod natur ragfarnllyd yr ymchwiliad... Ni fyddaf yn cymryd rhan yn y mater."

Dywedodd Simon Atkinson ei fod yn:

"amheus iawn o'r cymhelliant sylfaenol - yn enwedig yn arwain at gael gwared ar Gwern a'r cwynion... Dydw i ddim eisiau cymryd rhan."

Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bwysig taflu rhywfaint o oleuni ar ymateb Mr Atkinson i mi gan ei fod yn dangos tuedd ab initio ac yn tanseilio'n ddifrifol yr hyn a ddywedodd David Hannington-Smith y Swyddog Cwynion ar y pryd wrthyf fod:

"ymdrechion mawr wedi'u gwneud i sicrhau bod Aelodau'r Panel yn ddiduedd ac yn ddelfrydol ddim yn ymwybodol o unrhyw ddigwyddiadau a gynhaliwyd ganddo yn y ddau fis blaenorol."

Nid oedd galw am yr ataliadau ac nid oeddynt er budd gorau'r Cwmni. Mae ymddygiad y panel Disgyblu ymhell iawn o fod yn dda, a'r effaith net oedd dyfnhau argyfwng YesCymru ar lefel y Bwrdd.


CAIS (6)

Penderfyniad a phroses y CLlC i atal y Swyddog Cwynion o'i swydd a diddymu'r Panel Ymchwilio / Disgyblu

Dylid darllen yr ymateb i'r cais hwn ar y cyd â Chais (5) uchod. O'r holl dystiolaeth rwyf wedi'i derbyn, rwy'n ystyried y byddai'r Swyddog Cwynion wedi bod yn ddoeth, os oedd angen Panel Disgyblu, i ddod o hyd i unigolion cymwys o'r tu allan. Nid wyf yn argyhoeddedig o gwbl bod y Panel Disgyblu yn rhydd o ragfarn ac o'r herwydd ni fyddai wedi medru dod i benderfyniad annibynnol hyd braich.

Ar ben hynny, pe byddai'r Swyddog Cwynion wedi rhannu â'r Panel y cyngor cyfreithiol a dderbyniodd Barry Parkin Cadeirydd y Cwmni gan y Cyfreithwyr wrth gefn Geldards, bod y broses a ddilynwyd gan y CLlC wrth ddiswyddo'r ddau Gyfarwyddwr Cyfetholedig yn gyfreithlon ac intra vires Erthyglau Cymdeithasiad ac Is-ddeddfau'r Cwmni, yn yr achos hwnnw, y byddai'r Panel wedi dod i'r casgliad nad oedd unrhyw beth i'w ymchwilio.

Mae'n ymddangos, felly, na chafodd y Panel ei friffio'n ddigonol a dim ond un hanner o'r stori a gyflwynwyd iddynt, fel petai. Yn eu tro, daethant i'r casgliad bod y saith Cyfarwyddwr ar fai a chynigiwyd y 'Cynnig' annoeth i Gadeirydd YesCymru. Daeth y Panel i'r casgliad hwnnw heb gael unrhyw dystiolaeth gan yr ymatebwyr, sef y saith Cyfarwyddwr. Roedd hynny'n gwbl amhriodol, ac amhriodol hefyd oedd yr hyn a alwyd yn 'Gynnig' a gyflwynwyd iddynt.

Credaf fod y Swyddog Cwynion wedi gweithio'n agos iawn gyda'r Panel Disgyblu ac rwy'n ei chael hi'n anodd i'w gredu pan mae'n dweud wrthyf nad oedd yn gwybod 'dim am' y 'Cynnig' dywededig a oedd yn hynod o amhriodol.

Rhuthrodd y Swyddog Cwynion i ddyfarniad a gwaharddodd y saith Cyfarwyddwr. Credaf fod hyn yn ormodol ac yn ddi-alw amdano ac yn seiliedig ar olwg gyfyng o'r dystiolaeth.

Nid oes amheuaeth yn fy meddwl bod y Swyddog Cwynion, yn ei weithredoedd unochrog, brysiog wedi gwaethygu sefyllfa a oedd eisoes yn llawn straen. O dan yr amgylchiadau, pleidleisiodd y CLIC i ddiswyddo'r Swyddog Cwynion drwy ddefnyddio'r weithdrefn o penderfyniad ysgrifenedig y cyfeirir ati uchod, ac hefyd diddymu'r Panel Ymchwilio / Disgyblu. Yn fy marn i, nid oedd ganddynt lawer o ddewis oherwydd bod y Swyddog Cwynion wedi ymddwyn yn wael a gwaethygwyd y sefyllfa gan weithredoedd rhyfeddol ac amheus y Panel.

