1. Pwy ydym ni
Sefydliad llawr gwlad amhelidiol sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru yw YesCymru, wedi'i ariannu’n bennaf gan danysgrifiadau aelodau a rhoddion. Daw ein hunig incwm arall o werthu nwyddau YesCymru o’n siop ar-lein (gweler Adran 5). Rydym wedi ymrwymo i gynnal ymddiriedaeth a hyder ein holl gefnogwyr, p'un a ydych chi'n ymwelydd â'n gwefan, yn aelod neu wedi cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr.
Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn yr ymgyrch i sicrhau annibyniaeth i Gymru - allwn ni ddim ei wneud heboch chi! Rydym am roi sicrwydd i chi mai dim ond er mwyn eich diweddaru ar ein hymgyrchoedd, a'ch galluogi i gymryd mwy o ran os ydych chi eisiau, y byddwn ni'n casglu'r lleiafswm o’ch ddata personol sydd ei angen arnom.
Trwy ddarllen ymlaen isod, gallwch ddarganfod mwy o fanylion am ba ddata a gasglwn a pham, yn ogystal â sut yr ydym yn gofalu amdano.
2. Ymwelwyr â'n gwefan
Pan fydd rhywun yn ymweld â yes.cymru rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth rhyngrwyd safonol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Rydyn ni'n gwneud hyn i ddarganfod pethau fel nifer yr ymwelwyr â gwahanol rannau o'r wefan. Dim ond mewn ffordd nad yw'n adnabod unrhyw un y caiff y wybodaeth hon ei phrosesu. Nid ydym yn gwneud, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud, unrhyw ymgais i ddarganfod pwy yw'r rhai sy'n ymweld â'n gwefan.
3. Aelodau
Fel rhan o'r broses o ymaelodi ag YesCymru, rydym yn casglu'r lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen arnom i brosesu'ch taliad – eich enw, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, yn ogystal â manylion talu (gweler isod). Rydyn ni'n defnyddio'r rhain i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein newyddion a'n hymgyrchoedd (fel eich bod chi'n gwybod beth mae'ch taliadau aelodaeth yn ein helpu ni i'w gyflawni) a ffyrdd y gallwch chi gymryd mwy o ran. Y brif ffordd y byddwn yn eich hysbysu yw trwy ein rhestr bostio. Byddwn yn eich ychwanegu i hwn yn awtomatig pan fyddwch yn ymaelodi ag YesCymru, ond gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg (gweler Adran 7).
Os oes gennych aelodaeth flynyddol, byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost pan fydd eich aelodaeth yn cael ei hadnewyddu. Os yw'ch aelodaeth yn seiliedig ar daliad misol a bod y taliadau hyn yn dod i ben, byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost i roi gwybod i chi (mae hyn fel arfer yn digwydd oherwydd bod cerdyn banc wedi'i adnewyddu neu ei ganslo).
Trwy ddod yn aelod o YesCymru, bydd eich enw yn cael ei ychwanegu'n awtomatig at ein deiseb "50,000 dros annibyniaeth" (gweler Adran 4).
Pan fyddwch yn rhannu gwybodaeth bersonol neu gategori arbennig yn wirfoddol gyda YesCymru, tybir y gellir defnyddio'r wybodaeth hon i'ch cynorthwyo neu i gyflawni ein nodau a'n hamcanion fel arall.
Efallai y byddwn yn prosesu eich data personol er mwyn ymchwilio a thrafod cwynion mewnol.
3.1 Ymaelodi ar ein gwefan
Os ydych yn ymaelodi trwy ein gwefan, bydd angen sefydlu'r taliad gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd. Prosesydd taliadau NationBuilder sy'n delio â hyn. Nid yw YesCymru yn casglu nac yn storio unrhyw ran o fanylion eich cerdyn. Yn ychwanegol i’r gwybodaeth bersonol a gasglwn fel y disgrifir ar ddechrau Adran 3, bydd angen eich rhif ffôn arnom hefyd - mae hwn yn ofyniad gan y prosesydd taliadau er mwyn sefydlu’r taliad.
