Cyfrannu
Rydyn ni wedi cyrraedd cyfnod tyngedfennol i Gymru: yn sgil datblygiadau yn yr Alban ac Iwerddon, mae cwestiwn hanfodol bwysig yn ein hwynebu:
"Ydyn ni eisiau bod yn rhan o wladwriaeth ynysig 'Lloegr a Chymru'”?
NEU
"Ydyn ni eisiau gweld Cymru yn wlad annibynnol sy’n cydweithio’n llawn gyda’n cymdogion yng gweddill y Byd?"
Ar yr adeg allweddol hon, rydyn ni fel mudiad angen adnoddau arnom i sicrhau ein bod yn gallu rhedeg yr ymgyrch fwyaf effeithiol posib i ennill annibyniaeth i Gymru.
Felly os yw’r gallu gennych chi, cyfrannwch yma os gwelwch yn dda:
Does dim pleidiau gwleidyddol na busnesau mawrion yn ein cefnogi – mae angen eich cefnogaeth chi arnon ni er mwyn ennill y dydd.
Rydyn ni’n grŵp gwbl wirfoddol ar hyn o bryd, ond, gyda eich cefnogaeth, rydyn ni’n gobeithio cyflogi aelod llawn amser o staff i gefnogi ein gwaith ymgyrchu. Cyfrannwch yn hael os gwelwch yn dda.
Yn gywir,
Siôn Jobbins
Cadeirydd, Yes Cymru