Rydym ni ar y Pwyllgor Canolog yn ymwybodol o ymddygiad ar-lein a oedd angen gweithredu ar unwaith. O'u herwydd, rydym wedi bod mewn cyswllt â’r heddlu a’r llwyfannau ar-lein perthnasol wrth i ni ymchwilio ymhellach.
Os canfyddir bod y cyfrifon dan sylw yn aelodau, yna byddwn yn atal eu haelodaeth tra fod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Yn dilyn ein twf anhygoel a llwyddiannau dros y 18 mis diwethaf, hoffem wneud ein aelodau'n ymwybodol o nifer o leisiau sy'n honni yn gelwyddog eu bod yn cefnogi YesCymru a rhai yn awgrymu neu'n hawlio aelodaeth ffug. Efallai y bydd rhai o'r rhain hyd yn oed yn dweud eu bod yn rhan o'r mudiad annibyniaeth ehangach.
Fe ddylem ni fel y CC, fel aelodau, ac fel grwpiau gweithredol wneud pob ymdrech i ddiystyru’r lleisiau ffug yma lle bo’u bwriadau tuag at ein mudiad mewn yn annidwyll ac yn ddinistriol.
Gofynnwn i bob un ohonom wneud pob ymdrech i gwestiynu a dilysu gwybodaeth sy'n cylchredeg neu sydd wedi ein cyrraedd yn ail law. Rydym yn ymgyrch ddemocrataidd ac mae democratiaeth yn ffynnu yn y goleuni - cofiwch gadarnhau gwybodaeth ar-lein bob amser.
Mae ein mudiad ar gyfer holl bobl Cymru. EinCymru YesCymru . Ni fyddwn yn goddef anoddefgarwch.