Ymunwch â ni y tu allan i’r Senedd i ddangos eich cefnogaeth i’r ymgyrch i drosglwyddo rheolaeth dros Ystad y Goron i Gymru.
Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o weithredoedd sydd wedi arwain at bob un awdurdod lleol i gefnogi’r alwad.
Bydd Aelodau'r Senedd yn cael eu gwahodd i lofnodi datganiad o gefnogaeth – ac rydym yn gofyn i gefnogwyr YesCymru ddod ag offerynnau a chreu sŵn na ellir ei anwybyddu gan San Steffan.