Mae AUOBCymru a YesCymru wedi cyhoeddi y bydd eu gorymdaith Annibyniaeth cyntaf yn 2023 yn cael ei gynnal yn Abertawe ar 20 Mai.
Mae’r orymdaith dros Annibyniaeth diweddaraf yn dilyn digwyddiadau yng Nghaernarfon, Merthyr, Wrecsam a Chaerdydd yn 2019 a 2022, gyda dros 10,000 o bobl yn mynychu’r orymdaith ddiweddaraf yn y brifddinas.
Dywedodd Elfed Williams, Cadeirydd YesCymru: “Mae rhywbeth arbennig am ddod at ein gilydd i orymdeithio dros Gymru annibynnol ac mae’n wych gweld bod y gorymdeithiau wedi tyfu bob tro gyda gorymdaith Abertawe y mwyaf uchelgeisiol eto!
“Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â phobl Abertawe i groesawu pobl o bob rhan o Gymru ar 20 Mai. Mae’r gri am annibyniaeth yn cynyddu o wythnos i wythnos wrth i bobl Cymru sylweddoli mai’r unig ffordd y gall ein gwlad ffynnu yw torri i ffwrdd o’r undeb dadfeilio hwn.”
Anogir gorymdeithwyr i gyfarfod o 11.30am ddydd Sadwrn 20 Mai yn Stryd y Gwynt Abertawe gyda'r orymdaith yn gadael yn brydlon am 1pm.