Symud ymlaen o'r llywio

Cymru'n Haeddu Gwell: Plaid Werdd Cymru ac Annibyniaeth

Mae'r tirlun gwleidyddol yng Nghymru yn newid. Gyda phleidleisio diweddar yn dangos cefnogaeth gref a chyson i Gymru annibynnol, mae'r nifer cynyddol o'r rhai y gellid eu disgrifio fel rhai 'annibyn chwilfrydig' hefyd yn ddatblygiad sylweddol.

Heb os, mae datganoli wedi galluogi Llywodraeth Cymru i fod yn fwy mentrus ac yn fwy blaengar na'i chymar yn San Steffan, mae cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn un enghraifft. Ond mae'r gweithredu mor aml yn methu â gwireddu'r uchelgais. Mewn sawl ffordd, gellir gweld bod datganoli wedi bod yn fethiant i bobl Cymru.

Cymru'n haeddu gwell

Ar ôl 24 mlynedd o lywodraeth Lafur, mae lefelau anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru yn hollol annerbyniol. Mae gennym y lefelau uchaf o amddifadedd yn y DU, gydag un o bob tri o blant yn byw mewn tlodi. Mae'r argyfwng tai yn ddifrifol, gan effeithio ar gymunedau ledled y wlad. Wrth i'r gaeaf agosáu, gwelwn gyfran helaeth o'r boblogaeth yn wynebu tlodi tanwydd unwaith eto. Ar y ffrynt amgylcheddol, dangosodd yr adroddiad diweddar ar Sefyllfa Byd Natur mai Cymru yw un o'r cenhedloedd mwyaf disbyddedig o ran natur ar yr ynysoedd hyn.

Ar ben hyn oll, mae'r enillion hynny sydd wedi eu gwneud dan ddatganoli dan fygythiad cynyddol drwy ganoli llywodraeth San Steffan sy'n benderfynol o leihau pwerau gan y cenhedloedd datganoledig. Mae'r cipio pŵer ôl-Brexit i'w weld yn glir yn y Bil Marchnadoedd Mewnol a'r Gronfa Ffyniant Cyffredin, gan danseilio unrhyw ymdrechion i amddiffyn safonau amgylcheddol a hawliau gweithwyr.

Mae hyn yn dangos penderfyniad i ddiystyru democratiaeth Cymru, ac nid ydym yn gweld unrhyw arwydd bod pethau'n wahanol o dan lywodraeth Keir Starmer yn y dyfodol. Mae San Steffan yn dal Cymru rhag newid er gwell.

Mae annibyniaeth yn ddiystyr (heb)

Dyna pam mae Plaid Werdd Cymru yn credu bod Cymru annibynnol yn hanfodol ar gyfer creu cymdeithas decach, wyrddach. Rydym yn falch o fod yn rhan o'r mudiad blaengar yng Nghymru sy'n gweithio tuag at y nod hwn.

Fel plaid ryngwladol sy'n credu mewn pwysigrwydd ardal leol cymunedau, credwn fod annibyniaeth yn gam pwysig tuag at ddatganoli pŵer i'r lefel isaf bosibl a grymuso cymunedau ledled y wlad. Nid yw annibyniaeth sy'n syml yn symud sylfaen pŵer San Steffan i Fae Caerdydd yn annibyniaeth y byddwn yn ymgyrchu drosti.

Yr un mor bwysig, rhaid i'r ymgyrch dros annibyniaeth Cymru gael ei sbarduno gan yr angen brys i adeiladu cymdeithas wirioneddol gyfartal a theg. Mae annibyniaeth yn ddiystyr os na

all pobl fforddio cartrefi diddos, diogel a chynnes. Mae annibyniaeth yn ddiystyr heb ddiwygio cyrff cyhoeddus hiliol yn radical. Mae annibyniaeth yn ddiystyr os yw cymdeithas yn parhau i oddef trawsffobia, homoffobia, gwrageddgas, a phob math o gulfarn.

Fel Gwyrddion, gwyddom fod annibyniaeth yn ddiystyr heb gyfiawnder hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol, cyfiawnder economaidd, a chyfiawnder hiliol. Ein gweledigaeth yw y bydd Cymru annibynnol yn cydweithio â chenhedloedd eraill, gan gynnwys ein cymdogion agosaf, i greu dyfodol gwirioneddol gyfartal a chynaliadwy.

Math newydd o wleidyddiaeth

Rhaid i hon fod yn genedl sy'n ymroddedig i ddyfodol di-garbon, i reoli ei ffynonellau helaeth o ynni glân, adnewyddadwy. Cenedl annibynnol, amrywiol, groesawgar, cosmopolitaidd sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb, yn rhydd o ddefodau hynafol a sefydliadau annemocrataidd y wladwriaeth Brydeinig flinedig sy'n fethiant ar gymaint o lefelau.

Yn wyneb yr argyfyngau lluosog a heriol (hinsawdd, natur, cydraddoldeb) sy'n wynebu ein cymunedau, yn lleol ac yn fyd-eang, mae angen brys i adeiladu math newydd o wleidyddiaeth. Rhaid creu gwir ddemocratiaeth ar lawr gwlad lle mae'r rhai yr effeithir arnynt gan yr heriau hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â phrosesau gwneud penderfyniadau ar bob lefel.

Gallai hyn gynnwys gwasanaethau lleol i helpu i nodi a thrafod materion lleol, rheithgorau dinasyddion, a chynulliadau pobl i helpu gyda democratiaeth ymgynghorol. Rhaid i ddemocratiaeth fod yn fwy na dim ond cael yr hawl i bleidleisio bob ychydig flynyddoedd.

Bydd annibyniaeth yn gyfle cyffrous i Gymru arwain y ffordd wrth greu democratiaeth newydd dan arweiniad pobl sy'n addas ar gyfer heriau a chyfleoedd yr 21ain ganrif. Gan gydweithio â chenhedloedd annibynnol bach eraill, gallai Cymru fod yn rhan o'r atebion sydd eu hangen i greu dyfodol mwy diogel a thecach i bawb.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.