Symud ymlaen o'r llywio

EGM 2021

 

DIWEDDARIAD

Mae'r cyfnod pleidleisio bellach wedi cau

Pasiwyd y cynnig gyda'r mwyafrif angenrheidiol o ddau draean.

Dyma'r camau nesaf:

  • Bydd YesCymru yn symud i fod yn gwmni cyfyngedig trwy warant gyda strwythur newydd, bydd Azets yn cychwyn y broses ar unwaith
  • Bydd aelodau'n cael eu trosglwyddo o'r YesCymru cyfredol i'r YesCymru Cyf newydd
  • Bydd yr Erthyglau Cymdeithasiad yn cael eu mabwysiadu
  • Bydd y cyfnod enwebu ar gyfer ethol Cyfarwyddwyr yn agor o fewn yr wythnos nesaf, cynhelir yr etholiad ei hun erbyn diwedd mis Ionawr

Diolch am fod yn rhan o'r broses, awn ymlaen i greu dyfodol YesCymru gyda'n gilydd

-> Mae cwestiynau cyffredin am y Cyfarfod Cyffredinol Arbennig (CCA) i'w gweld yma

-> Mae gwybodaeth am beth yw Cwmni Cyfyngedig trwy Warant yma, a pham bod angen Erthyglau Cymdeithasiad yma ac Is-ddeddfau yma

-> Mae'r cynnig fydd gerbron  y CCA i'w weld yma

BETH YW'R CCA?

Cyfarfod Cyffredinol Brys yw'r CCA (EGM yn Saesneg). Gelwir CCA gan grwpiau neu aelodau YesCymru ar ddyddiad y tu hwnt i'r cyfarfod cyffredinol blynyddol sy'n cael ei drefnu.

PAM FOD ANGEN CCA?

Oherwydd twf sylweddol YesCymru, mae angen strwythurau a fframweithiau cyfreithiol newydd i ddisodli'r rhai cyfredol a oedd yn fwy addas i sefydliad cymunedol bach. Er mwyn gwneud hyn, mae angen cyfansoddiad newydd. Mae'r Gweithgor wedi bod yn gweithio'n ddiflino gyda chyfreithwyr i gynhyrchu fframwaith cyfreithiol y maen nhw'n credu sy'n addas ar mudiadau â bron i 18,000 o aelodau.

BLE FYDD Y CCA YN DIGWYDD?

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar-lein. Wedi i chi gofrestru i fynychu, byddwn yn anfon dolen atoch ar gyfer y CCA yn nes at y dyddiad.

Bydd modd pleidleisio ar-lein o 8am ar Ragfyr 10fed, bydd pleidleisio yn cau yn ystod y CCA ar Ragfyr 11eg, felly peidiwch â phoeni os na allwch ymuno â'r cyfarfod bydd hi'n dal i fod yn bosibl i bleidleisio ar y cynigion.

 

Ymgorffori fel Cwmni Cyfyngedig drwy Warant

Bydd cynnig gerbron y Cyfarfod Cyffredinol Arbennig i ymgorffori YesCymru yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant

Beth yw Cwmni Cyfyngedig drwy Warant?

Mae Cwmni Cyfyngedig trwy Warant yn hollol wahanol i gwmni masnachol (cyfyngedig drwy gyfranddaliadau gyda chyfranddalwyr a difidendau ac ati). Fel arfer, fe'u sefydlir dan gyfraith cwmnïau i redeg mentrau elusennol, clybiau chwaraeon, cwmnïau cydweithredol a sefydliadau 'nid er elw' a chymunedol. Yn gynyddol, mae nifer o sefydliadau ymgyrchu ar lawr gwlad wedi dewis mabwysiadu'r math hwn o lywodraethu, ac am resymau da iawn.

  • Wrth gael eu cyfyngu trwy warant mae gan gwmnïau eu personoliaeth gyfreithiol eu hunain, ar wahân i'r aelodau. Mae hyn yn amddiffyn aelodau rhag 'atebolrwydd cyfyngedig' yn ôl y gyfraith, felly dim ond am swm eu gwarant y mae ganddynt atebolrwydd – £1 fel arfer.
  • Maent yn buddsoddi unrhyw elw y maent yn ei gynhyrchu yn ôl yn cwmni – yn hytrach na'i ddosbarthu fel taliadau difidend i gyfranddalwyr.

