Symud ymlaen o'r llywio

Gorymdaith Annibyniaeth - Y Barri

1pm, 26 Ebrill 2025, Sgwâr y Brenin, Y Barri

Byddwn yn cwrdd o 11am ar Sgwâr y Brenin. Bydd yr orymdaith yn cychwyn yn brydlon am 1pm.

Trefnir yr orymdaith ar y cyd gan YesCymru ac AUOBCymru, dau fudiad llawr gwlad sydd wedi ymrwymo i sicrhau annibyniaeth i Gymru, ac sy'n cael eu harwain gan wirfoddolwyr.


LLWYBR / MAP YR ORYMDAITH

Bydd yr orymdaith yn cychwyn yn Sgwâr y Brenin cyn symud ar hyd Heol Holton i’r gylchfan wrth Bont y Mileniwm, heibio’r Neuadd Goffa, ac i Heol Gladstone. Yna, bydd yn parhau i’r goleuadau traffig wrth y gyffordd gyda Heol Tynewydd, cyn dychwelyd i Sgwâr y Brenin.

Bydd yr heol ar gau i draffig yn ystod yr orymdaith. Byddwn yn gorymdeithio ar yr heol, heb balmentydd uchel, ac yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn a phramiau. Mae seibiannau byr wedi’u cynllunio ar hyd y ffordd i ganiatáu i bawb ailymgynnull.

Mae map Google ar gael yma sy'n dangos llwybr yr orymdaith, lleoliadau’r Rali a’r Farchnad Annibyniaeth, yn ogystal â gorsafoedd trenau, safleoedd bysus, toiledau a meysydd parcio cyfagos. Sgroliwch i lawr am ragor o fanylion.


BETH I DDOD GYDA CHI

Gwisgwch esgidiau cyfforddus a gwiriwch y rhagolygon tywydd cyn gadael - ond boed glaw neu hindda, byddwn yn gorymdeithio!

Dewch â digon o ddŵr ac unrhyw beth arall fydd angen arnoch chi ar y dydd.

Bydd digon o fwyd a diod ar gael yn y Farchnad Annibyniaeth, ac rydym yn annog pawb i gefnogi busnesau a masnachwyr lleol Y Barri tra byddwch yma. Sgroliwch i lawr i weld manylion llawn y Farchnad Annibyniaeth.

Peidiwch ag anghofio eich baneri, posteri, chwibanau, drymiau, a’r peth pwysicaf oll – dewch â’ch ffrindiau a’ch teulu i wneud y diwrnod yn un bythgofiadwy!


RALI ANNIBYNIAETH - Yn dilyn yr Orymdaith

Cynhelir Rali yn dilyn yr Orymdaith ar Sgwâr y Brenin, gan ddechrau tua 2pm. Bydd llwyfan a sgrîn fawr, areithiau, a cherddoriaeth fyw.

MC:

  • Mark Hooper (Trefnydd a Chynghorydd Lleol)

Siaradwyr:

  • Leanne Wood (Ymgyrchydd cymunedol a chyn Aelod Cynulliad)
  • Anna Arqué i Solsona (Ymgyrchydd dros annibyniaeth Catalwnia)
  • Eädyth Crawford (Cantores-gyfansoddwraig ac Ymgyrchydd)
  • Kiera Marshall (Plaid Cymru)
  • Tessa Marshall (Y Blaid Werdd)

Adloniant:

  • Emma Winter (Cantores)


SUT I GYRRAEDD Y BARRI

Rydym yn annog pawb i gyrraedd Y Barri erbyn hanner dydd (12pm), ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bo modd.

BYSUS

Mae gwasanaethau uniongyrchol o Gaerdydd, gan gynnwys y 93, 94 a 96, yn stopio ger Sgwâr y Brenin. Defnyddiwch cynlluniwr taith traveline.cymru i weld y manylion llawn.

TRENAU

Y orsaf agosaf a mwyaf cyfleus yw Dociau’r Barri, sydd tua 6 munud o gerdded (500 metr) o Sgwâr y Brenin.

Os cyrhaeddwch Orsaf y Barri drwy gamgymeriad, dilynwch y brif ffordd i mewn i’r dref neu ewch ar y trên nesaf yn ôl i Dociau’r Barri.

Mae gwasanaethau’n rhedeg yn rheolaidd o Gaerdydd Canolog a llinellau'r cymoedd.

Nid oes gwaith cynnal a chadw wedi ei gynllunio ar hyn o bryd, ond gwiriwch traveline.cymru a Trafnidiaeth Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf.

