Mae YesCymru yn falch o gyhoeddi y bydd yr orymdaith dros annibyniaeth yn Wrecsam ar yr 2il o Orffennaf yn rhan o ŵyl annibyniaeth fydd yn cymryd y dref drosodd am y penwythnos.
Hon fydd yr orymdaith fwyaf, ac yn wir, yr orymdaith fwyaf uchelgeisiol hyd yma, gyda digwyddiadau amrywiol a fydd yn dod â’r alwad am annibyniaeth i Wrecsam gyfan.
Mae YesCymru yn gweithio'n agos gydag AUOB Cymru ac IndyFest Wrecsam i ddod â'r orymdaith a'r penwythnos hwn o weithgareddau i Wrecsam.
Mae grwpiau YesCymru yn trefnu bysus i’r orymdaith a gellir archebu tocynnau o'r siop ac mae gennym hefyd becynnau gorymdaith arbennig i sicrhau bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer Wrecsam.
Os ydych chi'n chwilio am rywle i aros mae rhestr o feysydd gwersylla yma.