Symud ymlaen o'r llywio

Ynnibyniaeth

Ar ei ymweliad â Iwerddon ym mis Ebrill, dywedodd yr Arlywydd Biden bod y byd yn gwynebu inflection point hanesyddol, fel sy’n digwydd pob ryw can mlynedd.

I Biden, halen y ddaear yw mega-tyfiant y sector ynni glân; a halen ar y briw i’w wrthwynebwyr MAGA.

Sail yr honiad yw’r ffordd mae pwerau mawr neu tueddiadau mawr economaidd yn gallu symud yn gyflym, gan adael ennillwyr a chollwyr, o dro i dro. Ac mae ynni wrth wraidd y symudiadau aruthrol yma.

Dau ganrif yn ôl roedd y chwyldro diwydiannol yn ei anterth o dan bwer glô. Gan danio goruchafiaeth y gorllewin ond ar draul sylweddol a dychrynllyd gwledydd ar draws y byd a gan adael ei greithiau trychinebus ar Gymru hefyd.

Ar ddechrau’r 20fed ganrif, daeth olew i’r amlwg gan ysgogi gem fawr arall ymysg y pwerau. Yn economaidd, symud cyfoeth naturiol o un rhan o’r byd i rhan arall oedd y naratif gan arwain at greu ffortiwn ar ôl ffortiwn ar hyd y ffordd, neu’r bibell neu fesul llongau enfawr.

Fe grewyd ac fe atgyfnerthwyd gwledydd allan o gyfoeth olew ac yna nwy, wrth i’r alw am yr adnoddau crai hollol sylfaenol yma gynyddu a chynyddu gydol yr 20fed ganrif. Meddyliwch am y Dwyrain Canol ac America ei hun. Ond meddyliwch hefyd am Denmarc ac, yn enwedig, Norwy, sydd mewn mater o chydig o ddewgadau wedi tyfu Cronfa Cyfoeth Sofran mwyaf y byd ac sydd bellach gwerth tua £1,100,000,000,000. Mae hyn 50 gwaith cyllid blynyddol Llywodraeth Cymru, sef tua £20,000,000,000. Dyna’r brif rheswm pam fod (bron) pawb yn Norwy yn dreifio Teslas.

A ta waeth am Rio, Paris, Glasgow na pha bynnag COP, dal i gynyddu mae’r galw hyd heddiw. Yn wir, ers ddiwedd y pandemic, mae economi’r byd wedi bod yn gwledda ar olew, nwy a glô fel petai’n diwrnodau olaf yr Ymerodraeth Rufeinig. Gan gynnwys ehangu gorwelion drilio am olew a nwy i’r Arctig wrth i amodau mwy ffafriol ymddangos yno yn sgïl cynhesiad y byd. Ydi, mae’n boncyrs ond anwybyddu Feswfiws oedd trigolion Pompeii. Heddiw sy’n bwysig ac nid fory heb sôn am genhedlaethau’r dyfodol. 

Ond er mor anodd yw troi y supertanker, sydd yn economi tanwydd ffosil y byd, o gwmpas, mae dal yn bosib gan fod y dechnoleg gennym bellach i gadw glô, nwy ac olew yn y ddaear. A’r adnoddau i gymryd eu lle hefyd, sef yr haul, gwynt a dwr. Ac mae gan Gymru hen ddigon o 2 allan o’r 3 yma. Ac ymhell mwy na digon wrth styried yr adnodd gwynt y môr anferth. Ynni adnewddol a hydrogen gwyrdd (i’w greu wrth hollti dwr gyda thrydan) yw’r end game ar gyfer y gem fawr ynni diweddara. Ond y tro hwn sy’n mynnu cyd-weithrediad yn hytrach na chystadleuaeth gan fod pawb yn gwynebu’r un gelyn, sef cynhesiad y byd. Ac does dim dadlau gyda ffiseg.

Rhaid cofio hyn wrth lunio polisiau datgarboneiddio yng Nghymru. Mewn gwlad fach, ydi rhai o’n ymdrechion yn gwneud unrhyw effaith sylweddol o gwbl? Yntau a’i drwy canolbwyntio ar gosod y sylfaen - a’r technolegau - ar gyfer datgarboneiddio dwfn a chyflym er mwyn gallu bod yn esiampl i eraill sydd orau?