GYRRU A PHARCIO

Y cod post os yn defnyddio satnav yw CF63 4RW sef Sgwâr y Brenin. Mae meysydd parcio agos yn cynnwys:

  • Maes Parcio Llyfrgell y Barri, Stryd Wyndham, CF63 4EL – 77 lle.
  • Maes Parcio Aml-lawr Court Road, Court Road, CF63 4HP – 224 lle.
  • Mae parcio ar y stryd am ddim ar gael hefyd ar hyd Heol Gladstone a Heol Dock View.

TACSI

Cwmnïau tacsi lleol yn y Barri:

  • Dragon / Veezu / AtoB – 01446 724450
  • AtoZ Taxis – 01446 747555
  • Vale Taxis – 01446 747666
  • All Kinds of Cars – 07794 961652
  • Street Cars – 01446 405918
  • JD Cars – 01446 711460

Ni allwn ni fod yn gyfrifol am unrhyw broblemau sy'n codi wrth ddefnyddio'r gwasanaethau trafnidiaeth a gyfeirir atynt uchod.


TOILEDAU

Mae toiledau ar gael yn:

  • Llyfrgell y Barri, Heol Tynewydd – ar agor 9.00yb tan 5.00yp
  • ETO @ 83 Heol Holton – ar agor 9.00yb tan 5.00yp

Yn anffodus, fel llawer o gynghorau lleol eraill, cyfyngedig yw cyfleusterau toiledau cyhoeddus Cyngor Bro Morgannwg. O ganlyniad, efallai y bydd yn rhaid i’r rhai sy’n bresennol ddefnyddio toiledau mewn caffis a thafarndai lleol, sydd fel arfer ar gyfer cwsmeriaid yn unig. 


CYMORTH AR Y DIWRNOD

Os oes angen help neu os oes gennych unrhyw bryderon yn ystod y digwyddiad, siaradwch ag un o’n stiwardiaid. Byddant yn gwisgo festiau coch llachar gyda logo YesCymru, a byddant yn bresennol ar hyd llwybr yr orymdaith ac o amgylch Sgwâr y Brenin.

Bydd cymorth cyntaf yn cael ei ddarparu gan 'Event 1st Aiders', a fydd yn dilyn yr orymdaith ac ar gael cyn ac yn ystod yr orymdaith, ac yn ystod yr areithiau. Byddant wedi’u lleoli ar Heol Holton ger Sgwâr y Brenin. Gofynnwch i stiward os oes angen cymorth neu gefnogaeth feddygol arnoch.

Gellir rhoi gwybod am eiddo coll a materion brys ar stondin YesCymru yn y Parc Canolog, sydd wrth ymyl Sgwâr y Brenin.

Os oes gennych chi gwestiynau cyn y digwyddiad, ebostiwch [email protected].


MARCHNAD ANNIBYNIAETH

Byddwn yn cynnal ein Marchnad Annibyniaeth fwyaf erioed, gyda 19 stondin! Cynhelir y farchnad ym Mharc Canolog y Barri, wrth ymyl Sgwâr y Brenin, o 10am tan 4pm.

Dewch yn gynnar i bori drwy’r amrywiaeth eang o stondinau a chael gafael ar nwyddau annibyniaeth!

Diolch i’r holl fusnesau a sefydliadau sy’n cefnogi’r farchnad.


ADLONIANT YN DILYN YR ORYMDAITH

Ymunwch â ni yn y Savoy yn y Barri ar ôl yr orymdaith i ganu dros annibyniaeth a dathlu gyda’n gilydd.

Dewch ag offerynnau neu ddim ond eich llais! Dyma gyfle i fwynhau cerddoriaeth gyda phobl o'r un anian.

4.00yp, Y Savoy, Y Barri CF62 7AJ


NOS WENER – CYN YR ORYMDAITH

Yes Cymru a Scotonomics yn mynd i’r afael â llymder y Deyrnas Gyfunol

Economeg y Byd Go Iawn – Y Barri, Cymru

7:00 pm – 10:00 pm
Dydd Gwener, 25 Ebrill 2025
Gwesty'r Park, Park Crescent, Y Barri, CF62 6HE

Tocynnau:


SIOP AR-LEIN YESCYMRU

Fel teyrnged i arwr rygbi Cymru ac ymgyrchydd brwd dros annibyniaeth, Eddie Butler, mae’n bleser gennym gyhoeddi amrywiaeth o grysau newydd i goffáu ei araith enwog yn ystod Gorymdaith Annibyniaeth Merthyr yn 2019.

Gallwch hefyd brynu crysau Gorymdaith Annibyniaeth Y Barri yn ein siop ar-lein.

Siopa: cy.yes.cymru/shop


PRYD
April 26, 2025 at 1:00pm -
LLEOLIAD
King Square
Barry CF63 4 HL

Map Google a chyfeiriadau
1 RSVP

Ydych chi'n dod?