Cefnogaeth sylweddol dros roi mwy o rymoedd i'r Senedd
Mae arolwg barn newydd yn dangos bod cefnogaeth sylweddol i drosglwyddo rhagor o rymoedd i Senedd Cymru.
Mewn arolwg barn gan YouGov ar ran YesCymru, yr ymgyrch dros Gymru annibynnol, dywedodd 59% o ymatebwyr â barn ac a fyddai’n pleidleisio y byddent yn cefnogi opsiwn “devo-max” mewn refferendwm.
Byddai’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘devo-max’ yn golygu trosglwyddo grymoedd o San Steffan i Senedd Cymru yng Nghaerdydd, byddai’n cynnwys rheolaeth dros drethi a lles, a byddai’r nesa peth at annibyniaeth.
Dywedodd Cadeirydd YesCymru, Sion Jobbins:
“Yn wyneb sylwadau Boris Johnson bod datganoli yn ‘gamgymeriad’ mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru feddwl o ddifri beth mae’n dymuno i ddigwydd a gwneud ei safbwynt ar gyfansoddiad y Deyrnas Gyfunol yn hollol glir. Mae’n amlwg bod pobl Cymru yn gweld gwerth datganoli, ond gyda hynny dan fygythiad gan y Ceidwadwyr yn San Steffan mae angen i ni i gyd uno er mwyn amddiffyn ein democratiaeth.
“Bydd Ceidwadwyr Johnson gyda ni am bedair mlynedd arall yn San Steffan. Maen nhw ar dân eisiau cael gwared â’n Senedd felly beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’w wneud i amddiffyn a chryfhau ein Senedd?
“Y ffordd orau i amddiffyn pobl Cymru yw i bobl Cymru fod â rheolaeth dros ei faterion ei hun, a bod yn wlad annibynnol. Bydden ni yn yr un sefyllfa â Gweriniaeth Iwerddon wedyn; all San Steffan ddim cael gwared ar senedd Iwerddon ar fympwy. Dydy hynny ddim ar y bwrdd ar hyn o bryd, ond gallai fod, dim ond i ni sicrhau ei fod yn fater trafod yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai.
“Bu twf aruthrol yn nifer aelodau YesCymru dros yr wythnosau diwethaf, mae gyda ni dros 15,000 o aelodau erbyn hyn. Ond mae rhywbeth i’w ddweud am y ffaith nad yw’r un blaid wleidyddol wedi gweld twf o’r fath. Mae yna ddyhead gwirioneddol am newid ond dydy pobl ddim yn teimlo mai trwy bleidiau gwleidyddol y bydd y newid hynny’n digwydd. All yr un plaid wleidyddol gymeryd cefnogwyr YesCymru yn ganiataol.
“O’r ddwy brif blaid unoliaethol yng Nghymru dim ond safbwynt y Ceidwadwyr sy’n glir - maen nhw eisiau dadwneud datganoli. Mae bryd nawr i’r Blaid Lafur ddatgan ei safbwynt am y sefyllfa gyfansoddiadol. Dydy aros i’r Blaid Lafur ennill grym yn San Steffan yn 2024 ddim yn opsiwn, yn enwedig o ystyried bod y Ceidwadwyr yn bwriadu cael gwared o 20% o seddi Cymreig, a’i bod yn debygol y bydd yr Alban wedi gadael San Steffan erbyn hynny.”
Roedd cefnogaeth i gynyddu grymodd y Senedd trwy ‘devo-max’ ym mhob rhan o Gymru, dywedodd 64% o ymatebwyr oed â barn yng Nghaerdydd a chanol de Cymru y byddent yn pleidleisio dros hynny, dyna lle gwelwyd y gefnogaeth fwyaf.
Roedd cefnogaeth sylweddol i devo-max ymysg ymatebwyr ifanc hefyd, dywedodd 82% o’r rhai rhwng 18-24 oedd â barn y byddent yn pleidleisio dros ragor o rymoedd i Gymru.
Y cwestiwn a ofynwyd oedd: "Pe bai refferendwm yfory ar drosglwyddo mwy o bwerau i Senedd Cymru, gan gynnwys rheoli treth a lles, ond heb gynnwys amddiffyn a materion tramor, sut fyddech chi'n pleidleisio? A ddylid trosglwyddo mwy o bwerau i' Senedd Cymru?"
