Ein nod yw ennill annibyniaeth i Gymru er mwyn gwella’r ffordd mae’n gwlad yn cael ei llywodraethu. Credwn mewn dinasyddiaeth gynhwysol, sy’n croesawu a dathlu’r ffaith fod pob un – o ba bynnag gefndir – sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref iddynt yn ddinasyddion llawn y Gymru newydd.
Bydd ein mudiad yn hybu annibyniaeth i Gymru drwy amryw o weithgareddau, er mwyn gwneud yr achos bod Cymru, fel cenhedloedd bychain eraill y byd, yn well yn rheoli eu hunain fel rhan o deulu Ewropeaidd a rhyngwladol ehangach. Mae’r mudiad yn agored i bawb sy’n credu mewn annibyniaeth i Gymru
Ethol Corff Llywodraethu Cenedlaethol (CLlC)Newydd YesCymru
Ar y 1af o Chwefror cyhoeddwyd enwau’r aelodau a etholwyd i’r CLlC newydd, ac felly mae 15 o aelodau’r bwrdd newydd wedi cychwyn ar eu gwaith. Mae’r aelodau yn cynrhychioli 6 rhanbarth (5 o Gymru ac un rhanbarth i’r aelodau o’r tu allan i Gymru).
Rhanbarth y Gogledd - Elfed Williams, Elgan Owen a Vaughan Williams
Y Canolbarth a’r Gorllewin - Ifor ap Dafydd, Gaynor Jones a Geraint Thomas Gorllewin De Cymru - Christine Moore a Nerys Jenkins
Canol De Cymru - George Gethin Hudson, Andrew Murphy a Richard Huw Morgan Dwyrain De Cymru - Mihangel Ap-Williams a Phyl Griffiths
Tu Allan i Gymru - Barry Parkin a Louise Aikman
Mae’r broses o ymgorffori YesCymru fel Cwmni Cyfyngedig trwy warant wedi ei chwbwlhau, yn ogystal a chychwyn y broses o drosglwyddo gweinyddiaeth YesCymru i’r CLlC o ddwylo ein gweinyddwyr dros dro.
Mae cyfnod newydd cyffrous wedi cychwyn yn hanes y mudiad, ac wrth edrych ymlaen i’r wythnosau nesaf bydd YesCymru edrych i ddatblygu ymhellach lwyddiannau’r blynyddoedd diweddar gan barhau i arwain ein brwydr dros annibynniaeth i Gymru.