Pam bod y Gweithgor yn cynnig ymgorffori fel Cwmni Cyfyngedig drwy Warant?

Mae YesCymru wedi tyfu o grŵp bychan o unigolion sydd â diddordeb mewn hyrwyddo annibyniaeth i Gymru i sefydliad llawr gwlad eang gyda miloedd lawer o aelodau o bob rhan o Gymru a thu hwnt yn ymgyrchu i wireddu'r freuddwyd o Gymru annibynnol. Nid yw sefydliad anghorfforedig, gyda chyfansoddiad sylfaenol iawn ac sydd weithiau yn aneffeithiol, yn addas i’r mudiad mwyach, heb sôn am mewn 5, 10, neu 15 mlynedd. Byddai cwmni cyfyngedig trwy warant, YesCymru Cyf yn gosod seiliau cadarn i’r mudiad am flynyddoedd lawer i ddod ac yn darparu ar gyfer twf pellach i’r aelodaeth, gyda strwythurau llywodraethu addas. 

Erthyglau Cymdeithasiad

Er mwyn ymgorffori'n Gwmni Cyfyngedig trwy Warant bydd angen creu Erthyglau Cymdeithasiad (Articles of Association).
Mae Erthyglau Cymdeithasiad arfaethedig YesCymru Cyf i'w gweld yma.

Beth yw’r Erthyglau Cymdeithasiad?

Mae Erthyglau Cymdeithasiad yn ddogfen sy'n nodi strwythur rheoli a gweinyddol sylfaenol y cwmni. Maent yn rheoleiddio materion mewnol y cwmni ac yn cynnwys, er enghraifft, y strwythurau llywodraethu, y strwythurau ariannol, strwythur bwrdd y cyfarwyddwyr a'r strwythurau a gweithdrefnau sydd eu hangen i fodloni cyfraith cwmnïau a Thŷ'r Cwmnïau. Dyma'r sylfaen gyfreithiol y bydd y mudiad wedi ei adeiladu arno.

Yr Erthyglau Cymdeithasiad yw rheoliadau sylfaenol y mudiad ac mae'n annhebygol y bydd angen eu newid yn aml. Mae angen mwyafrif o 75% o bleidleisiau mewn cyfarfod cyffredinol er mwyn eu diwygio. Efallai y bydd angen cyngor cyfreithiol hefyd i sicrhau bod unrhyw eiriad newydd yn yr Erthyglau yn dal i gydymffurfio â chyfraith cwmnïau.
Gall materion a sefyllfaoedd gweithredol bob dydd newid yn aml ac yn gyflym felly mae'r rhan fwyaf o reolau, polisïau a chanllawiau dydd i ddydd mewn Is-ddeddfau. (Gweler isod am ragor o wybodaeth am Is-ddeddfau)

Beth yw statws cyfreithiol yr Erthyglau Cymdeithasiad?

Mae Erthyglau Cymdeithasiad yn ddogfen gyfreithiol sy'n cael ei llunio yn unol â chyfraith cwmnïau. Maent yn pennu enw'r cwmni, yn diffinio diben y cwmni ac yn cynnwys rheoliadau ar gyfer gweithrediad y cwmni.

Sut gafodd yr Erthyglau eu drafftio?

Mae Erthyglau Cymdeithasiad yn aml yn cael eu creu ar batrwm safonol. Gan fod YesCymru yn sefydliad llawr gwlad gydag aelodaeth eang fe wnaeth Gweithgor YesCymru lunio Erthyglau Cymdeithasiad gyda chyngor cyfreithiol gan un o brif gwmnïau cyfreithiol annibynnol Cymru.
Derbyniodd y Gweithgor dros 200 o gynigion ar gyfer diwygio YesCymru gan grwpiau ac unigolion. Lluniwyd yr Erthyglau ar sail y cynigion hynny.

Sut fyddai cynnwys yr Erthyglau yn effeithio ar aelodau cyffredin YesCymru?

Yn ymarferol, nid rhyw lawer. Byddai aelodau yn dal i fod yn rhan o grwpiau ac yn gallu parhau i ymgyrchu'n lleol yn yr un modd ag o’r blaen. Ond byddai cyrff a strwythur llywodraethu newydd mewn lle.

