Rhwng 2.00 - 4.00pm dydd Sadwrn 19 Ionawr byddwn ni'n cynnal Gweithdy Grwpiau YesCymru yn Aberystwyth. Rydym yn gwahodd holl grwpiau YesCymru i fynychu (ac hefyd unrhyw un sydd â diddordeb mewn sefydlu grŵp) i rannu syniadau.
Pwrpas y Gweithdy fydd rhannu arfer da, rhannu adnoddau YesCymru, trafod canllawiau, cydlynu amserlen gweithredu a threfnu amserlen cefnogi a chreu grwpiau newydd.
Hoffwn ni weld cynrychiolydd o bob grwp lleol neu adran sydd â chyfri Twitter neu Facebook yn mynychu - gall mwy nag un ymuno o bob grŵp - does dim cynfyngder ar niferoedd. Os wyddoch chi am rhywrai sydd â diddordeb mewn sefydlu grŵp, yna mae croeso i chi eu gwahodd hefyd.
Gofynnwn i chi roi gwybod os gallwch fynychu erbyn dydd Mawrth 15 Ionawr drwy'r digwyddiad Facebook yma, neu ebostio [email protected] ac o'r niferoedd, er mwyn i ni gael rhyw syniad bras.
Mae'r union leoliad yn Aberystwyth i'w gadarnhau. Byddwn yn paratoi agenda mwy manwl yn agosach at y dyddiad.
Edrychwn ymlaen i'ch gweld a threfnu i ymladd dros Gymru Rydd!