Mae America a nifer o chwaraewyr ynni pwysig iawn eraill yr oes - gan gynnwys Norwy a Denmarc - yn derbyn bod angen un o’r newidiadau mawr, hanesyddol yna a hynny ar frys, er mwyn ceisio cael unrhyw reolaeth dros newid hinsawdd. Mae gwleidyddiaeth ac economeg yn oll bwysig ond eu rôl yw gosod y sylfaen ar gyfer cyflwyno’r technolegau ynni newydd ar frys ac, wrth gwrs, i leihau ein defnydd o ynni.

Wedi dros 20 mlynedd o drio, sâff yw dweud nad yw’r drefn cyfansoddiadol wedi galluogi Cymru i osod y sylfaen yma, heb sôn am greu cyfoeth o bwys allan o ynni.

Ymysg y mesurau sydd ei angen ar Gymru er mwyn llunio strategaeth ynni ac economiadd cynhwysfawr ac er budd Cymru - a fydd, digwydd bod, hefyd er budd ein cymdogion - yw: 

  • Datganoli pwerau ynni heb unrhyw uchafswm.

Fel mae’n sefyll, dim ond y pwer i ganiatau prosiectau gyda capasiti hyd at 350MW sydd gan Llywodraeth Cymru.

  • Datganoli’r Crown Estate.

Nid yn unig oherwydd yr incwm sylweddol wrth ganiatau datblygiadau ynni yn moroedd Cymru. Ond hefyd y gallu i osod y rheolau ar gyfer unrhyw ddatblygu ac er budd Cymru. Ac, yn ogystal, er mwyn hwyluso datblygiadau sydd ar hyn o bryd yn gaeth oherwydd cyfyngiadau, a dweud y lleia, y grid, materion cynllunio a ffactorau eraill.

  • Datganoli Ofgem.

Er mwyn cynllunio grid ac isadeiledd ynni ac hefyd y rheolaeth drost ynni sy’n addas i Gymru, gan gydlynnu gyda safonnau a rheoleiddio Ewropeaidd.

  • Sefydlu cwmni cenedlaethol a cwmniau cymunedol cryf.

Hen bryd bod cwmni cenedlaethol am gael ei sefydlu ond ni ddylid cyfuno’r cwmni i datblygiadau ar y tir yn unig. Allan ar y môr mae’r wobr fawr. Ac mae angen rhoi cymorth strategol i gwmniau ynni cymunedol Cymru drwy tyfu eu capasiti a rhoi blaenoriaeth iddynt ar brosiectau ynni sy’n lleol iddynt.

  • Copio Model Ynni Denmarc.

A gafodd ei sefydlu mewn ymateb i’r argyfwng mawr ynni diwethaf tua 1975. Model sy’n integreiddio rheolaeth, isadeiledd a datblygiad ynni er y budd cenedlaethol. Heb sôn am y cwmniau ynni a masnach anferth mae Denmarc wedi magu yn ei sgïl fel Vestas, Ørsted a Maersk. Reit dda ar gyfer gwlad gyda phoblogaeth o 5.8 miliwn. A gyda llaw, mae cwmni mwyaf enwog Denmarc am gychwyn neud eu Lego allan o hydrogen (yn lle olew, er mwyn cynhyrchu plastig) gan ddefnyddio gwynt a dwr y wlad. Model cynaliadwy iawn.

Ond yn lle gofyn am y pwerau neu’r mesurau allweddol yma fesul un - ac mi fydd y Senedd dan dwr cyn i’r broses dod i ben - onid fasa’n haws i gael nhw gyd, a mwy, yn awtomatig drwy annibyniaeth? Wedi’r cyfan, rydym mewn argyfwng hinsawdd ac ynni ac economaidd, a mater o ryddhau ein ynni ni - yn llythrennol - ac hefyd ynni ein pobl er mwyn lleihau carbon a creu cyfoeth fasa hyn.

