Symud ymlaen o'r llywio

Bron i dri chwarter o bobl ddim yn ymddiried yn San Steffan i warchod buddiannau Cymru

Yn ôl arolwg barn newydd dydy 72% o bobl Cymru ddim yn ymddiried yn San Steffan i warchod buddiannau pobl Cymru.

O addasu'r ffigyrau i hepgor y rhai nad oedd yn gwybod, nid yw’r canlyniadau yn rhai da i’r rhai sydd am weld yr undeb yn parhau

Mae’r arolwg barn a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf gan YouGov ar ran YesCymru - yr ymgyrch dros Gymru annibynnol -  yn dangos bod 65% o ymatebwyr yn ymddiried yn Senedd Cymru i ofalu am fuddiannau pobl Cymru ond dim ond 28% oedd sy’n ymddiried yn senedd y Deyrnas Gyfunol, gyda 72% o ymatebwyr yn dweud nad ydynt yn ymddiried yn Senedd San Steffan.

Mae’n newydd gwael i Boris Johnson hefyd pan ddaw hi at y ffordd y gwnaeth ei lywodraeth fynd i'r afael ag argyfwng Covid-19, gyda 64% o ymatebwyr yn dweud eu bod yn teimlo i lywodraeth y DG ymateb yn wael i'r pandemig.

Ar y llaw arall, roedd cefnogaeth sylweddol i'r modd yr aeth Lywodraeth Cymru i'r afael â Covid-19, dywedodd 78% i Lywodraeth Cymru wneud yn dda.

Dywedodd Cadeirydd YesCymru, Siôn Jobbins:

Mae ymddiriedaeth pobl mewn gwleidyddiaeth yn isel yn gyffredinol ond mae bron i ddwy ran o dair yn ymddiried yn Senedd Cymru i ofalu am fuddiannau pobl Cymru. Ar y llaw arall dim ond 28% sy'n ymddiried yn senedd y Deyrnas Gyfunol. Mae pobl Cymru wedi'u dychryn gydag ymateb amhriodol llywodraeth Prydain, sydd mor galon-galed a di-glem.

Mae'r argyfwng hwn wedi dangos holl ffaeleddau'r system wleidyddol Brydeinig, ac wedi dangos yn glir nad yw Llywodraeth San Steffan yn poeni dim am Gymru. Pam ddylen nhw? Does dim ots sut byddwn ni'n pleidleisio yng Nghymru, ni o hyd yn cael llywodraeth na wnaethom ni bleidleisio drosto.

Mae Covid-19 wedi dangos bod cenhedloedd annibynnol bychain, fel Seland Newydd, a'n cymdogion yng Ngweriniaeth Iwerddon yn gallu ymateb yn sydyn ac effeithiol i argyfwng rhyngwladol. Mae Cymru wedi gwneud yn dda, ond mae pobl yn dechrau meddwl faint yn well y gallen ni fod wedi gwneud petai ni'n genedl annibynnol.

"Ers dechrau argyfwng COVID-19 mae aelodaeth YesCymru wedi treblu. Mae pobl wedi gweld bod Senedd Cymru wedi delio â'r argyfwng yn well unwaith iddo beidio ildio i drefn San Steffan, ac mae nifer o bobl yn dechrau gofyn beth arall allai Cymru fod wedi gwneud yn well pe na bai wedi plygu a dilyn San Steffan yn ffyddlon. Mae cefnogaeth i annibyniaeth ar gynydd, ac mae llywodraeth drychinebus Boris Johnson yn Llundain wedi bod o gymorth mawr gyda hynny.”

Dywedodd y gwyddonydd gwleidyddol, Dafydd Trystan:

Mae dau beth trawiadol i'r data a gyhoeddwyd yn arolwg barn Yougov heddiw. Mae'r teimlad i Lywodraeth Cymru ymateb yn well i argyfwng pandemig y Coronafirws yn croesi pob plaid. Mae'r gwrthwyneb yn wir am lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, sydd heb gael ymateb ffafriol gan leiafrif sylweddol o gefnogwyr Ceidwadol hyd yn oed. Mae'n dangos hefyd bod pleidleiswyr o bob plaid yn ymddiried yn Senedd Cymru yn gyffredinol i ofalu am fuddiannau Cymru - does dim modd dweud yr un peth am Senedd y Deyrnas Gyfunol gyda phleidleiswyr Llafur yn cymryd golwg arbennig o isel o San Steffan”

 


CWESTIWN 1: Ydych chi'n meddwl i'r canlynol fynd i'r afael â phandemig y Coronafirws mewn ffordd dda neu wael?

Llywodraeth Cymru
Yn dda – 78%
Yn wael – 22%

Llywodraeth y DU
Yn dda – 36%
Yn wael – 64%

CWESTIWN 2: Faint ydych chi'n ymddiried yn y canlynol, os o gwbl, i warchod buddiannau pobl Cymru?

Senedd Cymru
Yn ymddiried – 65%
Ddim yn ymddiried – 35%

senedd San Steffan
Yn ymddiried – 28%
Ddim yn ymddiried – 72%

  • Arolwg Barn You Gov – YesCymru: Mae'r holl ffigyrau, oni nodir yn wahanol, yn dod gan YouGov Plc. Cyfanswm y sampl oedd 1035 o oedolion. Cynhaliwyd gwaith maes rhwng 24ain a 27ain Awst 2020. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae'r ffigyrau wedi'u pwysoli ac yn gynrychioladol o holl oedolion Cymru (sy'n 18+). Mae'r holl ffigyrau yn hepgor y rhai a ymatebodd nad oedden nhw'n gwybod.
  • Canlyniadau yn llawn (pdf)

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.