Symud ymlaen o'r llywio

Ymgeiswyr ar gyfer y Corff Rheoli Cenedlaethol

YMGEISWYR AR GYFER Y CORFF LLYWODRAETHU CENEDLAETHOL

ETHOL CYFARWYDDWYR 2022

O dan yr Erthyglau Cymdeithasiad newydd, a basiwyd yn yr EGM gyda mwyafrif llethol, mae hyd at 17 o swyddi ar y CLlC. Mae lle i hyd at 3 chyfarwyddwr i gynrychioli pob un o'r 5 rhanbarth yng Nghymru a 2 gyfarwyddwr i gynrychioli aelodau y tu allan i Gymru. Cafwyd cyfanswm o 19 enwebiad.

Gan nad oes mwy na 3 ymgeisydd mewn 4 rhanbarth (Canol De Cymru, Dwyrain De Cymru, Gorllewin De Cymru a’r Gogledd), a dim ond 2 ymgeisydd am swyddi y tu allan i Gymru, mae’r 12 ymgeisydd yn y rhanbarthau hyn yn cymryd eu lle yn awtomatig ar y CLlC.

Mae 6 ymgeisydd ar gyfer 3 swydd rhanbarth y Canolbarth a'r Gorllewin. Bydd ymgeiswyr o'r Ganolbarth a'r Gorllewin yn sefyll etholiad.

Mae gwybodaeth am yr holl ymgeiswyr isod. Am ragor o wybodaeth amdanynt pwyswch ar eu henw neu ar 'darllen rhagor'

PROSES ETHOL CYFARWYDDWYR 2022

Byddwn yn dilyn trefn Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy.

Gall aelodau bleidleisio trwy osod yr ymgeiswyr yn nhrefn eu dewis - hynny yw 1 i’w dewis cyntaf; 2 i’w hail ddewis; 3 i’w trydydd dewis ayb.

Bydd y cyfri’n digwydd wedi i’r cyfnod pleidleisio gau a bydd cwota yn cael ei osod yn ystod y cyfri , h.y. y nifer o bleidleisiau sydd eu hangen ar ymgeisydd i gael eu hethol.

Bydd y cwota yn cael ei osod yn unol â'r fformiwla isod:
Nifer o bleidleisiau + 1
---------------------------------------------
Nifer y swyddi gweigion +1

Pan fydd ymgeisydd yn cyrraedd y cwota bydd eu pleidleisiau gweddilliol yn cael eu hailddosbarthu.

Er enghraifft, petai ymgeisydd A yn derbyn 200 o bleidleisiau bydd 50 pleidlais yn cael eu hailddosbarthu yn nhrefn dewis y pleidleiswyr. Felly os ydy 100 o bleidleisiau ymgeisydd A yn rhoi B fel eu hail ddewis bydd 25 o’r 50 pleidlais sydd I gael eu dosbarthu (100/200) yn cael eu hychwanegu at gyfanswm pleidleisiau ymgeisydd B.

Os na fydd unrhyw ymgeisydd yn cyrraedd y cwota bydd yr ymgeisydd â'r nifer lleiaf o bleidleisiau yn cael ei ddileu a'u bleidleisiau'n cael eu hailddosbarthu.

Mae esboniad manylach am STV ar wefan y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol (Saesneg yn unig).

CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU

Ifor ap Dafydd

Cefais fy ngeni yng Nghaerdydd, fy magu yn Sir y Fflint, a rydw i bellach yn byw yn Aberystwyth. Astudiais Saesneg yng Ngholeg Emmanuel, Prifysgol Caergrawnt a gwneud ymchwil ar waith Saunders Lewis ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rwy’n Archifydd Digidol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyn ymuno â’r Llyfrgell bûm yn dysgu yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe ac yn gweithio ar www.dafyddapgwilym.net.

Darllen Rhagor...

 

Geraint Thomas

Brodor o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol ydw i, ond yn byw ers dros ddegawd ger y Bala.  Mi ‘dwi’n briod â Meleri ac yn dad i dri o blant.  Graddiais mewn Cyfathrebu a’r Cyfryngau ganol y 90au, gan weithio yn y cyfryngau am dros ddegawd. Ffotograffydd ydw i o ran galwedigaeth erbyn hyn, ac yn sylfaenydd a pherchennog oriel Panorama yng nghanol tref Caernarfon ers dros 16 mlynedd.  Mae fy ngwaith o ddydd i ddydd yn ymwneud â nifer o brosiectau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, ac mae nifer o gwmnïau rhyngwladol ymysg fy nghleiantau cyson.

Darllen rhagor...

 

John Rhys Davies

Fy enw i yw John Rhys Davies ac rwy'n byw ym Mynachlog-ddu gyda fy ngwraig Valmai. Rwy'n saith deg dwy oed ac rydym wedi byw ym Mynachlog-ddu ers dros ddeng mlynedd ar hugain.

