Symud ymlaen o'r llywio

Mudiad Eryr Wen

Nid yw'r sefydliad brenhinol yn fwy na chur pen ers myrdd o flynyddoedd. Mae’n sefydliad sy’n annemocrataidd ac yn crynhoi’r gwaethaf o ran anghydraddoldeb economaidd a snobyddiaeth elitaidd. Er ei bod bellach yn sefydliad i’w watwar a’r ‘hawl dwyfol brenhinoedd’ yn gysyniad chwerthinllyd, mae llawer yn dal i ymddangos fel eu bod yn coelio’r weledigaeth ffug bod ‘genedigaeth anrhydeddus’ yn dal i fodoli. Wrth gwrs, y ffactor allweddol yn ôl rhai yw genedigaeth anrhydeddus unigolion sef y rhai fu’n pentyrru cyfoeth cenedlaethau o oresgyniadau, lladrad a thwyll. Mae’r cysyniad yn un hollol annerbyniol, ond ar hyn o bryd mae gennym drefniant cyfansoddiadol anysgrifenedig lle mae’r ffactor hon yn sail i’r hyn y mae holl rym gweithredol a deddfwriaethol y wlad yn deillio ohono ac o ganlyniad mae pennaeth y wladwriaeth yn benderfynol o’I gadw.

Tra bod sefydliad brenhinol mewn cyd-destun Prydeinig yn ddigon drwg, mewn cyd-destun Cymreig mae'n gwbl sarhaus. Roedd rhwymo Cymru i’r ‘undeb’ â Lloegr yn ganlyniad uniongyrchol i oresgyniad digymell ac anecsiad gan neb llai na rhagflaenwyr Charles Windsor. Nid yn unig eu bod wedi goresgyn a meddiannu Cymru, ond roedden nhw hyd yn oed wedi penderfynu llofruddio tywysogion brodorol olaf Cymru er mwyn cadarnhau eu rheolaeth dros y genedl. Ymosodwyd ar Llywelyn ap Gruffydd a’i ladd yng Nghilmeri yn 1282, a'i frawd Dafydd, oedd yn berson o bwys oedd y cyntaf mewn hanes cofnodedig i gael ei grogi, ei dynnu a’i chwarteru'r flwyddyn ganlynol. Fel arwydd sarhaus olaf o oruchafiaeth dros Gymru, arwisgodd Edward Longshanks ei fab yn Dywysog Cymru yn 1301. Ers hynny, bu'n arferiad i frenin llywodraethol Lloegr (y Deyrnas Unedig bellach, er bod ffactorau amheus bellach yn perthyn i’r term) i arwisgo ei etifedd fel Tywysog Cymru.

Yn y canrifoedd yn dilyn y goncwest, mae yna draddodiad radical hirsefydlog hyd heddiw o wrthwynebiad i'r frenhiniaeth yng Nghymru. Er fod Owain Glyndŵr wedi datgan ei hun yn Dywysog Cymru yn dilyn ei wrthryfel yn erbyn brenhiniaeth Lloegr yn 1404, gwnaeth hynny ym mhresenoldeb senedd yr oedd wedi’i gymell i gwrdd ym Machynlleth. Yn y flwyddyn ganlynol, cynhelwyd yr ail senedd yn Harlech, lle credir fod hyd at bedwar cynrychiolydd o bob cwmwd yng Nghymru yn bresennol. Er bod union natur seneddau Glyndŵr yn dal i gael ei cuddio braidd mewn hanes, mae eu bodolaeth yn dystiolaeth o duedd ddemocrataidd gynnar yng Nghymru. Byddai hyn yn parhau ymhell i mewn i’r Chwyldro Diwydiannol, a thrwy gydol y cyfnod hwn daeth Cymru yn leoliad ar gyfer gweriniaetholdeb radical, gan arwain at wrthryfeloedd Merthyr a Chasnewydd. Hyd yn oed yn 1969, adeg arwisgiad Charles Windsor yn Dywysog Cymru yng Nghaernarfon, gwelwyd protestiadau ledled y wlad a gweithredu milwriaethus gan fudiadau megis Mudiad Amddiffyn Cymru a Byddin Rhyddid Cymru. Mor ddwys oedd yr ymgyrchu yn erbyn arwisgiad Charles fel, yn ystod ei esgyniad i’r orsedd y llynedd, dewisodd Charles yn bersonol i osgoi seremoni arwisgo ffurfiol i William er mwyn gochel rhag ailadrodd digwyddiadau’r gorffennol.

