Ymgeisydd y Canolbarth a'r Gorllewin
Rydw i wedi bod yn aelod o YesCymru ers 2016, ond yn weithgar yn wleidyddol am 30 mlynedd. Rwy’n weriniaethwr ac wedi cefnogi annibyniaeth i Gymru erioed. Y llynedd, o dan yr hen gyfansoddiad, cefais fy enwebu am swydd Ysgrifennydd YesCymru, ac rydw i wedi cefnogi’n frwd y newidiadau radical presennol i strwythur YesCymru.
Er bod nifer o fy ffrindiau a fy nghydweithwyr wedi cefnogi’r newidiadau hyn, mae rhai’n dal yn bryderus am atebolrwydd democrataidd ac ariannol, ac rwy’n clywed y pryderon hyn. O ganlyniad, wrth ymgeisio, mae gen i gynigion i wneud mân newidiadau i’r strwythur newydd yn y tymor byr, ac yn y tymor canolig i alw am fwy o gamau i roi mwy o rym i aelodau ein sefydliad ar lawr gwlad.
Rydw i’n credu bod gen i nifer o rinweddau i’w cynnig i’r Bwrdd newydd. Ymgyrchwr ydw i yn anad dim, ac rydw i wedi ymgyrchu dros amrywiaeth fawr o bynciau dros y blynyddoedd, gan ddechrau fy mywyd gwleidyddol fel aelod o Gymdeithas yr Iaith o dan lywodraeth Dorïaidd yn nechrau’r 90au, cyn dod yn aelod o blaid Weriniaethol Sosialaidd – Cymru Goch – yng nghanol y 90au a cheisio creu undod ymhlith yr adain chwith Gymreig ranedig. Er fy mod yn Weriniaethwr, rydw i’n gweld gwerth mewn cyfaddawd ac yn 1997 fe ymgyrchais gyda miloedd eraill dros gorff etholedig cyntaf Cymru ers gwrthryfel Owain Glyndŵr – y Senedd.
Yn nechrau’r 2000au, roeddwn yn rhan o’r mudiad “Gwrth-Gyfalafiaeth” a ddechreuodd “Frwydr Seattle” yn 1999, a threuliais rai blynyddoedd yn teithio drwy Ewrop lle gweithiais gyda nifer o ymgyrchwyr o wahanol gredoau a meithrin cryn brofiad yn y byd ymgyrchu a threfnu. Fe ddefnyddiais i’r wybodaeth hon i ymgyrchu yn y gymuned leol yn ôl gartref, ac ymgyrchu dros faterion amgylcheddol yn enwedig, yn amrywio o warchod tir llain las fel rhan o Gynlluniau Datblygu Lleol i frwydro yn erbyn prosiectau tanwydd ffosil mawr fel y biblinell nwy pwysedd uchel sy’n cyflenwi LNG i’r Deyrnas Unedig. Y dyddiau hyn rydw i’n weithgar yn fy nghymuned leol yn Hwlffordd, ac yn trefnu digwyddiadau cymunedol rheolaidd. Fi hefyd yw Ysgrifennydd fy grŵp YesCymru lleol.
Fy ngwaith ar hyn o bryd
O ran fy ngyrfa gwaith, rydw i’n credu bod gen i nifer o rinweddau proffesiynol y gallaf eu rhannu fel ymgeisydd am swydd Cyfarwyddwr.
Yn fy swydd bresennol mewn llywodraeth leol, rydw i’n gweithio fel “Swyddog Tir Comin”, gan gynnal cofrestr o hawliau pori tir comin. Elfen allweddol o fy ngwaith dros y 9 mlynedd ddiwethaf fu gweithio’n helaeth â chymunedau ffermio’r ucheldir a’r iseldir mewn ardaloedd fel Mynyddoedd y Preseli a Mynyddoedd Cambria, gan ddatblygu prosiectau cadwraeth ar gyfer tir pori. Mae dod o hyd i gyllid a gwneud gwaith rheoli prosiect yn elfennau canolog o’r gwaith hwn. Mae agweddau gweinyddol ar y gwaith yn cynnwys datblygu polisïau a gweithdrefnau, ysgrifennu adroddiadau, a briffio uwch swyddogion ac aelodau etholedig am faterion o bwys.