Rhyddhau Cymru i neud y penderfyniadau cyflym a creu strategaeth addas. Er mwyn ein llês ni ac er llês Lloegr a gwledydd cyfandir Ewrop, sydd yn farchnad ar gyfer ein allforion ynni, gan hefyd elwa wrth fod yn bont i allforion ynni fwy byth o Iwerddon. Mae gwledydd bach, newydd yn gallu symud yn gyflym mewn ymateb i broblemau sydd, bellach, yn rhwystredig o amlwg. Ac mae’r cyfle yn fyw rwan nid mewn deg neu ugain mlynedd gan fod y galw am ynni glân mor fawr a fyw rwan

Ond mae angen arian i fuddsoddi hefyd. Mae’r byd ariannol ar hyn o bryd yn boddi mewn cyfalaf sydd yn edrych am gartref da. Tybed all Gymru fod yn un o’r cartrefi da hynny? A nid mater o agor y drysau i eraill i elwa ar ben eu hunain o’n cyfeoth naturiol ni yw hyn - siawns ein bod wedi dysgu’r wers yna? Na chwaith llunio polisiau sy’n gadael briwsionau ar ôl i ni. Ond yn hytrach buddsoddi ein hunain fesul cronfeydd pensiwn er enghraifft ac, ia, mewn partneriaeth efo eraill - eu harian, eu technoloeg a’u gwybodaeth. Dyma sut mae gwledydd eraill a rhai o gwmniau mwyaf y byd yn gweithredu yn hollol normal. Ac mae hyn yn gallu digwydd yn gyflym iawn.

Ystyriwch Silicon Valley, sydd wedi taflu Apple, Microsoft, Amazon, Tesla ag ati atom. Mentrau preifat anhygoel ac arian risg tu ol iddyn nhw. Wel, ia, i raddau. Ond roedd arian pensiwn America wrth gefn y mentrau trawsnewidiol yma o dan goruwchwyliaeth Llywodraeth America. A bellach, y risg mwya yw peidio buddsoddi yn fawr ac yn gyflym mewn technoleg gwyrdd. Ystyriwch dyfodol gweithfeydd dur a cryfderau y sector masgynhyrchu yng Nghymru yn hyn o beth. Diwydiannau sydd, fel pawb arall, yn dioddef oherwydd costau ynni ond sydd hefyd yn gorfod datgarboneiddio er mwyn jyst aros mewn busnes.

Mae sector ariannol cryf yng Nghaerdydd. Ganrif yn ôl, arwyddwyd y siec £1miliwn cyntaf yn y byd ar lawr y Gyfnewidfa Glô. Pam na allwn ail-gynau y berthynas yna rhwng arian ac ynni yng Nghymru? Gan gadw ychydig o’r arian wrth gefn er mwyn trwsio’r Gyfnewidfa sydd mewn cyflwr mor druenus.

Ar hyd a lled Ewrop, mae llywodraethau wedi sefydlu cwmniau ynni ers degawadau, eto gyda arian pensiwn yn gefn iddynt, gan greu elw mawr sy’n ariannu eu gwasnaethau cyhoeddus. Gan gynnwys creu elw o prosiectau ynni yma yng Nghymru. A pob lwc iddynt. Ond a’i eironi yn unig yw sefyllfa lle bod rhai gwasanethau cyhoeddus Cymru ar eu gliniau - ac ar ein gliniau rydym yn begerian am arian gan eraill - tra bod gwledydd aeddfed yn cynnal safonnau uchel iawn ar gyfer eu gwasanaethau cyhoeddus yn rhannol ar sail ein hadnoddau ni? A rhai o’r adnoddau hynny mewn ardaloedd o Gymru sydd ymysg y tlotaf yn Ewrop oll. A ninnau mor gyfoethog ein hadnoddau, pam yw ein disgwyliadau mor isel?

A’i mewnol yw’n problemau a’n hatebion hefyd, wedi’r cyfan? Ased hynod gwerthawr yw adnoddau naturiol Cymru. A’i hisadeiledd. Asedau sydd yn sylfeini ar gyfer buddsoddiad a menter.

Falla bod angen chydig o ysbryd Gwyddelig hefyd? Drost y pedair mlynedd nesa, y disgwyl yw y bydd swrplws cyllid Llywodraeth Iwerddon gwerth €65biliwn. Y swrplws. Tair gwaith gymaint â holl gyllid blynyddol Llywodraeth Cymru. Mae gan Iwerddon ei faterion cymdeithasol dwys heb os. Ond problem neis yw cael €65biliwn wrth gefn i geisio datrys rhain. [Llun o’r graff swrplws?]

