Symud ymlaen o'r llywio

IS-DDEDDF 13  |  POLISI PREIFATRWYDD

1. PWY YDYM NI

Mae YesCymru Cyf yn sefydliad cychwynnol di-blaid gwleidyddol sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth Gymreig, wedi’i ariannu gan danysgrifiadau a rhoddion aelodau yn bennaf. Mae’r unig incwm arall yn dod o’r nwyddau YesCymru Cyf a werthir ar y wefan ar-lein (gweler Adran 5). Mae YesCymru yn ymrwymedig i gadw ymddiriedolaeth a chyfrinachedd pob un o’i gefnogwyr, p’un ai ydyn nhw’n ymweld â’r wefan, yn Aelod, neu’n rhywun sydd wedi dangos diddordeb drwy ofyn i dderbyn y cylchlythyr.

Mae YesCymru Cyf yn gwerthfawrogi cefnogaeth bawb yn yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru. Byddwn ni ddim ond yn casglu’r wybodaeth bersonol leiaf sydd ei hangen arnom er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddar i danysgrifwyr am ymgyrchoedd, ac i'w galluogi nhw i gymryd rhan os dymunant.

2. YMWELWYR I’N GWEFAN

Pan fydd rhywun yn ymweld â gwefan yes.cymru mae’n defnyddio gwasanaeth trydydd parti, sef Google Analytics, i gasglu gwybodaeth ryngrwyd safonol a manylion o batrymau ymddygiad yr ymwelwyr. Mae YesCymru Cyf yn gwneud hyn i ganfod pethau fel faint o ymwelwyr sydd ar wahanol rannau o’r wefan. Mae’r wybodaeth yn cael ei phrosesu mewn ffordd nad yw’n adnabod unrhyw un. Nid ydym yn ceisio canfod hunaniaeth y rheini sy’n ymweld â’n gwefan, ac nid ydym ni’n galluogi Google i wneud hynny ychwaith.

3. AELODAU

Fel rhan o’r broses ymaelodi, rydym ni’n casglu’r wybodaeth bersonol leiaf sydd ei hangen arnom i brosesu taliadau – sef enwau, cyfeiriadau, cyfeiriadau e-bost, yn ogystal â manylion talu (gweler isod). Mae’r rhain yn cael eu defnyddio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl ynghylch ein newyddion a’n hymgyrchoedd (fel bod aelodau’n gwybod i ble mae taliadau eu haelodaeth yn mynd) a ffyrdd y gall Aelodau gymryd rhan. Y brif ffordd rydym ni’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau yw drwy ein rhestr bostio. Byddwn ni’n ychwanegu Aelodau yn awtomatig at y rhestr hon pan fyddant yn ymuno ag YesCymru Cyf. Gall unrhyw un ddad-danysgrifio o’r rhestr hon ar unrhyw adeg (gweler Adran 7).

Cysylltir ag Aelodau sy’n talu’n flynyddol dros e-bost pan fydd eu haelodaeth ar fin dod i ben. Cysylltir ag Aelodau sy’n talu’n fisol os oes unrhyw ymyriadau yn eu taliadau (sy’n digwydd, fel arfer, os bydd cerdyn banc wedi’i adnewyddu neu ei ganslo).

Bydd Aelodau YesCymru Cyf yn cael eu hychwanegu yn awtomatig at ein deiseb “50,000 dros annibyniaeth” (gweler Adran 4).

Pan fydd Aelodau yn rhannu gwybodaeth bersonol neu wybodaeth o gategori arbennig yn wirfoddol ag YesCymru Cyf, honnir y gall y wybodaeth hon gael ei defnyddio i gynorthwyo Aelodau neu, fel arall, helpu i gyflawni ein nodau.

Gallwn ni brosesu gwybodaeth bersonol er mwyn ymchwilio i, ac ymdrin â chwynion mewnol.

3.1 Ymuno drwy ein gwefan

Pan fydd rhywun yn ymuno drwy’r wefan, bydd angen sefydlu’r taliad gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd. Mae hyn yn cael ei drin gan brosesydd talu NationBuilder (sef the NationBuilder payment processor). Nid yw YesCymru Cyf yn casglu na storio unrhyw fanylion cerdyn. Yn ogystal â’r wybodaeth bersonol a gasglwyd fel y soniwyd ar ddechrau Adran 3, mae angen rhifau ffôn ar YesCymru Cyf gan fod hwn yn ofyniad gan y prosesydd talu er mwyn cychwyn y taliad.