Mae hyfforddiant parhaus hefyd yn nodwedd bwysig, gan gynnwys mewn meysydd sensitif fel Diogelu Data ac Asesu Risg. Mae camau gorfodi hefyd yn elfen gyson o fy ngwaith, ac mae gen i enw fel trafodwr telerau medrus.
Ochr yn ochr â’m gwaith proffesiynol, rydw i hefyd yn wirfoddolwr gweithgar yn lleol. Rydw i’n Ysgrifennydd grŵp lleol o drigolion, yn y drydedd ward fwyaf difreintiedig yn Sir Benfro, a than yn ddiweddar roeddwn i’n Gynghorydd Tref. Fel Cynghorydd Tref, roedd rhaid dilyn prosesau llywodraethu da drwy lofnodi Cod Ymddygiad, a datgan unrhyw fuddiannau personol neu ragfarnus a allai fod gen i cyn eitemau ar agendâu. Fe wasanaethais ar Is-bwyllgor Rheoli, Ystadau a Strategaeth Cyngor Tref Hwlffordd, a hefyd ar yr Is-bwyllgor Personél, Polisi a Chyllid, a gweithiais gyda fy nghydweithwyr ar Gyngor y Dref i drafod, gosod a rheoli cyllideb flynyddol o tua £250,000 y flwyddyn.
Fel Cynghorydd Tref a Llywodraethwr Ysgol Gynradd leol, rydw i hefyd wedi gorfod rhoi sylw i faterion staffio a materion disgyblaeth sensitif ar adegau, a hynny’n gofyn am ddisgresiwn, sensitifrwydd a gwybodaeth dda am weithdrefnau a chyfraith cyflogaeth.
Fy amcanion ar y Bwrdd
Er mai’r peth pwysicaf yw cael arweiniad gan aelodau llawr gwlad sefydliad sydd wedi’i ffurfio i ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru, mae rhai pethau yr hoffwn i weld Bwrdd newydd YesCymru yn eu cyflwyno. Mae rhai ohonyn nhw’n newidiadau bach ond pwysig. Mae rhai ychydig yn fwy radical...
1) Cyflwyno cynnig yn yr is-ddeddfau i ailethol traean o’r Bwrdd bob blwyddyn. Bydd hyn yn gwneud y Bwrdd yn fwy atebol i’r aelodau, ond hefyd yn sicrhau parhad gyda’r aelodau mwy profiadol, gan mai tair blynedd yw’r tymor arfaethedig ar hyn o bryd. Rydw i hefyd yn awyddus i sicrhau bod yr aelodau yn gwybod sut mae YesCymru yn gwario arian, a bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar y cyd ynghylch gwariant ariannol sylweddol.
2) Mae YesCymru bellach yn Gwmni Cyfyngedig. Maes o law, hoffwn i gynnig bod YesCymru yn dod yn gwmni cydweithredol, sy’n gweithio o dan yr un strwythur â Chwmni Cyfyngedig beth bynnag. Byddai strwythur Cydweithredol yn rhoi perchnogaeth lawn i’r aelodau, gan y byddai gan bob aelod gyfranddaliad, a byddai gan bob cyfranddaliad yr un grym democrataidd, boed yr aelodau’n talu £2 neu £20 y mis.
3) Galw am adolygiad brys o system aelodaeth YesCymru, system y mae angen ei diwygio ac sydd wedi bod yn broblem fawr i’r sefydlid yn y misoedd diwethaf. Rydw i’n credu bod gan grwpiau, fel prif sylfaen YesCymru, gyfraniad o bwys i’w wneud at adolygiad o’r fath.
4) Ar nodyn mwy gwleidyddol, galw am Orymdaith Annibyniaeth newydd eleni. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn sgil y Bil Plismona newydd, sy’n ceisio cyfyngu ar yr hawl i brotestio. Dylen ni herio’r darn annemocrataidd hwn o ddeddfwriaeth Dorïaidd yn uniongyrchol, a dangos y bydd yr hawl i brotestio wedi’i gwarchod a’i diogelu mewn Cymru annibynnol.
Gobeithio y gallaf i ddibynnu ar eich cefnogaeth!
I’r Gad!
Cysylltedd Gwleidyddol: Dim