Nod YesCymru fel mudiad yw ennill Annibyniaeth i Gymru
Dim ond Cymru annibynnol, gyda’i llywodraeth a’i sefydliadau ei hun, wedi’u hethol a’u creu gan bobl Cymru allwn ni ymddiried ynddi i lywodraethu er lles ei phobl.
Rydym ni’n credu y dylai Cymru fod yn wlad annibynnol, un sy’n croesawu a dathlu pob un sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref iddynt.
Ymunwch â Ni!
Ni fyddai mudiad YesCymru yn bodoli heb ei aelodau. Mae’r rhwydwaith o aelodau yn ymestyn led led y wlad ac ariennir YesCymru gan ffioedd aelodaeth.
Os hoffech chi weld Cymru Annibynnol Ymunwch â Ni.
Corff Llywodraethu Cenedlaethol (CLlC)
Corff Llywodraethu Cenedlaethol YesCymru sy'n rhedeg gwaith YesCymru o ddydd i ddydd. Etholir aelodau i'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol gan yr aelodaeth mewn Cyfarfodydd Cyffredinol.
Aelodau o'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol
- Phyl Griffiths (Cadeirydd) - Dwyrain y De
- Naomi Hughes (Is-Gadeirydd) - Dwyrain y De
- Rob Hughes - Dwyrain y De
- Mike Murphy - Canol y De
- Aled Jones - Canolbarth a'r Gorllewin
- Jim Dunkley - Canolbarth a'r Gorllewin
- Sam Murphy - Gorllewin y De
- Elfed Williams - Gogledd
- Maria Pritchard - Gogledd
- Barry Parkin - Tu allan i Gymru
Grwpiau YesCymru
Mae grwpiau yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau mewn cymunedau ar draws Cymru. Pam na wnewch chi ymuno gyda'ch grŵp lleol a chymryd rhan yn y daith tuag at annibyniaeth?
Mae gan YesCymru ddwsinau o grwpiau ar hyd a lled Cymru. Mae nifer o wahanol fathau o Grwpiau yn bodoli gan gynnwys Grwpiau Achrededig, Grwpiau Cyswllt, Grwpiau Daearyddol, Grwpiau Gwarchodedig a/neu Grwpiau Thematig. Darllenwch rhagor am Grwpiau YesCymru.
Pa Fath o Fudiad yw YesCymru?
-
Mae YesCymru Cyf yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda rhif cwmni 12426443.
-
Cyfeiriad ein swyddfa gofrestredig yw: Tŷ Derw, Lime Tree Court, Cardiff Gate, Caerdydd, CF23 8AB.
Staff YesCymru
- Tanya Jenkins - Swyddog Cyllid a Gweinyddol
-
Evan Ifor Powell - Swyddog Cyfathrebu
Sut mae YesCymru yn cael ei Ariannu?
Ariennir YesCymru yn llwyr gan ffioedd aelodaeth a gwerthiannau o'r siop ar-lein.
Mae'r holl arian sy'n cael ei godi yn mynd yn syth tuag at ein hymgyrch dros annibyniaeth i Gymru er mwyn talu am staff, gwaith arbenigol ar y cyfryngau cymdeithasol a marchnata, graffeg, dylunio, hysbysebu, taflenni, posteri, baneri ac ymchwil.
Mae cyfran o'r arian hefyd yn mynd tuag at ein grwpiau lleol i'w helpu i hybu’r achos yn eu ffordd eu hunain.