3.2 Ymuno gyda ffurflen bapur

Er mwyn sefydlu archeb sefydlog, bydd manylion am gyfrif banc Aelod yn cael eu casglu. Rydym ni’n trosglwyddo manylion eraill sydd ar y ffurflen ar gronfa ddata’r aelodaeth, ac yna yn anfon y ffurflen bapur i fancy r Aelod yn uniongyrchol. Ni fyddwn ni’n storio manylion banc unrhyw Aelod.

4. EIN ADDEWID “SAY YES”

Y data a gasglwn er mwyn prosesu'ch llofnod yw eich enw, cyfeiriad e-bost, a chyfeiriad post. Mae angen cyfeiriadau post arnom i'n galluogi i ddod o hyd i gofnodion dyblyg ac yna eu dileu, er mwyn sicrhau cywirdeb y niferoedd sydd wedi llofnodi.

4.1 Arwyddo drwy ein gwefan

Mae arwyddo’r ddeiseb ar ein gwefan yn ymrwymiad i bleidleisio o blaid annibyniaeth i Gymru mewn refferendwm. Ar y sail honno, rydym ni’n credu’n rhesymol ar ein rhan gyfreithlon ni ac ar ran gyfreithlon yr arwyddwr, ein bod ni’n ychwanegu’r bobl hynny i'n rhestr bostio fel y gallant glywed mwy am waith YesCymru Cyf.

4.2 Arwyddo drwy aelodaeth YesCymru Cyf

Nid oes raid i aelodau YesCymru Cyf lenwi eu manylion eto ar gyfer y ddeiseb, gan fydd hyn yn digwydd yn awtomatig wrth iddynt ymaelodi.

4.3 Arwyddo drwy hysbyseb Facebook

Heblaw am ein gwefan, gall y ddeiseb gael ei llofnodi drwy gyflwyno Hysbyseb Arweiniol sy’n cael ei chyhoeddi drwy ein tudalen Facebook. Bydd Facebook yn poblogi manylion o flaen llaw, ond gall y rhain gael eu newid cyn cyflwyno. Bydd y manylion hyn wedyn yn cael eu hanfon i system NationBuilder ac yn cael eu hychwanegu at restr bostio YesCymru. Mae’r defnydd o Hysbysebion Arweiniol yn unol â Pholisi Data Facebook.

5. CWSMERIAID AR EIN SIOP AR-LEIN

Rydym ni’n casglu gwybodaeth am gwsmeriaid pan fyddant yn defnyddio’r siop ar-lein, er mwyn prosesu’r archeb. Rydym ni ddim ond yn casglu’r wybodaeth sydd ei hangen arnom, sef enw’r cwsmer a’i gyfeiriad (fel y gallwn ni anfon y nwyddau at y cwsmer) a chyfeiriad e-bost a rhif ffôn (fel y gallwn ni gysylltu â nhw’n hawdd os oes problem gyda’i archeb). Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw ar gronfa ddata Ecwid (gweler bolisi preifatrwydd Ecwid), fel nad oes raid i gwsmeriaid ail-gofrestru â ni bob tro i brynu nwyddau yn y dyfodol. Ni fyddwn yn defnyddio manylion cyswllt i gysylltu â chwsmeriaid am unrhyw beth heblaw am eu harchebion, oni bai eu bod nhw’n dewis i dderbyn mwy o wybodaeth gennym ni wrth gadarnhau’r archeb. Yn yr achos hwnnw, byddwn ni’n eu hychwanegu at ein rhestr bostio (gweler Adran 7).

6. FFYRDD ERAILL O GYSYLLTU Â NI

Os bydd cwsmeriaid yn cysylltu â ni drwy’r post neu dros e-bost am unrhyw faterion eraill (neu’n anfon manylion cyswllt dros gyfryngau cymdeithasol, neu er enghraifft, drwy anfon neges uniongyrchol dros Twitter), ac nad ydynt eisoes yn Aelod neu’n danysgrifiwr i'r cylchlythyr, ni fyddwn yn cysylltu â nhw am unrhyw fater heblaw am yr un y cysylltwyd â ni amdano.

