Symud ymlaen o'r llywio

Mae'n Rhaid I Gymru Rydd Ryddhau Pobl - Leisa Gwenllian

Dydi’r gair ‘cyffrous’ ddim yn un y medrwch chi ei gysylltu’n hawdd efo’r pandemig Covid, ond tra bod y misoedd diwetha wedi bod yn ddiflas a brawychus bob yn ail mae’r twf yn y diddordeb mewn annibyniaeth ynogystal ag yn aelodaeth Yes Cymru wedi bod yn destun codi calon.

Dydi bod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth byth yn mynd i’ch gwneud chi’n cŵl, ond mae gweld cymaint o bobol ifanc yn ymuno efo Yes Cymru yn sicr yn arwydd o shifft agwedd tuag faterion gwleidyddol o fewn fy nghenhedlaeth i. Mae’n mynd i gymryd mwy nag ymaelodi a rhoi’r llun ar Insta, ond mae’n ddechrau - ac yn ddechrau da.

Rydw i wedi fy magu yn sŵn trafodaethau am faterion y dydd, ond dydi hynny ddim yn golygu mod i bob amser wedi talu sylw. Yr hyn drodd fy sylw fwyfwy at wleidyddiaeth oedd protestiadau Black Lives Matter a hefyd y rhagfarn mae pobol ifanc trawsrywiol yn ei ddioddef - rhai ohonynt yn ffrindiau i fi. Rydw i hefyd wedi helpu allan yn achlysurol ar gynllun bwyd lleol yn ystod y cyfnod clo, ac mae hyn wedi gwneud imi feddwl fwy nag erioed o’r blaen am y math o fyd yr hoffwn i ei weld - ac am y math o Gymru yr hoffwn i fyw ynddi.

Does dim lle i hiliaeth na chasineb yn y Gymru annibynnol rydw i’n dyheu amdani - ac mae’n rhaid i Gymru rydd ryddhau pobol o dlodi, neu beth ydi’r pwynt? Nid syniad rhamantus yn gyforiog o ddreigiau a baneri ydi fy Nghymru annibynol i - ond un sydd yn gwella byd pobol mewn ffordd y medran nhw ei gyffwrdd a’i brofi.

Mae’n bwysicach nag erioed i bobol ifanc weithredu ar eu hawydd i weld Cymru annibynnol - ac eleni ydi’r amser perffaith i wneud hynny.

Gall bobol ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru am y tro cyntaf - ac mae’n hollbwysig fod pob un sydd yn gallu yn gwneud hynny.

Ni ddaw Cymru annibynnol heb lywodraeth yng Nghaerdydd sydd eisiau hynny, ac mae’n hollbwysig ein bod yn pleidleisio gyda hynny mewn cof. Dydi gwleidyddiaeth plaid ddim mor ddeniadol â chyffro mudiad, ond mae’n rhaid i’r ddau beth fynd law yn llaw er mwyn cael y maen i’r wal.

Rydw i’n teimlo ‘mod i’n byw mewn cyfnod o ddeuoliaethau - ar un llaw fu hi erioed yn amser gwaeth i fod yn berson ifanc, gyda chymaint o gyfleon wedi eu colli dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ac eto, mae cymaint o bosibiliadau o’n blaenau ni, ond mae’n rhaid inni gredu a gweithredu – dydi siarad ddim yn ddigon.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.