Nid wyf yn credu y gellid beirniadu'r CLlC am yr hyn a wnaeth mewn ymateb i'r llanast anffodus hwn.


CAIS (7)

Penderfyniad a phroses y CLlC i ddatgan bod ymgeisyddiaeth un aelod i fod yn Gyfarwyddwr yn yr etholiadau i'r CLIC yn un annilys.

Cynhaliwyd etholiadau arferol i benodi Cyfarwyddwyr i'r CLIC ym mis Ionawr 2024.

Mae'r darpariaethau ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn i lenwi ffurflenni enwebu a chynnal yr etholiadau yn gyffredinol wedi'u nodi yn yr Erthyglau Cymdeithasiad yn Erthygl 19 i 19.8.

Rheolir y broses enwebu gan Is-ddeddf 2 yn rhestr Is-ddeddfau YesCymru. Mae Is-ddeddf 2.4 yn datgan yn benodol:

"4. Caiff pob Aelod cyffredin:

(a) enwebu un ymgeisydd yn unig yn ystod unrhyw gyfnod etholiad"

Anfonwyd hysbysiad ar Ionawr 13eg, 2024 yn rhoi cyfarwyddiadau clir sut i wneud cais. Mae'r cyfarwyddiadau hyn yn nodi bod angen 5 enwebiad ar ymgeisydd gan aelodau cyfredol, a gall un ohonynt fod yr ymgeisydd ei hun. Caiff pob aelod enwebu un person yn unig.

Daeth yr enwebiadau i ben am 8pm Ionawr 27ain, 2024.

Cyflwynwyd enwebiadau gan o leiaf dau ymgeisydd. Cyflwynwyd un gan Dr. Cinzia Yates ac fe'i derbyniwyd gan YesCymru ar Ionawr 20fed, 2024.

Ar ôl i'r broses enwebu ddod i ben, darganfuwyd bod enwebiad Dr. Yates yn annilys am ei fod yn cynnwys enw Aelod rhif 147. Roedd hyn wedi annilysu'r enwebiad gan fod yr Aelod rhif 147 dywededig eisoes wedi enwebu ymgeisydd arall a oedd wedi cyflwyno ei ffurflen enwebu bum niwrnod ynghynt ar Ionawr 15fed, 2024.

Mae Is-ddeddf 2.4 uchod yn nodi'n benodol y:

 "Caiff aelod cyffredin enwebu un ymgeisydd yn unig yn ystod unrhyw gyfnod etholiad."

Felly, nid oedd gan YesCymru unrhyw ddewis heblaw datgan bod enwebiad Dr. Yates yn annilys ar y sail hwn.

Ar Ionawr 31ain 2024 derbyniodd Dr Yates yr e-bost canlynol gan Barry Parkin, Cadeirydd YesCymru:

"Dr Cinzia Yates

Following the close of applications for the position of Director of YesCymru Cyf, an audit is carried out to ensure that candidates have correctly completed all steps required in their submission to become a Director. I have been informed that you have submitted proof of identification in line with the correct requirements. The notification sent out on the 13th January gives clear instructions as to how to make your application. These instructions state that each candidate requires 5 nominations from current members, one of whom may be the candidate him / herself. Each member may nominate one person only.

Please refer to the Articles of Association and Bylaw 2 for information regarding standing for election. The application form is split into 2 sections. Section 1 is for candidates to complete and is not part of the nomination process. You have completed this section correctly with your name, region, region you are standing, membership number and email address.

Section 2 clearly indicates that this section is where you enter the name of you nominators. This section again gives clear instructions on closing date and the requirement for five nominations.

Instructions on form:

Nominations for the YesCymru National Governing Body must be received by 8pm on 27th January 2024. You must secure 5 nominations. You can nominate yourself.

Your nomination is date stamped as being received on the following date: 2024/01/20 2:11:32pm GMT.

Your returned form indicates the following people who have nominated you: Name and membership number:

(Member) no:468
(Member) no:1785
(Member) no:147
(Member) no: 94
(Member) no:19826

I have to inform you that we have received an application from another candidate, who was also nominated by Member no: 147 with a date stamp of 2024/01/15 10:20:16am GMT. As clearly stated in Bylaw 2 a member can only nominate one candidate in an election period and 19.a of the Articles of Association clearly states a candidate must follow the criteria set out for the election.

I therefore, have to inform you that, as your application according to the rules set out for this election have not been fully complied with due to only having four eligible nominators in Section 2 of the form, as Member no: 147 was ineligible to nominate you. It is the responsibility of each candidate to ensure that nominators are eligible to support a candidate before they submit their application. Your application is invalid and therefore you are not eligible to stand to become a Director in this election round.

