Cadarnheir bod yr orymdaith nesaf dros annibyniaeth yn cael ei chynnal ym Mangor ar 23 Medi 2023.
Gyda'r pleidleisio diweddaraf yn nodi cefnogaeth i annibyniaeth ar 34%, ac yn dilyn llwyddiant yr orymdaith dros annibyniaeth yn Abertawe yn gynharach eleni, lle gorymdeithiodd dros 7,000 dros Gymru annibynnol, nod yr orymdaith hon ydi gyrru neges gryf mai annibyniaeth ydi’r unig ffordd i sichrhau dyfodol Cymru.
Gwahoddir cefnogwyr i ymgynnull ym Maes Parcio Glanrafon o 12pm ymlaen, gyda'r orymdaith yn dechrau'n swyddogol am 1pm. Anogir gorymdeithwyr i ddod â baneri, chwibanau, drymiau, ac, yn anad dim, eu teulu a'u ffrindiau.
Mae ein gorymdeithiau annibyniaeth wedi bod yn mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a gyda chefnogaeth yn tyfu, mae posibilrwydd cryf mai'r orymdaith hon fydd y fwyaf eto. Bydd mynd â'n galwadau am annibyniaeth i ddinas fel Bangor am y tro cyntaf yn anfon neges glir at weddill Cymru, San Steffan a thu hwnt ein bod o ddifrif am ein hachos, a'r unig ffordd i sicrhau cenedlaethau'r dyfodol yw i'r Gymru ofalu am ei materion ei hun.
Bydd yr orymdaith yn dilyn llwybr drwy ganol dinas Bangor ac yn dychwelyd i faes parcio Glanrafon am areithiau a rhywfaint o adloniant.