Nawr mewn Lleoliad Mwy
Oherwydd y galw, mae’r gynhadledd hon wedi’i symud i leoliad mwy ac yn agored i bawb. Sicrhewch eich tocyn rhad ac am ddim yn awr trwy glicio yma.
YesCymru fydd yn cynnal Cynhadledd Ewropeaidd ICEC eleni (Comisiwn Rhyngwladol ar gyfer Dinasyddion Ewropeaidd) yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf rhwng 9.30am a 3.30pm.
Bydd y gynhadledd bellach yn cael ei chynnal yng Nghanolfan yr Urdd, 6B Plas Bute, Caerdydd CF10 5AL.
Bydd y digwyddiad yn dod â chynrychiolwyr o saith cenedl sydd yn brwydro dros annibyniaeth yn Ewrop ynghyd – Cymru, Yr Alban, Catalunya, Gwlad y Basg, Fflandrys, Sud Tirol, a Veneto – i rannu strategaethau, adeiladu cysylltiadau, a chryfhau cydweithio gyda'r nod o hunan-lywodraeth ddemocrataidd ac annibyniaeth.
Bydd y diwrnod yn cynnwys cyflwyniadau difyr, trafodaethau panel, sesiynau grŵp, ac arwyddo datganiad cydweithredol.
Mae hwn yn gyfle unigryw i fod yn rhan o ddigwyddiad Ewropeaidd pwysig yma yng Nghymru.
Mae tocynnau’n rhad ac am ddim ond rhaid eu harchebu ymlaen llaw.