Yours sincerely..."

Ymatebodd Dr Yates ar Chwefror 1af, 2024 gan nodi ei siom hi yn ogystal a siom yr un a’i henwebodd.

Gofynnodd am benodi archwilydd annibynnol. Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr â'r cais hwn. Wrth ddarllen Erthygl 19.4 mae'n amlwg y caiff y Cwmni:

"benodi person annibynnol i weithredu fel archwilydd mewn perthynas ag unrhyw etholiad a chaiff benderfynu ar gyfrifoldebau’r archwilydd hwnnw fel y gwêl yn dda."

Yn ôl Is-ddeddf 2:

"Bydd Archwilydd Annibynnol, a benodir gan y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ("CLlC"), yn cynnal y broses Enwebu a’r broses Ethol, a hynny drwy ddilyn darpariaethau'r Is-ddeddf hon."

Mae'r ddwy ddarpariaeth hyn yn amlwg yn gwrthdaro.

Ni chredaf, fodd bynnag, y byddai neu y gallai apwyntiad o'r fath fod wedi newid y canlyniad i Dr Yates.

Yna, cododd Dr Yates gwestiwn ynglŷn â'r amseru ac ni welais unrhyw deilyngdod yn y ddadl honno. Yna, dadleuodd Dr Yates gan ei bod yn cynnig ei hun fel ymgeisydd, bod hyn yn awgrymu ei bod hi'n enwebu ei hun. Nid wyf yn derbyn y ddadl honno ac mae'n amlwg ei bod yn ffeithiol anghywir.

Cyfeiriodd Dr Yates at faterion yn ymwneud â'r broses, gan nodi nad oedd cais am fanylion cefndir gwaith na phrofiad perthnasol ar y ffurflenni. Doedd dim cais am gysylltiadau gwleidyddol, dim Monitro ED, dim cais am 'unrhyw wybodaeth arall' ar y ffurflen; dim cyfle i ddarparu deunyddiau ychwanegol, dim darpariaeth i gyflwyno fideo 'er gwybodaeth', nac ychwaith ddisgrifiad swydd. Yn ôl Dr Yates, roedd darparu datganiad yn wirfoddol, yn ôl y wybodaeth a dderbyniodd. Nid yw'n cynnwys ffynhonnell y wybodaeth honno. Yna cyfeiriodd at ymholiad ynglŷn ag 'ID'.

Nid wyf wedi dod o hyd i unrhyw deilyngdod o gwbl yn unrhyw un o'r pwyntiau hyn a ddadleuwyd am yn hir. Yn wir, nid ydynt hyd yn oed yn berthnasol i'r ffaith nad oedd Dr. Yates wedi cydymffurfio â'r rheolau. Llwyddodd ymgeiswyr eraill, ar wahân i ddau arall a gafodd eu henwebu gan Aelod rhif 147, i gydymffurfio heb godi unrhyw bryderon.

O ran y dystiolaeth sydd o'm blaen, ni allaf weld sut y gellid fod wedi delio â'r mater mewn unrhyw ffordd arall. Cafodd un ymgeisydd a gyflwynodd ei bapurau yn cynnwys enwebiad gan Aelod rhif 147 ei ystyried yn ddilys. Roedd yr ymgeisydd hwn wedi cyflwyno ei ffurflenni bum niwrnod cyn Dr. Yates. Yn fy marn i, yr unig ffordd deg i ddelio â hyn oedd y ffordd a fabwysiadwyd gan y Cadeirydd ar ran YesCymru Cyf.


CAIS (8)

Priodoldeb rhan Cadeirydd y CLlC yn y broses enwebu a'r honiad bod Is-Ddeddf 2.1. wedi ei thorri

Drwy gydol y broses enwebu, bu ymddygiad Cadeirydd YesCymru Cyf yn gytbwys a di-fai. Wedi dweud hynny, o ddehongli'r Erthyglau Cymdeithasiad ac Is-ddeddfau'r Cwmni yn fanwl gywir, mae'n ymddangos bod yna Is-ddeddf wedi cael ei thorri trwy beidio â phenodi archwilydd annibynnol i oruchwylio'r broses enwebu a'r broses etholiadol yn gyffredinol.

Rwyf yn dod i'r casgliad hwn ar ôl ystyried darpariaeth yr Erthyglau a'r Is-ddeddfau.

Mae Erthygl 19.4 o'r Erthyglau Cymdeithasu yn nodi:

"Caiff y Cwmni benodi person annibynnol i weithredu fel archwilydd mewn perthynas ag unrhyw etholiad a chaiff benderfynu ar gyfrifoldebau’r archwilydd hwnnw fel y gwêl yn dda."