Cefais fy ngeni ym Mhort Talbot a mynychais ysgolion lleol yno gan gynnwys Ysgol Gyfun Glanafan. Es i o Glanafan i'r coleg yn Abertawe i astudio bioleg. Ar ôl graddio es i i'r coleg yn Cheltenham i hyfforddi fel athro. Wnes i ddim ymuno â'r proffesiwn addysg ond ymunais â heddlu Swydd Gaerloyw. Roeddwn yn heddwas am saith mlynedd. Dysgodd fy amser yn yr heddlu i mi ddelio â phob math o bobl a hefyd rhoddodd ddealltwriaeth sylfaenol i mi o'r gyfraith a'r system cyfiawnder.

Darllen Rhagor...

 

Gaynor Jones

Rwy’n sefyll etholiad fel Cyfarwyddwr YesCymru am nifer o resymau.

Yn gyntaf oherwydd fy mod wedi dod i gredu’n llwyr mai annibyniaeth yw’r unig ffordd y gall Cymru fel cenedl oroesi. Mae hyn wedi dod yn amlycach fyth ers i lywodraeth Geidwadol bresennol y DU fynd ati i ymosod ar ein sefydliadau democrataidd a’n hawliau yma yng Nghymru. Mae wedi datgymalu datganoli ac wedi tanseilio pwerau ein cynrychiolwyr etholedig yn y Senedd, ac mae ei lygredd a’i gamreolaeth yn rysáit trychinebus nid yn unig i ni ond i boblogaeth ehangach y DU. Mae’n bryd i ni fel cenedl ac i’n gwleidyddion a’n harweinwyr dyfu i fyny, cymryd cyfrifoldeb a dechrau gwneud cynlluniau i adael undeb sy'n camweithredu.

Darllen Rhagor...

 

Owain Williams

A minnau wedi ymwneud â’r sin wleidyddol Gymreig dros y degawdau diwethaf, teimlaf fod gen i’r profiad a’r wybodaeth i gyfrannu’n gadarnhaol at y broses o ailstrwythuro ac ail-sefydlu Yes Cymru fel grym mawr yn nhirwedd gwleidyddol ein cenedl yn y dyfodol.

Rwy’n credu’n gryf bod cyfnod heriol o’n blaenau yn dilyn cyfnod anodd a thymhestlog. Oherwydd hyn mae llawer iawn o bobl ac aelodau YesCymru wedi cwestiynu a fyddai ein mudiad yn goroesi heb sôn am dyfu'n ôl ymysg sylfaen ei gefnogaeth.

Darllen Rhagor...

 

Geraint Roberts

Rwy’n dod o Ystradgynlais ym mhen uchaf Cwm Tawe, ac yma yr ydw i’n byw gyda fy nghymhares a fy merch. Derbyniais fy addysg yn Ysgol Maesydderwen, Coleg Castell Nedd, a Phrifysgolion Aberystwyth, Llambed a Chaerdydd. Graddiais mewn Hanes, ac mae gen i gymwysterau Ôl-radd mewn Archaeoleg ac Addysg.

Darllen Rhagor...

 

GORLLEWIN DE CYMRU

Nerys Jenkins

Rwyf wedi treulio’r 20 mlynedd diwethaf fel Rheolwr ym maes gwerthiant moduron, y 6 mlynedd diwethaf fel Uwch Reolwr. Rwy’n dod â chyfoeth o brofiad o fod wedi gweithio fy ffordd i fyny yn y maes hynod gystadleuol a chaled hwn, o lawr y siop i fy safle cyfredol.

Roedd rhan o fy addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, mynychais Ysgol Gymraeg Llanhari. Rwyf bellach yn y broses bleserus o adennill fy iaith.

Darllen Rhagor...

 

Christine Moore

Cefais fy ngeni a'm magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i rieni o ardaloedd Pendre a Stryd Mackworth. Roedd fy nhaid yn ddyn  rag ‘n’ bone ac yn yrrwr bws, ac roedd fy nain yn wniadwraig.

Rwyf wedi byw gyda fy mhartner yng Nghwm Ogwr ers dros 20 mlynedd ac yn rhiant i dri o blant sydd wedi tyfu i fyny. Magais y ddau hynaf, yn bennaf, fel rhiant sengl.

Darllen Rhagor...

 

DWYRAIN DE CYMRU

Mihangel Ap-Williams

Rwy'n angerddol iawn dros gael annibyniaeth i Gymru, rwy'n meddwl am y sut a'r pam, mae hyn yn rhoi y syniadau yr wyf yn hoffi eu hyrwyddo ar fy nhudalen Facebook a phroffil twitter i mi, sef Cymru sy’n rhydd yn ariannol.

Rwyf wedi rhedeg sawl busnes sydd wedi fy nghynnal i ar fy ngweithwyr, rwyf hefyd wedi buddsoddi mewn cwmnïau ar y gyfnewidfa stoc, rwy’n angerddol am ddysgu am arian, rwy'n hoffi deall sut mae cyllid yn effeithio ar bopeth ac rwy'n ei barchu fel maes astudio!


Darllen Rhagor...

 

Phyl Griffiths

Aelod rhif 663 dw i, a dymunaf i chi dderbyn ac ystyried fy nghais i eistedd ar fwrdd cyfarwyddwyr newydd sbon YesCymru.

