Ymunwch â ni am benwythnos i ddathlu a thrafod pob dim sy’n ymwneud ag annibyniaeth, gyda digwyddiadau, sgyrsiau, comedi, cerddoriaeth fyw a mwy. Dewch i nabod Abertawe yng nghwmni criw YesAbertawe.
Dydd Gwener 28 Mawrth
- 8yh - Adloniant gan fandiau lleol, The Blue Star Stragglers ac Omnichron yn Sessions by Mumbles Brewery - gynt Copr Bar - (38-39 Stryd y Castell, Abertawe SA1 1HZ)
Dydd Sadwrn 29 Mawrth
- 9yb - Brecwast yn Jack's Kitchen (5 Stryd Fawr, Abertawe SA1 1LE)
- 10:30yb - Teithiau Tywys - Dewiswch o "Abertawe Weird" gyda Rose Davies neu "Abertawe Hanesyddol" gyda Robin Campbell a Dr John Ball. Mae'r ddau daith yn cychwyn o Jack's Kitchen (5 Stryd Fawr, Abertawe SA1 1LE).
Cynhelir yr holl weithgareddau o 12yp ymlaen yn Clwb y Rheilffyrdd (42 Stryd y Gwynt, Abertawe SA1 1EE).
- 12yp - Hyfforddiant Actifyddion - Sesiynau hyfforddi i weithredwyr YesCymru ar ddefnyddio Nationbuilder, Cyfryngau Cymdeithasol, a Canva.
- 1yp - Economeg Annibyniaeth, sgwrs gan yr economegydd Dr John Ball.
- 2yp - Egwyl
- 3yp - Sesiwn Banel - Dan gadeiryddiaeth Alun Rhys Chivers (Golwg360), bydd ein panelwyr Sharon Rose Taylor (Yes Abertawe), Chris Evans (Y Blaid Werdd) a Kiera Marshall (Plaid Cymru) yn trafod pwy ydym ni a pham ein bod yn cefnogi annibyniaeth.
- 4yp - Egwyl
- 5yp - Sgwrs wedi'i dramateiddio ar Drychineb y Fferi 1839 gan yr hanesydd lleol ac awdur, Robin Campbell.
- 6yh - Egwyl
- 7yh - Comedi gan un o ddigrifwyr gorau ac enwocaf Cymru, Noel James.
- 9yh - Dewch â’ch offerynnau a’ch lleisiau canu wrth i ni ganu a chwarae’r noson i ffwrdd.