Diweddariad ar Waith y Corff Llywodraethu Cenedlaethol

Diweddariad i aelodau gan y Corff Llywodraethu Cenedlaethol

Cyflwyniad

Mae'n ddeufis bellach ers ethol y Corff Llywodraethu Cenedlaethol (CLlC) newydd, ac mae hi wedi bod yn gyfnod prysur i'r cyfarwyddwyr newydd. Gosod sylfeini'r Cwmni Cyfyngedig drwy Warant newydd, YesCymru Cyf, oedd y flaenoriaeth gyntaf, a ddechreuodd gyda llu o gyfarfodydd trosglwyddo gyda'r rhan-ddeiliaid sydd wedi bod yn rhedeg y mudiad dros y misoedd diwethaf.  Roedd y cyfarfodydd yn ymwneud ag amrywiaeth o feysydd gwaith gan gynnwys ariannol, cyfreithiol, cyfathrebu a'r cyfryngau cymdeithasol. O'r cyfarfodydd hyn a'r dogfennau trosglwyddo, nododd y CLlC 153 o bwyntiau gweithredu yr oedd angen mynd i'r afael â hwy er mwyn cael y mudiad yn ôl ar ei draed.

Penderfynwyd y byddai'r bwrdd yn rhannu i dair ffrwd gwaith, o 5 cyfarwyddwr yr un, i weithredu'r camau Cyfreithiol, Ariannol a’r gweithdrefnau cyfathrebu - ychwanegwyd ffrwd yn ymwneud â'r grwpiau ers hynny.
Mae'r CLlC yn cyfarfod yn wythnosol, mae'r ffrydiau gwaith yn cyfarfod yn rheolaidd a chynhaliwyd cyfarfodydd misol wyneb yn wyneb, y cyntaf ym mis Chwefror yn Wrecsam, ac yna ym Merthyr Tudful ym mis Mawrth.

Gwaith y ffrydiau hyd yn hyn

Amlinelliad o waith y Tîm Ariannol

Nid cyllid yw'r peth cyntaf sy'n dod i'r meddwl wrth feddwl am annibyniaeth ond fel sefydliad ag aelodau yn ganolog iddo mae'n hanfodol bwysig i ni sicrhau y gallwn ni roi cyfri am bob ceiniog o arian aelodau a'i wario'n ddoeth. O eleni bydd cyfrifon YesCymru yn cael eu rheoli gan gyfrifwyr proffesiynol profiadol sy'n sicrhau cefnogaeth a chraffu annibynnol.

Mae arian aelodaeth eleni wedi'i glustnodi ar gyfer dwy orymdaith, cyhoeddi ail bapur newydd YesCymru, dylunio a lansio gwefan newydd a dylunio ac argraffu taflenni newydd i gefnogi ymgyrchoedd sy'n mynd i'r afael â materion cyfredol. 

Yn ogystal, mae arian ar gael i grwpiau lleol ar gyfer gweithgareddau pwrpasol ledled Cymru a mynychu digwyddiadau cyhoeddus amlwg.

Ac eleni, am y tro cyntaf erioed, bydd cyfran o arian aelodaeth yn cael ei neilltuo mewn cronfa wrth gefn ar gyfer ymgyrch refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.

Amlinelliad o waith y Tîm Cyfreithiol

Yng Nghyfarfod Cyffredinol diwethaf YesCymru, pleidleisiodd yr Aelodaeth i newid statws cyfreithiol ein mudiad, o fod yn gymdeithas anghorfforedig i gwmni cyfyngedig trwy warant -  YesCymru Cyf. Cafodd ei ymgorffori'n ffurfiol ac etholwyd bwrdd o gyfarwyddwyr (y Corff Llywodraethu Cenedlaethol, neu CLlC) gan yr Aelodaeth. Mae gwybodaeth am YesCymru Cyf., gan gynnwys ei chyfarwyddwyr, ar wefan Tŷ'r Cwmnïau.

Pleidleisiodd yr Aelodaeth i fabwysiadu'r Erthyglau Cymdeithasiad (y cyfansoddiad i bob pwrpas) a gynigiwyd gan y Gweithgor. Ond, un o ofynion yr Erthyglau yw bod y CLlC yn cynhyrchu ei is-ddeddfau ei hun. Dyma'r rheolau, y polisïau a'r gweithdrefnau sydd yn llywio’r ffordd y mae YesCymru Cyf. yn cael ei redeg. Gwnaeth y Gweithgor waith eithriadol mewn cyfnod byr o amser i ddrafftio set o is-ddeddfau i'w cynnig i'r CLlC, felly mae'n ofynnol i'r CLlC adolygu'r rhain a'u diwygio neu eu diweddaru lle bo angen. 

Mae 18 o Is-ddeddfau i gyd a hyd yma, mae 14 o'r Is-ddeddfau wedi'u prosesu a'u cyflwyno i'r CLlC gan dîm y ffrwd waith Gyfreithiol, ac maent naill ai wedi'u mabwysiadu gan y CLlC neu yn barod i'w mabwysiadu yn dilyn mân ddiwygiadau y cytunwyd arnyn nhw, gan adael pedair Is-ddeddf sy'n dal ar y gweill.  