Os byddwn yn cwrdd (mewn digwyddiad, er enghraifft), a rhoddir manylion cyswllt i ni er mwyn cadw mewn cysylltiad, byddwn ni ddim ond yn casglu’r enw a’r cyfeiriad e-bost, a byddwn yn gofyn am ganiatâd i ychwanegu’r cyswllt at ein rhestr bostio. Ni fydd cysylltiadau ynghylch mater penodol yn cael eu hychwanegu at ein rhestr bostio.

7. EIN RHESTR BOSTIO

Rydym ni’n defnyddio darparwr trydydd parti, sef NationBuilder, i ddosbarthu ein cylchlythyr. Rydym ni’n casglu ystadegau ynghylch y cliciau a faint o e-byst sy’n cael eu hagor, gan ddefnyddio technolegau o safon ddiwydiannol i’n helpu i fonitro a gwella ein cylchlythyr. Am fwy o wybodaeth, ewch i hysbysiad preifatrwydd NationBuilder.

Efallai byddwn ni’n defnyddio meddalwedd arolygu trydydd part, sef 123FormBuilder, i anfon arolygon, lle’r ydym yn casglu’r un wybodaeth bersonol a restrwyd yn Adran 3. Mae’r data yn cael ei storio’n ddiogel gan 123FormBuilder. Am fwy o wybodaeth, ewch i hysbysiad preifatrwydd 123FormBuilder.

Mae’r gwahanol ffyrdd i danysgrifio i'n rhestr bostio wedi’u hegluro uchod. Bydd tanysgrifwyr yn derbyn cylchlythyr achlysurol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am newyddion, ymgyrchoedd, digwyddiadau a ffyrdd y gallant gymryd rhan. Gall yr e-byst hyn gael eu hanfon gan YesCymru Cyf yn ganolog, neu gan grŵp YesCymru Cyf lleol (gweler Adran 8).

Gallwn ni hefyd ddefnyddio manylion cyswllt i wirio bod ein cofnodion yn gywir, a gwirio bob hyn a hyn bod y cysylltiadau yn hapus.

Yn achlysurol, efallai byddwn ni’n rhoi gwybodaeth am apelion penodol yr ydym yn eu rhedeg, er enghraifft os byddwn ni’n ceisio codi arian am ymgyrch, ond byddwn ni’n cadw’r cyfathrebiad ar ei leiaf.

Hefyd, gallwn ni weithio gydag amrywiol fusnesau lleol sy’n cefnogi annibyniaeth ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i gynnig disgowntiau ar eu nwyddau a’u gwasanaethau i Aelodau YesCymru Cyf yn benodol. Efallai byddwn ni’n anfon e-byst am y cynigion hyn yn achlysurol. Nid yw YesCymru Cyf yn rhannu manylion cyswllt am unrhyw Aelod â’r cwmnïau hyn.

Ar wahân i'r dulliau tanysgrifio a restrwyd uchod, gall y wefan gael ei defnyddio i danysgrifio i'n rhestr aros drwy’r adran Cofrestru ar gyfer newyddion a diweddariadau ar y wefan. Fel rhan o’r broses gofrestru, rydym ni’n casglu’r wybodaeth bersonol leiaf – sef enwau a chyfeiriadau e-bost.

7.1 Dad-danysgrifio o’r rhestr bostio

Gall unrhyw un ar ein rhestr bostio ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg drwy glicio ar y ddolen sy’n dweud I newid eich gosodiadau e-bost, cliciwch yma, ar waelod ein he-byst. Bydd opsiwn a ydych chi am ddad-danysgrifio i e-byst penodol neu bob un e-bost. Mae’r e-byst penodol y gallwch dad-danysgrifio iddynt fel a ganlyn: newyddion a diweddariadau gan YesCymru Cyf yn ganolog, newyddion a diweddariadau gan grwpiau YesCymru Cyf, ac e-byst gan YesCymru Cyf yn ganolog sy’n cynnwys cynigion arbennig gan ein partneriaid.

Hefyd gall pobl ddad-danysgrifio drwy anfon e-bost atom ar [email protected]. Os bydd cysylltiadau yn dad-danysgrifio fel hyn, byddwn ni’n honni eu bod nhw am ddad-danysgrifio i bob math o e-byst, oni bai eu bod nhw’n dweud fel arall.

