Symud ymlaen o'r llywio

Nabod Cymru - Nabod Blaenau

Bydd digwyddiad nesaf cyfres Nabod Cymru  yn cael ei gynnal ym Mlaenau Ffestiniog ar y 27ain a’r 28ain o Fedi 2024.

Mae aelodau lleol yn edrych ymlaen at groesawu aelodau YesCymru a chefnogwyr annibyniaeth i‘w milltir sgwâr.

Ar ran Yes Bro Ffestiniog, dywedodd Hefin Jones:

“Mae criw Yes Cymru Bro Ffestiniog yn edrych ymlaen i groesawu aelodau Yes Cymru ledled y wlad i benwythnos Nabod Cymru ar benwythnos y 27ain a29ain o Fedi. Mae sawl syniad cyffrous ar waith gyfer y penwythnos.”

Dywedodd Rob Hughes, cyfarwyddwr dros y De-Ddwyrain:

“Roedd yr ymateb ym Merthyr yn wych a chawson ni yr union awyrgylch a phrofiad yr oedden ni’n anelu i’w gael. Dw i’n edrych ymlaen yn barod at ymweld â Blaenau Ffestiniog ym mis Medi i drin a thrafod annibyniaeth a joio mas draw. Diolch o’r galon i Hefin a Paul a phob aelod o YesCymru Bro Ffestiniog am gytuno i gynnal digwyddiad yn yr ardal, a gobeithio gwelwn ni lot fawr ohonoch chi yno.”

Mwy o wybodaeth: [email protected]

PRYD
September 27, 2024 at 6:45pm - September 29, 2024
LLEOLIAD
Blaenau Ffestiniog
Blaenau Ffestiniog LL41 3UN

Map Google a chyfeiriadau
3 RSVPS

Ydych chi'n dod?