Yn ogystal, roedd rhai tasgau llai dwys, megis sicrhau bod ein polisïau yswiriant yn cael eu trosglwyddo i YesCymru Cyf., gwneud argymhellion ynghylch cyfeiriad post ein cwmni cofrestredig a sut rydym yn ymdrin ag agweddau Ysgrifenyddol y Cwmni.

Y tasgau arwyddocaol nesaf fydd adolygu'r Is-ddeddfau ac adnabod y  penodiadau, y systemau a'r gweithdrefnau y bydd eu hangen i sicrhau ein bod yn gweithredu yn unol â'r Is-ddeddfau, a sicrhau bod yr Is-ddeddfau'n cael eu diweddaru.

Amlinelliad o waith y tîm cyfathrebu

Blaenoriaeth gynnar y Tîm Cyfathrebu oedd ailgysylltu'r CLlC â'r aelodaeth ehangach a’r ymgyrchu ar lawr gwlad. Penderfynwyd y byddai cylchlythyr yn arf cyfathrebu da a ffocws y cylchlythyr yw'r ymgyrchu llawr gwlad a'r grwpiau. Cynhyrchir dwy fersiwn ychydig yn wahanol o'r cylchlythyr bob wythnos - un ar gyfer ein 10,000 o aelodau ac un ar gyfer yr 20,000 o'n cefnogwyr. 
Sefydlwyd y cyfrif e-bost [email protected] i annog aelodau i rannu'r lluniau o ymgyrchu ar lawr gwlad gyda chynulleidfa eang drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol YesCymru. Os oes gennych chi luniau i'w rhannu danfonwch nhw aton ni.

Er bod asiantaeth greadigol yn helpu i gynnal ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, daeth y cytundeb i ben ddiwedd mis Ionawr, cytunwyd i barhau i weithio gyda nhw tan ddiwedd mis Mawrth fel rhan o broses drosglwyddo, ac mae proses gaffael mewn lle i benodi cyflenwyr newydd.

Cytunwyd ar strategaeth tymor byr, a bod ail-gydio ar ymgyrchu, aelodau, a sylfaen YesCymru ar lawr gwlad yn flaenoriaeth, a bod symud y pwyslais oddi wrth materion mewnol a fu'n rhan mor amlwg o gyfathrebu'r misoedd diwethaf (h.y. y Gweithgor, yr EGM, ac etholiadau). Roedd cyfuniad o'r strategaeth hon ac aelodau yn ail-ddechrau ymgyrchu ar lawr gwlad yn sylfaen dda i'r Tîm Cyfathrebu gychwyn y gwaith o gyfathrebu gyda’r aelodau a thu hwnt.

Amlinelliad o waith y tîm grwpiau

Dechreuodd y Tîm Grwpiau arni ar ôl y tri thîm ffrwd gwaith cyntaf, ond mae wedi gwneud cynnydd yn barod i sefydlu nifer o strwythurau gofynnol yr Erthyglau Cymdeithasiad a'r Is-ddeddfau. Mae'r 5 Cyngor Rhanbarthol wedi'u sefydlu, a phob un ohonynt wedi cynnal eu cyfarfod cyntaf. Dylai hyn baratoi'r ffordd ar gyfer cyfarfod cyntaf y Cyngor Dirprwyon yn ddiweddarach eleni. 

Mae arolwg o'r grwpiau ar waith, er mwyn i ni weld pa grwpiau sy'n dal i fod yn weithredol neu sydd wedi cyfuno â grwpiau eraill. Mae rhai grwpiau wedi'u nodi fel rhai sy'n weithredol ar lawr gwlad ar hyn o bryd, tra bod eraill yn weithredol ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd cyfle yn yr holiadur i grwpiau ddweud yn agored pa adnoddau yr hoffen nhw eu derbyn i gynorthwyo eu gwaith ymgyrchu.
Mae gwaith eisoes ar y gweill i gynnal sesiynau hyfforddi i alluogi arweinwyr grwpiau wneud y defnydd gorau posibl o'n system aelodaeth.

Mae’r gwaith ymgysylltu â grwpiau sydd yn cael eu hystyried yn 'achrededig' dan y cyfansoddiad newydd, yn ogystal â ffurfio mecanweithiau i alluogi grwpiau 'cyswllt' i ddatblygu'n grwpiau wedi'u hachredu'n llawn, wedi dechrau. Mae arolwg ar y gweill i ymchwilio i'r amrywiaeth yn ein grwpiau. Bydd y wybodaeth yn ein galluogi i fonitro effeithiolrwydd ein Polisi Cyfle Cyfartal a chyflawni gofynion cyfreithiol Deddf Cydraddoldeb 2010.

Bydd cylchlythyr bob deufis i ddiweddaru arweinwyr grwpiau.

