Symud ymlaen o'r llywio

Grwpiau YesCymru

Mae gan YesCymru ddegau o grwpiau ar hyd a lled Cymru. Mae nifer o wahanol fathau o Grwpiau yn bodoli gan gynnwys Grwpiau Achrededig, Grwpiau Cyswllt, Grwpiau Daearyddol, Grwpiau Gwarchodedig a/neu Grwpiau Thematig. 

Grwpiau Achrededig

* Sylwch
‘Mae gan bob aelod hawl i ymuno â grŵp (fel y’i diffinnir yn yr Erthyglau) ond bydd yn cael y dewis i ymuno ag un grŵp Daearyddol Achrededig. Anogir grwpiau i recriwtio Aelodau newydd, a bydd eu holl ffioedd aelodaeth yn cael eu casglu’n ganolog yn awtomatig.” Is-ddeddf 7


Beth yw Grwpiau Achrededig?

Grwpiau, fel y'u diffinir ym mharagraff 4, sydd:

  1. Wedi cynnal cyfarfod gyda phump neu fwy o Aelodau YesCymru yn bresennol, ac wedi ethol cadeirydd ac ysgrifennydd a dylai’r ddau fod yn aelodau Yes Cymru:
  2. Wedi cyflwyno cofnodion llofnodedig eu cyfarfod cyntaf; yn cytuno i gadw at Erthyglau, Gwrthrychau, Cyfansoddiad Enghreifftiol YesCymru Cyf ar gyfer Grwpiau, ac Is-ddeddfau a Pholisïau cymwys eraill YesCymru Cyf;
  3. Yn cytuno i gyfarfod o leiaf pedwar gwaith y flwyddyn, gan gynnwys yn eu CCB; a
  4. Yn cytuno i gadw rhestr gyfredol o aelodau’r grŵp yn unol â pholisïau Diogelu Data a Phreifatrwydd YesCymru Cyf.


Beth yw Grwpiau Cyswllt?

Grwpiau, fel y'u diffinnir ym mharagraff 4, sy'n:

  1. Cynnwys dau neu fwy o aelodau YesCymru Cyf;
  2. Cyflwyno eu henw a'u manylion cyswllt i YesCymru Cyf; a
  3. Cytuno i gadw at Erthyglau, Gwrthrychau ac Is-ddeddfau a Pholisïau cymwys eraill YesCymru Cyf,
  4. Cael eu hysbysu eu bod yn cael eu cydnabod fel Grwpiau Cyswllt YesCymru Cyf gan y CLlC
  5. Gall Grwpiau Cyswllt wneud cais am gymorth ariannol gan YesCymru Cyf ar gyfer prosiectau penodol.

Ymhellach ar eich siwrne, efallai y dymunwch ddatblygu a thyfu eich grŵp i fod yn fwy actif trwy ddod yn 'Grŵp Achrededig'. Bydd hyn yn eich galluogi i wneud cais am arian i'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol. Gellir defnyddio'r arian ar gyfer printio baneri, trefnu digwyddiadau neu mewn nifer o ffyrdd eraill e.e.. i noddi clwb chwaraeon lleol. Yr uchafswm ar gyfer pob grŵp Achrededig ar hyn o bryd yw £250 y flwyddyn, ond gydag achosion arbennig gellir trafod derbyn mwy o gefnogaeth ariannol gyda'ch Cyfarwyddwr Rhanbarthol.

Dim ond cynrychiolwyr etholedig o grwpiau Achrededig yn y Cynghorau Rhanbarthol fydd yn gallu cael eu henwebu i eistedd ar Gyngor y Dirprwyon. Os hoffech drafod sut mae'r system achredu'n gweithio cysylltwch ag un o'ch Cyfarwyddwyr Rhanbarthol.


Sefydlu'ch grŵp

Y peth cyntaf i'w gofio am redeg grŵp YesCymru yw nad oes un ffordd gywir o wneud hynny, felly gwnewch o'n grŵp i chi! Bydd eich grŵp YesCymru lleol chi'n adlewyrchu'ch cymuned neu dref leol, a'r hyn sy'n bwysig i chi ar y cyd. Mae yna resymau diddiwedd dros fod eisiau Cymru annibynnol, a gwahanol ffyrdd i ymgyrchu drosti, felly gwnewch hynny yn eich ffordd chi.

Fodd bynnag... mae yna rai pethau defnyddiol a fydd o gymorth i chi ar eich siwrne - mae gan Yes Cymru dri chategori o grwpiau a ddiffinnir yn ei Erthyglau Cymdeithasu ac Is-ddeddfau newydd, ac mae manylion pellach ar hyn i’w weld yn Isddeddf 7.

Os mai megis dechrau mae’ch grŵp ar ei siwrne, efallai yr hoffech gysidro dod yn ‘Grŵp Cyswllt’. Bydd hyn yn eich galluogi i ddechrau ymgyrchu dros annibyniaeth Cymru yn eich ardal leol, ac i osgoi gweld pawb yn ail-ddefnyddio’r un syniadau, darllenwch y Llawlyfr Grwpiau i weld rhai o’r pethau rydym ni wedi’u dysgu hyd yn hyn. 

Nodwch fod modd i bob grŵp fynychu cyfarfodydd eu Cyngor Rhanbarthol a gallwch drafod hyn ac unrhyw faterion pellach gyda’ch Cyfarwyddwyr Rhanbarthol.


Ffurflenni ar gyfer Achredu

Llenwch y ffurflenni hyn a'u dychwelyd i alluogi'r NGB i brosesu eich achrediad.

1. Ffurflen Cyfansoddiad Enghreifftiol YesCymru Cyf

2. Ffurflen Achredu

3. Ffurflen Cofnodion y Cyfarfod

Anfonwch unrhyw ffurflen at [email protected]