Is-ddeddfau

Beth yw Is-ddeddfau?

Bydd ail ran y cyfansoddiad newydd ar ffurf cyfres gyflawn o is-ddeddfau. Dyma 'lyfr rheolau' ar gyfer cynnal cwmni yn ddidrafferth o ddydd i ddydd. Petai'r Erthyglau yn sgerbwd i'n cyfansoddiad, yr Is-ddeddfau yw'r cig ar yr esgyrn hynny.
Maen nhw ar ffurf gwahanol i'r Erthyglau - yn llai 'cyfreithlon' yn eu naws, ac yn ymwneud ag amrywiaeth o feysydd. Mae rhai yn 'Rheolau' tra bod eraill yn bolisïau, codau ymarfer, cylch gorchwyl a chanllawiau. Gall is-ddeddfau gynnwys amrywiaeth o ddogfennau yn ymwneud ag unrhyw beth o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Diogelu, Gweithdrefnau Disgyblu; Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol; Cod Ymddygiad y Cyfarwyddwyr, Polisi Iaith, Democratiaeth Ddigidol a llawer mwy.

Beth yw statws cyfreithiol Is-ddeddfau?

Mae is-ddeddfau yn wahanol i Erthyglau Cymdeithasiad. Mae angen i Erthyglau gydymffurfio'n gyfreithiol â chyfraith cwmnïau, tra bod is-ddeddfau'n cael eu hystyried yn rheolau mewnol ar gyfer cynnal gwaith cwmni o ddydd i ddydd ac yn ymwneud â phethau fel materion polisi.

Sut gafodd yr is-ddeddfau arfaethedig eu llunio?

Yn wahanol i Erthyglau Cymdeithasiad, nid oes angen i Is-ddeddfau ddilyn strwythur gydnabyddedig yn unol â chyfraith cwmnïau, ac nid oes angen yr un lefel o gydymffurfiaeth gyfreithiol ag Erthyglau.
Mae'r Is-ddeddfau a ddrafftiwyd gan y Gweithgor yn benodol iawn i anghenion YesCymru fel mudiad.

Sut fyddai'r Is-ddeddfau'n effeithio ar aelodau cyffredin YesCymru?

Byddai'r is-ddeddfau'n darparu polisïau, cylch gorchwyl a rheolau manwl sy'n cynnwys canllawiau llywodraethu a rheoleiddio ychwanegol ar sawl agwedd ar weithrediad YesCymru o ddydd i ddydd wedi'u hanelu at osod a chynnal y safonau moesegol uchaf ac arfer gorau o ran llywodraethu, cynnal ac ymgyrchu.

A ellir eu diwygio yn y dyfodol?

Yn wahanol i Erthyglau Cymdeithasiad, mae angen i Is-ddeddfau, yn ôl eu natur, fod yn fwy hyblyg fel y gall YesCymru ymateb yn gyflym i amgylchiadau a safonau sy'n newid.
Gellir diwygio'r is-ddeddfau arfaethedig gan fwyafrif syml mewn cyfarfod o'r aelodau neu gan y Corff Llywodraethu Cenedlaethol arfaethedig. Ni fydd angen cyngor cyfreithiol arnom i ddiwygio'r is-ddeddfau o reidrwydd, nid oes angen i'r geiriad gydymffurfio'n llym â chyfraith cwmnïau a gellir ddefnyddio modelau o’r safon uchaf o sawl ffynhonnell.

Ni fydd pleidlais ar yr Is-ddeddfau felly. Ond bydd y Gweithgor yn argymell Is-ddeddfau i’r corff llywodraethu newydd. Mae'r Is-ddeddfau a argymhellir i'w gweld yma.

Strwythur Newydd Arfaethedig

Mae diagram o'r strwythur arfaethedig i'w weld yma.

Beth fyddai strwythurau llywodraethu cenedlaethol YesCymru?

Ar lefel genedlaethol y byddai'r newid mwyaf, byddai Corff Llywodraethu Cenedlaethol newydd yn cael ei ffurfio, wedi ei ethol yn uniongyrchol gan aelodau YesCymru. Byddai'r corff hwn yn ffurfio bwrdd cyfarwyddwyr YesCymru, gan y byddai'r sefydliad yn dod yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant.