Yn ôl darpariaeth Is-ddeddf 2.1:

"Penodir Archwilydd Annibynnol, gan y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ("CLlC"), fydd yn cynnal y broses Enwebu a’r broses Ethol, a hynny drwy ddilyn darpariaethau'r Is-ddeddf hon."

Sylwer, o dan yr Erthyglau Cymdeithasiad, caniateir gwneud penodiad o'r fath. O dan yr Is-ddedf, mae'n dod yn ofyniad. Sylwch ar y gair "caiff" yn yr Erthyglau a "bydd" yn yr Is-ddeddfau.

Yn gwbl briodol, gofynnodd y CLlC am gyngor cyfreithiol ac arweiniad ar hyn gan y Cyfreithwyr wrth gefn, Messrs Geldards. Ymateb Ms Bethan Walsh oedd:

"The Articles have been drafted in such a way to allow for flexibility hence use of the word “may” instead of “shall”. The byelaws don't necessarily contradict the Articles in these circumstances, rather they provide a more descriptive process. The fact that you have drafted bylaw 2 to state “shall” and not “may” means that there is an obligation to appoint an independent scrutineer. In this instance, you have contravened the process in the bylaws rather than the Articles, which is less serious. If in practice, if it is not proportionate or feasible to appoint an independent scrutineer then the bylaws should be amended to replace “shall” with “may”."

Rwy'n cytuno'n llwyr â chyngor a chasgliadau Ms Walsh.

I fod yn deg â YesCymru byddai'r uchod yn amlwg i berson o gefndir cyfreithiol ond nid o reidrwydd felly i berson lleyg.

Yr ateb i'r cwestiwn a ofynnwyd i mi yw, o dan yr amgylchiadau nad oedd yn briodol i Gadeirydd y CLIC fod â rhan yn y broses enwebu a bod Is-ddeddf 2.1 wedi ei thorri.


YMDDYGIAD PROFFESIYNOL

Gofynnir i mi a wyf yn ystyried a oes unrhyw:

(a) Dorri dyletswyddau.

Ar wahân i'r rhai sy'n perthyn yn benodol i YesCymru Cyf, mae Deddf Cwmnïau 2006 yn cyfeirio at ddyletswyddau cyffredinol Cyfarwyddwyr. Maent yn cynnwys:
  • Y ddyletswydd i weithredu o fewn pwerau. 
  • Y ddyletswydd i hyrwyddo llwyddiant y cwmni. 
  • Y ddyletswydd i arfer barn annibynnol. 
  • Y ddyletswydd i arfer gofal, sgil a diwydrwydd rhesymol.

Heb ailadrodd y saga drist hon, credaf fod nifer o achosion o dorri dyletswydd ar ran unigolion a oedd â mwy o ddiddordeb mewn creu gwrthdaro ymhlith arweinwyr YesCymru Cyf yn hytrach na hyrwyddo buddiannau gorau'r Cwmni. Fy ngobaith (a’m disgwyliadau) yw y bydd Cyfarwyddwyr y Cwmni nawr ac yn y dyfodol yn dysgu o'r profiadau chwerw a ddaeth i'w rhan dros y deunaw mis diwethaf, gan fy mod yn eithaf sicr na fydd yn hawdd iddynt anghofio ymddygiad rhai.

(b) EGWYDDORION NOLAN sy'n ddyletswyddau i weithredu gydag Anhunanoldeb, Uniondeb, Gwrthrychedd, Atebolrwydd, Bod yn Agored, Gonestrwydd ac Arweinyddiaeth.

Afraid dweud bod y naratif a ffurfiwyd wrth imi ddarllen y swm helaeth o dystiolaeth wedi fy narbwyllo y cafwyd sawl achos o dorri'r egwyddorion uchod, ac ymddengys bod rhai ohonynt yn fwriadol, ac o ganlyniad wedi difrodi enw da YesCymru Cyf.

(c) Torri cytundebau cyfrinachedd.

Roedd yr achosion o dor cyfrinachedd a oedd yn deillio o'r CLIC yn rhyfeddol o gyson ac yn syndod mawr.  Roedd yr holl gyfarwyddwyr wedi llofnodi Cytundeb Cyfrinachedd fel y gwnes i wrth baratoi'r Adroddiad hwn.

