Mae arolwg barn newydd gan Yougov a gyhoeddwyd ar WaleOnline heddiw wedi dangos ymchwydd mewn cefnogaeth i Gymru annibynnol. Dywedodd 32%* y byddent yn sicr o bleidleisio dros annibyniaeth mewn refferendwm, gyda 41%* yn cefnogi’r syniad o Gymru annibynnol yn yr UE os bydd Brexit yn digwydd.
Wrth ymateb i arolwg barn dywedodd Siôn Jobbins - Cadeirydd YesCymru, yr ymgyrch dros annibyniaeth:
"Mae’r gefnogaeth i annibyniaeth ar ei lefel uchaf erioed yn ôl yr arolwg barn hwn, ac mae'n dangos yn glir bod pobl Cymru yn cynhesu at y syniad o Gymru fel cenedl-wladwriaeth annibynnol yn union fel Iwerddon, Gwlad yr Iâ neu Ddenmarc.
"Dydy San Steffan ddim yn gweithio, ac mae pobl yn sylweddoli y byddai’n well i Gymru reoli ei materion ei hun yn hytrach na chael ei diystyru gan San Steffan.
"Mae gan YesCymru grwpiau ledled Cymru yn ymgyrchu dros Gymru annibynnol, ac mae croeso i bobl o bob cefndir ymuno â ni. Mae'n hynod o galonogol gweld bod pobl iau bellach yn ffafrio annibyniaeth dros reolaeth San Steffan, ac mae'r gefnogaeth ar ei huchaf yng Nghaerdydd a'r cymoedd poblog lle mae llawer o waith ymgyrchu eisoes wedi digwydd."
"Byddwn yn parhau i drefnu gorymdeithiau, ralïau a chyfarfodydd cenedlaethol a lleol dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac rydym yn fwy hyderus nag erioed y bydd y gefnogaeth i annibyniaeth yn mynd o nerth i nerth."
*Nid yw'r ffigyrau yn cyfrif y rhai a ddywedodd na fyddent yn pleidleisio, a wnaeth wrthod ateb neu nad oedd yn gwybod. Gallwch lawrlwytho'r canlyniadau yn llawn yma (PDF).
>> Ymaelodwch gyda YesCymru yma cy.yes.cymru/join <<
- 41% eisiau Cymru Annibynnol er mwyn atal Brexit - golwg360.cymru
- Support for Welsh independence soars in new poll by YouGov - walesonline.co.uk
- Support for Welsh independence hits 41% in new poll - nation.cymru
- Shock poll reveals four in ten Welsh voters would back independence to stay in EU - politicshome.com
- Support for Welsh Independence surges in new poll - dailypost.co.uk
- Poll finds a third support Welsh independence if it meant staying in EU - itv.com
- Wales could opt for independence if Westminster does not redeem itself - news.sky.com
- More support for Welsh independence, YouGov poll shows - southwalesargus.co.uk
- Support for Welsh independence reaches ‘historic high’ - thenational.scot
- Support for Welsh independence reaches ‘historic high’ - heraldscotland.com
- Support for Welsh independence reaches ‘historic high’ - belfasttelegraph.co.uk