Byddai aelodau'r Bwrdd yn cynrychioli holl ranbarthau Senedd Cymru yn gyfartal a bydd cynrychiolaeth o'r tu allan i Gymru.

Byddai sawl is-bwyllgor yn cynorthwyo'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol, gan gynnwys Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC). Byddai gwaith y Corff Llywodraethu Cenedlaethol yn cwmpasu polisi, strategaeth a gweinyddiaeth, a byddai'n gyfrifol am unrhyw staff a gyflogir gan YesCymru, gan gynnwys penodi Prif Swyddog Gweithredol yn y dyfodol.

Byddai ail gorff llywodraethu ar lefel genedlaethol hefyd - Cyngor y Dirprwyon. Byddai'r corff hwn ei ethol o gynrychiolwyr grwpiau YesCymru a byddai hefyd yn cynrychioli poblogaeth Cymru yn gyfartal drwy bob un o'n rhanbarthau, yn ogystal â'r diaspora ehangach. Byddai Cyngor y Dirprwyon yn gyswllt rhwng y grwpiau a'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol a bydd yn cyfathrebu strategaeth ymgyrchu a barn yr aelodaeth i'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol .

Beth fyddai strwythurau grwpiau YesCymru?

Ar lefel leol ni fyddai grwpiau yn gweld llawer o newid. Byddai pob grŵp yn cadw ymreolaeth, a byddent yn rhydd i barhau â'u hymgyrchoedd fel sy'n digwydd ar hyn o bryd. Byddai grwpiau'n cael eu categoreiddio fel a ganlyn:

• Grwpiau Daearyddol - dyma fyddai'r grwpiau lleol fyddai'n cynrychioli ardal leol
• Grwpiau Nodwedd Warchodedig - byddai'r rhain wedi eu diogelu dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010) ac yn cynrychioli'r holl nodweddion gwarchodedig.
• Grwpiau Thematig - bydd grwpiau yn y categori hwn yn cynnwys grwpiau diddordeb arbennig.

Byddai grwpiau'n perthyn i un o ddau gategori - Achrededig a Chysylltiol. Byddai statws achrededig yn disodli'r statws grwpiau cyfansoddiadol presennol, a byddai statws grŵp cyswllt yn disodli statws presennol grwpiau heb eu cyfansoddi.

Byddai cynrychiolydd ar ran y grwpiau daearyddol a gwarchodedig yn rhan o'r 5 Cyngor Rhanbarthol sy'n seiliedig ar ranbarthau'r Senedd. Byddai gan bob Cyngor Rhanbarthol gynrychiolaeth ar gyngor y Dirprwyon hefyd.

Pryd fyddai'r strwythurau newydd yn dod i rym pe bai'r aelodaeth yn derbyn cynnig y Gweithgor?

Os derbynnir cynnig y Gweithgor, bydd y newid i'r cwmni yn gyfyngedig drwy warant a'r gwaith o drefnu'r etholiadau yn dechrau ar unwaith. Byddai'r strwythurau sy'n weddill yn cael eu ffurfio pan fyddai'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol newydd ar waith.

Swyddogaeth Cyfarwyddwyr

Sut fyddai rôl aelodau etholedig y Corff Llywodraethu Cenedlaethol newydd arfaethedig yn wahanol i rôl aelodau'r Pwyllgor Canolog presennol?

Mae’r Gweithgor yn cynnig bod y Pwyllgor Canolog presennol yn cael ei ddisodli gan Gorff Llywodraethu Cenedlaethol a bod y corff hwn yn dod yn fwrdd cyfarwyddwyr YesCymru Cyf - Cwmni Cyfyngedig drwy Warant.
Byddai eu swyddogaethau wedi'u diffinio'n glir yng nghyfraith cwmnïau.

Dim ond er budd y cwmni y gellir cyfiawnhau penderfyniadau'r Bwrdd, nid ar sail yr hyn sy'n gweithio orau i unrhyw un arall, megis gweithrediadau penodol, neu endidau sefydliadol eraill. Serch hynny, dylai cyfarwyddwyr fod yn eangfrydig eu meddwl yn y ffordd mae nhw yn gwerthuso'r buddiannau hynny – gan roi sylw i ran-ddeiliaid eraill yn hytrach na mabwysiadu persbectif gweithredol cul.