Swyddi Penodedig

Mewn cyfarfod llawn yn diweddar cytunwyd i ddyrannu swyddi penodol:

Cadeirydd                                            -  Elfed Williams
Is-Gadeirydd                                        -  Nerys Jenkins
Arweinydd Cyfreithiol                            -  Louise Aikman
Arweinydd Ariannol                               -  Elfed Williams
Arweinydd ymgysylltu â’r grwpiau          -  Christine Moore
Arweinydd Cyfathrebu                           -  Geraint Thomas
Arweinydd Ymgyrchu a Gorymdeithiau    -  Phyl Griffiths
Arweinydd uned Ymchwil                       -  George Hudson & Richard Huw Morgan


Cynlluniau sydd ar y gweill

Mae'r CLlC a'n partneriaid wedi bod yn gweithio ar y prosiectau canlynol hyd yn hyn a byddant yn sail i'n hymgyrchu tymor canolig am y misoedd nesaf.

Arolwg Sgiliau

Byddwn ni'n e-bostio arolwg at ein holl aelodau i weld pa sgiliau sydd gennym yn y mudiad.  Cytunwyd bod angen i'n hymgyrchu ddigwydd ar sawl ffrynt felly mae galw am lu o sgiliau: rhai ymarferol, eraill yn dechnegol; sgiliau trefnu a llawer iawn mwy.  Mae cyfoeth o brofiad a thalent ymhlith ein haelodau, a bydd manteisio ar ganran fach o hynny alluogi YesCymru i ymgyrchu yn fwy ac yn well.  

Bydd canlyniad yr archwiliad sgiliau yn rhan o gronfa ddata'r aelodau, a bydd yn galluogi'r CLlC i feithrin cysylltiadau cryf ag aelodau ar lawr gwlad, a dod â'n haelodau i flaen y gad wrth gynllunio yn y tymor hir.

Papur Newydd YesCymru

Yn sgil llwyddiant papur newydd YesCymru y llynedd, mae ail rifyn ar y gweill. Cyfleu'r neges am annibyniaeth i gynulleidfa eang yw'r prif nod, cynulleidfa nad yw fel arfer yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd eraill, neu ffrydiau ar-lein.  O ran hynny, rhoddodd y papur newydd ffocws i grwpiau ac unigolion ar eu hymgyrchu am gyfnod, gan uno grwpiau ar ôl cyfnod o feth ymgyrchu oherwydd Covid.  Gobeithiwn adeiladu ar lwyddiant y rhifyn cyntaf gyda'r ail rifyn hwn sydd i'w gyhoeddi ddiwedd y gwanwyn.

Gwefan Newydd

Mae gwefan newydd YesCymru wrthi'n cael ei hadeiladu. Bydd y wefan newydd wedi ei gosod mewn ffordd fydd yn ei gwneud yn haws dod o hyd i bopeth. Bydd yn rhoi mwy o le i newyddion ac erthyglau, yn integreiddio'n llawn â meddalwedd cronfa ddata YesCymru, ac yn cynnig mwy i'r rhai sy'n chwilfrydig am annibyniaeth wrth ymweld â'r wefan i ryngweithio â YesCymru gyda'r bwriad iddynt ddod yn rhan o'n hymgyrch dros Annibyniaeth i Gymru yn y pen draw.

Taflen Newydd

Er mwyn diweddaru ein deunydd ymgyrchu mae YesCymru yn bwriadu gwella ar y taflenni sydd ar gael. Mae'r daflen newydd gyntaf eisoes wedi gadael y wasg - taflen ar gynhyrchu ynni a thrydan a thlodi tanwydd.  Diolch i YesMerthyrTudful am ei dylunio a chaniatáu i ni argraffu'r daflen i'w ddefnyddio ledled y wlad.

Eisteddfod

Ar ôl bwlch o ddwy flynedd, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn mynd i Dregaron eleni. Bydd gan YesCymru stondin ar y Maes a sesiwn ym Mhabell y Cymdeithasau. Unwaith eto gobeithiwn y bydd stondin YesCymru yn gymaint o ganolbwynt â pafiliwn! -  ac yn lle y gall pawb ddod i brynu eu nwyddau YesCymru am y flwyddyn i ddod.

Uned Ymchwil

Wrth gychwyn tîm ymchwil YesCymru rydym yn gobeithio adeiladu cronfa o ddeunydd ysgrifenedig a fydd yn sylfaen i'n hymgyrchu.  Bydd yr allbwn yn amrywio o bapurau o safon academaidd, traethodau hir ac erthyglau ffocws byr.  Bydd y ffrwd yma o wybodaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer pob rhan o'n hymgyrchu, o ddiweddaru ein llyfryn 'Annibyniaeth yn dy Boced' i daflenni ar bynciau penodol a chynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.

Gorymdaith Wrecsam

Bydd YesCymru yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o drefnu'r orymdaith annibyniaeth yn Wrecsam ar yr 2il o Orffennaf, ac yn gweithio'n agos gyda'r pwyllgor trefnu lleol ac AUOB i wneud hon yr orymdaith dros annibyniaeth orau eto.  Y tro hwn, bydd y digwyddiad yn llawer mwy na gorymdaith, bydd gŵyl annibyniaeth yn digwydd drwy'r penwythnos cyfan, Bydd yr ŵyl yn cynnwys cerddoriaeth a digwyddiadau byw dros nos Wener, dydd Sadwrn a dydd Sul, a bydd y ddigwyddiad yng nghanol y dref ac ar gyfer y gymuned gyfan. Cyhoeddir rhagor o wybodaeth wrth i'r manylion gael eu cadarnhau.

Ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ail orymdaith y flwyddyn yng Nghaerdydd yn yr Hydref wrth gwrs.

Merthyr Rising

Bydd gan YesCymru bresenoldeb yn yr ŵyl gerddoriaeth a chysyniadau radical hon ar 10-12 Mehefin 2022. Ar ôl tyfu'n rhy fawr i'w lleoliad yn Sgwâr Penderyn, eleni mae'r ŵyl yn symud i babell fawr ym Mharc Cyfarthfa, Merthyr Tudful.  Bydd gan YesCymru stondin yn y brif babell gyda gwybodaeth, nwyddau a chyfle i recriwtio aelodau newydd.
Rydym ni hefyd wedi cael gwahoddiad i drefnu sgwrs am annibyniaeth ar y prif lwyfan ar y bore Sadwrn. Bydd aelodau YesCymru sy'n mynychu'r ŵyl yn gallu prynu tocyn gostyngol ar gyfer yr ŵyl .

Mae mwy o wybodaeth - https://www.merthyrrising.uk

Gobeithion y CLlC am y misoedd i ddod

Perthynas y CLlC a’r grwpiau

Mae'r CLlC yn gobeithio galluogi aelodau a grwpiau i ymgyrchu ar lawr gwlad mor effeithiol â phosib. Rydym yn sylweddoli mai ymgyrchu ein haelodau a'n grwpiau o ddydd i ddydd yw rheng flaen ein hymgyrch.  Ein nod felly yw gosod yr holl strwythurau a phrosesau sydd eu hangen i sicrhau bod y berthynas hon yn tyfu mewn modd llyfn a di-drafferth.  Bydd hyn yn cynnwys cyfathrebu da, anogaeth i ymgyrchu drwy gymorth ariannol a chyfathrebu cenedlaethol.  Byddwn hefyd yn gweithio i annog aelodau nad ydynt o bosibl yn chwarae rhan ymarferol mewn gweithgareddau grŵp i ymuno â rhwydweithiau lleol, ac yn ceisio cael mwy o aelodau i ymgyrchu hyderus.

Ymgyrchu Rhanbarthol

Gyda chreu Cynghorau Rhanbarthol, crëwyd deinameg arall yn ein mudiad. Bydd cyfarfodydd strategol aml yn ranbarthol yn gyfle i gydlynu digwyddiadau er mwyn bwrw’r maen i’r wal yn y modd mwyaf effeithiol.  Er na all aelodau bwrdd CLlC YesCymru gymryd rolau arweiniol yn y Cynghorau Rhanbarthol, bydd y CLlC yn annog cydweithio rhwng grwpiau, y Cyngor Rhanbarthol, Cyngor y Dirprwyon a'r CLlC i gydgysylltu ymgyrchoedd a chynyddu dylanwad ein ymgyrchoedd hyd yn oed yn fwy.

Ymgyrchu Cenedlaethol

Mae'r CLlC yn ceisio arwain yr ymgyrch genedlaethol drwy gefnogi gorymdeithiau, darparu deunydd (taflenni, papurau newydd ac ati) a'r holl rwydweithiau, strwythurau a chymorth ymarferol sydd eu hangen. Drwy gydweithio â grwpiau eraill o blaid annibyniaeth mewn chwaraeon, cerddoriaeth a'r celfyddydau, gobeithiwn symud yr agenda yn ei blaen y tu hwnt i YesCymru ei hun. Bydd deialog barhaus gyda holl ran-ddeiliaid y mudiad annibyniaeth, gan gynnwys cynrychiolaeth ffurfiol yn y Comisiwn Annibynnol ar Gyfansoddiad Cymru, a byddwn yn annog ein haelodau i gymryd rhan ym mhroses y Comisiwn.

Strategaeth i’r tymor canol

Proffesiynoli'r mudiad

Mae bron pob un o ymdrechion yr NGB hyd yma wedi canolbwyntio ar broffesiynoli YesCymru.  Fel i ni grybwyll eisoes, mae hyn yn cynnwys llawer o fframweithiau a phrosesau cyfreithiol ac ariannol.  Mae llawer o'r gwaith hwn yn barhad o'r gwaith a wnaed gan y Gweithgor yn y cyfnod cyn y EGM ym mis Rhagfyr.  Dylai'r prosesau hyn fod o gymorth i YesCymru am flynyddoedd i ddod, a chaniatáu i ni ymdopi gyda chynnydd aelodaeth a gwella capasiti ymgyrchu.

