Ymgeisydd ar gyfer Gogledd Cymru
Fy enw i yw Ethan Jones a dwi’n sefyll etholiad i CRhC YesCymru fel cynrychiolydd gogledd Cymru.
Rwyf wedi bod yn aelod o YesCymru ers dechrau 2020 ac yn eiriolwr cadarn dros annibyniaeth.
Mae gen i ddigon o brofiad proffesiynol ym maes Caffael, Rheoli Contractau a Rheoli a Dadansoddi Ariannol; Rwy’n credu y gall fy mhrofiad proffesiynol fod yn ased i YesCymru fel sefydliad a byddaf bob amser yn ceisio sicrhau gwerth am arian i'n haelodau.
O ran gwleidyddiaeth, rwy’n ystyried fy hun i fod ar y chwith ac wedi bod yn ymgyrchydd lleisiol dros Annibyniaeth a chodi ymwybyddiaeth o’r Argyfwng Costau Byw.
Rwy’n gyn-gynghorydd tref ac yn y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi cael profiad o gyfweliadau teledu, radio a phrint ar ôl ymddangos ar BBC Cymru, ITV Cymru, BBC Radio Wales, Heart FM ac eraill ynglŷn â’r Argyfwng Costau Byw a Gweriniaethau.
Yn anad dim, rydw i eisiau i Gymru fod yn wlad annibynnol arferol yn y byd sy'n edrych tuag allan i gael mynediad i gymunedau Ewrop a'r Byd, yn hytrach na chadw dan glo i DU sy'n dirywio'n gyflym ac yn gynyddol fewnblyg.
Mae’n anffodus nad oes gornest etholiadol yn adran gogledd Cymru, serch hynny gobeithio y gallwch ymddiried ynof i gynrychioli aelodau YesCymru a chwarae rhan yn yr ymgyrch dros Annibyniaeth.