Roedd gwybodaeth hynod sensitif o natur ddifrifol iawn yn ymddangos yn gyson yn Nation.Cymru.  Fel rheol, adroddiadau Emily Price oedd y rhain – ac roedd ganddi'r fath wybodaeth drylwyr o fanylion cyfrinachol y CLIC, mae'n annhebygol y byddai'n gwybod mwy petai hi'n aelod o'r CLIC ei hun. Bu beirniadaeth annheg yn aml ar nifer o aelodau'r CLIC, ond ni chafodd un neu ddau eu beirniadu o gwbwl, sy'n awgrymu ei fod yn hynod o debygol mai nhw oedd wrth wraidd yr achosion o dor cyfrinachedd hunangeisiol a niweidiol iawn hyn. Byddwn i'n mynd mor bell â dweud eu bod nhw'n actorion drwg a oedd yn benderfynol o niweidio statws YesCymru Cyf.

Gwn fel ffaith, gan fy mod wedi gweld y dystiolaeth, fod tri neu bedwar Aelod a ddaeth i'r Bwrdd yn ystod Gwanwyn / Haf 2023 yn cynllunio i gael gwared ar Aelodau profiadol y CLIC a oedd wedi eu hen sefydlu. Rhaid gofyn pam. Sut y gallai eu gweithredoedd fod er lles YesCymru Cyf? Yr ateb byr yw, trwy eu gweithredoedd, roeddent yn tanseilio'n uniongyrchol lles pennaf y Cwmni.

O ran achosion o dorri'r Erthyglau Cymdeithasiad a'r Is-ddeddfau, heblaw fy ymateb i Gais (8) uchod, nid wyf wedi canfod unrhyw achosion penodol o dorri Deddf Cwmnïau 2006 a fyddai'n gallu cael eu dehongli fel achosion anghyfreithlon.

Nid wyf yn argymell ailagor yr holl faterion hyn ymhellach gan y byddai hyn yn rhwystro cynnydd YesCymru Cyf am gyfnod hir i ddod. Heb os, bydd y Cwmni’n dysgu gwersi o’r cyfnod hir o wenwyn a chwerwedd ac ymddygiad gwael.


CASGLIAD

Wrth gloi'r adroddiad trosolwg hwn a'r argymhellion, hoffwn gyfeirio at fy ymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, pan gefais fy niolch gan nifer o aelodau a chefnogwyr YesCymru Cyf a oedd yn dymuno gweld diwedd ar y mater hwn. Mae pawb yn ymwybodol o'r momentwm trawiadol a fu y tu ôl i'r cynnydd yn aelodaeth YesCymru hyd at oddeutu Haf 2022 pan ddechreuodd pethau ddirywio, gan arwain yn y pen draw at y cyfnod trychinebus o fis Medi 2023 ymlaen.

Fy mhwynt wrth sôn am fy ymweliad â Phontypridd oedd fy mod wedi dod ar draws llawer o aelodau a chefnogwyr a oedd yn aros yn eiddgar i ddychwelyd at normalrwydd o fewn YesCymru. Nid wyf yn amau y bydd y momentwm y cyfeirir ato yn dychwelyd yn y dyfodol agos. Yn hyn o beth, roedd y ffaith bod YesCymru Cyf wedi arwyddo tua 200 o aelodau newydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd wedi creu argraff arnaf. Mae hynny'n argoeli'n dda ar gyfer cynnydd y Cwmni yn y dyfodol.

Rwy'n gobeithio y bydd y golau a daflwyd ar drafodion y Cwmni yn yr Adroddiad hwn yn galluogi cyfnod o ddysgu ac o bosib mendio yn rhengoedd YesCymru Cyf a fydd ynddo'i hun yn cyfrannu at yr hyn a allai fod yn ddyfodol disglair a chyffrous yn fy marn i, i YesCymru Cyf a'r Mudiad yng Nghymru yn gyffredinol.

Yn olaf, diolchaf i'r CLlC am fy ystyried ar gyfer yr apwyntiad hwn a gobeithiaf fy mod wedi gwneud cyfiawnder â'r cylch gorchwyl a roddwyd i mi.


ATODIADAU

Atodiad 1 C.V. Elfyn Llwyd LLB 

Atodiad 2 Erthyglau Cymdeithasu YesCymru

Atodiad 3 Is-ddeddfau YesCymru 4, 2, 3

Atodiad 4 Aelodau a Wahoddwyd am Gyfweliad

Atodiad 5 Argymhellion


ATODIAD UN

Elfyn Llwyd,
Glandwr,
Llanuwchllyn,
Y Bala,
Gwynedd LL23 7TW

CURRICULUM VITAE

Ganed Betws y Coed 1951.

Addysgwyd yn Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch, Ysgol Ramadeg Llanrwst ac Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst.

1974 Graddio yn y Gyfraith LLB (anh) Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth.

1976 Coleg y Gyfraith, Christleton Caer. Arholiadau Terfynol Twrnai.

1977 Derbyn yn Gyfreithiwr y Goruchaf Lys.

1978-1998 Partner yn y ffyrm Guthrie Jones a Jones Dolgellau, Y Bala a Chorwen.