3.2 Ymaelodi trwy ffurflen bapur
Er mwyn sefydlu archeb sefydlog byddwn yn casglu manylion eich cyfrif banc. Byddwn yn trosglwyddo'ch manylion eraill o'r ffurflen i'n cronfa ddata aelodaeth, yna byddwn yn gyrru’r ffurflen bapur yn syth i'ch banc. Ni fyddwn yn storio unrhyw un o'ch manylion banc.
4. Ein deiseb "50,000 dros annibyniaeth"
Y data a gasglwn er mwyn prosesu'ch llofnod yw eich enw, cyfeiriad e-bost, a chyfeiriad post. Mae angen cyfeiriadau post arnom i'n galluogi i ddod o hyd i gofnodion dyblyg ac yna eu dileu, er mwyn sicrhau cywirdeb y ddeiseb.
4.1 Llofnodi ar ein gwefan
Trwy lofnodi'r ddeiseb ar ein gwefan, rydych yn ymrwymo i bleidleisio "Ie" mewn refferendwm ar annibyniaeth i Gymru. Ar y sail honno, ein tyb resymol yw ei bod o fewn eich buddiannau cyfreithlon chi a'n buddiannau cyfreithlon ni ein bod yn eich ychwanegu at ein rhestr bostio fel y gallwch glywed mwy am waith YesCymru.
4.2 Llofnodi trwy aelodaeth YesCymru
Ffordd arall y gallwch chi lofnodi ein deiseb yw trwy ddod yn aelod o YesCymru. Os ydych chi'n aelod nid oes angen llenwi'ch manylion eto ar gyfer y ddeiseb, gan y bydd hyn yn digwydd yn awtomatig pan fyddwch yn ymaelodi.
4.3 Llofnodi trwy hysbyseb Facebook
Ar wahân i ar ein gwefan, gallwch lofnodi'r ddeiseb trwy gyflwyno ffurflen Lead Ad a gyhoeddwn trwy ein tudalen Facebook. Bydd Facebook yn poblogi'ch manylion o flaen llaw, ond gallwch eu haddasu cyn eu hanfon. Yna bydd eich manylion yn cael eu hanfon i'n system NationBuilder a'u hychwanegu at ein rhestr bostio. Mae ein defnydd o Lead Ads yn unol â Pholisi Data Facebook.
5. Cwsmeriaid yn ein siop ar-lein
Pan fyddwch chi'n prynu rhywbeth o'n siop ar-lein, byddwn yn casglu rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi er mwyn prosesu'ch archeb. Dim ond y wybodaeth sydd ei hangen arnom y byddwn yn ei chasglu, sef eich enw a'ch cyfeiriad post (fel y gallwn anfon y nwyddau rydych wedi'u prynu atoch), a’ch cyfeiriad e-bost a rhif ffôn (fel y gallwn gysylltu â chi'n hawdd os oes problem gyda eich archeb). Bydd y wybodaeth yma’n cael ei chadw ar ein cronfa ddata Ecwid (gallwch weld polisi preifatrwydd Ecwid yma), fel na fydd yn rhaid i chi ailgofrestru gyda ni fel cwsmer newydd ar gyfer pryniannau eraill yn y dyfodol. Ni fyddwn yn defnyddio'ch manylion cyswllt i gysylltu â chi am unrhyw beth heblaw eich pryniant, oni bai eich bod yn dewis derbyn mwy o wybodaeth gennym yn ystod y broses dalu, ac os felly byddwn yn eich ychwanegu at ein rhestr bostio (gweler Adran 7).
6. Os byddwch chi'n cysylltu â ni mewn unrhyw ffordd arall
Os ydych chi'n cysylltu â ni trwy'r post neu e-bost am unrhyw fater arall (neu os ydych chi'n anfon eich manylion cyswllt atom trwy'r cyfryngau cymdeithasol er enghraifft trwy neges uniongyrchol ar Twitter), ac nid ydych chi eisoes yn aelod neu danysgrifiwr i'n cylchlythyr, ni fyddwn yn cysylltu â chi am unrhyw fater heblaw'r pwnc yr ydych wedi cysylltu â ni yn wreiddiol amdano.