Cynyddu Cyfranogiad Ar Lawr Gwlad

Fel yr ail sefydliad gwleidyddol mwyaf yng Nghymru, mae YesCymru am fanteisio ar gapasiti ymgyrchu ein aelodaeth.  Er y bydd canran fawr o'n haelodau yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn ymgyrchu gweithredol, byddwn yn ceisio annog a galluogi cynifer o aelodau a chefnogwyr â phosibl i gymryd rhan mewn ymgyrchu ar lawr gwlad.  Fel llawer o sefydliadau ymgyrchu, bydd canran o aelodau a chefnogwyr braidd yn swil.  Bydd yr NGB yn ceisio galluogi aelodau i fod yn hyderus wrth ymgyrchu dros y misoedd nesaf.  Gallai hyn olygu cynyddu nifer ac amrywiaeth y digwyddiadau a'r ymgyrchoedd i weddu i ddemograffeg wahanol, a chreu cysylltiad rhwng aelodau a grwpiau (grwpiau lleol a grwpiau diddordeb).

Gyrru'r agenda Annibyniaeth yn y cyfryngau unwaith eto

Yn y gorffennol bu YesCymru yn llwyddiannus yn gwthio trafodaeth ar annibyniaeth i Gymru i dop yr agenda wleidyddol ac ar y cyfryngau. Drwy ddatblygu a chydlynu ein hymgyrchoedd yn lleol ac yn genedlaethol a thargedu y cyfryngau traddodiadol a’r cyfryngau cymdeithasol yn benodol, dylai YesCymru anelu nid yn unig at arwain y ddadl ar annibyniaeth, ond at ei gyrru ymlaen yn barhaol.  Nid fydd hyn yn hawdd gan fod y byd newyddion wedi newid yn ddiweddar, a bydd angen tipyn o ymdrech ac adnoddau i wneud y gwaith hwn, ond bydd ceisio bwrw’r maen i’r wal yn gonglfaen i strategaeth YesCymru yn y tymor canolig a'r hirdymor.

Ymgysylltu â  grwpiau Demograffig pwysig

Un arall o flaenoriaethau strategol yr CLlC yw ymgysylltu â grwpiau demograffig a rhannau o gymdeithas o bwys a'u tynnu i'r mudiad annibyniaeth drwy amrywio'r ffordd rydym yn ymgyrchu.  Drwy nodi demograffeg a sectorau allweddol -  cymdeithasau a chymunedau a fydd yn allweddol i ennill y mwyafrif sydd ei angen mewn refferendwm - gallwn ddechrau ymgysylltu gyda’r grwpiau hyn yn awr.  Gallai hyn gynnwys strategaethau ymgyrchu anuniongyrchol fel cerddoriaeth, chwaraeon a'r celfyddydau er enghraifft. Bydd cysylltu'r mudiad annibyniaeth â diwylliannau penodol (y sin gerddoriaeth, neu rwydweithiau cefnogwyr timau chwaraeon dyweder) yn helpu rhai grwpiau nad ydynt yn ymwneud â gwleidyddiaeth fel arfer i yrru'r agenda dros annibyniaeth yn ei blaen ledled Cymru.

Dyma rai o’r pethau sydd wedi eu cyflawni, prosiectau sydd ar y gweill a syniadau cynnar CLlC newydd YesCymru.  Mae'n siŵr y bydd yr elfennau hyn yn esblygu dros amser, a bydd angen eu hadolygu'n aml wrth i'r mudiad a'r hinsawdd wleidyddol newid. 

Diolch am ddarllen y nodyn hwn am y diweddaraf o fewn y mudiad, mae croeso i chi roi adborth.

Darllenwch fwy

Edrych I'r Dyfodol

Fuo ‘na erioed amser cyn nawr (wel, nid ers 1406) pan mae’r freuddwyd o Gymru annibynnol wedi ymddangos mor ddiriaethol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae syniad wedi cydio y gallwn ni gyflawni hyn. Gallwn sefyll ar ein traed ein hunain a gwneud yn well ‘na’r hyn sy’n cael ei ganiatáu i ni ar hyn o bryd, wastad ar drugaredd penderfyniadau a wneir ymhell o Gymru. I lawer o bobl, dechreuodd YesCymru ddangos y golau ar ddiwedd y twnel fel sefydliad a oedd yn croesi cysylltiadau gwleidyddol plaid ac yn annog dull unedig. 

Anogodd lawer o bobl nad oedd ganddynt unrhyw hanes o ymgysylltu gwleidyddol i gymryd rhan yn fwy uniongyrchol. I rai, roedd hyn yn golygu ymaelodi, neu ffurfio cangen gartref neu yn y gwaith. Penderfynodd rhai ohonom ni sefyll fel aelodau o’r bwrdd, fel ein bod yn gallu chwarae’n rhan yn y broses hanesyddol yma.

Ein nod yw datblygu dulliau gweithredu llawr gwlad, mynd yn ol allan a siarad â chymunedau dros Gymru, a threfnu’r mudiad drwy ddod yn bresenoldeb gweladwy ledled Cymru. Mae llwyddiant dosbarthiad y papurau newydd yn ein hatgoffa i barhau i feithrin a thyfu ysbryd actifiaeth gymunedol.