1990-1991 Llywydd Cymdeithas y Gyfraith Gwynedd.

1998 Galwad i’r Bar Llety Grey (Grey’s Inn)

1998- Aelod o siamb Sedna House, Caer ac wedyn Linenhall, Caer. Maes ymarfer Cyfraith teulu a phlant.

1992-2015 Etholwyd yn Aelod Seneddol dros Meirionnydd |Nant Conwy ac wedyn Dwyfor Meirionnydd.

1998-2015 Arweinydd Seneddol Plaid Cymru. Yn ystod gyrfa Seneddol paratowyd sawl mesur a gwelliant, y neu mysg llawer yn ymwneud a chyfraith teulu a phlant. Y seneddwr cyntaf yn Ynysoedd Prydain i alw am sefydlu’r swydd Comisiynydd Plant. Creuwyd y swydd yng Nghymru yn 2005, y cyntaf mewn unrhyw wlad yn y DU. Dilynwyd hyn gan sefydlu Comisiynwyr Plant yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon ymhen dipyn. Ymgyrchodd yn llwyddianus i greu’r drosedd o stelcian (Stalking) ac mi baratodd wellianau priodol ac fe dderbyniwyd rhain gan y Llywodraeth, ac fe grewyd y drosedd yn 2012.
Yn yr un modd ymgyrchodd i greu’r drosedd o Reolaeth Gormesol (Coercive Control) ac fe ddaeth i’r Llyfr Statud yn 2015.

2011-2015 Is Gadeirydd Pwyllgor Dethol Cyfiawnder ac yn ystod y cyfnod hwnnw cynrychioli’r Pwyllgor Seneddol yn Strasbourg a thraddodi araith ar ran y pwyllgor mewn cynhadledd ryngwladol a gynhaliwyd yn Senedd Athen.

2010-2015 Cynghorydd Seneddol i Ffederasiwn yr Heddlu.

2008-2015 Cadeirydd Grwp Aml Bleidiol ar y Llysoedd Teulu.

Is Gadeirydd Grwp Aml Bleidiol ar Undebau Cyfiawnder.

Is Gadeirydd Grwp Aml Bleidiol PCS (sef Undeb Public and Commercial Services).

Aelod o Bwyllgor Dethol Cymru am ddau Sesiwn Seneddol.

Aelod o nifer o Bwyllgorau Sefydlog.

Aelod o Bwyllgor Safonau a Breintiau 2005-2009.

Etholwyd yn Aelod o’r Orsedd (y wisg wen) yr Eisteddfod Genedlaethol am “ waith a waned i gefnogi’r iaith a diwylliant Cymraeg”.

2007 Darlithydd gwadd – y ddarlith flynyddol Cymdeithas y Gyfraith yng Nghymru yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug. Cyhoeddwyd y ddarlith yn ddwyieithog yn 2007.

2007-2009. Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol y Bala.

Dyrchafwyd i’r Cyfrin Gyngor.

2015 Derbyn Aelodaeth anrhydeddus am oes gan NAPO (National Association of Probation Officers) sef Cymdeithas y Swyddogion Prawf am “gefnogaeth hir dymor i aelodau NAPO yn y Gwasnaeth Prawf a Llysoedd Teulu”.

2018 Cymrawd Prifysgol y Drindod Dewi Sant.

2019 Traddodi Darlith Goffa Flynyddol David Lloyd George, Llanystumdwy, Cricieth.

2019 Cadeirydd y Comisiwn ar Annibyniaeth. Argraffwyd yr adroddiad a’r argymhellion yn dwyn y teitl “Cyrchu AnnibyniaethCymru” Medi 2020 Y Lolfa.

Awdur llawer o erthyglau mewn papurau Cenedlaethol yn delio â materion cyfoes ac mewn cylchgronnau fel Golwg a Barn. Cyfrannwr rheolaidd i ddadleuon a thrafodolion ar y BBC ac S4C.

2020 Awdur cofiant “Betws a’r Byd” Y Lolfa 2020

2015-2021 Aelod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth. Is gadeirydd 2020-21

2017 Llywydd Cwmni Pum Plwy Penllyn sef cwmni menter cymdeithasol sydd yn weithredol yn ardal Y Bala, Gwynedd.

1987-1991 Aelod o Fwrdd Rheoli Y Coleg Normal, Bangor

2000- Aelod o Bwyllgor Prifysgol Bangor i gynllunio pa wasanaethau i gynnig yng Nghanolfan Celfyddydau Pontio ym Mangor.

