Mae YesCymru wedi rhyddhau canfyddiadau arolwg barn YouGov a gomisiynwyd yr wythnos hon. Mae'r canlyniadau yn dangos y byddai traean (33%) o bobl Cymru oedd â barn yn pleidleisio dros annibyniaeth pe bai refferendwm yn cael ei gynnal yfory.
Dywedodd Sion Jobbins, Cadeirydd YesCymru,:
“Mae’r gefnogaeth i annibyniaeth gyda’r cryfaf y bu erioed, gyda 33% o bobl Cymru bellach yn dweud y byddent yn pleidleisio dros annibyniaeth pe bai refferendwm yn cael ei gynnal yfory. Mae hynny'n gynnydd o 6 phwynt o fis Ionawr, a chynnydd enfawr o 11 pwynt ers mis Rhagfyr y llynedd.
“Mae’n amlwg bod mwy a mwy o bobl yn dod i’r casgliad nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru. Ry’n ni wedi gweld hyn nid yn unig gyda chanlyniadau arolygon barn, ond gydag ymchwydd enfawr yn aelodaeth YesCymru, a gyrhaeddodd 15,000 yn ddiweddar, lle'r oeddem tua 2,500 ym mis Ionawr. Mae hynny'n fwy o aelodau na bron pob plaid wleidyddol yng Nghymru.
“Yn wyneb sylwadau Boris Johnson bod datganoli yn ‘drychineb’, a gyda’n arolwg barn diweddaraf yn dangos y byddai 59% yn pleidleisio dros devo-max mewn refferendwm - y nesa peth at annibyniaeth - mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru feddwl o ddifri beth mae’n dymuno i ddigwydd, a gwneud ei safbwynt ar gyfansoddiad y Deyrnas Gyfunol yn hollol glir. Nid yw'r status quo yn opsiwn mwyach.
“Mae pobl Cymru eisiau newid, ond nid yw’r newid hwnnw yn mynd i ddod gan San Steffan. Mae newid yn digwydd ym meddyliau pobl ledled Cymru, ond gydag etholiadau’r Senedd ar y gorwel, mae angen ei adlewyrchu yn yr aelodau sy’n cael eu hethol i’r Senedd. Mae'n rhaid i ni bleidleisio dros bobl na fyddant yn aros am orchmynion gan San Steffan, mae'n rhaid i ni bleidleisio dros y newid rydyn ni ei eisiau.”