Mae potensial Cymru yn wirioneddol dechrau cyffroi pobl, ac maent yn dechrau ymgymryd mewn bod yn rhan o ddyfodol Cymru. Felly, mae'n naturiol bod pawb eisiau dod â'u meddyliau a'u syniadau eu hunain ymlaen ynglŷn â sut y dylai edrych a’r daith y dylen ni ei gymryd i gyrraedd yno. Rydym ni fel y Pwyllgor Canolog yn siarad ag aelodau a changhennau ac yn gwneud ein gorau i roi mesurau ar waith a all sicrhau y bydd aelodau'n cael cyfle i fowldio siâp y mudiad.

Mae'r pwyllgor yn wirfoddolwyr ac yn rhoi eu hamser a'u sgiliau am ddim, gyda nod cyffredin: Cymru annibynnol. Ni fydd pawb yn cytuno â'i gilydd ac rydyn ni'n ceisio newid y ffordd rydyn ni'n gwneud pethau er mwyn dod â'r aelodaeth a'r Pwyllgor ynghyd.

Ond os gwelwch yn dda, ni ddylai unrhyw un, aelod pwyllgor nac aelodaeth ehangach, orfod dioddef camdriniaeth, ensyniadau, ymosodiadau personol na chael eu henw da wedi’i bardduo. Mae yna ymdeimlad gwirioneddol o gyffro a brwdfrydedd ac mae aelodau'n ddiamynedd i'r mudiad symud ymlaen, ond mae'n bwysig ein bod ni'n ei wneud yn y ffordd iawn.

Rydyn ni i gyd eisiau sicrhau bod YesCymru yn agored, yn deg, yn gynhwysol ac yn gynrychioliadol, ac yn ofod lle gallwn ni gael dadl adeiladol am siâp Cymru’r dyfodol.

Darllenwch fwy

Datganiad Gwrth-Aflonyddu

Gwnaed YesCymru yn ymwybodol bod aelodau pwyllgor canolog YesCymru a staff YesCymru wedi’u tagedu a'u haflonyddu, ni fyddwn ni fel sefydliad yn goddef aflonyddu na chamdriniaeth o aelodau pwyllgor a staff.

Mae gan YesCymru ddyletswydd gofal, a chyfrifoldeb dros les aelodau ein pwyllgor canolog a'n staff, rydym yn cymryd hynny o ddifrif.

Cyflogir staff YesCymru i weithredu ar ran y pwyllgor canolog etholedig, nid yw'r staff yn gwneud penderfyniadau democrataidd, mae'r pwyllgor canolog yn gwneud hynny. Felly os yw aelod am godi mater neu gyflwyno awgrym ynglŷn â'r sefydliad, rydym yn eu cynghori i wneud hynny trwy'r sianeli cywir, aelodau eu pwyllgor etholedig.

Mae aelodau pwyllgor YesCymru yn cael eu hethol i weithredu ar ran yr aelodau, ac mae'n ddemocrataidd gywir a theg i aelodau ofyn cwestiynau iddynt, a chodi syniadau. Mae YesCymru wedi sefydlu llwybrau addas i wneud hynny, am ragor o wybodaeth gweler adran ‘Cymryd Rhan’ ar wefan YesCymru. Ee; cyn bo hir byddwn yn lansio ein caffi ar-lein cyntaf i aelodau, y gall unrhyw aelod ei fynychu!

Gofynnwn i bob aelod ddefnyddio'r sianeli perthnasol a phriodol i gysylltu ag aelodau’r pwyllgor canolog.

YesCymru yw un o sefydliadau gwleidyddol mwyaf Cymru, a’r mudiadau gwleidyddol sy’n tyfu gyflymaf yn y DU! Rydym ni fel sefydliad yn cydnabod na fydd ein gwrthwynebwyr yn gweithredu yn yr ysbryd gorau ac y byddant yn ceisio tanseilio'r sefydliad. O'r herwydd, gofynnwn i aelodau ddefnyddio’r sianeli a phrosesau priodol i gysylltu ag aelodau pwyllgor canolog, fel y gallwn ymateb yn iawn i'ch syniadau a'ch cwestiynau.


Pwyllgor Canolog YesCymru

Darllenwch fwy

Cefnogaeth i Annibyniaeth yn parhau i gynyddu

Mae YesCymru wedi rhyddhau canfyddiadau arolwg barn YouGov a gomisiynwyd yr wythnos hon. Mae'r canlyniadau yn dangos y byddai traean (33%) o bobl Cymru oedd â barn yn pleidleisio dros annibyniaeth pe bai refferendwm yn cael ei gynnal yfory.

Dywedodd Sion Jobbins, Cadeirydd YesCymru,:

“Mae’r gefnogaeth i annibyniaeth gyda’r cryfaf y bu erioed, gyda 33% o bobl Cymru bellach yn dweud y byddent yn pleidleisio dros annibyniaeth pe bai refferendwm yn cael ei gynnal yfory. Mae hynny'n gynnydd o 6 phwynt o fis Ionawr, a chynnydd enfawr o 11 pwynt ers mis Rhagfyr y llynedd.


