Doedd HS2 byth yn mynd i fod o fudd i Gymru: ac ni all unrhyw esgus nac anwiredd newid y ffaith honno. Rydym ni yng Nghymru wedi cyfrannu tuag at reilffordd sydd heb unrhyw fudd inni, gyda llai o gysylltiad, ac rydym wedi cael ein hamddifadu o filiynau o bunnoedd am y fraint wyrdroëdig honno: biliynau y gallem fod wedi'u gwario ar wella ein hisadeiledd bregus ein hunain.
Yn gynharach y mis hwn, cadarnhaodd Rishi Sunak y gyfrinach waethaf yng ngwleidyddiaeth y DU: ei fod yn canslo rheilffordd HS2 i'r gogledd o Birmingham, ac yn gwerthu'r tir y bwriadwyd adeiladu arno a dyma’r halen ar y briw. Polisi ‘scorched earth’ fel y dywedir yn Saesneg, yn ei ystyr lythrennol bron. Fe wnaeth Mr Sunak addewidion di-sail am drydaneiddio prif lein gogledd Cymru - cyn dechrau ystyried unrhyw fanylion. Roedd yn beth sinigaidd gan Brif Weinidog sy'n gwybod ei fod yn annhebygol o fod yn y swydd am ddigon hir i fod yn atebol i'r rhai fyddai wedi elwa fwyaf o’r prosiect.
Dyna beth rydyn ni wedi dod i'w ddisgwyl gan San Steffan - maen nhw'n addo’r byd a’r betws, ac yna'n cael trafferth enfawr i ddod a’r maen i’r wal mewn unrhyw fodd (cofiwn am addewid trydaneiddio prif lein y Great Western!). Yn rhy aml, o ran y cynllunio neu'r gwaith go-iawn i wneud i'n trenau redeg mewn yn y byd go-iawn (heb sôn am redeg ar amser), maen nhw’n llunio’r penawdau, yna’n diflannu’n ddisymwth a’u haddewidion ar chwâl.
Ond o ddifrif: mae'r ffaith na fydd cysylltiad HS2 yn Crewe yn mynd yn digwydd wedi chwalu unrhyw gysyniad y bydd y darn hwn o’r prosiect o unrhyw fudd i'n cenedl ni. Mae wedi bod yn ddyrys gwylio un gweinidog Torïaidd ar ôl y llall yn honni bod HS2 a hefyd Northern Powerhouse Rail rywsut yn brosiectau Cymru a Lloegr, er gwaethaf y ffaith nad yw modfedd o'u traciau yn dod o fewn ein ffiniau. Roedden ni'n gwybod erioed nad oedd gan y Torïaid yn San Steffan unrhyw hygrededd o rinwedd. Ond yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf wedi dechrau cwestiynu a oes ganddynt unrhyw hygrededd o gwbl!
Na, mae mor glir â chrisial: Prosiect Lloegr yn unig yw HS2, gyda'r nod o wella rheilffyrdd Lloegr – wel, pob lwc iddyn nhw. Ond ni ddylai hyn byth fod wedi bod ar draul Cymru.
Mae'n wallgof meddwl am yr hyn y gallem fod wedi'i wneud gyda'r biliynau y cawsom ni ein hamddifadu. Oherwydd er bod Llundain unwaith eto yn elwa o reilffyrdd cyflym, yng Nghymru mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn adnewyddu ein hisadeiledd Fictoraidd. Yn 2020-21 dim ond 3.7% o draciau rheilffordd Cymru gafodd eu trydaneiddio, o'i gymharu â dros 43% yn Lloegr, a 32% yn yr Alban. Gallai'r biliynau sy'n ddyledus i ni eisoes, o gamau cynharach HS2, gael eu defnyddio tuag at drydaneiddio ein rhwydwaith rheilffyrdd cyfan, ac i gefnogi ein rhwydwaith bysiau sydd yn dioddef o ddiffyg buddsoddiad a diffyg cyllid.
Rwyf wedi derbyn gwybodaeth (o ffynhonnell dda), bod y gymhareb (ratio) rhwng gwariant ar wella rhwydwaith rheilffyrdd Lloegr a Chymru yn 200:1. Mae’n union fel petai Cymru yn chwarae gêm gardiau mewn ffair yn erbyn twyllwr sydd wastad yn sicrhau ei fod yn ennill er mwyn cymryd ein harian ni.
Mae angen i bwy bynnag sydd mewn grym yn San Steffan unioni'r anghyfiawnder parthed HS2, -a chyhyd â bod penderfyniadau am ein dyfodol yn cael eu gwneud mewn gwlad arall, ni fydd unrhyw benderfyniad o'n dewis ni. Dylid gwneud penderfyniadau parthed brosiectau isadeiledd mawr, a thrafnidiaeth, yng Nghymru. Dylai pwerau dros yr hyn sy'n digwydd ar ein rheilffyrdd a'n traciau yn benderfyniad i ni. Mae'r methiant i ddatganoli'r pwerau hyn i'n Senedd wedi ein gadael ar drugaredd penderfyniadau dinistriol fel hyn dro ar ôl tro.
Mae arnom angen yr ymrwymiad hwnnw gan Lafur, cymaint ag y mae ei angen arnom o'r llanast presennol yn San Steffan. Oherwydd, wrth gwrs byddai llywodraeth dan arweiniad Keir Starmer o dan andros o bwysau ariannol. Yn anochel, bydd penderfyniadau anodd yn eu hwynebu. Ond nid yw hwn yn brosiect rhethregol i’r dyfodol, ond penderfyniad ynghylch dechrau ar y Gwaith o ddifrif. Mae'n fater o unioni anghyfiawnder hanesyddol. Camgymeriad sydd wedi ei wneud yn barod - tric sydd eisoes wedi’i chwarae.
Dyma reilffordd nad yw'n cychwyn lle yr oedd i fod i gychwyn, nac yn gorffen lle'r oedd disgwyl i'w chyrchfan fod. Ond heb os nac oni bai, ar unrhyw adeg yn ei thaith, nid yw Cymru wedi cael yr arian yr ydym yn ei haeddu ac sy’n ddyledus i ni.
Dyma arian sydd rhaid i ni ei fynnu, gan bwy bynnag sydd mewn grym yn San Steffan. Arian sy’n ddyledus i ni. Mae'n rhaid iddyn nhw dalu.
Mae’n hen bryd i San Steffan roi ein biliynau yn ôl i ni.