Os byddwn yn cwrdd â chi wyneb yn wyneb (er enghraifft mewn digwyddiad) a'ch bod yn rhoi eich manylion cyswllt i ni er mwyn cadw mewn cysylltiad, dim ond eich enw a'ch cyfeiriad e-bost y byddwn yn eu casglu, a byddwn yn ceisio caniatâd gennych ar y pryd i'ch ychwanegu at ein rhestr bostio. Os mai dim ond am fater penodol yr ydych am i ni gysylltu â chi, ni fyddwn yn eich ychwanegu at ein rhestr bostio.
7. Ein rhestr bostio
Rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti, NationBuilder, i ddanfon ein cylchlythyr. Rydym yn casglu ystadegau ynghylch agor a chlicio e-byst gan ddefnyddio technolegau safonol y diwydiant i'n helpu i fonitro a gwella ein cylchlythyr. Am ragor o wybodaeth, gweler rhybudd preifatrwydd NationBuilder.
Efallai y byddwn yn defnyddio meddalwedd arolwg trydydd parti, 123FormBuilder, i anfon arolwg atoch, lle rydyn ni'n casglu'r un wybodaeth bersonol a ddisgrifir yn Adran 3. Mae'r data'n cael ei storio'n ddiogel gan 123FormBuilder. Am ragor o wybodaeth, gweler rhybudd preifatrwydd 123FormBuilder.
Esbonnir uchod y gwahanol ffyrdd y gallwch danysgrifio i'n rhestr bostio. Os ydych chi wedi tanysgrifio i'n rhestr bostio, rydyn ni'n anfon cylchlythyrau achlysurol i'ch diweddaru chi gyda newyddion, ymgyrchoedd, digwyddiadau a ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan. Gall yr e-byst hyn ddod oddi wrth YesCymru yn ganolog, neu oddi wrth eich grŵp YesCymru lleol (gweler Adran 8).
Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'ch gwybodaeth i wirio bod ein cofnodion yn gywir ac i wirio bob hyn a hyn eich bod yn hapus ac yn fodlon.
O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn yn darparu gwybodaeth i chi am apeliadau penodol yr ydym yn eu cynnal, er enghraifft, os ydym yn cynnal ymgyrch cyllido torfol i godi arian, ond byddwn yn gwneud y cyfathrebiadau fel hyn mor anaml â phosibl.
Rydym hefyd yn partneru gydag amryw o fusnesau lleol sy'n cefnogi annibyniaeth ledled Cymru, sydd wedi ymrwymo i gynnig gostyngiadau ar eu nwyddau a'u gwasanaethau i aelodau YesCymru yn unig. Efallai y byddwn yn anfon e-bost atoch am y cynigion hyn o bryd i'w gilydd. Nid yw YesCymru yn rhannu unrhyw un o'ch manylion gyda'r cwmnïau hyn.
Ar wahân i'r dulliau tanysgrifio a ddisgrifir uchod, gallwch hefyd danysgrifio i'n rhestr bostio trwy'r adran Cofrestru ar gyfer newyddion a diweddariadau ar ein gwefan. Fel rhan o'r broses gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio, rydym yn casglu’r lleiafswm o wybodaeth bersonol - eich enw a'ch cyfeiriad e-bost.
7.1 Dad-danysgrifio o'n rhestr bostio
Gallwch ddad-danysgrifio o'n rhestr bostio ar unrhyw adeg trwy glicio ar y ddolen I newid eich gosodiadau ebost, cliciwch yma sydd ar waelod unrhyw un o'n negeseuon e-bost. Yna rhoddir opsiwn i chi ddad-danysgrifio o fathau penodol o e-bost, neu o bob e-bost. Y mathau penodol o e-byst y gallwch eu dad-danysgrifio yw:- newyddion a diweddariadau gan YesCymru yn ganolog, newyddion a diweddariadau gan grwpiau YesCymru, ac e-byst gan YesCymru yn ganolog sy'n cynnwys cynigion unigryw gan ein partneriaid.
Gallwch hefyd ddad-danysgrifio trwy anfon e-bost at [email protected]. Os ydych yn dad-danysgrifio trwy'r dull hwn, byddwn yn cymryd eich bod am ddad-danysgrifio o bob math o e-bost, oni bai eich bod yn nodi fel arall.