“Mae’n amlwg bod mwy a mwy o bobl yn dod i’r casgliad nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru. Ry’n ni wedi gweld hyn nid yn unig gyda chanlyniadau arolygon barn, ond gydag ymchwydd enfawr yn aelodaeth YesCymru, a gyrhaeddodd 15,000 yn ddiweddar, lle'r oeddem tua 2,500 ym mis Ionawr. Mae hynny'n fwy o aelodau na bron pob plaid wleidyddol yng Nghymru.

“Yn wyneb sylwadau Boris Johnson bod datganoli yn ‘drychineb’, a gyda’n arolwg barn diweddaraf yn dangos y byddai 59% yn pleidleisio dros devo-max mewn refferendwm - y nesa peth at annibyniaeth - mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru feddwl o ddifri beth mae’n dymuno i ddigwydd, a gwneud ei safbwynt ar gyfansoddiad y Deyrnas Gyfunol yn hollol glir. Nid yw'r status quo yn opsiwn mwyach.

“Mae pobl Cymru eisiau newid, ond nid yw’r newid hwnnw yn mynd i ddod gan San Steffan. Mae newid yn digwydd ym meddyliau pobl ledled Cymru, ond gydag etholiadau’r Senedd ar y gorwel, mae angen ei adlewyrchu yn yr aelodau sy’n cael eu hethol i’r Senedd. Mae'n rhaid i ni bleidleisio dros bobl na fyddant yn aros am orchmynion gan San Steffan, mae'n rhaid i ni bleidleisio dros y newid rydyn ni ei eisiau.”

Darllenwch fwy

Cefnogaeth sylweddol dros roi mwy o rymoedd i'r Senedd

Mae arolwg barn newydd yn dangos bod cefnogaeth sylweddol i drosglwyddo rhagor o rymoedd i Senedd Cymru.

Mewn arolwg barn gan YouGov ar ran YesCymru, yr ymgyrch dros Gymru annibynnol, dywedodd 59% o ymatebwyr â barn ac a fyddai’n pleidleisio y byddent yn cefnogi opsiwn “devo-max” mewn refferendwm.

Byddai’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘devo-max’ yn golygu trosglwyddo grymoedd o San Steffan i Senedd Cymru yng Nghaerdydd, byddai’n cynnwys rheolaeth dros drethi a lles, a byddai’r nesa peth at annibyniaeth. 

Dywedodd Cadeirydd YesCymru, Sion Jobbins: 

“Yn wyneb sylwadau Boris Johnson bod datganoli yn ‘gamgymeriad’ mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru feddwl o ddifri beth mae’n dymuno i ddigwydd a gwneud ei safbwynt ar gyfansoddiad y Deyrnas Gyfunol yn hollol glir. Mae’n amlwg bod pobl Cymru yn gweld gwerth datganoli, ond gyda hynny dan fygythiad gan y Ceidwadwyr yn San Steffan mae angen i ni i gyd uno er mwyn amddiffyn ein democratiaeth.

“Bydd Ceidwadwyr Johnson gyda ni am bedair mlynedd arall yn San Steffan. Maen nhw ar dân eisiau cael gwared â’n Senedd felly beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’w wneud i amddiffyn a chryfhau ein Senedd? 

“Y ffordd orau i amddiffyn pobl Cymru yw i bobl Cymru fod â rheolaeth dros ei faterion ei hun, a bod yn wlad annibynnol. Bydden ni yn yr un sefyllfa â Gweriniaeth Iwerddon wedyn; all San Steffan ddim cael gwared ar senedd Iwerddon ar fympwy. Dydy hynny ddim ar y bwrdd ar hyn o bryd, ond gallai fod, dim ond i ni sicrhau ei fod yn fater trafod yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai.

“Bu twf aruthrol yn nifer aelodau YesCymru dros yr wythnosau diwethaf, mae gyda ni dros 15,000 o aelodau erbyn hyn. Ond mae rhywbeth i’w ddweud am y ffaith nad yw’r un blaid wleidyddol wedi gweld twf o’r fath. Mae yna ddyhead gwirioneddol am newid ond dydy pobl ddim yn teimlo mai trwy bleidiau gwleidyddol y bydd y newid hynny’n digwydd. All yr un plaid wleidyddol gymeryd cefnogwyr YesCymru yn ganiataol. 

“O’r ddwy brif blaid unoliaethol yng Nghymru dim ond safbwynt y Ceidwadwyr sy’n glir - maen nhw eisiau dadwneud datganoli. Mae bryd nawr i’r Blaid Lafur ddatgan ei safbwynt am y sefyllfa gyfansoddiadol. Dydy aros i’r Blaid Lafur ennill grym yn San Steffan yn 2024 ddim yn opsiwn, yn enwedig o ystyried bod y Ceidwadwyr yn bwriadu cael gwared o 20% o seddi Cymreig, a’i bod yn debygol y bydd yr Alban wedi gadael San Steffan erbyn hynny.”

