Fe wnaeth YesCymru gyhoeddi’r ddogfen fwyaf gynhwysfawr dros annibyniaeth i Gymru i erioed gael ei chyhoeddi yn Aberystwyth heddiw.
Cafodd argraffiad cyntaf “Annibyniaeth yn dy boced”, sy’n 64 o dudalennau o hyd ac yn dadlau’r achos dros annibyniaeth, ei roi’n rhad ac am ddim i bob aelod o fudiad YesCymru yn y gynhadledd flynyddol yn yr Hen Goleg yng nghanol tref Aberystwyth.
Lawrlwythwch gopi rhad ac am ddim o ‘Annibyniaeth yn dy boced’ (PDF)
Dywedodd Iestyn ap Rhobert, cadeirydd YesCymru:
“Hoffwn i ddiolch i’r holl bobl sydd wedi cyfrannu at y llyfryn arbennig hwn. Yn wir, gellid dadlau mai hon yw’r ddogfen fwyaf cynhwysfawr o blaid annibyniaeth i Gymru sydd erioed wedi ei chyhoeddi. Allwn ni ddim honni fod gennym yr holl atebion, ond mae’r llyfryn hwn yn cynnig sail cychwynnol pwysig a chadarnhaol ar gyfer trafodaeth. Ein gobaith yw y bydd YesCymru yn gallu newid holl naws a chynnwys y drafodaeth honno yn sylfaenol.”
“Rydyn ni’n fudiad sydd yn credu mewn dinasyddiaeth gynhwysol, sy’n croesawu pawb – o ba bynnag gefndir – sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref iddynt ac yn dewis dinasyddiaeth gwladwriaethol Gymreig. Bwriad y llyfryn hwn yw cyflwyno dadleuon o blaid annibyniaeth a herio y sefyllfa bresennol. Yn wyneb y dadleuon a gyflwynwn yma, ynghyd â’r newidiadau cyfansoddiadol cyflym all fod ar y gorwel, y cwestiwn yw: sut, bellach, y gellir anwybyddu mater annibyniaeth i Gymru, a pha achos posibl all fod o blaid y status quo?”
Fis diwethaf fe ryddhaodd YesCymru fanylion arolwg barn YouGov a oedd yn dangos fod chwarter pobl Cymru o blaid annibyniaeth i Gymru. Wrth gyfeirio at y llyfryn, ychwanegodd Iestyn ap Rhobert:
“Mae’r Deyrnas Gyfunol yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Alban yn paratoi ar gyfer ail refferendwm ar annibyniaeth. Daeth ail-uno Iwerddon yn bosibiliad real. Mae’r Deyrnas Gyfunol yn newid yn sylfaenol ac mae’n holl-bwysig na chaiff Cymru ei gadael ar ôl. Mae’r ddogfen yn ymateb i rai o gwestiynau mwyaf dyrys annibyniaeth. Sut all cenedl fach fel Cymru oroesi a ffynnu yn y byd modern? Pa adnoddau sydd gennym i’n cynnal? Sut fyddai annibyniaeth yn effeithio ar ein cymdeithas a’n heconomi? Beth fyddai’n perthynas newydd gyda’n cyd-wledydd, pell ac agos?
“Bydd unrhyw un sydd wedi dadlau dros annibyniaeth i Gymru ar hyd y blynyddoedd yn gyfarwydd iawn â’r cwestiynau a deflir atom gan bobl, p’un ai ydyn nhw’n cytuno ai peidio. Mae’r llyfryn hwn yn croesawu’r fath gwestiynau pwysig fel sail i drafodaeth adeiladol, a mawr obeithiwn y bydd peth o’r cynnwys yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar ddinasyddion Cymru i ateb dadleuon gwan a digalonnus amddiffynwyr y status quo, ac yn ein grymuso i osod yr agenda ar gyfer annibyniaeth i Gymru drwy fframio’r cwestiynau sydd heb eu gofyn hyd yma.
“Mae’r cyhoeddiad hefyd yn rhoi cyflwyniad i gymeriad newydd a dylanwadol ar lwyfan gwleidyddol Cymru – YesCymru. Crëwyd YesCymru yng Nghymru, yn haf 2014, gan griw bychan oedd yn gobeithio rhoi cymorth i’r ymgyrch dros annibyniaeth i’r Alban yn y cyfnod cyn eu refferendwm. Y gobaith a’r bwriad oedd y byddai’r egni creadigol a brofwyd dros yr haf hwnnw yn arwain at drafodaeth o ddifri yma yng Nghymru. Ers hynny tyfodd YesCymru yn gyflym, gydag aelodau a chelloedd ar draws Cymru – a thu hwnt, yn Llundain, Efrog Newydd a Phatagonia.”