Er holl hanes y frenhiniaeth, mae’r rhagolygon presennol ac ar gyfer ei dyfodol yn ddu, yn enwedig yma yng Nghymru. Roedd arolygon barn ar y mater a gynhaliwyd gan Beaufort Research a BBC Cymru ym 1999 yn awgrymu bod hyd at 62% o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg yn cefnogi’r frenhiniaeth, tra bod arolygon barn yn y blynyddoedd diwethaf wedi nodi’n gyson fod cefnogaeth ymhlith y boblogaeth ehangach yn hofran ar tua 50%, sy’n awgrymu gostyngiad mawr yn y gefnogaeth. Parthed Tywysog Cymru, mae tuedd eto ar i lawr dros y ddau ddegawd diwethaf, gyda chefnogaeth yn gostwng o 73% yn 1999 cyn ised â 51% yn 2023 yn ôl arolwg barn yr Arglwydd Ashcroft. Fodd bynnag, wrth edrych ar y pleidleisio yn ôl oedran, mae dyfodol y frenhiniaeth yn dod yn fwy ansicr fyth. Datgelodd arolygon barn a gynhaliwyd gan YouGov a WalesOnline eleni, er bod hyd at 69% o’r rhai yng Nghymru dros 65 oed yn cefnogi’r frenhiniaeth, dim ond 28% o bobl 16 a 24 oed sy’n ei gefnogi. Gwelir tuedd debyg ymhlith y rhai yn rhwng 24 a 49, lle mae'r gefnogaeth ar 43%. Mae'n ymddangos yn weddol amlwg felly fod cefnogaeth i'r frenhiniaeth yng Nghymru yn gostwng ac y dylai Cymru annibynnol y dyfodol ymdrechu i ddod yn weriniaeth er mwyn adlewyrchu hynny. Wedi’r cyfan, os ydyn ni am ddod yn genedl annibynnol, dylem hefyd gael y rhyddid i ethol pennaeth ein gwladwriaeth ein hunain.

Pan drafodir mater gweriniaethau mewn cyd-destun Prydeinig, mae'n cael ei gyflwyno yn aml fel dewis rhwng y status quo neu weriniaeth arlywyddol debyg i'r Unol Daleithiau neu Ffrainc. Mae realiti’r mater yn llawer mwy cyffrous mewn gwirionedd, yn enwedig yng nghyd-destun Cymru’n unig. Fel cenedl annibynnol, gallwn ddewis sefydlu ffurf newydd radical o lywodraethu yn seiliedig ar ddemocratiaeth gyfranogol a sybsidiaredd, sef yr egwyddor o ddatganoli hyd at yr haen isaf ymarferol. Mae model canton y Swistir yn ysbrydoliaeth lle mae'n bosib datganoli llywodraethu i lawr i raddfa ‘cantrefi’, ardaloedd bychain lle byddai cymunedau yn cael eu grymuso i lywodraethu materion eu hunain yn uniongyrchol. Byddai hyn yn golygu y byddai dinasyddion Cymru yn dod yn gyfranogwyr gweithredol yn eu cymunedau lleol ac yn meddu ar bŵer a dylanwad gwirioneddol dros eu hamgylchedd wrth i lywodraethu gael ei ostwng i raddfa’r person cyffredin. Mewn system o'r fath, byddai dinasyddion yn cymryd rhan mewn refferenda lleol a chenedlaethol aml, dadleuon, a gwneud penderfyniadau cyffredinol. Ni fyddai pŵer yn cael ei freinio yn y Senedd yng Nghaerdydd yn unig, ond hefyd gyda’r dinasyddion a’r cymunedau eu hunain. Ni fyddai hyd yn oed angen swyddogaeth  arlywydd confensiynol ei rôl, gan y gallwn yn lle hynny ddewis cael cyngor ffederal gweithredol fel mae’r Swistir yn ei wneud. Byddai hyn yn tawelu’r feirniadaeth weriniaethol a godir yn aml ynghylch cost ac arlywydd amhleidiol fel pennaeth y wladwriaeth.

Os yw Cymru am ddod yn genedl annibynnol, dylai wneud hynny gyda hunanhyder a balchder. Ni ddylai gyfyngu ei hun i ddulliau ‘diogel’, profedig o lywodraethu , ond cofleidio’r potensial i greu cymdeithas wirioneddol newydd sy’n rhoi grym cymunedau’n gyntaf. Ond yn bwysicaf oll, ni ddylai o dan unrhyw amgylchiad barhau dan reolaeth y frenhiniaeth ddi-fudd yn Llundain gan nad yw erioed wedi gwneud dim ond lladrata ac ysbeilio. Dewis synhwyrgall Cymru yw dangos dewrder i fod yn rhydd, yn hytrach na’r sefyllfa gaeth sy’n bodoli heddiw.

mru ddewis naill ai bod yn ddigon dewr i fod yn rhydd, neu ni fyddwn yn rhydd o gwbl.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.