Sut fyddai portffolios y cyfarwyddwyr yn amrywio o bortffolios aelodau'r Pwyllgor Canolog?

Yn yr Erthyglau Cymdeithasiad arfaethedig yr unig rôl sydd wedi ei diffinio yw rôl y Cadeirydd. O dan Adran 272 o Ddeddf Cwmnïau (2006) nid yw'n ofynnol bod unrhyw swyddogaethau eraill wedi eu diffinio.
Mae hyn yn gyfle i YesCymru benderfynu ar strwythur y Corff Llywodraethu Cenedlaethol. Gellir dynodi nifer o ddyletswyddau i aelodau'r bwrdd fel sy’n briodol. Gallai'r rolau hyn gynnwys Is-gadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd ac ati, yn ogystal á Swyddog Ymgyrchoedd, Swyddog Cyfryngau, Swyddog Cyswllt Grwpiau, Llefarydd ac yn y blaen.
Mae cyfraith cwmnïau a'r cyfansoddiad arfaethedig caniatáu hyblygrwydd i’n strwythur.

Mae'r Is-ddeddfau mae'r Gweithgor wedi eu llunio yn cynnig un swyddogaeth benodol i aelod etholedig, i fod â chyfrifoldeb dros ymgysylltu â, tyfu a datblygu grwpiau ac aelodaeth.

A fyddai’r dyletswyddau ychwanegol ar gyfarwyddwyr er mwyn cydymffurfio â chyfraith y cwmni yn arwain at fwy o bwysau gwaith?

Ni fyddai llawer o waith ychwanegol ond byddai ambell newid. Byddai rhwymedigaeth gyfreithiol i gadw cofnodion manwl o gyfarfodydd y Corff Llywodraethu Cenedlaethol fel cofnod o broses y bwrdd o wneud penderfyniadau. Yn ôl y gyfraith, rhaid cadw'r cofnodion hyn am 10 mlynedd.

Fodd bynnag, mae’r strwythur yn caniatáu i fwy o aelodau'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol ymgymryd â rol ddiffiniedig ac mae'r strwythurau yn annog sefydlu is-bwyllgorau a grwpiau penodol i gynorthwyo'r gyda gwaith dydd i ddydd y Corrf Llywodraethu Cenedlaethol yn eu gwaith bob dydd.
Byddai’r is-grwpiau hyn yn caniatáu i'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol fanteisio ar arbenigedd yr aelodaeth ehangach er mwyn symud YesCymru ymlaen yn effeithiol.

A oes angen unrhyw sgiliau neu gymwysterau penodol i fod yn gyfarwyddwyr?

Er mwyn derbyn enwebiad byddai angen cefnogaeth 10 aelod cyfredol a chyflwyno cais ysgrifenedig yn amlinellu cefndir a chymwysterau/profiad.
Byddai disgwyl I rywun fod yn aelod llawn o YesCymru am o leiaf 3 mis.
Byddai angen gwirio i gefndir rhai cyfarwyddwyr mewn rôl weithredol penodol, fel y Trysorydd neu unrhyw rolau yn ymwneud â diogelu cyn iddynt ymgymryd a’u dyletswyddau.
Mae ymchwiliad troseddol cyfredol yn atal rhywun rhag bod yn gyfarwyddwr.


Nid fyddai angen cymhwyster penodol i fod yn gyfarwyddwr ar YesCymru ac eistedd ar y fwrdd y Corff Llywodraethu Cenedlaethol, ond byddai disgwyl i ymgeiswyr ddangos bod ganddynt brofiad perthnasol ar gyfer rôl o'r fath.

Rhaid iddynt hefyd ddangos eu bod yn ymwybodol o -

• ganlyniadau tebygol unrhyw benderfyniad a wnânt ar ddyfodol hirdymor YesCymru
• fuddiannau gweithwyr YesCymru
• fwriad YesCymru i gynnal ei enw da a’i safonau uchel yn ei weithrediadau mewnol a'i strategaeth ymgyrchu allanol
• angen i weithredu'n deg wrth ymdrin a pherthynas aelodau’r mudiad a’u gilydd.


Mae gwybodaeth ddefnyddiol am rôl cyfarwyddwyr i'w weld yma: https://www.gov.uk/guidance/being-a-company-director.cy