8. Rhannu eich gwybodaeth â'ch grŵp lleol
Mae gan YesCymru nifer o grwpiau lleol sy'n gweithredu mewn gwahanol gymunedau ledled Cymru. Fe'ch ychwanegir at restrau postio eich grŵp lleol yn awtomatig. Ystyrir bod grŵp yn lleol i chi os ydych chi'n byw mewn ward cyngor sir sydd o fewn dalgylch y grŵp - fel arfer o fewn radiws o 10 milltir i’r grŵp. Mae eich ward yn cael ei amcangyfrif gyda geocoding, sy'n defnyddio pob rhan o'r cyfeiriad post diweddaraf sydd gennym ar eich cyfer chi.
Mae eich grŵp lleol yn rhwym wrth y polisïau preifatrwydd a nodir yn y ddogfen hon. Ar yr amod bod eich grŵp lleol hefyd yn bodloni'r meini prawf a nodir yn ein cyfansoddiad, gall y grŵp enwebu person neu bersonau i weithredu fel Proseswyr Data. Gall y Prosesydd/Proseswyr Data ar gyfer eich grwpiau lleol gysylltu â chi trwy e-bost ar ran eu grŵp. Dim ond er mwyn eich diweddaru chi â newyddion am yr hyn y mae'r grŵp yn ei wneud y byddant yn defnyddio'ch data, ac i'ch gwahodd i ddigwyddiadau a chyfarfodydd lleol. Ni chaniateir i'r Prosesydd/Proseswyr Data ar gyfer eich grŵp lleol allforio'ch data o'n cronfa ddata, na'i rannu ag unrhyw drydydd partïon.
Ni fydd eich data yn weladwy i Brosesydd(ion) Data unrhyw grŵp YesCymru arall.
Mae pob Prosesydd Data ar gyfer YesCymru yn rhwym wrth Gytundeb GDPR Grwpiau YesCymru.
Gallwch ddad-danysgrifio o restr bostio eich grŵp lleol ar unrhyw adeg trwy ddewis yr opsiwn perthnasol yn y ddolen I newid eich gosodiadau ebost, cliciwch yma sydd ar waelod unrhyw e-bost gan YesCymru neu grŵp lleol (gweler Adran 7.1)
9. Cyffredinol
Rydym yn sefydliad dielw sy'n gymwys i gael eithriad ffioedd cofrestru ICO, ac nid yw'n ofynnol arnom yn gyfreithiol i benodi swyddog diogelu data.
Nid ydym yn rhentu nac yn masnachu rhestrau e-bost gydag unrhyw sefydliadau neu fusnesau eraill.
Rydym yn prosesu eich data personol o dan sail gyfreithiol Budd Cyfreithlon.
Byddwn yn cadw'r wybodaeth bersonol a gasglwn gan aelodau am flwyddyn ar ôl i'ch aelodaeth ddod i ben.
Nid ydym yn defnyddio prosesau gwneud penderfyniadau na phroffilio awtomataidd fel rhan o'n gweithgareddau prosesu data.
Mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'ch data personol:
- Cael eich hysbysu am y data sydd gennym, a sut a pham rydym yn ei brosesu;
- Gofyn am gopi o'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi;
- Ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro unrhyw wallau yn y data personol sydd gennym mewn perthynas â chi;
- Cyfyngu ar brosesu eich data, os yw data'n anghywir neu'n cael ei brosesu'n anghyfreithlon;
- Gwrthwynebu i'ch data gael ei brosesu os ydych chi'n amau nad yw'r hyn rydyn ni'n ei wneud yn gyfreithlon;
- Gofyn am i'ch data gael ei ddileu;
- Gofyn i ni anfon copi o'ch data yn electronig atoch chi, neu drydydd parti;
- Tynnu caniatâd yn ôl trwy ddad-danysgrifio i'n cylchlythyr neu ganslo aelodaeth;
- Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein hawdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data (https://ico.org.uk/concerns).
10. Gwybodaeth bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn neu ynglŷn â sut rydym yn defnyddio neu'n storio data gallwch gysylltu â ni ar [email protected].
Ein cyfeiriad cofrestredig yw:- YesCymru, Swyddfa 23609, PO Box 92, Caerdydd, CF11 1NB.
Gorffennaf 2021