Symud ymlaen o'r llywio

Pwy Sy'n Malio am Gymru? Pt. 4 – 01.09.23

Yn rhan olaf yr erthygl bedair rhan hon, mae Cyfarwyddwr YesCymru Geraint Thomas yn gofyn unwaith eto, pwy sy’n malio digon am Gymru? A yw digon o bobl yn poeni ac am fynnu gwneud gwahaniaeth?

Rwy’n credu bod digon ohonom yn poeni am ddyfodol Cymru a chenedlaethau’r dyfodol. Mae pob un ohonom yn poeni digon i ddeall bod angen i rywbeth newid  er mwyn i bethau wella. Wedi’r cwbl, mae gan Gymru hanes o greu newid ar draws y canrifoedd. Mae Cymru wedi gwneud i bethau ddigwydd. Yn ddiwylliannol rydym wedi gwneud hynny ar y cyd ers tro, rydym yn genedl o gymuned.

Efallai yn yr oes hon, gyda’i thirwedd ddigidol helaeth, fod ein fforymau a’n mannau cyhoeddus yn wahanol. Efallai fod y dyddiau o dorfeydd mewn hystingau a digwyddiadau dadlau drosodd. Mae dadlau a disgwrs yn aml bellach ar-lein n hytrach nag wyneb yn wyneb. Tybed fyddwn ni byth yn gweld dyddiau cynulliadau gwleidyddol enfawr eto, rhywbeth rydyn ni'r Cymry wedi mwynhau yn hanesyddol!?

Efallai, ond y naill ffordd neu’r llall bydd ein gofodau ar-lein yn rhan o dirwedd fodern llwyfannau lluosog ymgysylltu a chyfathrebu. Mae natur gelatinaidd gwleidyddiaeth a chred yn clymu pobl ynghyd. Gall hefyd arwain at adlais siambrau gwenwynig o eithafiaeth sy'n meithrin anwybodaeth a hyd yn oed casineb.

Mae hanes yn dweud wrthym, yn y pen draw, y bydd pobl yn dod o hyd i lais torfol pan fydd newid yn dod yn hanfodol. Bydd y modd y caiff y llais hwn ei daflunio mor amrywiol â hanes ei hun. Bydd lleisiau yn dod allan o gocwnau mewnblyg i ddod yn lleisiau rheswm mewn dadl yn y bar, y ffreutur, neu o amgylch bwrdd cegin. Gallai hyn ddatblygu i fod yn gysylltiad â grwpiau ymgyrchu a drefnwyd. Gallai arwain at awydd am weithredu, a’r angen i ‘wneud’ rhywbeth er budd newid.

Mae ymgyrchu yn benllanw actifiaeth y grŵp ac anaml actifiaeth yr unigolyn. Os gall grŵp ennyn digon o angerdd, awydd a chred, os gall gytuno ar weledigaeth glir o'i nod i’w gyflawni, yna gall yr ymgyrch honno lwyddo a bydd yn llwyddo.

Yn ein taith tuag at Gymru annibynnol, mae ein neges yn gryf ac yn glir: mae angen i Gymru ennill annibyniaeth er mwyn ffynnu fel cenedl yn yr unfed ganrif ar hugain, a gwneud hynny er lles ei holl ddinasyddion. Mae’r ymgyrch wedi’i gwreiddio yn hyder y posibiliad, trwy drafodaethau, dadl, a cyfarfodydd pwnc. Rheng flaen yr ymgyrch yw tafarndai, gweithleoedd, canolfannau cymunedol, caffis, cartrefi, clybiau, parciau a phalmentydd.

Fodd bynnag, rhaid trefnu ymgyrch ar lawr gwlad hyd yn oed. Rhaid inni dderbyn y realiti heddiw bod angen adnoddau ar unrhyw ymgyrch er mwyn llwyddo. Dim ond trwy ymdrechion rhwydwaith o aelodau y mae mudiad aelodaeth fel YesCymru yn llwyddo. Yng ngwaith llawer o aelodau, yn gwneud y pethau bychain, y gallwn gefnogi ymgyrch amlochrog barhaus ar draws holl gymunedau Cymru.

Os bydd digon ohonom yn malio, ac yn poeni digon, gallwn dyfu'r ymgyrch nid yn unig trwy niferoedd enfawr, ond trwy gryfder ymgyrch fudiad torfol. Mae'r nod yn glir, a'r neges yn glir. Felly gofynnwch i chi'ch hun: a oes ots gen i? Ac yn bwysicach wrth adeiladu ymgyrch lwyddiannus, a oes digon o ots gen i? Oes digon ohonom yn gwirioneddol boeni?

Os ydych chi’n poeni am ddyfodol Cymru ac â diddordeb mewn ymuno â’r ymgyrch dros Gymru annibynnol, yn rhad ac am ddim, ewch i http://www.ie.cymru

Ysgrifennwyd gan Gyfarwyddwr YesCymru, Geraint Thomas. Cyhoeddwyd fersiwn arall o’r erthygl hon gan Byline Cymru ar 31 Mawrth 2023.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.