2005 Darlithydd gwadd yn y Gymdeithas Frenhinol yng Nghaeredin ar y thema “Polisi Penydiol yn y DU”.

2022 Aelod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol.


ATODIAD DAU

Erthyglau Cymdeithasu YesCymru Cyf


ATODIAD TRI

Is-ddeddfau YesCymru

IS-DDEDDF 4

RHEOLAU SEFYDLOG AR GYFER CYNNAL CYFARFODYDD

IS-DDEDDF 2

ETHOL CYFARWYDDWYR

IS-DDEDDF 3

COD YMDDYGIAD Y CYFARWYDDWYR


ATODIAD PEDWAR

Gwahoddwyd yr aelodau canlynol o YesCymru am gyfweliad:

Simon Atkinson - Wedi gwrthod cyfweliad

Ethan Jones - Wedi gwrthod cyfweliad

Ian Hunter - Wedi gwrthod cyfweliad

Gwern Gwynfil - Heb ymateb

Iestyn ap Rhobert - Heb ymateb

Terry Evans - Heb ymateb

Cinzia Yates - Heb ymateb mewn pryd

--

David Hannington-Smith - Cyfwelwyd

Simon Hobson - Cyfwelwyd

Geraint Thomas - Cyfwelwyd

Barry Parkin - Cyfwelwyd

Phyl Griffiths - Cyfwelwyd

Nerys Jenkins - Cyfwelwyd

Gaynor Jones - Cyfwelwyd

Ena Lloyd - Cyfwelwyd

Aled Jones - Cyfwelwyd

Naomi Hughes - Cyfwelwyd

--

Lloyd Bingham (1) - Heb ymateb mewn pryd

Elfed Williams (2) - Cyfwelwyd

Andrew Murphy (3) - Cyfwelwyd

Gweithredodd (1), (2) a (3) fel hwyluswyr i ddarparu’r holl gofnodion angenrheidiol o gyfarfodydd, e-byst, sgrinluniau, dogfennau cyfreithiol, llythyrau a phapurau perthnasol.


ATODIAD PUMP

Argymhellion

1.i) Parthed Aelodau Cyfetholedig, byddwn yn argymell y dylai YesCymru ddefnyddio’r gallu hwn yn achlysurol iawn. Yn benodol, dylai'r ystyriaeth i Gyfethol fod bob amser er mwyn diwallu diffyg amlwg yn Aelodaeth y Bwrdd. Yr hyn rwy'n ei olygu yw bod set o sgiliau penodol ar goll a'r Bwrdd yn ddiffygiol. Gallai fod yn sgiliau AD, ariannol, llunio polisi, medrusrwydd ym meysydd Llywodraethu neu weinyddu, y Gyfraith ac ati.

1.ii) Dylid bob amser ymgymryd â phroses fetio drylwyr ynghyd â chyfweliad manwl cyn unrhyw weithred o Gyfethol.

2. Dylai Cyfarwyddwyr Newydd y CLlC boed yn Gyfarwyddwyr Etholedig neu'n Aelodau Cyfetholedig fynychu cwrs i ymgyfarwyddo â daliadau llywodraethu a gweinyddu corfforaethol safonol ynghyd â gwybodaeth fanwl am yr hyn a ddisgwylir ganddynt fel Cyfarwyddwyr, megis nodi gwrthdaro buddiannau, ac ymlynu'n gaeth at yr Erthyglau Cymdeithasiad, Is-ddeddfau ac adrannau perthnasol Deddf Cwmnïau 2006 ym mhob achos. Dylai Cyfarwyddwyr ddysgu mai gweithredu er lles pennaf y Cwmni yn anad dim arall yw eu prif ddyletswydd. Dylid hysbysu Cyfarwyddwyr yn llawn hefyd am y gwahaniaeth rhwng Cyfarwyddwr etholedig a Chyfarwyddwr Cyfetholedig o ran eu dyletswyddau a'u hawliau. Dylid atgoffa Cyfarwyddwyr o’u dyletswydd o gyfrinachedd llwyr ac, fel yr ydym wedi profi, sut y gall tor cyfrinachedd fod yn hynod niweidiol i enw da a statws y Cwmni.

3. Mae angen gwell cyfathrebu rhwng y CLlC ac aelodau llawr gwlad YesCymru Cyf. Pe bai'r Aelodau yn teimlo mewn unrhyw ffordd, bod y cysylltiad rhyngddynt â'r arweinyddiaeth wedi ei dorri, yna mae'n anochel bod hyn yn mynd i arwain at anniddigrwydd a meithrin teimladau negyddol ymhlith yr Aelodau.

