Comisiynwyd arolwg barn YouGov gan YesCymru - yr ymgyrch dros annibyniaeth - yn gynharach ym mis Awst, a ddangosodd y byddai tua thraean o bobl Cymru yn pleidleisio dros annibyniaeth petai refferendwm yn cael ei gynnal yfory.
Dywedodd Siôn Jobbins, Cadeirydd YesCymru:
“Mae'r arolwg barn ddiweddaraf yma yn dangos unwaith eto y byddai tua thraean o bobl Cymru yn pleidleisio dros annibyniaeth petai refferendwm yn cael ei gynnal yfory. Mae hynny’n gynnydd sylweddol ers rhai blynyddoedd yn ôl.
“Mae’n dangos hefyd bod cefnogaeth i annibyniaeth yn y prif lif ac yn drawsbleidiol, gyda 42% o’r rhai a bleidleisiodd dros y Blaid Lafur yn 2019 yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio dros annibyniaeth petai refferendwm yfory.
“Mae twf cynyddol i’r gefnogaeth dros annibyniaeth ar draws Cymru, sy'n amrywio o 26% yn y de ddwyrain i 37% yn y de orllewin. Mae hwn yn fater sy’n cyffroi pobl ar draws Cymru.
“Mae’n galonogol gweld hefyd bod y cenedlaethau iau yn gweld nad yw San Steffan yn gweithio, a bod Cymru well yn bosibl. Dywedodd 46% o bobl rhwng 16 a 24 y bydden nhw’n pleidleisio dros annibyniaeth petai refferendwm yfory.
“Gyda'r arolygon barn ddiweddaraf yn yr Alban yn awgrymu cefnogaeth o 55% dros annibyniaeth, mae angen i bobl Cymru feddwl beth ddylai ddigwydd i Gymru pan fydd yr Alban wedi ennill annibyniaeth oddi wrth San Steffan – gallwn ni ond gredu y bydd cefnogaeth i Gymru annibynnol yn uwch bryd hynny."
Arolwg Barn You Gov – YesCymru
Mae’r holl ffigyrau, oni nodir yn wahanol, gan YouGov Plc. Maint llawn y sampl oedd 1,044 o oedolion. Cynhaliwyd gwaith maes rhwng 29 o Orffennaf a 7 o Awst 2020. Cwblhawyd yr arolwg ar-lein. Mae’r ffigyrau wedi’u pwysoli ac yn gynrychioliadol o holl oedolion Cymru (16+ oed). Mae’r ffigyrau yn diystyru ddim yn pleidleisio/ ddim yn gwybod / gwrthod ateb.
Y cwestiwn a ofynnwyd oedd “Petai refferendwm yfory ar annibyniaeth i Gymru fel gwlad a dyma’r cwestiwn sut byddech chi’n pleidleisio? A ddylai Cymru fod yn Wlad annibynnol?”
Cyfanswm
32% - DYLAI
Oed - DYLAI
46% - 16-24
39% - 25-49
30% - 50-64
18% - 65+
Pleidlais yn 2019 - DYLAI
68% - Plaid Cymru
42% - Y Blaid Lafur
21% - Democratiaid Rhyddfrydol
11% - Ceidwadwyr
Rhanbarth - DYLAI
37% - Gorllewin De Cymru
36% - Caerdydd a Chanol De Cymru
34% - Canolbarth a Gorllewin
27% - Gogledd
26% - Dwyrain De Cymru
Lawrthlwythwch y Canlyniadau yn eu cyfanrwydd (pdf).