Symud ymlaen o'r llywio

Cyfarfod Cyffredinol YesCymru 2021

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol YesCymru ar-lein am 10am ar ddydd Sadwrn 22 Mai 2021, ac mae croeso i bob aelod o YesCymru fynychu.

CYFNOD COFRESTRU YN AWR WEDI DOD I BEN

Yn ystod y cyfarfod byddwn ni'n trafod ac yn pleidleisio ar gynigion, mae gan bob aelod bleidlais a bydd angen bod yn bresennol er mwyn pleidleisio.

Bydd Pwyllgor Canolog YesCymru hefyd yn cael ei ethol. Mae gan bob aelod bleidlais, gan y bydd cynigion a all effeithio ar swyddi'r Pwyllgor Canolog yn cael eu trafod yn y Cyfarfod Cyffredinol bydd yn rhaid bod yn bresennol i bleidleisio.

Bydd yr holl gynigion a gwelliannau ynghyd â manylion am ymgeiswyr ar gyfer Pwyllgor Canolog YesCymru yn cael eu danfon at aelodau dros e-bost.

PRYD
May 05, 2021 at 10:00am - 1pm