4. O ystyried y berthynas agos rhwng mwyafrif incwm YesCymru a'r ffioedd Aelodaeth, credaf y dylai un Cyfarwyddwr, gyda chymorth grŵp bychan ymroddedig yn cynnwys staff y Cwmni, ganolbwyntio ar gynyddu nifer yr Aelodau a chychwyn Ymgyrchoedd Aelodaeth. Rwyf yn argymell y dylai'r Cyfarwyddwr hwnnw ddarparu adroddiad ysgrifenedig manwl o'i weithgareddau bob mis a dylai hwnnw bob amser gynnwys y ffigurau Aelodaeth diweddaraf.

5. Yn ystod cyfnodau arferol, byddai'n ddymunol i unrhyw Gyfarwyddwr sy'n ceisio cyngor cyfreithiol gan Gyfreithwyr wrth gefn y Cwmni yn trafod hyn ar lefel Bwrdd cyn symud ymlaen. Mewn sefyllfaoedd anarferol, fel yr un sy’n cael ei ystyried yn yr Adroddiad hwn lle’r oedd y Bwrdd wedi’i hollti ac mewn cyflwr o stasis, credaf ac argymhellaf y dylai’r Cadeirydd gael pwerau penodol i weithredu ac ymgynghori â’r Cyfreithwyr wrth gefn, yn debyg i'r hyn a ddigwyddodd yn achos y Cadeirydd blaenorol yn 2022. Dylai'r pwerau hyn roi awdurdod gwirioneddol i’r Cadeirydd.

O ran sefyllfaoedd mwy arferol, rwyf o’r farn bod angen cadw at Is-ddeddf 16 yn fwy agos a bod angen i holl Aelodau’r CLlC fod yn gwbl gyfarwydd â’r gweithdrefnau.

6. Yn unol â'r cyfeiriad uchod, rwy'n argymell bod rolau, cyfrifoldebau a hawliau Aelodau Cyfetholedig, megis hawliau enwebu a phleidleisio, yn cael eu diffinio'n well yn yr Erthyglau Cymdeithasiad. Rwy'n derbyn bod drafftio cyfreithiol da yn caniatáu rhywfaint o 'aneglurder' ar adegau er mwyn rhoi hyblygrwydd ychwanegol i'r Cwmni. Fodd bynnag, mae yna adegau pan mae angen diffiniad mwy eglur neu hyd yn oed cyfarwyddiadau pendant er mwyn osgoi'r posibilrwydd o amheuaeth a gwrthdaro yn y dyfodol.

7. Argymhellaf fod y Cwmni yn ffurfio is-bwyllgor i baratoi Adroddiad i'w gyflwyno i'r CLlC ar ddiwygiadau ac ail-ddrafftiau angenrheidiol er mwyn diweddaru'r Erthyglau Cymdeithasiad a'r Is-ddeddfau. Man cychwyn fyddai’r awgrym defnyddiol iawn gan y Cyfreithiwr wrth gefn yn Geldards i ailedrych ar y defnydd o “gall” a “bydd” mewn perthynas â phenodi archwilydd annibynnol.

8. Roedd galw'r CCA a'i diddymu'n fuan wedyn yn anffodus ac yn dangos diffyg ymwybyddiaeth o'r Gyfraith Cwmnïau a'r gweithdrefnau. Unwaith eto, argymhellaf y dylai Cyfarwyddwr gymryd yr awenau yn y materion hyn i sicrhau bod yr holl gamau gweithredu yn intra vires a bod penderfyniadau’n cael eu gwneud sy'n unol â’r Erthyglau Cymdeithasiad a’r Is-ddeddfau a fframwaith sylfaenol Deddf Cwmnïau 2006.

Yn absenoldeb ethol person o gefndir corfforaethol o allu profedig ac enw da, yna dylid mynd ati yn ddi-oed i Gyfethol Cyfarwyddwr o’r fath er mwyn iddo / iddi (a) weithredu’n gyfreithlon a (b) er mwyn peidio â dibynnu’n ormodol ar gyngor cyfreithiol allanol boed gan Gyfreithwyr wrth gefn neu eraill. Nid yw hyn yn awgrymu fy mod yn cael unrhyw fai ar y cyngor a roddwyd gan y Cyfreithwyr wrth gefn yn y mater hwn, nac yn wir, eu prydlondeb yn ateb ymholiadau.

9. Mewn perthynas â materion disgyblu, rwy'n argymell, pryd bynnag y bydd galw am Banel Disgyblu, y byddai'n ddoeth pe bai'r Cwmni yn rhoi'r swyddogaeth hon ar gontract allanol i unigolion â chymwysterau addas sy'n annibynnol o YesCymru Cyf.

 

Adroddiad gan:
Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd, LLB
Hydref 2024