Mae Ystâd y Goron yn berchen ar diroedd a gwely’r môr o amgylch Cymru. Maent yn creu incwm i’r Goron a Thrysorlys y Deyrnas Gyfunol yn bennaf, o brydlesi ynni adnewyddol.
Mae Ystâd y Goron Cymru gwerth £603m!
Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a chwmniau ynni preifat yn gwneud elw mawr allan o’u hasedau ym moroedd Cymru. Ond peidiwch a disgwyl i’ch biliau trydan leihau. A bydd yr elw ddim yn cael ei rannu gyda’ch cymuned.
Yr Alban sydd yn rheoli Ystâd y Goron yr Alban. Pe bawn NI yn rheoli ein Ystâd ni gallem rhoi STOP ar yr YSBEILIO hyn.
Dychmygwch beth allen ni wneud gyda’r arian?
- Gallai Trysorlys Cymru gadw yr holl elw a’i ddefnyddio yng Nghymru
- Neu ei fuddsoddi yn ein cymunedau glanmôr, gwella’n tai a’n gwasanaethau
- Neu gwladoli yr asedau a chreu cwmni ynni cenedlaethol
Dylai yr holl elw a gynhyrchir yng Nghymru aros yng Nghymru er lles ein cymunedau. DIM OND CYMRU ANNIBYNNOL gall sicrhau hyn.
- Crown estate: why it’s time to devolve it and put Wales on par with Scotland - Erthygl gan Stephen Clear, Ddarlithydd mewn Cyfraith Gyfansoddiadol a Gweinyddol, a Chaffael Cyhoeddus
- Campaign to devolve the Crown Estate to Wales launched - nation.cymru
- YesCymru holds a weekend of action to get Welsh land BACK from the royal family - thecanary.co.uk