Llythyr at Wleidyddion Llafur - Yr argyfwng cyfansoddiadol sydd ar droed

Isod mae copi o lythyr sydd weci cael ei anfon at holl wleidyddion Llafur yn y Senedd ac yn San Steffan.


Annwyl Brif Weinidog, Gweinidogion Llywodraeth Cymru, Aelodau Senedd Llafur ac Aelodau Seneddol Llafur,

Does dim dwywaith y byddwch chi'n ymwybodol o'r argyfwng cyfansoddiadol sydd ar droed yn San Steffan. Felly rwy'n cysylltu gyda chi, fel Cadeirydd YesCymru, y mudiad llawr gwlad sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru, er mwyn galw arnoch chi i:

(1) Egluro'ch cynllun i ddiogelu buddiannau Cymru yn wyneb peryglon a ddaw yn sgil Bil Marchnad Fewnol y DU (UKIM);

(2) Esbonio'r cylllun wrth gefn sydd gennych i ddiogelu dyfodol cyfansoddiadol Cymru petai'r DU yn chwalu; ac

(3) Addo cynnwys datganiad yn eich maniffest ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2021 i ddweud mai gan y Senedd yn unig y dylai bod hawl i alw refferendwm ar annibyniaeth.

Pleidleisiodd Cymru i adael yr UE. Fe wnaeth nifer o gefnogwyr Llafur bleidleisio i adael yr UE, fel y gwaeth rhai o gefnogwyr YesCymru. Er i nifer bleidleisio i "adennill grym" wnaeth yr un ohonyn nhw bleidleisio i dynnu grymoedd oddi wrth y Senedd a'u canoli yn San Steffan. Ond eto dyna'n union mae Bil UKIM yn ei wneud. Dyfynnwyd Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru, wrth iddo archwilio'r papur gwyn, yn y Financial Times. Dywed am y cynnig ei fod yn:

“represent[s] a direct attack on the current model of devolution”
“emasculate[s] the current rights of the devolved institutions to implement changes to the regulatory environment.”

Gan fod arolwg barn diweddar gan YouGov yn dangos bod y mwyafrif llethol o bobl Cymru yn ymddiried yn y Senedd i ddiogelu buddiannau Cymru, o'i gymharu â'r llai na thri o bob deg sydd yn ymddiried yn San Steffan i wneud hynny, rwy'n gofyn i chi fod yn glir am eich cynllun i ddiogelu buddiannau Cymru yn wyneb peryglon a ddaw yn sgil Bil UKIM.

Sgil effaith arall Bil UKIM, ond sy'n llai sicr, yw cyflymu chwalu'r DU. Mae’r un erthygl o'r Financial Times yn dyfynnu Jeremy Miles yn dweud hynny'n union. Mae ei sylwadau’n cael eu hategu mewn dau arolwg barn diweddar sy'n dangos bod mwyafrif yr Albanwyr o blaid annibyniaeth i'w gwlad, a chyhoeddiad y Prif Weinidog, Nicola Sturgeon, y bydd maniffesto'r SNP ar gyfer etholiadau Holyrood yn 2021 yn cynnwys addewid i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth. Dyfynnwyd y cyn Brif Weinidog Carwyn Jones ar ITV News, dywedodd:

“if Northern Ireland voted to join with the south and Scotland left, I don't think England and Wales works...it is possible for us to slip into it [independence] without having any choice...A bad Brexit carries with it the seed of the UK's own disintegration.”

 derbyn bod Bil UKIM bron yn sicr o gael ei dderbyn trwy Dŷ'r Cyffredin, rwy'n gofyn i chi fod yn glir am y cynllun wrth gefn sydd gennych i ddiogelu dyfodol cyfansoddiadol Cymru petai'r DU yn chwalu.

Wrth ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru, rwyf i ac aelodau YesCymru o blaid annibyniaeth i'n gwlad. Er hynny, pa unai ydych chi'n cefnogi'r status quo, o blaid datganoli pellach neu yn cytuno gyda mwyafrif pleidleiswyr Llafur Cymru y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud gan bobl Cymru yn unig, rwy'n gobeithio y cytunwch mai pobl Cymru ddylai benderfynu ar ddyfodol Cymru, nid Llywodraeth y DU. Yn hynny o beth, gan fod yr un arolwg YouGov gan YesCymru yn dangos bod y mwyafrif o bobl o'r farn y dylai fod gan y Senedd rym i alw refferendwm ar annibyniaeth, 80% ohonynt yn bleidleiswyr Llafur Cymru, rwy'n gofyn i chi addo cynnwys datganiad yn eich maniffesto ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2021 i ddweud mai gan y Senedd yn unig y dylai bod hawl i alw refferendwm ar annibyniaeth.

Doedd dim modd rhagweld y pandemig rhyngwladol yma na welwyd mo'i debyg o fewn cof. Mae'r argyfwng cyfansoddiadol presennol, ar y llaw arall, yn rhywbeth i ni ei ragweld ers cyfnod hir. Byddai Llywodraeth Cymru, a’r blaid y mae Cymru yn ymddiried ei buddiannau ynddi ers dros ganrif, yn gwbl esgelus petai'n anwybyddu’r peryglon a pheidio mynd i'r afael â'r cyfleoedd a ddaw ohono trwy fethu cynllunio ar gyfer pob posibilrwydd.

Yn gywir,

Sion Jobbins
Cadeirydd YesCymru