Ac mae Iwerddon ar fin tyfu ei sector ynni gwynt a hydrogen yn ddramatig, gyda sôn am greu cronfa cyfoeth sofren Gwyddelig o’r bonanza sydd i ddod. Pam? Achos mae nhw’n gallu. A drws nesa iddynt mae na bartner all fod yn berffaith ar gyfer helpu allforio eu cyfoeth ynni, gan greu cyfoeth ei hun yn y broses drwy cwlwm ynni Celtaidd. Trefn o bartneru ar ynni sydd yn hollol naturiol rhwng gwledydd o’r un statws ar draws Ewrop a’r byd. 

Falla mai edrych mwy tua’r gorllewin a drost y Môr Gogledd hefyd ar gyfer model llywodraethol ac economaidd yw’r peth gorau ar gyfer Cymru, yn hytrach na lawr y lôn i’r dwyrain.

Os mai cwestiwn cyllell a fforc yw hanes, siawns bod na gyfle i berswadio’r Cymry bod eu costau byw nhw yn hollol ddibynol i raddau mawr ar ffactorau nad oes gennyn nhw dim rheolaeth drostynt o gwbl ar hyn o bryd? Ac mai un o’r ffactorau - y ffactor pwysica oll - mewn costau popeth, p’run a’i bwyd, nwyddau, gwasanaethau cyhoeddus, rhedeg busnes neu fferm - yw ynni. Y bottom-line. A costau ynni yw’r brif ffactor tu ol y naid mewn chwyddiant. 

Ychydig flynyddoedd yn ôl, amcangyfrais bod pob unigolyn yng Nghymru yn gwario, ar gyfartaledd, tua £1,000 ar ynni (trydan, gwres, tanwydd cerbydau ayyb) yn flynyddol. Neu dros £3 biliwn ar gyfer ni 3.2 miliwn oll. Bellach, wedi’r argyfwng ynni, gallwch ddwblu’r swm. A hedfan allan o’r wlad mae’r rhan helaeth o’r £6 biliwn a mwy yna. Mae ein marchnad mewnol ynni yn sylweddol. Marchnad sydd yn cynnig cyfleon i hunan-gyflenwi ynni gan gadw cyfoeth yn y wlad, heb sôn am y cyfleon i allforio ynni.

Yn ôl yr Almaen, hydrogen gwyrdd yw’r olew newydd. Oes angen deud mwy?

Ac wrth siarad efo unigolion yn y maes, o gwmniau mawr a bach, o Gymru, Lloegr a llefydd eraill, calonogol yw’r ymateb i’r syniad o osod y sylfaen i ni’r Cymry ffynnu ym maes ynni ac mewn partneriaeth efo eraill. Er budd pawb. Mae busnes yn gallu torri lawr lot o ffiniau ac euraidd yw’r cyfle ynni, er mor dwys yw’r amgylchiadau.

Drwy reoli ynni mae rheoli economi a rheoli chwyddiant. Dyna’r rheswm pam fod Biden yn wên o glust i glust wrth enwi ei fesur bell-gyrhaeddol yn Fesur Lleihau Chwyddiant, yr Inflation Reduction Act. Mesur sydd yn buddsoddi biliynau i mewn i ynni adnewyddol, hydrogen a masgyngyrchu lleol mewn ymateb i’r inflection point newydd.

Ond er mwyn rheoli ynni mae angen rheoli gwlad. Ydi, mae America 100 gwaith mwy na Cymru. Edrychwch felly ar Norwy, poblogaeth 5.5 miliwn. Yn yr ychydig funudau mae wedi cymryd i chi ddarllen yr erthygl yma, mae Cronfa Cyfoeth Sofren Norwy wedi tyfu o ryw £5 miliwn. Neu tua £15,000 ar gyfer pob unigolyn ers cychwyn y flwyddyn. Ar sail ynni. Ac tyfu ymhell i’r dyfodol y bydd hefyd ar sail ynni glân.

Mae gwerth mawr mewn adnoddau naturiol ac ynni. Ac hefyd mewn cyd-weithio efo eraill. Cymru, felly, i sicrhau perchnogaeth drost ei hasedau ac i ddatblygu ynni ar ei thelerau hi. Ynnibyniaeth, fel fasa unrhyw gwlad gwerth ei halen yn neud.

 

Guto Owen

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.