Roedd cefnogaeth i gynyddu grymodd y Senedd trwy ‘devo-max’ ym mhob rhan o Gymru, dywedodd 64% o ymatebwyr oed â barn yng Nghaerdydd a chanol de Cymru y byddent yn pleidleisio dros hynny, dyna lle gwelwyd y gefnogaeth fwyaf.

Roedd cefnogaeth sylweddol i devo-max ymysg ymatebwyr ifanc hefyd, dywedodd 82% o’r rhai rhwng 18-24 oedd â barn y byddent yn pleidleisio dros ragor o rymoedd i Gymru.


Y cwestiwn a ofynwyd oedd: "Pe bai refferendwm yfory ar drosglwyddo mwy o bwerau i Senedd Cymru, gan gynnwys rheoli treth a lles, ond heb gynnwys amddiffyn a materion tramor, sut fyddech chi'n pleidleisio? A ddylid trosglwyddo mwy o bwerau i' Senedd Cymru?"

Cymru
DYLID 59%

Grwpiau oedran
18-24 - DYLID 82%
25-49 - DYLID 73%
50-64 - DYLID 51%
65+ - DYLID 43%

Ardaloedd
Caerdydd a Canol De - DYLID 64%
Dwyrain De - DYLID 63%
Y canolbarth a’r gorllewin - DYLID 61%
Gogledd  - DYLID 53%
Gorllewin De - DYLID 52%

Mae'r canlyniadau yn llawn ar gael yma (pdf).

Darllenwch fwy

Aelodaeth YesCymru yn cyrraedd 15,000

Ar ddechrau'r flwyddyn roedd gan YesCymru tua 2,500 o aelodau, ond mae cyfuniad o ffactorau wedi sicrhau fod yr ymgyrch dros annibyniaeth wedi mynd o nerth i nerth. Roedd yr aelodaeth wedi mwy na threblu i dros 8,000 erbyn canol mis Hydref, ac erbyn hyn mae bron wedi dyblu unwaith eto i dros 15,000 o aelodau taledig mewn 3 wythnos.

Croesawodd Sion Jobbins, Cadeirydd YesCymru, yr aelodau newydd, meddai: “Mae hyn yn newyddion gwych! Mae YesCymru yn benderfynol o greu mudiad torfol croesawgar, lliwgar a blaengar dros annibyniaeth. Rydym yn credu y bydd yna refferendwm dros annibyniaeth yn yr Alban yn y blynyddoedd nesa, ac yna ail-uno Iwerddon. Felly beth fydd yn digwydd i Gymru?"

"Mae’r ffordd mae San Steffan wedi ymdrin â COVID-19 wedi dangos i bobl Cymru y gall ein Senedd weithredu yn llawer mwy effeithiol na San Steffan."

"Ar yr adegau mae ein Senedd wedi anwybyddu San Steffan a rhoi Cymru yn gyntaf, rydym wedi gweithredu yn fwy effeithiol. Cafodd y clo pythefnos yng Nghymru, sy’n anodd ac yn straen ar bob un ohonom, ei watwar gan San Steffan a rhannau o’r cyfryngau Llundeinig. Ond erbyn hyn mae Llywodraeth San Steffan wedi gorfod gosod cyfnod clo yn Lloegr, ac am fwy o amser. Lle mae Cymru yn arwain, mae eraill yn dilyn."

"Ond nid yw datganoli yn ddigonol. Rhaid i ni sicrhau annibyniaeth."

"Nid San Steffan yw’r ateb i’n problemau. Ym Mesur y Farchnad Fewnol - dan gochl dogfen ddiflas nad oes angen i ni yng Nghymru boeni amdani - cymerodd San Steffan bwerau oddi ar ein Senedd, pwerau yr ydym wedi'u hennill mewn dau refferendwm."

"Rydym wedi gweld y Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain yn rhoi contractau gwerth biliynau i'w ffrindiau, gydag arian yn cael ei dalu ymlaen llaw i gwmnïau newydd sbon ddarparu PPE sydd ddim yn gweithio. Cafodd tua £12bn – mwy na’r gyllideb iechyd cyfan yng Nghymru – ei wastraffu ar system trac ac olrhain sydd braidd yn gweithio!"

"Nid yw San Steffan yn poeni am Gymru. Gofynnodd Prif Weinidog Cymru i San Steffan am arian, a hyd yn oed addo ei ad-dalu, i gefnogi ein busnesau a’n pobl. Dywedodd San Steffan “NA”. Pan gyhoeddodd Johnson y cloi mis o hyd yn Lloegr, yn sydyn roedd arian diddiwedd ar gael!"

"Mae’r aelodau newydd hyn wedi ychwanegu hwb enfawr i’r mudiad. Mae ein haelodau yn fywiog ac yn angerddol yn eu penderfyniad i adeiladu Cymru newydd sy'n gofalu ar ôl holl drigolion Cymru."

"Mae 2021 yn mynd i fod yn flwyddyn ddiddorol iawn yn hanes Cymru, a dwi’n sicr y bydd YesCymru a’r ymgyrch dros annibyniaeth yn parhau i fynd o nerth i nerth."

Darllenwch fwy