Symud ymlaen o'r llywio

Chwarter poblogaeth Cymru yn ffafrio annibyniaeth (YouGov)

Byddai mwyafrif mwy i’r Ceidwadwyr yn hwb pellach

Chwarter poblogaeth Cymru yn ffafrio annibyniaeth

Mae chwarter pobl Cymru o blaid annibyniaeth i Gymru, gyda’r gefnogaeth yn cynyddu i draean pe bai’r Ceidwadwyr yn cynyddu eu mwyafrif yn San Steffan, yn ôl arolwg barn newydd gan YouGov ar ran YesCymru.

Gofynnwyd i bobl raddio eu cefnogaeth i annibyniaeth rhwng dim a deg. Roedd 26% yn ffafrio annibyniaeth ac 16% arall ddim o blaid nac yn erbyn, gyda 47% yn erbyn. Pleidleiswyr Llafur a Phlaid Cymru a’r rhai rhwng 18-49 oed oedd fwyaf cefnogol i annibyniaeth, gyda’r Ceidwadwyr a UKIP y lleiaf ffafriol i’r syniad.

Pan ofynnwyd i’r un bobl sut byddent yn teimlo pe bai’r Ceidwadwyr yn cynyddu eu mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin yn yr etholiadau ar 8fed Mehefin, roedd y gefnogaeth yn cynyddu i 32%. Gan eithrio’r rhai nad oeddent yn gwybod, byddai 36% yn ffafrio annibyniaeth pe bai May mewn safle diogel yn Stryd Downing wedi’r etholiad.

Yn syfrdanol, ag eithrio’r rhai oedd heb benderfynu, byddai 47% o bleidleiswyr Llafur yn ffafrio annibyniaeth o dan y senario hon, gyda 23% yn dweud eu bod yn ‘gryf o blaid’.

Mewn ymateb i’r newyddion, meddai Iestyn ap Rhobert, Cadeirydd Yes Cymru:

"Mae’r canlyniadau hyn yn wirioneddol wych i’r ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru. Yn wir, testun calondid o’r mwyaf yw gweld bod cymaint o gefnogaeth drawsbleidiol, a hynny heb i’r un blaid wneud yr achos. Mae’n rhaid i’r pleidiau gwleidyddol adael i bobl Cymru benderfynu ar dynged ein cenedl – ni’r bobol biau’r ymgyrch hon, ac mae hi ar gerdded.

"Mae hyn yn hwb mawr i ni wrth i ni baratoi at ein cyfarfod blynyddol yn Aberystwyth fis nesa. Ein nod yw ennill annibyniaeth i Gymru er mwyn gwella’r ffordd mae’n gwlad yn cael ei llywodraethu. Ry’n ni’n credu mewn dinasyddiaeth gynhwysol, sy’n croesawu a dathlu’r ffaith bod pob un sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref iddynt – beth bynnag eu cefndir – yn ddinasyddion llawn y Gymru newydd.

"Heb gefnogaeth y gwleidyddion, byddwn ni’n gwneud yr achos bod Cymru, fel cenhedloedd bychain eraill y byd, yn well yn rheoli eu hunain fel rhan o deulu Ewropeaidd a rhyngwladol ehangach. Wedi’r cwbl, mae’n gwneud synnwyr perffaith y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru. Mae gyda ni’r hawl i fod yn genedl annibynnol a does dim dwyfol hawl gan San Steffan i deyrnasu drosom."

Mae Yes Cymru yn cynnal eu cyfarfod blynyddol yn Aberystwyth ddydd Sadwrn 17eg Mehefin.

Data yn llawn.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.