Cymru
DYLID 59%
Grwpiau oedran
18-24 - DYLID 82%
25-49 - DYLID 73%
50-64 - DYLID 51%
65+ - DYLID 43%
Ardaloedd
Caerdydd a Canol De - DYLID 64%
Dwyrain De - DYLID 63%
Y canolbarth a’r gorllewin - DYLID 61%
Gogledd - DYLID 53%
Gorllewin De - DYLID 52%
Aelodaeth YesCymru yn cyrraedd 15,000
Ar ddechrau'r flwyddyn roedd gan YesCymru tua 2,500 o aelodau, ond mae cyfuniad o ffactorau wedi sicrhau fod yr ymgyrch dros annibyniaeth wedi mynd o nerth i nerth. Roedd yr aelodaeth wedi mwy na threblu i dros 8,000 erbyn canol mis Hydref, ac erbyn hyn mae bron wedi dyblu unwaith eto i dros 15,000 o aelodau taledig mewn 3 wythnos.
Croesawodd Sion Jobbins, Cadeirydd YesCymru, yr aelodau newydd, meddai: “Mae hyn yn newyddion gwych! Mae YesCymru yn benderfynol o greu mudiad torfol croesawgar, lliwgar a blaengar dros annibyniaeth. Rydym yn credu y bydd yna refferendwm dros annibyniaeth yn yr Alban yn y blynyddoedd nesa, ac yna ail-uno Iwerddon. Felly beth fydd yn digwydd i Gymru?"
"Mae’r ffordd mae San Steffan wedi ymdrin â COVID-19 wedi dangos i bobl Cymru y gall ein Senedd weithredu yn llawer mwy effeithiol na San Steffan."
"Ar yr adegau mae ein Senedd wedi anwybyddu San Steffan a rhoi Cymru yn gyntaf, rydym wedi gweithredu yn fwy effeithiol. Cafodd y clo pythefnos yng Nghymru, sy’n anodd ac yn straen ar bob un ohonom, ei watwar gan San Steffan a rhannau o’r cyfryngau Llundeinig. Ond erbyn hyn mae Llywodraeth San Steffan wedi gorfod gosod cyfnod clo yn Lloegr, ac am fwy o amser. Lle mae Cymru yn arwain, mae eraill yn dilyn."
"Ond nid yw datganoli yn ddigonol. Rhaid i ni sicrhau annibyniaeth."
"Nid San Steffan yw’r ateb i’n problemau. Ym Mesur y Farchnad Fewnol - dan gochl dogfen ddiflas nad oes angen i ni yng Nghymru boeni amdani - cymerodd San Steffan bwerau oddi ar ein Senedd, pwerau yr ydym wedi'u hennill mewn dau refferendwm."
"Rydym wedi gweld y Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain yn rhoi contractau gwerth biliynau i'w ffrindiau, gydag arian yn cael ei dalu ymlaen llaw i gwmnïau newydd sbon ddarparu PPE sydd ddim yn gweithio. Cafodd tua £12bn – mwy na’r gyllideb iechyd cyfan yng Nghymru – ei wastraffu ar system trac ac olrhain sydd braidd yn gweithio!"
"Nid yw San Steffan yn poeni am Gymru. Gofynnodd Prif Weinidog Cymru i San Steffan am arian, a hyd yn oed addo ei ad-dalu, i gefnogi ein busnesau a’n pobl. Dywedodd San Steffan “NA”. Pan gyhoeddodd Johnson y cloi mis o hyd yn Lloegr, yn sydyn roedd arian diddiwedd ar gael!"
"Mae’r aelodau newydd hyn wedi ychwanegu hwb enfawr i’r mudiad. Mae ein haelodau yn fywiog ac yn angerddol yn eu penderfyniad i adeiladu Cymru newydd sy'n gofalu ar ôl holl drigolion Cymru."
"Mae 2021 yn mynd i fod yn flwyddyn ddiddorol iawn yn hanes Cymru, a dwi’n sicr y bydd YesCymru a’r ymgyrch dros annibyniaeth yn parhau i fynd o nerth i nerth."
