Symud ymlaen o'r llywio

Swyddi

Swyddog Aelodaeth & Chyfathrebu

Mae YesCymru Cyf, yr ymgyrch wleidyddol ddi-blaid sy'n ymroddedig i sicrhau annibyniaeth i Gymru, yn chwilio am Swyddog Aelodaeth & Chyfathrebu ymarferol.

Cyfle:
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â thîm YesCymru ac i wneud cyfraniad gwirioneddol at gyflawni annibyniaeth i Gymru trwy ystod o weithgareddau gan wneud yr achos y byddai Cymru, fel cymaint o genhedloedd eraill ledled y byd, yn rhedeg yn well fel rhan o deulu Ewropeaidd a Rhyngwladol.

Swydd:
Byddwch yn ymgysylltu â’n haelodau, yn datblygu ein grwpiau lleol, yn helpu i redeg ein hymgyrchoedd, ac ehangu ac ysbrydoli ein Haelodaeth ymhellach, tra hefyd yn sicrhau bod ein sefydliad yn rhedeg yn esmwyth, gyda lle i ehangu’r rôl ymhellach. Byddwch yn adrodd yn uniongyrchol i’n NGB (Bwrdd y Cyfarwyddwyr) a gweithio’r hyn sy’n cyfateb i o leiaf 3 diwrnod yr wythnos o gartref, gyda theithio achlysurol ledled Cymru.

Cyflog ac Oriau:
Rhan Amser, o leiaf 3 diwrnod yr wythnos
£25,000 - £30,000 pro-rata, yn seiliedig ar sgiliau a phrofiad.

Buddion:
Cynllun pensiwn.
Oriau hyblyg.
33 diwrnod o wyliau pro-rata, gan gynnwys Gwyliau Banc.
Gweithio o gartref.

Ti:
Bydd gennych ddealltwriaeth o reoli aelodaeth, trefnu cymunedol, neu gydlynu gwirfoddolwyr, yn ddelfrydol o fewn sefydliad gwleidyddol neu ddielw. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a phobl effeithiol, y gallu i ymgysylltu ac ysbrydoli unigolion o gefndiroedd amrywiol a byddwch yn gallu cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig i safon dda yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Byddai cymhwyster ffurfiol neu brofiad uniongyrchol mewn maes perthnasol (e.e. gwyddor wleidyddol, cyfathrebu, rheoli dielw) yn fanteisiol.

YesCymru:
YesCymru yw’r brif ymgyrch ddi-blaid wleidyddol sy’n ymroddedig i’r nod o Gymru annibynnol. Dim ond Cymru, gyda’i llywodraeth a’i sefydliadau ei hun, wedi’i hethol a’i chreu gan bobl Cymru y gellir ymddiried yn wirioneddol i lywodraethu er lles ei phobl ei hun. Mae YesCymru yn credu mewn Cymru annibynnol yn y dyfodol, sy’n cofleidio ac yn dathlu amrywiaeth lawn pawb sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref. Mae YesCymru yn gweithredu ar sail nid-er-elw, gan ddibynnu ar gefnogaeth ac ymgysylltiad ein haelodau i ysgogi newid cadarnhaol yn ein cymunedau a thu hwnt.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais:
Rhagor o Wybodaeth (PDF)
Cyflwynwch eich CV gyda llythyr eglurhaol, yn amlinellu eich cymwysterau, sgiliau, a diddordeb yn y swydd i: [email protected]