Ychydig am fy nghefndir i ddechrau; dw i’n enedigol o Droedyrhiw ger Merthyr Tudful ac, ar wahân i fy nghyfnod yn dilyn cyrsiau Celf a Chynllunio - yng Ngholeg Celf Caerfyrddin i ddechrau ac wedyn Southampton - ym Merthyr dw i wedi byw erioed.

Read more...

 

GOGLEDD CYMRU

Vaughan Williams

Bum yn aelod o Yes Cymru o’r cychwyn cyntaf ac wedi credu mewn Cymru Annibynnol a gallu pawb sy’n galw ein cenedl yn gartref i lywodraethu ein hunain. Mae gennyf wybodaeth eang o’r mudiad annibyniaeth a thros nifer o flynyddoedd wedi mwynhau gweithio gydag aelodau brwdfrydig Yes Cymru i hyrwyddo y weledigaeth rydyn ni’n ei rhannu, o genedl annibynnol.

Darllen Rhagor...

 

Elgan Owen

Ymunais gyda YesCymru ym Mis Mai 2020 a chychwynnais grŵp Llanfairfechan ym Mis Tachwedd 2020.

Mae gennyf brofiad o fod yn gyfarwyddwr i elusen genedlaethol ac fel ymddiriedolwr i gyngor gwirfoddol sirol ac rwy’n credu fod y profiadau yma, ynghyd a fy mhrofiad o weithio yn y trydydd sector yn addas iawn i gefnogi a datblygu YesCymru dros y blynyddoedd nesaf a sicrhau cefnogaeth a datblygiad i’r grwpiau a gwirfoddolwyr i barhau eu gwaith hynod werthfawr i hybu annibyniaeth.

Darllen Rhagor...

 

Elfed Williams

Rwy’n rhoi fy enw ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Yes Cymru oherwydd credaf y bydd fy nghefndir a’m profiad yn cynorthwyo’r mudiad i gymryd y camau nesaf i adeiladu strwythur cadarn cryf a fydd yn ein helpu i gyrraedd ein nod o Annibyniaeth i Gymru.

Read more...

 

CANOL DE CYMRU

Andrew Murphy

Rwy’n byw ym Mro Morgannwg a hoffwn ofyn am eich cefnogaeth yn fy nghais i gael fy newis i Gorff Llywodraethu Cenedlaethol YesCymru.

Cefais fy ngeni a fy magu yng Nghaerdydd yn y 1960au i rieni Cymreig-Prydeinig. Roedd fy nheulu yn canmol pob gorchest Gymreig gyda balchder, yn ystod twrnamaint y Pum Gwlad yn enwedig, gan wasgu i mewn i dŷ fy Ewythr Gordon yn y Tyllgoed, prin 'roedd lle i symud, yn enwedig pan oedd Cymru yn chwarae Lloegr.

Darllen Rhagor...

 

George Hudson

Astudiais athroniaeth wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 2013 a 2016, a darllenais Radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (ym mhrifysgol Caerdydd hefyd). Mae fy nghefndir gwaith yn cynnwys gweithgynhyrchu bwyd a rheoli warysau.

Ymunais â Yes Cymru oherwydd i mi weld mor enbyd oedd cyflwr democratiaeth yn y DU. Rwyf am drawsnewid Cymru i fod yn ddemocratiaeth annibynnol lewyrchus, sy’n gallu darparu gwell bywyd i’w holl ddinasyddion.

Read more...

 

Richard Huw Morgan

Fel un o 500 o aelodau gwreiddiol YesCymru, rydw i wedi dangos ymrwymiad hirdymor i wneud Cymru yn wlad annibynnol. Dim ond drwy annibyniaeth y bydd gennyn ni gyfle i greu gwell gwlad drwy reoli ein materion ni’n hunain, a thrwy roi dewis democrataidd i bobl Cymru ynghylch sut mae rhedeg eu gwlad.

Darllen Rhagor...

 

TU ALLAN I GYMRU

Louise Aikman

Mae’n gyfnod cyffrous i Gymru, ac i’n hymgyrch genedlaethol dros annibyniaeth. Er mwyn symud ymlaen mae ein Haelodau yn disgwyl inni adlewyrchu eu hangerdd, ond hefyd mae angen inni weithredu gydag effeithlonrwydd, yn chwim ac yn fedrus iawn. Mae gen i'r sgiliau, y profiad a'r ymroddiad i gefnogi esblygiad Yes Cymru yn sefydliad a fydd yn gwasanaethau’r 18,000 o Aelodau a’r degau o filoedd o gefnogwyr ledled Cymru.

Darllen Rhagor...

 

Barry Parkin

Mae gennyf brofiad busnes a rheoli ar lefel Cyfarwyddwr Cwmni a fydd, yn fy marn i, yn helpu YesCymru i gymryd y cam arwyddocaol a phwysig o drawsnewid o fod yn Gymdeithas Anghorfforedig i Gwmni Cyfyngedig. Bydd fy mhrofiad rheoli o fewn amgylchedd sy’n tyfu’n gyflym hefyd yn helpu YesCymru i reoli’r twf uchel iddo brofi, ac i adeiladu ar y twf hwnnw.

Darllen Rhagor...