8. RHANNU GWYBODAETH Â GRWPIAU DAEARYDDOL

Mae gan YesCymru Cyf grwpiau daearyddol sy’n gweithredu mewn sawl cymuned ar draws Cymru. Bydd aelodau yn cael eu hychwanegu at restr bostio eu Grŵp Daearyddol lleol yn awtomatig. Nodir bod grŵp yn lleol os bydd yr aelod yn byw mewn ward cyngor sir o fewn dalgylch y grŵp - fel arfer o fewn 10 milltir i grŵp lleol. Mae’r ward yn cael ei brasamcanu drwy geocodio, sydd angen y cyfeiriad postio cyfan, ac sy’n seiliedig ar y cyfeiriad mwyaf diweddar sydd gennym ar gyfer y person hwnnw.

Mae’r Grŵp Daearyddol yn glwm wrth y polisïau preifatrwydd a osodwyd yn y ddogfen hon. Os bydd y Grŵp Daearyddol yn bodloni’r meini prawf a osodwyd yn Is-ddeddf 7.5, gall y Grŵp enwebu person neu bersonau i actio fel Prosesyddion Data. Gall y Prosesyddion Data gysylltu ag Aelodau drwy e-bost ar ran eu Grŵp. Byddant ddim ond yn defnyddio data Aelodau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am newyddion a’r hyn y mae’r grŵp yn ei wneud, ac i anfon gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd lleol. Ni fydd y Prosesyddion Data yn cael allforio data o’r gronfa ddata, neu ei rannu â thrydydd parti.

Ni fydd data unigolion yn weladwy i'r Prosesyddion Data neu unrhyw Grŵp YesCymru Cyf arall.

Mae pob Prosesydd Data YesCymru Cyf yn glwm wrth Ddatganiad Diogelu Data YesCymru Cyf (Is-ddeddf 12).

Gall aelodau ddad-danysgrifio i restr bostio eu Grŵp Daearyddol ar unrhyw adeg gan ddewis yr opsiwn priodol ar ôl clicio’r ddolen I newid eich gosodiadau e-bost, cliciwch yma, ar waelod unrhyw e-bost gan YesCymru Cyf neu Grŵp Daearyddol (gweler Adran 7.1).

9. CYFFREDINOL

Rydym ni’n sefydliad ddim er elw sy’n gymwys am eithriad o ffi gofrestru ICO, ac nid oes gofyn cyfreithiol arnom i benodi swyddog diogelu data.

Nid ydym yn rhentu nac yn masnachu rhestrau e-bost gydag unrhyw sefydliad neu fusnes arall.

Rydym ni’n prosesu data personol o dan sail Diddordeb Cyfreithlon.

Byddwn ni’n cadw’r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu gan Aelodau tan un flwyddyn wedi i'w haelodaeth ddod i ben.

Nid ydym yn gwneud penderfyniadau neu broffilio yn awtomatig fel rhan o’n gweithgareddau prosesu data.

Mae gan unigolion yr hawliau canlynol mewn perthynas â’u data personol:

  • I gael gwybodaeth am y data sydd gennym, a sut a pham rydym yn ei brosesu;
  • I ofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanynt;
  • I ofyn i ni newid unrhyw anghywirdebau o fewn y data personol sydd gennym amdanynt;
  • I gyfyngu ar brosesu eu data, os bydd y data yn anghywir neu’n cael ei brosesu’n anghyfreithlon;
  • I wrthwynebu eu data’n cael ei broses os byddan nhw’n amau bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn anghyfreithlon;
  • I ofyn bod eu data yn cael ei ddileu;
  • I ofyn i ni anfon copi electronig o’u data atynt, neu at drydydd parti;
  • I dynnu cydsyniad drwy ddad-danysgrifio i'n cylchlythyr neu ganslo aelodaeth;
  • I wneud cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein hawdurdod goruchwyliol am ddiogelu data (https://ico.org.uk/concerns).
10. GWYBODAETH BELLACH

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn neu sut rydym ni’n defnyddio ac yn storio gwybodaeth? Cysylltwch â ni ar [email protected].

Ein cyfeiriad cofrestredig yw:- YesCymru Cyf, Swyddfa 23609, Blwch Post 92, Caerdydd, CF11 1NB.