Aelodaeth YesCymru yn cyrraedd 8,000
Mae YesCymru, yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru, wedi gweld cynnydd enfawr mewn cefnogaeth eleni, gan gyrraedd 8,000 aelod yn ddiweddar, i fyny o tua 2,500 o aelod ar ddechrau'r flwyddyn.
Croesawodd Sion Jobbins, Cadeirydd YesCymru, yr aelodau newydd, meddai: “Mae hyn yn newyddion gwych! Mae’r aelodau newydd hyn wedi ychwanegu hwb enfawr i’r mudiad. Mae ein haelodau yn fywiog ac yn angerddol yn eu penderfyniad i adeiladu Cymru newydd sy'n gofalu ar ôl holl drigolion Cymru.
“Yr hyn sydd wedi helpu i gyflymu twf YesCymru, yw bod pobl wedi gweld bod ein Senedd yn llawer mwy cymwys i redeg materion Cymru’ na San Steffan, a gallwn wneud hynny gyda mwy o empathi a thosturi hefyd.
“Ni fu ymgyrchu traddodiadol yn bosibl eleni, roedd rhaid i ni ganslo tair gorymdaith annibyniaeth fawr yn Wrecsam, Abertawe a Thredegar o achos Covid-19, ond mae ein haelodau yn ddisglair ac yn arloesol ac rydym eisoes yn gweld ffyrdd newydd o argyhoeddi eraill o’r angen am annibyniaeth. Mae 2021 yn mynd i fod yn flwyddyn ddiddorol iawn yn hanes Cymru, a dwi’n sicr y bydd YesCymru a’r ymgyrch dros annibyniaeth yn parhau i fynd o nerth i nerth”
Yes, Yes, Yes Cymru! - Siartiau iTunes
Mae cefnogwyr annibyniaeth yn cael eu hannog i gefnogi’r ymgyrch i gael cân Dewi ‘Pws’ Morris Yes, Yes, Yes (Cymru) i siartiau iTunes.
Gadewch i ni gael y gân wych hon gan Dewi 'Pws' Morris i mewn i siartiau iTunes!
— YesCymru 🏴 (@YesCymru) October 15, 2020
Prynwch y gân *o ddydd Gwener 16/10/20*
🏴 #Annibyniaeth
🎵 Yes Cymru, YesCymru, Yes!
Let’s get ourselves out of this mess!
Westminster’s blown, let's do it on our own,
Say Yes Cymru, YesCymru, Yes! pic.twitter.com/D6KSL52WVP
Mae Adam Phillips o YesCymru yn galw ar bobl i lawrlwytho’r gân yr wythnos hon, gan ddechrau ar ddydd Gwener Hydref 16.
Dywedodd y cerddor Adam Phillips o Wrecsam: "Mae hyn yn ffordd hwyliog i bobl wneud rhywbeth dros annibyniaeth Cymru. Mae'r newyddion yn ddiweddar wedi bod yn eithaf digalon, ond gallai hyn ddod ag ychydig o hwyl i'r byd. Gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn mynd i iTunes ac yn lawrlwytho'r gân. Mae'n gân hwyliog sy’n adlewyrchu optimistiaeth y mudiad annibyniaeth a'r dyfodol gwell y gall annibyniaeth ei gyflawni."
- Prynwch y gân am 79c yma - https://music.apple.com/gb/album/yes-yes-yes-cymru-single/1494918641?app=itunes
Mwyafrif pleidleiswyr Llafur yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio dros annibyniaeth
Mae arolwg barn newydd gan YouGov ar ran YesCymru - mudiad sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru - yn dangos bod y mwyafrif o’r farn mai gan Senedd Cymru y dylai bod yr hawl i alw refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.
Ac eithrio'r rhai nad oedd yn gwybod, roedd 55% o ymatebwyr o blaid hawliau o’r fath i’r Senedd a 45% yn erbyn.
Ac am y tro cyntaf fe wnaeth y mwyafrif o bleidleiswyr Llafur ddweud y bydden nhw’n pleidleisio dros annibyniaeth petai refferendwm yfory.
O addasu’r ffigyrau i eithrio'r rhai na wnaeth ateb, nad oedd yn gwybod, neu na fyddai’n pleidleisio, dywedodd 51% o’r rhai a bleidleisiodd dros y Blaid Lafur yn 2019 y byddent yn pleidleisio dros annibyniaeth, a 49% yn erbyn.